Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label dywediad. Show all posts
Showing posts with label dywediad. Show all posts

Sunday, 9 June 2019

I miwn 'da'r bara, mas 'da'r byns

Cwis dywediadau a geiriau gwawd.

A beth am y rhain?

Dyw e’ ddim wedi bod pen draw’r ffwrn!
Dyw e ddim llawn llathen!

Saturday, 28 April 2018

Hanes yr Iaith mewn 50 Gair: Gwynt

Gwynt: Awyr yn symud yn naturiol ac yn fwy neu lai cyflym a chyffrous, chwyth, chwa, awel gref; ffrwd o awyr yn chwythu o gyfeiriad neilltuol (=particular); awyr; symudiad awyr a achosir gan wyntyll, megin (=bellows), &c.; yn ffig. ymffrost, balchder; siarad gwag, dim ond geiriau. (Geiriadur Prifysgol Cymru)

Ifor ap Glyn sy'n esbonio mwy yma.

Nodiadau

I'r hen forwyr gynt yn oes y llongau hwylio roedd gwynt yn holl bwysig.....ac mae sawl ymadrodd o fyd y morwr wedi dod mewn i'r iaith lafar.

Gwynt teg ar ei ôl e!  Yn wreiddiol roedd hyn yn ffordd o ddymuno'n dda i rywun, dymuno gwynt teg iddo, hynny yw gwynt o'r cyfeiriad cywir yn hytrach na gwynt croes, ond erbyn heddiw mae e wedi dod yn ymadrodd digon negyddol (= good riddance).

Heb wynt fedrai'r morwyr gynt ddim symud i unman. Weithiau mae'r gwynt yn gallu gostegu'n [= grow calm, become silent] ddirybudd, ac dyna sydd y tu ôl i'r ymadrodd nesaf: wnaeth hynny dynnu'r gwynt o fy hwyliau i braidd.

Mae unrhyw beth sy'n tarfu arnoch chi'n [ = disturb] annisgwyl fel eich bod chi'n methu mynd ymlaen yn unol â'ch bwriad gwreiddiol yn tynnu'r gwynt o'ch hwyliau.

Ar y llaw arall...."Roedd e'n swnio'n reit nerfus wrth annerch y dorf i ddechrau, ond mi gafodd e wynt dan ei adain wedyn". 

Mae hyn yn cyfleu bod y siaradwr wedi mynd i hwyl (=warm to his subject) wrth areithio, â'i huodledd (=eloquence, oratory) yn ei gario fel aderyn yn cael ei gynnal a'i gario ar y gwynt.

Nid morwyr yw'r unig rai sy'n diddori yng nghyfeiriad y gwynt. Ar y tir roedd deall cyfeiriad y gwynt yn help i ddarogan y tywydd.

Gwynt o'r de, glaw cyn te.

Mae 'na sawl enw ar y gwyntoedd o wahanol gyfeiriadau. Gwynt y Gwyddel yw gwynt sy'n chwythu o'r gorllewin tra bo  gwynt traed y meirw yn enw ar wynt o'r dwyrain am fod 'na draddodiad ers talwm y dylid claddu'r meirw gyda'u traed yn wynebu'r dwyrain. Ond ym Maldwyn gwynt coch Amwythig ydy'r enw ar wynt o'r cyfeiriad yna, a hwnnw mae'n debyg yn cario rhywfaint o lwch pridd coch Amwythig i'w ganlyn (= accompanying it).

Byddai'r hen borthmyn ar y llaw arall yn cyfeirio at wynt o'r dwyrain fel gwynt ffroen yr ych (= ox's nostril).

Dyn ni'n dal i ddefnyddio hen ddywediadau mewn cyswllt newydd.

"Dw i ddim yn siŵr fedra i ddod efo chdi i'r gêm nos Sadwrn. Bydd rhaid i mi weld o ba ffordd mae'r gwynt yn chwythu", hynny yw, sut dywydd sydd yna ar yr aelwyd.

A phan dyn ni'n dweud, "mae 'na rywbeth yn y gwynt", dyn ni'n teimlo bod rhywbeth ar fin digwydd.

