Cyfrinachau, cariad, celwyddau. Yr Hydref hwn daw tair drama
wreiddiol i S4C sy'n camu mewn i feddyliau cymeriadau cymhleth. Bydd
Tair yn codi'r chwyddwydr [
= magnifying glass] ar fywydau cyfrinachol, yn rhoi llais i'r ochr
dywyll ac yn cynnig cyfle i chwerthin.
Dyma dair drama newydd, wedi eu creu gan awduron a chyfarwyddwyr
gwahanol, sy'n mentro i dir newydd ac yn rhoi llwyfan i rai o actorion
gorau Cymru. Caiff y tair eu darlledu ar nosweithiau Sul am 9.00, heb
unrhyw hysbysebion i darfu [
tarfu = torri ar draws] ar lif y straeon.
Mae'r ddrama gyntaf yn seiliedig ar nofel Jerry Hunter, Gwreiddyn
Chwerw, ac yn trafod effaith un digwyddiad tyngedfennol [
am rywbeth sy'n penderfynu ffawd/tynged rhywun] ym mywyd gŵr a
gwraig yng nghefn gwlad Eryri ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Darlledir y ddrama gyntaf, Yr Oedi, nos Sul 5 Hydref, 9.00 ar S4C.
Pan gaiff mab hir-ddisgwyliedig ei eni i Mari (Rhian Blythe) a
Tomos (Dyfan Dwyfor), mae bywyd yn ymddangos yn berffaith. Ond buan iawn
mae pethau'n cael eu troi ben i waered wrth i un frawddeg fach
drawsnewid popeth.
Yn y fonolog ddirdynnol [
= poenus ofnadwy, arteithiol] hon sydd wedi ei chyfarwyddo gan Siôn
Humphreys, mae Rhian Blythe yn mynnu sylw [
=comes to the fore] fel Mair ac mae ei phortread
yn llawn tensiynau ac yn ymdrin â themâu oesol: euogrwydd, cywilydd,
cenfigen ac edifeirwch [
= cyflwr o fod yn ddrwg gennych am ryw ddrygioni].
awlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.
Catrin Mara a Shelley Rees sy'n serennu yn yr ail ddrama, Cariad
Erin, nos Sul, 12 Hydref. Yn ddoniol iawn ar y wedd gyntaf, troedio'r
llafn cul [
= narrow blade, i.e. tightrope] rhwng y llon a'r lleddf [
hapusrwydd a thristwch] mae'r stori hon, wrth i ni gael
sbecian [
cymryd pip] i bob cornel o fywyd personol, paradocsaidd Erin - digrifwraig
standup Gymraeg sy'n dal i dorri ei chalon wedi ysgariad.
Mae sgript frathog [
yn brathu/cnoi, chwerw] Siân Naomi a Meirion Davies yn llwyddo i rewi
chwerthiniad mewn chwinciad, ac mae cyfarwyddyd Mei Williams, sy'n
cyfarwyddo drama am y tro cyntaf, yn dod â byd lliwgar Erin a Jo yn fyw.
Dyma ddrama fywiog sy'n llawn cyffro bywyd go iawn.
Yna ar nos Sul, 19 Hydref, Eiry Thomas sy'n rhoi perfformiad
caboledig [
graenus] fel Ceinwen yn Tic Toc, drama gomedi dywyll iawn wedi ei
hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Delyth Jones.
 |
Eiry Thomas |
Yn gaeth i'w chadair o flaen y tân mae Ceinwen mewn stad barhaol o
alar am aelodau eraill ei theulu, sydd wedi marw fesul un. Ond o dipyn o
beth, i gyfeiliant gwallgo' tician y clociau sy'n plastro'r mur, daw'n
amlwg bod sawl cyfrinach ddychrynllyd yn llechu [
ymguddio, cwato] rhwng y pedair wal.
awlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.rhwng y pedair wal…
"Mae'n wych cael cyflwyno gwaith gwreiddiol newydd i'r
gynulleidfa, a hwnnw'n waith o safon," meddai Gwawr Martha Lloyd,
comisiynydd drama S4C. "Mae'r straeon hyn fel clymau [
cwlwm - knot - lluosog] sy'n cael eu datod [
= datglymu] i
ni yn araf bach; maen nhw'n afaelgar [
gafaelgar = yn cydio yn y dychymyg neu’r teimladau] a ffraeth [
= dweud pethau sy’n graff ac yn ddoniol yr un pryd], weithiau'n ddoniol ac
weithiau'n sinistr.
"Rydym ni mor ffodus bod yma ddramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion
anhygoel o dalentog ar ein stepen ddrws, ac mae Yr Oedi, Cariad Erin a
Tic Toc yn rhoi cyfle iddyn nhw ddangos hyd a lled eu sgiliau, a
chymaint maen nhw'n gallu ei wneud.
"Dyma dair drama gwbl unigryw ac rydym yn falch iawn o allu rhoi llwyfan iddynt ar S4C."