Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label radio Cymru. Show all posts
Showing posts with label radio Cymru. Show all posts

Friday, 8 June 2018

Cerddoriaeth "weird" Radio Cymru

Diolch i Golwg 360 am yr erthygl hon.

Mae un o gyfansoddwyr caneuon mwya’ poblogaidd Cymru yn dweud bod y dewis o gerddoriaeth ar Radio Cymru yn “hybu ei difodiant [extermination/annihilation]”.
Mae Arfon Wyn wedi cyfansoddi’r Cân i Gymru fuddugol bedair gwaith, ac mae ‘Harbwr Diogel’, y gân fuddugol yn 2002, wedi dod yn glasur Cymraeg.
Bu hefyd mewn sawl grŵp roc-gwerin ac mae ei fand diweddaraf, Y Moniars, wrthi yn diddanu [entertain] ers chwarter canrif.
Yr wythnos hon mae’r canwr-gyfansoddwr wedi tanio trafodaeth ar wefan facebook, gyda’i sylwadau am y dewis o gerddoriaeth ar Radio Cymru.
Mae’r orsaf ar fai am chwarae cerddoriaeth “sy wedi ei anelu at yr ifanc” yn ystod y dydd pan maen nhw “i gyd yn eu hysgolion neu eu colegau”, meddai.
Ac mae’r gerddoriaeth “amhersain” [dissonant/cacophonous] yn “DIEITHRIO YN ARW y gwrandawyr ffyddlon sy’n ddinasyddion hŷn”.
Yn ôl Arfon Wyn mae “hyn yn ddolur mawr i mi gan fod y ffigyrau gwrandawyr yn gostwng”.
Ac mae ganddo rybudd i benaethiaid yr orsaf: “Bydd BBC Llundain yn rhoi llai o arian o lawer i Radio Cymru yn y diwedd ac yn hybu ei difodiant yn y pendraw”.
“Annhegwch i gerddoriaeth canol y ffordd”
Ers gosod ei sylwadau ar facebook nos Fawrth, mae Arfon Wyn yn dweud fod y BBC wedi trefnu i’w gyfarfod yr wythnos nesaf, i drafod ei bryderon.
Ac mae’r BBC wedi cadarnhau y byddan nhw yn cyfarfod y cerddor “yn fuan”.
“Mae yn rhaid bod o wedi cyffwrdd nerf,” meddai Arfon Wyn wrth golwg360.
“Mae gymaint o bobol wedi gweld [y neges] ar facebook, a gymaint wedi ei rannu… wnes i ddweud yn y neges: ‘Os ydach chi’n cytuno efo hyn, rhannwch o.’
“Ac mae yna lwythi wedi ei rannu fo…
“Dw i’n gwybod beth sydd yn taro calon pobol Cymru.
“Mae yna annhegwch i gerddoriaeth canol y ffordd.”
Ond a ydy Arfon Wyn ond yn cwyno am nad yw ei gerddoriaeth yn cael ei chwarae ar Radio Cymru?
“Maen nhw yn chwarae rhai fi, chwarae teg!
“Maen nhw yn dal i chwarae ‘Harbwr Diogel’ a ‘Cae o Ŷd’ a rhyw un neu ddwy arall.
“Ond dw i ddim yn poeni am hynny.
“Beth sy’n fy nghael i ydy bod fy mam ddim yn gwrando rŵan, mae hi wedi cael llond bol ar y miwsig – ‘amhersain’ mae hi’n ei alw fo.
“A dw i’n cytuno lot efo hi…
“Dw i wedi bod yn gwrando lot yn ddiweddar, ac ynghanol rhaglen canol y ffordd, rwyt ti’n cael blast o ryw fand hollol arbrofol, gwallgof…
“Maen nhw yn trio bod yn hip, ac yn colli cynulleidfa.”
Ymateb y BBC
Dywedodd llefarydd ar ran Radio Cymru: “Mae BBC Radio Cymru yn ymfalchio yn yr ystod eang o gerddoriaeth sydd i’w chlywed ar yr orsaf.
“Mae’r rhestr chwarae yn rhoi lle allweddol i glasuron y gorffennol a’r caneuon poblogaidd hynny sydd mor bwysig i’n gwrandawyr, ac mae ffigyrau gwrando cryf y cyfnod diwethaf yn awgrymu fod hynny’n plesio.
“Rydym hefyd yn hynod falch fod Radio Cymru yn rhoi llwyfan teilwng [deserving] i dalent newydd cerddorol Cymru.
“Serch hynny, mae cryfhau ein darpariaeth gerddorol i gynulleidfa eang yr orsaf yn destun trafod cyson ymhlith timau cynhyrchu a gyda’r diwydiant, ac mae sgyrsiau gyda’r gwrandawyr, cerddorion a labeli yn rhan bwysig o’n gwaith.”
Sylwadau
Wil: 
Wel am lol. Dwi'n meddwl fod Arfon White wedi cymysgu canol y ffordd gydag ansafonol. Os ydi Radio Cymru yn arddel ychydig o 'quality control', yna peth i ymfalchio ynddo ydi hynny siawns.
Er ei fod o'n honni i'r gwrthwyneb, mae'n anodd credu nad oes ganddo ryw fath gymhelliant personol yn hyn i gyd. I'w rant gael unrhyw fath o hygrededd mi fysa rhaid iddo fo enwi enghreifftiau yn fy marn i, h.y. pwy yw'r artistiaid "amhersain" yma a phwy yw'r artistiaid "canol y ffordd" sydd yn cael cam? Onid llawer/gormod o sylw sydd yn gwneud rhywbeth yn "ganol y ffordd" yn y lle cyntaf?
Dwi yn un sydd wedi troi at arlwy dydd Radio Cymru yn ddiweddar gan fod;
a.) y cyflwynwyr wedi gwella (sori Tommo) a
b.) y gerddoriaeth wedi gwella (sori mam Arfon Wyn)