Yn y Beibl nerth dinistriol gan amlaf sydd gan y gwynt. Yn Llyfr Hoseia mae sôn fel hyn am bobl Israel a'u problemau: "Gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant". (hau - to sow, heuasant - they sowed, medi - to reap, medant - they will reap).

Mae gwynt yn gallu bod yn beth duwiol hefyd, yn enwedig pan mae'n cael ei ddefnyddio fel term am anadl.

"Rhedais i adre â fy ngwynt yn fy nwrn". Dyma ymadrodd sy'n disgrifio rhywun sydd â chymaint o frys fel maen nhw'n methu cael eu hanal (=anadl) yn iawn. (cael ei ana[d]l - to get one's breath).

Mae'r dwrn yn sicr yn dal tipyn lai o wynt na'r 'sgyfaint. Petai rhywun yn cyrraedd eich tŷ wedi rhuthro fel 'na, hwyrach (=efallai) bysech chi'n dweud, "cym funud rŵan i ti gael dy wynt atat".

Rhywbeth dros dro fel arfer ydy colli dy wynt neu bod allan o wynt, ond os ydy rhywun yn cael trafferth anadlu, dyn ni'n dweud, "mae e'n methu cael ei wynt", ond yn y de byddai rhywun yn fwy tebygol o ddweud, "mae fe ffili cael ei anal". Mae hynny i osgoi dryswch am fod gwynt hefyd yn cael ei ddefnyddio yn y de i olygu "ogla" (arogl).

"Duw mae gwynt ffein ar y cino 'ma". Ac o'r ystyr yma datblygodd y ferf "gwynto". "Bois bach, alla i wynto'i draed o fan hyn!"

[Falle bod y boi 'na wedi torri gwynt hefyd, ond dyna stori arall. RV]

Mae oglau yn cael ei gario ar y gwynt, ac dyma sut mae'r ystyr yma wedi datblygu, mae'n debyg.

"Bydd yn amhosib cadw pethau'n dawel os bydd y gwas yn cael gwynt ar y stori". Hynny yw clywed ogla stori ar y gwynt (clywed ogla - iaith y gogledd = arogli) fel y bydd anifail rheibus [= greedy, voracious) yn clywed ogla ei brae (= prae: prey).

Dyma esboniad diddorol o Maes-e:

Mae "clywed ogla" neu hyd yn oed "clywed smel" yn cael ei ddefnyddio trwy Gymru i gyd dwi'n meddwl. Mae run peth yn y Wyddeleg.

Ti'n "clywed" â dy synhwyrau i gyd heblaw dy lygaid.

GPC - "Clywed: Canfod neu dderbyn argraffiadau drwy'r synhwyrau (ac eithrio'r golwg)"

Dwi'n cofio edrych yn wirion ar hen ddyn yn gweud "w, fi'n clywed rhywbeth yn cered lan 'y mraich i' pan oedd e jest yn golygu bod ei fraich e'n cosi.

Yn ol GPC hefyd mae "clywed ar" neu "clywed ar y galon" yn golygu "teimlo fel gwneud rhywbeth".

Un ymadrodd arall cyn gorffen, sef ar yr un gwynt. Fel dyn ni'n clywed, mae geiriau ar yr un gwynt yn tynnu sylw at y ffaith bod rhywun yn dweud rhywbeth sy'n groes i'r hyn oedden nhw newydd ddweud gynt.

"Peth hyll ydy defnyddio geiriau Saesneg di-angen wrth siarad Cymraeg, meddai Mrs Jones. Ac wedyn, ar yr un gwynt, fe wneith hi ychwanegu ei bod hi'n 'snobbish' ac yn dangos bod rhywun yn 'uneducated'."

Ond rhywbeth hollol wahanol ydy dweud rhywbeth ar un gwynt.

"Arafa, does dim eisiau dweud y darn i gyd ar un gwynt", hynny yw heb gymryd anal o gwbl.

Wel, mae'n hamser ni heddiw wedi mynd fel y gwynt, a chyn i neb ddechrau dweud dan ei wynt, "Argwl, mae hwn yn hirwyntog, dw i'n siŵr eich bod chi'n haeddu rhyw wynt bach (gwynt bach = a short pause, break), neu seibiant ar ôl gwrando mor astud arna finnau yn gwyntyllu ( = winnow, to investigate a topic thoroughly by discussion) rhai o ystyron y gair gwynt.







