Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday, 4 October 2014

Tair - cyfres o ddramâu unigol ar S4C

Cyfrinachau, cariad, celwyddau. Yr Hydref hwn daw tair drama wreiddiol i S4C sy'n camu mewn i feddyliau cymeriadau cymhleth. Bydd Tair yn codi'r chwyddwydr [= magnifying glass] ar fywydau cyfrinachol, yn rhoi llais i'r ochr dywyll ac yn cynnig cyfle i chwerthin.

Dyma dair drama newydd, wedi eu creu gan awduron a chyfarwyddwyr gwahanol, sy'n mentro i dir newydd ac yn rhoi llwyfan i rai o actorion gorau Cymru. Caiff y tair eu darlledu ar nosweithiau Sul am 9.00, heb unrhyw hysbysebion i darfu [tarfu = torri ar draws] ar lif y straeon.

Mae'r ddrama gyntaf yn seiliedig ar nofel Jerry Hunter, Gwreiddyn Chwerw, ac yn trafod effaith un digwyddiad tyngedfennol [am rywbeth sy'n penderfynu ffawd/tynged rhywun] ym mywyd gŵr a gwraig yng nghefn gwlad Eryri ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Darlledir y ddrama gyntaf, Yr Oedi, nos Sul 5 Hydref, 9.00 ar S4C.

Pan gaiff mab hir-ddisgwyliedig ei eni i Mari (Rhian Blythe) a Tomos (Dyfan Dwyfor), mae bywyd yn ymddangos yn berffaith. Ond buan iawn mae pethau'n cael eu troi ben i waered wrth i un frawddeg fach drawsnewid popeth.

Yn y fonolog ddirdynnol  [= poenus ofnadwy, arteithiol] hon sydd wedi ei chyfarwyddo gan Siôn Humphreys, mae Rhian Blythe yn mynnu sylw [=comes to the fore] fel Mair ac mae ei phortread yn llawn tensiynau ac yn ymdrin â themâu oesol: euogrwydd, cywilydd, cenfigen ac edifeirwch [= cyflwr o fod yn ddrwg gennych am ryw ddrygioni].
awlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.


Catrin Mara a Shelley Rees sy'n serennu yn yr ail ddrama, Cariad Erin, nos Sul, 12 Hydref. Yn ddoniol iawn ar y wedd gyntaf, troedio'r llafn cul [= narrow blade, i.e. tightrope] rhwng y llon a'r lleddf [hapusrwydd a thristwch] mae'r stori hon, wrth i ni gael sbecian [cymryd pip] i bob cornel o fywyd personol, paradocsaidd Erin - digrifwraig standup Gymraeg sy'n dal i dorri ei chalon wedi ysgariad.

Mae sgript frathog [yn brathu/cnoi, chwerw] Siân Naomi a Meirion Davies yn llwyddo i rewi chwerthiniad mewn chwinciad, ac mae cyfarwyddyd Mei Williams, sy'n cyfarwyddo drama am y tro cyntaf, yn dod â byd lliwgar Erin a Jo yn fyw. Dyma ddrama fywiog sy'n llawn cyffro bywyd go iawn.

Yna ar nos Sul, 19 Hydref, Eiry Thomas sy'n rhoi perfformiad caboledig [graenus] fel Ceinwen yn Tic Toc, drama gomedi dywyll iawn wedi ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Delyth Jones.

Eiry Thomas


Yn gaeth i'w chadair o flaen y tân mae Ceinwen mewn stad barhaol o alar am aelodau eraill ei theulu, sydd wedi marw fesul un. Ond o dipyn o beth, i gyfeiliant gwallgo' tician y clociau sy'n plastro'r mur, daw'n amlwg bod sawl cyfrinach ddychrynllyd yn llechu [ymguddio, cwato] rhwng y pedair wal.
awlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.rhwng y pedair wal…

"Mae'n wych cael cyflwyno gwaith gwreiddiol newydd i'r gynulleidfa, a hwnnw'n waith o safon," meddai Gwawr Martha Lloyd, comisiynydd drama S4C. "Mae'r straeon hyn fel clymau  [cwlwm - knot - lluosog] sy'n cael eu datod [= datglymu] i ni yn araf bach; maen nhw'n afaelgar [gafaelgar  = yn cydio yn y dychymyg neu’r teimladau] a ffraeth [= dweud pethau sy’n graff ac yn ddoniol yr un pryd], weithiau'n ddoniol ac weithiau'n sinistr.