Saturday, 4 October 2014

Siart Fawr yr Haf

Yma o Hyd gan Dafydd Iwan sydd wedi dod i frig Siart Fawr yr Haf ar Radio Cymru.

Fe wnaeth dros 1,500 bleidleisio dros eu tair hoff gân a chafodd y 40 uchaf i gyd eu chwarae ar y radio ar brynhawn dydd Llun Gŵyl y Banc mis Awst.

Roedd nifer o ganeuon cyfarwydd ar y rhestr gan gynnwys pedair gan Bryn Fôn, ond roedd llawer o rai cyfoes hefyd gyda Sŵnami a'r Bandana â thair cân yr un.

Hen glasuron yw'r 10 uchaf i gyd heblaw am Anifail gan y band ifanc o Benllyn, Candelas.

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: "Ni wrth ein boddau bod gymaint o'r gynulleidfa wedi cyfrannu at Siart Fawr yr Haf a rhannu eu hoff ganeuon gyda ni. Mae pobol wedi mynd i drafferth i feddwl o ddifri am ganeuon sy'n gofiadwy iddyn nhw, yn golygu rhywbeth iddyn nhw neu falle yn eu hysgogi nhw i neidio ar eu traed a chanu!

"Mae'r Siart yn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth Gymraeg o sawl cyfnod ac mae'n wych gweld bod amryw o fandiau ifanc, gan gynnwys artistiaid prosiect Gorwelion, sydd wedi cael cefnogaeth Radio Cymru, sef Sŵnami a'r Candelas, yn dod i'r amlwg. Maen nhw'n cael eu lle yn y deugain law yn llaw a'r clasuron ac mae hynny'n beth gwych."