Friday, 13 April 2018

Fel rhech mewn pot jam

Diolch i Ein Cymraeg am hyn.
"Fel cachu poni yn yr afon" - dywediad lliwgar ac effeithiol o Geredigion am ddadl wan (gan fod baw ceffyl yn chwalu mewn chwinciad mewn dŵr!)

Saturday, 17 March 2018

Hoff eiriau gwrandawyr Radio Cymru

Diolch unwaith yn rhagor i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, gofynnodd Cymru Fyw i chi gyfrannu eich geiriau chi at ein hymgyrch Hoff Air - ac mae cannoedd ohonoch chi wedi cysylltu.
Agorodd y llifddorau wedi apêl Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru. Daeth toreth o eiriau ar e-bost ac ar y cyfryngau cymdeithasol, a ry'n ni wedi defnyddio nifer o'r geiriau hynny i greu poster gallwch lawrlwytho a'i gadw.

"Mae'r ffaith fod cynifer wedi cynnig geiriau gwahanol i'w gilydd yn tanlinellu'r cyfoeth sydd mewn Cymraeg llafar," meddai Ifor ap Glyn.
Yma, mae'n cloriannu'r ymateb i'r ymgyrch.

Cafwyd ymateb anrhydeddus iawn i'r apêl gyda mwy na 400 wedi cysylltu - ond y syndod mwyaf oedd fod y rhan fwyaf o'r geiriau a gynigiwyd, yn ymddangos unwaith yn unig.
Dim ond naw o eiriau sy'n ymddangos bedair gwaith neu fwy; ansbaradigaethus (gwych, rhagorol, eithafol), ysbigoglys (sbinaets), cariad a twmffat (pedair gwaith); annibendod, bondigrybwyll (GPC: Heb fod yn werth ei grybwyll, na phrin sonier amdano, honedig; rhyfedd yw dweud; hollbresennol; ar fy ngair!, yn wir!) , a pendramwnwgl (pum gwaith) chwrligwgan (saith gwaith) a hiraeth (tair ar ddeg o weithiau).
Er mai geiriau digon plaen, geiriau 'bob dydd' yw cariad, hiraeth a twmffat (neu twndish yn y De) gwelwn mai'r hyn sy'n gyffredin rhwng y lleill yw eu hyd nhw; (camp iti eu dweud nhw, bron, maen nhw mor hir!) ac mae 'na bleser i'w gael wrth rolio'r fath greadigaethau aml-sillafog o gwmpas y geg.
Geiriau tebyg ar y rhestr oedd cabarlatsio (siarad dwli), wilibowan (Eng. to dawdle) a rhacsjibidêrs (Eng. smithereens, tatters). Geiriau gyda chydig o 'ylwch-chi-fi' yn perthyn iddyn nhw yw'r rhain.
Ond ochr yn ochr â nhw, mae geiriau tipyn symlach ond hollol angenrheidiol: crimog (shin); llysnafedd (slime); llaca (mwd); lletwad (llwy fawr i godi cawl - ladle).
Mae brogarwch wedi cymell ambell ddewis: odi, siwblachad, (gwneud yn anniben neu'n frwnt) sbensh (cwtsh dan staer); tro arall, rhesymau teuluol.
Perfedd (canol neu ganolbwynt, hefyd 'guts') oedd hoff air tad y darlledwr Huw Edwards; wics fyddai mam Anna Jones o Abersoch yn dweud am hot cross buns.
Ond un o'r rhesymau rhyfedda am ddewis hoff air, oedd hwn gan ddyn o Landwrog: 'siop yw fy hoff air i deipio,' meddai. (Ac os craffwch ar y bysellfwrdd, fe welwch fod 'i', 'o', a 'p' i gyd mewn un rhes gyfleus!)
Beth bynnag oedd rhesymau'r gwahanol gyfrannwyr dros eu dewis, diolch iddynt oll am wneud.
Mae'r ffaith fod cynifer wedi cynnig geiriau gwahanol i'w gilydd yn tanlinellu'r cyfoeth sydd mewn Cymraeg llafar.
A dyma'r her nesa'. Nid cyfoeth i'w gronni'n gybyddlyd (= miserly, covetous) yng nghilfachau'r cof mo hyn, ond cyfoeth i'w rannu'n afradlon (=extravagant) ymhob sgwrs.
Dim ond felly y gwna'r geiriau hyn ddodwy, er mwyn cyfoethogi iaith y to sy'n codi. 'Fesul gair mae colli iaith' meddai'r hen ddywediad; ond siawns fod y gwrthwyneb yn wir.
Fesul gair gallwn ei hadennill yn ei hysblander; felly ewch ati i sianachad (=handle roughly) a stabaleinad (= sarnu, trample on) fel cywmaliffwt (GPC term of abuse:  Ar lafar yn y Gogledd, ‘Be wyt ti’n siarad, yr hen gyw máliffwt?’) !
Dyma ddetholiad o'r geiriau Cymraeg eraill sydd wedi mynd â'ch bryd chi - a'r rhesymau pam.
  • Abo
"Mae'n addas iawn ar y tywydd yma. Dywedodd rhywun wrthyf unwaith ei fod yn dod o'r hen air Cymraeg aboer sy'n golygu corpse." (Annette Hughes, Clydach, Cwm Tawe)
"Mi oedd ei mam yn dweud fod ei thraed fel 'abo' - felly ei thraed mor oer â chorff." (Rhiannon)
  • Bloeddi
"Gair am ddraenio llysiau." (Jane Lloyd, Machynlleth)
  • Bochgoch