"Rydym ni mor ffodus bod yma ddramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion anhygoel o dalentog ar ein stepen ddrws, ac mae Yr Oedi, Cariad Erin a Tic Toc yn rhoi cyfle iddyn nhw ddangos hyd a lled eu sgiliau, a chymaint maen nhw'n gallu ei wneud.

"Dyma dair drama gwbl unigryw ac rydym yn falch iawn o allu rhoi llwyfan iddynt ar S4C."

Siart Fawr yr Haf

Yma o Hyd gan Dafydd Iwan sydd wedi dod i frig Siart Fawr yr Haf ar Radio Cymru.

Fe wnaeth dros 1,500 bleidleisio dros eu tair hoff gân a chafodd y 40 uchaf i gyd eu chwarae ar y radio ar brynhawn dydd Llun Gŵyl y Banc mis Awst.

Roedd nifer o ganeuon cyfarwydd ar y rhestr gan gynnwys pedair gan Bryn Fôn, ond roedd llawer o rai cyfoes hefyd gyda Sŵnami a'r Bandana â thair cân yr un.

Hen glasuron yw'r 10 uchaf i gyd heblaw am Anifail gan y band ifanc o Benllyn, Candelas.

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: "Ni wrth ein boddau bod gymaint o'r gynulleidfa wedi cyfrannu at Siart Fawr yr Haf a rhannu eu hoff ganeuon gyda ni. Mae pobol wedi mynd i drafferth i feddwl o ddifri am ganeuon sy'n gofiadwy iddyn nhw, yn golygu rhywbeth iddyn nhw neu falle yn eu hysgogi nhw i neidio ar eu traed a chanu!

"Mae'r Siart yn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth Gymraeg o sawl cyfnod ac mae'n wych gweld bod amryw o fandiau ifanc, gan gynnwys artistiaid prosiect Gorwelion, sydd wedi cael cefnogaeth Radio Cymru, sef Sŵnami a'r Candelas, yn dod i'r amlwg. Maen nhw'n cael eu lle yn y deugain law yn llaw a'r clasuron ac mae hynny'n beth gwych."

Y rhestr lawn

  • 1 Dafydd Iwan - Yma o Hyd
  • 2 Rhys Meirion - Anfonaf Angel
  • 3 Edward H Dafis - Ysbryd y Nos
  • 4 Bryn Fôn - Ceidwad y Goleudy
  • 5 Elin Fflur - Harbwr Diogel
  • 6 Huw Chiswel - Y Cwm
  • 7 Candelas - Anifail
  • 8 Maharishi - Tŷ Ar y Mynydd
  • 9 Gwibdaith Hen Fran - Trôns Dy Dad
  • 10 Elin Fflur - Ar Lan y Môr




