Os ewch chi i Aberystwyth cyn y Nadolig, byddai'n werthchweil mynd i'r Llyfrgell Genedlaethol i weld arddangosfa arbennig (erthygl wreiddiol yma).
"A hithau ar drothwy’r Nadolig, mae modd i ymwelwyr â’r
Llyfrgell Genedlaethol weld ymddangosiad cyntaf stori’r Geni yn yr iaith
Gymraeg.

Ers mis Hydref, bu ymwelwyr ag Aberystwyth yn mwynhau’r cyfle prin i
weld trysorau cynnar llawysgrifol y Gymraeg ochr-yn-ochr â’i gilydd am y
tro cyntaf, a hynny yn arddangosfa’r 4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd. Seren y sioe yw Llyfr Coch Hergest,
sydd ar fenthyg o Goleg Iesu Rhydychen, ac sy’n cynnwys trysorau
llenyddol seciwlar y Gymraeg, gan gynnwys Canu Llywarch Hen a’r
Mabinogi. Ysgrifennwyd rhannau helaeth o Lyfr Coch Hergest rhwng tua
1382 a 1410 gan ŵr o’r enw Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuellt, a hynny
ar gyfer noddwr o’r enw Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynysforgan, ger
Abertawe. Ond nid dyna’r unig Lyfr Coch sydd yn arddangosfa’r Llyfrgell
Genedlaethol eleni.
Lluniwyd Llyfr Coch Talgarth yntau ar drothwy Gwrthryfel Glyndŵr, eto gan Hywel Fychan, ond y tro hwn ar gyfer Rhys ap Thomas ab Einion, brawd i noddwr Llyfr Coch Hergest. Testunau crefyddol a geir yn y gyfrol femrwn o Dalgarth, ac mae’n llai o faint na’i chyfnither fawreddog o Hengwrt. Ar gyfer arddangosfa’r 4 Llyfr, agorwyd Llyfr Coch Talgarth i ddangos cyfieithiad i’r Gymraeg o hanes ymweliad Gabriel â Mair, hanes a gofnodir ym mhennod gyntaf yr Efengyl yn ôl Luc. Credir mai dyma’r copi cynharaf a erys o hanes y Geni yn y Gymraeg, wedi ei ysgrifennu ymron i ddwy ganrif cyn cyhoeddi Testament Salesbury a Beibl William Morgan.
Gobaith y Llyfrgell yw y bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn ceisio darllen geiriau’r llawysgrif, ac i’w cynorthwyo i wneud hynny, cyhoeddir y testun isod (wedi ei ddiweddaru rhyw ychydig):

Rhybudd Gabriel at Fair, pan ddisgynnodd Iesu Grist yn ei bru:
Fe anfonwyd Gabriel angel, gan Dduw, i ddinas Galilea, yr hwn oedd ei enw Nazareth, at wyry briod i ŵr, yr hwn oedd ei enw Joseff o lwyth Dafydd (sef yw hynny o dylwyth Dafydd). Ac enw y forwyn oedd Mair. A myned i mewn a oruc [wnaeth] yr angel ati, a dywedyd wrthi,
“Henffych well Fair, gyflawn o ras, y mae yr Arglwydd gyda thi. Bendigedig wyt ti ymhlith y gwragedd …”
Maredudd ap Huw

Llyfr Coch Talgarth

Rhybudd Gabriel i Fair