Y rhestr lawn

  • 1 Dafydd Iwan - Yma o Hyd
  • 2 Rhys Meirion - Anfonaf Angel
  • 3 Edward H Dafis - Ysbryd y Nos
  • 4 Bryn Fôn - Ceidwad y Goleudy
  • 5 Elin Fflur - Harbwr Diogel
  • 6 Huw Chiswel - Y Cwm
  • 7 Candelas - Anifail
  • 8 Maharishi - Tŷ Ar y Mynydd
  • 9 Gwibdaith Hen Fran - Trôns Dy Dad
  • 10 Elin Fflur - Ar Lan y Môr




  • 11 Bromas - Merched Mumbai
  • 12 Tebot Piws - Lleucu Llwyd
  • 13 Bando - Chwarae'n Troi'n Chwerw
  • 14 Dafydd Iwan - Esgair Llyn
  • 15 Edward H Dafis - Breuddwyd Roc a Rôl
  • 16 Bandana - Geiban
  • 17 Gwibdaith Hen Fran - Coffi Du
  • 18 Yr Eira - Elin
  • 19 Gwyneth Glyn - Adra
  • 20 Sŵnami - Y Nos
  • 21 Meic Stevens - Môr o Gariad
  • 22 Y Bandana - Heno yn yr Anglesey
  • 23 Big Leaves - Seithenyn
  • 24 Sŵnami - Gwreiddiau
  • 25 Tecwyn Ifan - Y Dref Wen
  • 26 Catrin Herbert - Ein Tir Na Nog ein Hunain
  • 27 Dafydd Iwan - Pam fod Eira yn Wyn?
  • 28 Meic Stevens - Y Brawd Houdini
  • 29 Colorama - Dere Mewn
  • 30 Bryn Fôn - Abacus
  • 31 Geraint Jarman - Ethiopia Newydd
  • 32 Y Cyrff - Cymru Lloegr a Llanrwst
  • 33 Yr Ods - Y Bêl yn Rowlio
  • 34 Bryn Fôn - Cofio dy Wyneb
  • 35 Diffiniad - Calon
  • 36 Bandana - Can y Tân
  • 37 Caryl Parry Jones - West is Best
  • 38 Bryn Fôn - Rebal Wîcend
  • 39 Catrin Herbert - Disgyn Amdana Ti
  • 40 Sŵnami - Du a Gwyn
Beth yw'ch barn chi?

Erthygl wreiddiol ar wefan Cymru Fyw. Diolch i'r BBC.

Saturday, 10 August 2013

Sgwrs Fawr Radio Cymru – “negeseuon clir” meddai Golygydd newydd

Mae yna negeseuon clir wedi dod allan o  Sgwrs Fawr Radio Cymru yr wythnos hon, yn ôl Golygydd newydd yr orsaf.

Yn siarad ar raglen Taro’r Post ar Faes yr Eisteddfod y prynhawn yma, dywedodd Betsan Powys hefyd bod ganddi benderfyniadau anodd i’w gwneud ac na fydd y rheiny’n plesio pawb.

Yn ôl y newyddiadurwraig a ddechreuodd ar ei gwaith y mis diwetha’, fe fydd hi’n cyhoeddi “cyfeiriad clir” o ran ei gweledigaeth ar gyfer Radio Cymru erbyn mis Hydref.

Fe fydd yna elfennau o ganlyniadau’r Sgwrs Fawr yn cael ei chyhoeddi bryd hynny, ond nid y cyfan gan eu bod rhai ohonynt yn “gymhleth”, meddai wedyn.

Mynegodd hefyd ei syniad o gael rhaglen a fyddai’n cael ei chwarae yn ystod cyfnod y mae plant yn mynd adref ar ddiwedd diwrnod ysgol.

“Mae yna ryw bwynt yn y dydd lle r’yn ni angen apelio at y gynulleidfa iau,” meddai Betsan Powys. “Mi fyswn i wrth fy modd yn cael rhaglen sy’n apelio at blant ar y ffordd o’r ysgol yn y prynhawn.”

[Diolch i Golwg360]