  • 11 Bromas - Merched Mumbai
  • 12 Tebot Piws - Lleucu Llwyd
  • 13 Bando - Chwarae'n Troi'n Chwerw
  • 14 Dafydd Iwan - Esgair Llyn
  • 15 Edward H Dafis - Breuddwyd Roc a Rôl
  • 16 Bandana - Geiban
  • 17 Gwibdaith Hen Fran - Coffi Du
  • 18 Yr Eira - Elin
  • 19 Gwyneth Glyn - Adra
  • 20 Sŵnami - Y Nos
  • 21 Meic Stevens - Môr o Gariad
  • 22 Y Bandana - Heno yn yr Anglesey
  • 23 Big Leaves - Seithenyn
  • 24 Sŵnami - Gwreiddiau
  • 25 Tecwyn Ifan - Y Dref Wen
  • 26 Catrin Herbert - Ein Tir Na Nog ein Hunain
  • 27 Dafydd Iwan - Pam fod Eira yn Wyn?
  • 28 Meic Stevens - Y Brawd Houdini
  • 29 Colorama - Dere Mewn
  • 30 Bryn Fôn - Abacus
  • 31 Geraint Jarman - Ethiopia Newydd
  • 32 Y Cyrff - Cymru Lloegr a Llanrwst
  • 33 Yr Ods - Y Bêl yn Rowlio
  • 34 Bryn Fôn - Cofio dy Wyneb
  • 35 Diffiniad - Calon
  • 36 Bandana - Can y Tân
  • 37 Caryl Parry Jones - West is Best
  • 38 Bryn Fôn - Rebal Wîcend
  • 39 Catrin Herbert - Disgyn Amdana Ti
  • 40 Sŵnami - Du a Gwyn
Beth yw'ch barn chi?

Erthygl wreiddiol ar wefan Cymru Fyw. Diolch i'r BBC.

Thursday, 25 September 2014

Tŷ ar y mynydd





Minnau’n godro, tithau’n cwcio,

Byw efo’n gilydd mewn tŷ ar y mynydd

Dim ond fi a thi.

Fi’n tyfu tatws, ti’n ‘neud fi’n hapus.

Byw efo’n gilydd mewn tŷ ar y mynydd,

Dim ond fi a thi.

Na, bydd ‘na’m ffraeo, dim ond cytuno,

Os ddoi di i fyw efo fi;

Bydd dy fam wedi siomi,

Dy dad yn gwaredu,   [gwaredu - yma "cael sioc"]

Ond ddoi di i fyw efo fi?



Er nad ydw i ond wedi’th weld di

Unwaith neu ddwy, dwi’n siŵr mai ti ‘di’r un i mi,

A mi i ti.

So fydd ‘na’m ffraeo, dim ond cytuno,

Os ddoi di i fyw efo fi,

Bydd dy fam wedi siomi,

Dy dad yn gwaredu,

Ond ddoi di i fyw efo fi?



Hwyrach heno, dof heibio i’th berswadio

 thamaid bach o gacen a’i thorri hi’n hanner,

Un i mi a’r llall i ti.
Na, bydd ‘na’m ffraeo, dim ond cytuno,

Os ddoi di i fyw efo fi,

Bydd dy fam wedi siomi,

Dy dad yn gwaredu,

Ond ddoi di i fyw efo fi?

Na, bydd ‘na’m ffraeo, dim ond cytuno,

Os ddoi di i fyw efo fi,

Bydd dy fam wedi siomi,

Dy dad yn gwaredu,

Ond ddoi di i fyw efo fi?
Ond ddoi di i fiw efo fi, plîs?
Ddoi di i fyw efo fi?

A ddylai pobl ifanc 16 a 17 oed gael pleidleisio?

Diolch i Golwg360 am y stori hon.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams wedi ymuno â’r galwadau i adael i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio ym mhob etholiad ym Mhrydain o hyn ymlaen.

Daw hyn ar ôl i dros 100,000 o bobl ifanc gofrestru i bleidleisio yn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban, y tro cyntaf i’r bleidlais gael ei hestyn i bobl dan 18 oed mewn etholiad mawr ym Mhrydain.

Mae’r nifer sylweddol yna wedi arwain at alwadau i ganiatau i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael pleidleisio ym mhob etholiad o hyn ymlaen – gan ddechrau mor fuan ag etholiad cyffredinol 2015.

Mae’r arweinydd Llafur Ed Miliband hefyd bellach wedi awgrymu y byddai’n cefnogi ymestyn y bleidlais, ac mae pleidiau eraill fel Plaid Cymru wedi cefnogi polisi o’r fath ers sbel.

Ond er bod rhai Ceidwadwyr fel yr AC Russell George wedi awgrymu y gallai esiampl yr Alban newid ei feddwl yntau ar roi’r bleidlais i bobl 16 oed, dyw David Cameron ddim wedi datgan cefnogaeth i’r syniad hyd yn hyn.



