Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label hedd wyn. Show all posts
Showing posts with label hedd wyn. Show all posts

Friday, 15 February 2019

Y Gadair Wag

I gael blas o sioe Y Gadair Wag, dilynwch y ddolen hon i wylio eitem a ddarlledwyd ar neithiwr. Yn ogystal â darnau o’r sioe, mae’r eitem yn cynnwys cyfweliadau gydag , Bardd Cenedlaethol Cymru a’r cyfarwyddwr Ian Rowlands. Dolen
https://www.s4c.cymru/clic/programme/797771736

Wednesday, 23 January 2019

Ifor ap Glyn: Y Gadair Wag

Sioe farddoniaeth amlgyfrwng sy’n edrych ar hanes Hedd Wyn o’r newydd, gan archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth.
Yn dilyn taith hynod lwyddiannus yn 2017, mae Y Gadair Wag yn dychwelyd i theatrau a neuaddau ledled Cymru fis Chwefror a Mawrth eleni.
Yn 2017 roedd hi’n 100 mlynedd union ers Trydedd Brwydr Ypres (Passchendaele), lle bu farw miloedd o filwyr ac yr anafwyd oddeutu 3,000 o’r 38ain Adran (Gymreig).
Un o’r rhai a laddwyd yn y frwydr honno oedd Hedd Wyn, y bardd o Feirionnydd a fu farw cyn clywed ei fod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Gorchuddiwyd cadair wag yr Eisteddfod â chynfas ddu a chofir Hedd Wyn hyd heddiw, yn Fflandrys fel yng Nghymru, fel symbol grymus o’r tywallt gwaed a’r gwastraff a fu.
Mae Y Gadair Wag, a grëwyd gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru ac a gyfarwyddwyd gan Ian Rowlands gyda chelf ddigidol gan Jason Lye-Phillips, yn archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth. Mae’n defnyddio ffilm a thechnegau arbrofol i edrych ar hanes Bardd y Gadair Ddu o’r newydd.
“Gwledd i’r llygad a’r glust!” Lowri Roberts (Athro)
Comisiynwyd y sioe fel rhan o brosiect ehangach Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss a gyflwynwyd gan Llenyddiaeth Cymru yn 2017. Ariannwyd y prosiect gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Teithiodd y sioe i bum lleoliad yng Nghymru a dau yn Iwerddon yn ystod Medi 2017.
Noddir taith 2019 gan Yr Ysgwrn, Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ac fe’i gyflwynir mewn partneriaeth â Chanolfan S4C Yr Egin.

DYDDIADAU’R DAITH:
  • 13 Chwefror, 7.30 pm, Yr Egin, Caerfyrddin
  • 14 Chwefror, 10.30 am a 7.30 pm, Yr Egin, Caerfyrddin
  • 15 Chwefror, 10.30 am**, Yr Egin, Caerfyrddin
    Tocynnau: helo@yregin.cymru / 01267 611600
  • 18 Chwefror, 1.00 pm**, Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe
    Tocynnau: 01792 602060 / www.taliesinartscentre.co.uk
  • 19 Chwefror, 7.00 pm**, Canolfan yr Urdd, Bae Caerdydd
  • 20 Chwefror, 10.30 am a 7.00 pm, Canolfan yr Urdd, Bae Caerdydd
    Tocynnau: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266
  • 21 Chwefror, 7.30 pm, Canolfan Garth Olwg, Pontypridd
    Tocynnau: 01443 570075 / www.garth-olwg.cymru / llcreception@garth-olwg.cymru
  • 13 Mawrth, 1.00 pm a 7.30 pm, Galeri, Caernarfon
    Tocynnau: 01286 685222 / www.galericaernarfon.com
  • 14 Mawrth, 10.30 am a 12.30 pm, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
  • 15 Mawrth, 12.30 pm a 7.00 pm**, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
    Tocynnau: yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru / 01766 772508
** Sioe amlieithog

Thursday, 29 March 2018

Rhyfel a heddwch (2): Hedd Wyn

Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (13 Ionawr 1887 - 31 Gorffennaf 1917), bardd o bentref Trawsfynydd, Gwynedd a ddaeth yn symbol o golli cenhedlaeth o ieuenctid Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
 
Roedd Hedd Wyn yn frodor o Drawsfynydd, yn yr hen Sir Feirionydd, lle cafodd ei eni yn 1887, yn fab i Mary ac Evan Evans, yr hynaf o unarddeg o blant. Ar ôl cyfnod yn yr ysgol leol gweithiodd gartref yn Yr Ysgwrn, fferm ei dad. Treuliodd ei fywyd yno, ac eithrio cyfnod byr iawn yn gweithio yn Ne Cymru.