Bochgoch

"Achos sŵn ac odl y gair ac achos dw i medru gweld beth mae'n ddisgrifio." (Daniela Schlick, Porthaethwy)
  • Brocyn
"Enw ar fachgen oedd yn cael y swydd o dynnu'r hadau a'r llwch o dan y peiriant dyrnu ers talwm." (Merfyn Williams, Pontsiet)
  • Bwchadanas
"Hynny oherwydd mae e'n dafodieithiol, llawer mwy lliwgar na 'carw', a rhywsut yn adlewyrchiad dda o'r anifail gogoneddus mae'n diffinio a disgrifio." (Stephen Thomas, Caerdydd)
  • Canu grwndi
"Dau air, ella - ond mae rheolau yno i'w torri..." (@melfync)
  • Chwimwth
"Fel ieithydd mae gen i nifer o hoff eiriau (a rhai dw i'n eu casáu hefyd). Ond mae'n debyg un o'm ffefrynau yw 'chwimwth' sy'n cyfleu'r holl syniad o 'symud sydyn' o'i sŵn." (Sion Rees Williams, Dunstable). chwimwth: cyflym, sionc, bywiog, heini.
  • Chwyrligwgan
"Mae'n gwneud i mi chwerthin ac yn air cymaint gwell yn Gymraeg na Saesneg (spinning top). Da 'di'r iaith Gymraeg." (Gwenda Williams, Penmorfa)
  • Ci
"Gair byr sy'n crynhoi popeth da yn y byd. Cymeriad, cyfeillgarwch a chariad diamod, cwmpeini, sbort a hapusrwydd. I aralleirio dywediad cyfarwydd - heb gi, heb ddim." (Einir Young, Talybont, Bangor)
  • Ciwmaliffwt
"Plentyn direidus." (Dafydd, Llanrug)
  • Cyboldran
"Siarad a dim tin na phen i stori neu rhywun yn siarad gormod." (Olwen Jones)
  • Diolch
"Dwi'n dwlu am y gair achos mae e'n air mor bert sy'n golygu shwt gwmynt. Hefyd, mae e'n air nad yw'n cael ei ddefnyddio mor aml ag y dylai - yn enwedig gan blant." (Siân Teifi, Llanfaglan, Caernarfon)
  • Fferins
"Gair fy nain Bala am dda-da." (Meleri)
  • Ffunan (hances)
"Un o fy hoff eiriau achos mai Nain odd yn eu dweud nhw." (Janet Aethwy)
  • Huodledd