O blaid ac yn erbyn

Yn ôl Kirsty Williams ac eraill, mae’r ffaith fod pobl ifanc yr oed yna eisoes yn medru gadael yr ysgol a thalu trethi yn golygu’u bod nhw’n ddigon hen i wneud penderfyniadau dros eu hunain.

Fe ddangosodd yr ymgyrch refferendwm yn yr Alban bod modd magu brwdfrydedd ymysg pobl ifanc ynglŷn â gwleidyddiaeth.

Ac wrth gwrs, mae llawer o benderfyniadau’r llywodraeth yn debygol o effeithio ar bobl o’r oed yma, gan gynnwys polisi addysg a ffioedd dysgu prifysgolion – pam ddim rhoi’r hawl iddyn nhw bleidleisio ar y materion yma hefyd?

Ar y llaw arall mae rhai’n dal i ystyried fod 16 oed yn rhy ifanc i fwrw pleidlais, am nad ydyn nhw wedi aeddfedu’n llawn ac o bosib yn debygol o wneud penderfyniadau gwleidyddol heb ddeall y materion yn llawn.

Yn ôl deddfau’r wlad nid yw pobl 16 ac 17 oed yn cael eu hystyried yn oedolion eto, ac mae llawer o bethau megis gyrru, ac yfed, nad ydyn nhw’n cael gwneud nes eu bod nhw dros 16.

Mae rhai hefyd yn cyfeirio at ffigyrau sydd yn dangos fod pobl ifanc dros 18 yn llawer llai tebygol o bleidleisio na phobl hŷn, arwydd nad ydyn nhw ar y cyfan yn malio [poeni, pryderu am] rhyw lawer am wleidyddiaeth – beth fyddai’r pwynt felly gadael i bobl hyd yn oed yn ieuengach bleidleisio?

Ac a fyddai pobl ifanc yn rhy debygol o gael eu dylanwadu gan eraill wrth bleidleisio yn hytrach na phenderfynu dros eu hunain – gan rieni, ffrindiau, neu hyd yn oed selebs?

Beth yw’ch barn chi? A ydych chi’n credu’i bod hi’n bryd gadael i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio? Neu a oes rhesymau da pam bod yn rhaid i chi fod dros 18 i wneud hynny?

Dal ati

Stori lawn ar BBC Cymru Fyw

Mae S4C wedi lansio gwasanaeth newydd gyda'r nod o roi mwy o hyder i bobl siarad Cymraeg.

Bydd gwasanaeth Dal Ati, fydd yn dechrau ar y sianel ar 28 Medi, yn cynnig dwy awr o raglenni bob bore Sul mewn Cymraeg hawdd i'w ddeall.

Cafodd y gwasanaeth newydd ei lansio yn swyddogol ym Maes D, Maes y Dysgwyr, ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ddydd Iau.

Yn ôl ymchwil gan y sianel, mae 'na alw mawr am raglenni a fyddai'n rhoi mwy o hyder i ddysgwyr a siaradwyr sy'n llai hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg.

Fel rhan o'r lansiad, fe fydd 'na ymgyrch hyrwyddo, gyda'r neges "Mae dy Gymraeg di'n ddigon da! Jest Dal Ati".

'Jest Dal Ati'


Yn ogystal â'r rhaglenni bydd ap, gwefan newydd a gwasanaethau digidol pellach yn cael eu lansio yn ddiweddarach.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C: "Wrth lunio'r strategaeth newydd ry'n ni wedi bod yn holi'r gynulleidfa, yn ddysgwyr a phobol sy' eisiau gwella eu sgiliau iaith.

"Mae un peth yn amlwg o'r ymchwil - mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn poeni nad yw eu Cymraeg nhw'n ddigon da ac felly mae'n anodd magu hyder i siarad.