Barddonai o'i lencyndod [llencyndod - adolescence (llanc)] a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau hyd ddyddiau cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd y wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol lleol pan oedd yn ddeuddeg oed cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair gyntaf yn y Bala gyda'i awdl "Dyffryn" yn 1907. Dilynwyd hyn wrth iddo ennill cadeiriau yn Llanuwchllyn yn 1913, Pwllheli yn 1913, Llanuwchllyn yn 1915 a Phontardawe yn 1915. Bu hefyd yn weithgar yn cyfansoddi cerddi ac englynion i ddigwyddiadau a thrigolion Trawsfynydd. Rhoddwyd yr enw barddol Hedd Wyn iddo gan orsedd o feirdd Ffestiniog ar 20 Awst, 1910.

Yr Ysgwrn


Aeth yn filwr yn 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn Ionawr 1917. Treuliodd gyfnod byr yn ymarfer yn Litherland ger Lerpwl ac aeth i Fflandrys erbyn yr haf. Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd Ellis a'r gatrawd [catrawd - regiment] ger Cefn Pilkem lle bu brwydr Passchendaele. Fe'i lladdwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem, rhan o Frwydr Passchendaele a elwir hefyd yn Drydedd Frwydr Ypres (Fflemeg: Ieper), ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn.

Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw [Birkenhead] 1917 am ei awdl "Yr Arwr". Bu Ellis yn gweithio ar yr awdl gan ei chwblhau erbyn tua chanol Gorffennaf 1917 pan oedd yntau yng Ngwlad Belg. Ar ddydd Iau, 6 Medi 1917, cyhoeddodd T. Gwynn Jones i'r dorf ym Mhafiliwn yr Eisteddfod mai bardd a oedd yn dwyn y ffugenw "Fleur-de-lis" oedd yn deilwng o [teilwng o = worthy of] ennill y gadair. Fodd bynnag roedd Ellis wedi cael ei ladd chwe wythnos ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddodd yr Archdderwydd Dyfed ei fod wedi'i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel "Eisteddfod y Gadair Ddu".

Yn eironig ddigon, gwnaed y gadair gan ffoadur [refugee] o'r enw Eugeen Vanfleteren a hannai [hanfod - issue from, come from] o Wlad Belg. Treuliodd gyfnod o chwe mis yn ei chynhyrchu a cheir arni amrywiaeth o symbolau Celtaidd a Chymreig. Daethpwyd a'r gadair yn ôl i Drawsfynydd ar y trên ar 13 Medi, 1917 a chludwyd [cludo - transport, carry] hi i'r Ysgwrn ar gart a cheffyl.

Cynhyrchodd Paul Turner ffilm amdano o'r enw Hedd Wyn, ffilm a enwebwyd am Oscar yn y categori ffilm dramor orau yn 1992, gyda Huw Garmon yn chwarae y brif ran.

                   Rhyfel
Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O'i ol mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.
Pan deimlodd fyned ymaith Dduw
Cyfododd gledd i ladd ei frawd;
Mae swn yr ymladd ar ein clyw,
A'i gysgod ar fythynnod tlawd.
Mae'r hen delynau genid gynt,
Ynghrog ar gangau'r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt,
A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw

gwae - woe     dreng - harsh, grim
ar drai - ebb    teyrn - monarch, tyrant  gwreng - common man
hell - feminine form of hyll [salw]

myned = mynd   ymaith - i ffwrdd
cyfododd = cododd   cledd - sword

genid - that were played
ynghrog - hanging [crogi]


odli - to rhyme
cynghanedd

Thursday, 30 October 2014

Englynion Coffa Hedd Wyn gan R Williams Parry


Y bardd trwn dan bridd tramor, - y dwylaw                      trwn = teg (hynafol)
      Na ddidolir rhagor:                                                    didoli = rhannu, gwahanu
   Y llygaid dwys dan ddwys ddôr,
   Y llygaid na all agor.

Wedi ei fyw y mae dy fywyd, - dy rawd                          rhawd = hanes
      Wedi ei rhedeg hefyd
   Daeth awr i fynd i'th weryd,                                          gweryd = pridd (bedd)
   A daeth i ben deithio byd.

Tyner yw'r lleuad heno - tros fawnog                               mawnog = cors o fawn
      Trawsfynydd yn dringo;
   Tithau'n drist a than dy ro                                             gro = cerrig mân
   Ger y ffos ddu'n gorffwyso.

Trawsfynydd!  Tros ei feini - trafaeliaist
      Ar foelydd Eryri;
   Troedio wnest ei rhedyn hi,                                         rhedyn = bracken
   Hunaist ymhell ohoni.



- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

Gadair unig ei drig draw! - Ei dwyfraich,                         trig = 'dwelling'
      Fel pe'n difrif wrandaw,                                           
   Heddiw estyn yn ddistaw
   Mewn hedd hir am un ni ddaw.