Huodledd = Eloquence

"Oherwydd bod ganddo ryw fath o berseinedd arbennig, sy'n addas iawn o ystyried ystyr y gair." (Daniel, Rhondda Cynon Taf)
  • Ledled
"Dwi'n hoffi'r ffordd mae o'n swnio a dwi bob tro'n chwilio am esgus i'w ddefnyddio yn fy ngwaith fel cyfieithydd." (Ffion Mair Parrington, Pentre'r Eglwys)
  • Llanast
"Gair sy'n disgrifio ei ystyr yn berffaith." (Dilwyn Jones, Bethesda)
  • Lletchwith
"Mae'n air mor llethchwith nad ydy neb yn ei ddweud yn iawn!" (Christopher Griffiths, Blaendulais)
  • Llwyddiannus
"Mae pob un dysgwr sy'n llwyddo i ddod yn rhugl yn y Gymraeg yn gwneud cam pwysig tuag at yr amcan o gyrraedd miliwn o siaradwyr yr iaith. Hoffwn i weld miloedd o ddysgwyr llwyddiannus yn dod yn rhan o'r 'Cymry Cymraeg'." (Jonathan Simcock, Belper, Derbyshire)
  • Melysgybolfa
"Ei ystyr wreiddiol yw "rhywbeth digon blêr ac amaturaidd - sef rhyw 'frethyn cartref o beth' ", yn cyfeirio at adloniant byr-fyfyr (= impromptu) , tebyg i Noson Lawen, ond heb yr ymarfer na'r sglein... yn ôl yr ysgolhaig Syr Ifor Williams.
"Wedyn, am hwyl, dyma Dafydd Parri, awdur cyfres y Llewod yn bathu'r gair a rhoi ystyr newydd iddo fo, sef pwdin treiffl.
"Bellach, mae rhai tai bwyta yng Nghymru yn defnyddio MELYSGYBOLFA yn gyfieithiad o bwdin efo'r enw Saesneg Eton mess arno. Dwi 'rioed wedi blasu un o'r rhei'ny, ond ma'n siŵr 'i fod o'n bwdin clyfar a bonheddig iawn!" (Mari Gwilym, Caernarfon)
  • Mwddrwg
"Dyma beth oedd Nain yn galw fi." (Eirian James, Caernarfon)
  • Panad
"Datrys pob broblem." (Eleri, plwyf Rhoscolyn)
  • Pibonwy (icicle)
"Gair addas iawn ar gyfer y tywydd oer." (Elin, Ysbyty Ifan)
  • Pwlffacan
"Mae'n ymylu ar swnio'n anweddus, ond yn disgrifio malu awyr i'r dim." (John Bryn Owen, Y Groeslon)
  • Sboncen
"Heb unrhyw drafferth - mae'n achosi llawer o werthin yn fy nosbarth!" (Gareth Murphy, Caerdydd)
  • Sbratast


sbratast - cath sy'n dwyn bwyd oddi ar y bwrdd

"Dw i'n defnyddio'r gair yn Saesneg, hefyd, oherwydd does dim byd yn debyg yn Saesneg - ond mae 'na gathod sy'n dwyn bwyd oddi ar y bwrdd yn Lloegr." (Mike Farnworth, Lerpwl)
  • Shwblachad
"Pan ma' dillad wedi eu pentyrru'n flêr bob sut, neu os oes na olwg blêr ar ddilledyn." (Gwyneth)
  • Strywla
"Gair arferol i mi am chwilio a chwalu e.e. mewn drôr. Am be wyt ti'n strywla yn fanna? h.y. rhywun yn chwilio a hwyrach blera'r drôr yr un pryd." (Olwen Jones)
  • Twll
"Dw i jyst yn licio'r sŵn!" (Kathryn Packwood, Blaenau Ffestiniog)
  • Whilmentan
"Twrio mewn drôr neu focs heb wybod beth a ddaw." (Mags Griffiths, Caerffili)
"Busnesu yw ei ystyr, mae'n gwneud i fi feddwl am balu trwy ddreir yn nhŷ Mamgu yn chwilio am bethau diddorol." (Bethan Griffiths, Caerdydd)
  • Wncomwnco
"O ardal Llanelli am hwnna yn fana." (Bedwyr)
  • Wompyn
"Rhywbeth mawr - mae'r babi 'na'n wompyn!" (Ows, Caerdydd)