"Wrth awgrymu "Mae dy Gymraeg di'n ddigon da, jest Dal Ati" 'da ni'n annog dysgwyr i roi cynnig arni, i sgwrsio mwy a magu hyder. Ond mae hefyd yn herio'r Cymry sy'n rhugl i gefnogi a helpu eraill i groesi'r bont 'na, a dod yn siaradwyr hyderus."

Y llynedd fe fu S4C yn holi croesdoriad o ddysgwyr, a phobl nad oedd yn hyderus yn eu Cymraeg, ar hyd a lled Cymru, i weld beth oedden nhw eisiau ei weld ar y sianel.


'Hwb enfawr'

Roedd yr ymchwil dan ofal yr arbenigwr ac ymgynghorydd iaith, Cefin Campbell.

Meddai Mr Campbell: "Mae'r gwasanaeth hwn ar fore Sul yn ddatblygiad cyffrous iawn a fydd yn hwb enfawr i ddysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg dihyder i wella eu sgiliau iaith.

"Wrth iddynt ymgyfarwyddo â'r arlwy, y gobaith wedyn yw y cânt ddigon o hyder i wylio mwy o raglenni Cymraeg ar S4C yn ystod yr oriau brig'.

Un o'r rhaglenni newydd o fewn y gwasanaeth Dal Ati fydd Bore Da, rhaglen gylchgrawn yn cael ei chyflwyno gan Elin Llwyd ac Alun Williams. Wedi'i chynhyrchu gan gwmni Tinopolis, Llanelli, bydd y rhaglen yn cynnwys eitemau coginio, teithio, hanes, diwylliant a cherddoriaeth.

Ymhlith y rhaglenni eraill bydd Milltir² (Sgwâr), pan all y gwylwyr ddilyn Nia Parry ar ei thaith o amgylch Cymru yn y gyfres sy'n gynhyrchiad Fflic, rhan o Boom Pictures Cymru ar gyfer S4C. Bydd rhaglenni am gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn hefyd yn cael eu darlledu yn wythnosau cyntaf Dal Ati.

Tuesday, 5 August 2014

Enwi'r bysedd: Bys yr Uwd a Wibwd Nobwd

EinCymraeg
Modryb y Fawd, Bys yr Uwd, Pen y Gogor, Jac y Peipar a Robin Ewin Bach. Dyna ddull fy nain o enwi'r bysedd; a oes fersiwn tebyg gennych chi?


Llinos Dafydd 
Bys bwtsyn, Twm Sgwlyn, Long Harris, Jac Dafis, Wil Bach :)

Dafydd Tanner
Bys bwtyn, Twm swglyn, Long Harris, Jac Dafis ac Ianto bach. O ardal cwm Cothi fi'n credu.

Aled Owen-Thomas
 Dyma beth odd Dadcu yn galw nhw (Sir Gâr): bys bodfys, bys misis, jon davis, [dim yn cofio], a wili bach.


Marged Haycock 
  Bys Bwstyn, Twm Swglyn, Dai Harri, Dic Mori, Jo Bac

Elinor Patchell
Bys bawd, bys bwstyn,long harris ,dai losin,wil bach.Mam o Aberaeron yn dysgu plentyn aned yng Nghaerdydd.

Catrin Beard
Modryb dy Fawd, Bys yr Uwd, Hirfys, Cwtshfys a Ningw Ningw Bach ar y nail law, ac ar y llaw arall... (1/2)

Catrin Beard 
 Yr hen Fawden, Gwas y Fawden, Ibn Abl, Gwasg y Stabl a Sioni Bach yn colli’i ben yn nôl dŵr o’r ffynnon (2/2)

 Awel Deg 
 Bys Bwtsyn, Twm Twrlyn, Tal Harris, Jac Dafis a Wil Bac


Ann Hopcyn
 Beni Beni, brawd Beni Beni, Beni Dabwd, Wibwd Nobwd, Bys Bach druan ŵr, dal ei ben o dan y dŵr, codi fyny fel y gŵr (Mr H Borth)


Esther Elias 
 Bys Mwstyn, Twm Siwgryn, John Dafi, Lloyd Harri a Wili Bach.

Atgofion o'r Ysgol Gynradd

Diolch i Lois Gwenllian a Ffrwti am roi sbardun i sgwrs ddifyr arall.

A hithau' ddiwedd tymor ar gynifer ohonom, yn blant, myfyrwyr ac athrawon - dw i'n teimlo mai dyma'r amser i edrych yn ôl dros ddyddiau difyr yr ysgol Gynradd. Wrth reswm, er bod cannoedd o atgofion melys - mae 'na lond llaw o rai crinji ac o edrych yn ôl, rhai reit ddoniol.

 1. Camgymeriad sylfaenol. Hollol anfwriadol. Ond mi wnaeth pob un ohonon ni hyn, dw i'n siŵr. Galw eich athrawes yn 'mam'. O! Mi barodd yr embaras am o leiaf tri amser chwarae.

2. Bob bore dydd Llun, mi fyddai rhaid ysgrifennu am yr hyn a wnaethoch dros y penwythnos. Roedd hyn yn dasg 'llun a stori' i ddosbarthiadau ieuengaf yr ysgol a thasg 'ysgrifennu dyddiadur' i'r dosbarthiadau hŷn. Heb os, mi wnaeth pawb, rhywben, ysgrifennu am rywbaeth na ddylen nhw. Dw i'n cofio sgwennu am Charli a Jini Mê (ein cŵn ar y pryd) yn mynd yn 'sownd' yn ei gilydd. Nesh i lun a phopeth!

3. Bob hyn a hyn, roedd un athro eisiau mynd a neges i un o'r athrawon eraill. Yn y dyddiau cyn rhwydweithiau a chyfrifon e-bost gwaith, byddai'r dasg o gario'r neges yn cael ei rhoi i un disgybl da. Os mai chi oedd hwnnw - O MAM BACH - braint! Yr unig beth drwg am hyn oedd bod cenfigen eich cyd-ddisgyblion yn golygu eich bod hci'n cael eich galw'n 'teacher's pet' am weddill y dydd.



4. Erbyn blwyddyn 4, roeddech chi'n ddigon hen a chyfrifol i gael cario bwyd i blant ieuengaf yr ysgol ac felly yn cael eistedd ar ben y bwrdd. Sgôr!

5. Tua'r un pryd, roeddech chi'n cael uwchraddio o ddefnyddio pensil i wneud eich gwaith i ddefnyddio beiro! Inc du neu inc glas? O'r cyffro! Roedd beiro Bic yn un o'r pethau gorau erioed... am tua wythnos.

6. Roedd gweld un o'r rhain yn cael eu rhowlio mewn i'r dosbarth yn achosi cyffro heb ei ail!

7. Rhwng mis Mawrth a mis Mai roedd 'na un peth hynod annheg yn digwydd i griw bach y parti unsain. Roedd rhaid gwisgo gwisg ysgol ar benwythnosau ac yn ystod hanner tymor Sulgwyn. DAMIA CHDI STEDDFOD YR URDD!!!

 

8. Ar ôl cambihafio, neu chwarae British Bulldog (a chitha'n gwybod ei fod o wedi'i wahardd) roeddech chi'n cael eich cosbi drwy orfod rhoi eich trwyn ar y wal.

9.  Dyma sut gyfrifiadur oedd yn yr ysgol. (Dim ond un cofiwch.)

 

Roedd cael defnyddio cyfrifiadur yn fraint ac anrhydedd brin. Roeddech yn derbyn slot amser a oedd yn ddigon hir i ddylunio clawr ar gyfer llyfr thema'r tymor hwnnw.

10. Ym mlwyddyn 6, ar ôl cael diwrnod yn yr ysgol uwchradd roeddech chi'n dychwelyd yn llawer iawn doethach a deallus. Hefyd, roeddech gennych chi chwe wythnos o wyliau haf i argyhoeddi eich rhieni bod rhain yn rhan anhepgor o wisg ysgol POB ysgol uwrchadd.