Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday, 21 April 2018

Cynllunio a'r Gymraeg - creu pentrefi newydd?

Diolch i Golwg360 am yr adroddiad yma.

Wrth alw am drefn gynllunio wedi ei theilwra ar gyfer anghenion Cymru, mae bargyfreithiwr adnabyddus hefyd yn credu bod yna le i ddysgu gan y cymdogion tros Glawdd Offa.
Roedd Gwion Lewis yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddoe i draddodi’r ddarlith ‘Cynllunio a’r iaith Gymraeg: Sut i godi tai a chael miliwn o siaradwyr erbyn 2050’.
Ac mae wedi dweud wrth golwg360 y gallai’r trefi eco, sy’n cael eu cynllunio yn Lloegr yn benodol i roi’r flaenoriaeth i’r amgylchedd, fod yn batrwm ar gyfer creu pentrefi sy’n rhoi’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg yma yng Nghymru.
“Dw i ddim yn meddwl bod lot o syniadau i’w cymryd o’r system [gynllunio] yn Lloegr,” meddai Gwion Lewis.
“Ond un syniad sydd angen i ni ystyried ydy’r syniad yma o gynlluniau cymdogaethol, sef neighbourhood plans.”
Dan y drefn yn Lloegr mae cynghorau plwyf a chymuned – yn hytrach na chynghorau sir fel yng Nghymru – yn cael paratoi ‘cynlluniau cymdogaethol’ sy’n nodi safle a nifer y tai i’w codi yn lleol. Ac mae refferendwm yn cael ei gynnal ar gynnwys y cynlluniau hefyd.
“Mae’r haen newydd yma o gynllunio lleol wedi bod yn ofnadwy o lwyddiannus yn Lloegr,” meddai Gwion Lewis, “o safbwynt medru rheoli yn well faint o dai sy’n cael eu codi, a lle maen nhw yn mynd.
“Ond yn fwy na hynny hefyd, mae cymunedau lleol wedi medru cael, yn sgîl y trafodaethau maen nhw wedi eu cael efo’r datblygwyr… eu bod nhw yn cael llawer iawn mwy o adnoddau ac isadeiledd i’r gymuned leol, nag y bysa cyngor sir yn medru ei sefydlu drwy’r trafodaethau ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y sir.
“Ac yn aml iawn, gan fod y datblygwyr yn awyddus i gael rhyw fath o gytundeb yn sydyn… ac eisiau osgoi’r broses apêl sy’n gallu cymryd blynyddoedd, maen nhw yn aml yn fodlon cytuno i godi llai o dai, a rhoi llawer iawn mwy o safbwynt isadeiledd i’r gymuned leol.”
Efelychu cynlluniau Lloegr
Yn ôl Gwion Lewis, mae modd efelychu “elfennau” o gynlluniau cymdogaethol y drefn yn Lloegr a chreu ‘cynlluniau cymunedol’ “hynod leol” yma yng Nghymru “fydd yn fendithiol i’r iaith”.
“Ein bod ni yn galluogi cynghorau cymuned yma yng Nghymru i hyrwyddo a sefydlu cynlluniau cymunedol, er mwyn rhoi’r grym i gymunedau fedru penderfynu lle mae tai yn mynd, a faint sy’n cael eu codi.
“Ond eu bod nhw hefyd yn medru cael mwy o ddylanwad ar y math o isadeiledd sydd yn dod ynghylch y tai hynny.
“Mae’n ymddangos bod yna gyfleon, er enghraifft, i hyrwyddo cael mwy o ysgolion cynradd Cymraeg. Ein bod ni yn sefydlu ardaloedd manwerthu sydd yn rhoi’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.
“Ei bod hi’n bosib, drwy’r cynlluniau lleol yma, i wneud rhywbeth tebyg i’r hyn sydd wedi ei wneud yn Lloegr gydag eco towns, lle mae yna bolisïau yn cael eu sefydlu er mwyn codi trefi a phentrefi newydd sy’n dangos arferion da o safbwynt yr amgylchedd.
“Pam na fedrwn ni wneud rhywbeth tebyg yng Nghymru? Ein bod ni yn hyrwyddo, efallai, un ai pentrefi newydd neu yn sicr  bod unrhyw ehangu i’n pentrefi presennol ni, ar y sail bod yna arferion da iawn yn gorfod cael eu dangos o safbwynt y Gymraeg…
“Mae yna sgôp yn y cynlluniau cymunedol hyn i newid natur y drafodaeth yng Nghymru.
“Yn hytrach na bod ni yn gweld y Gymraeg fel rhyw broblem a rhywbeth sydd “yn dal pobol yn ôl yn economaidd”, bod pawb – yn cynnwys datblygwyr – yn dechrau gweld cyfleoedd economaidd o safbwynt y Gymraeg.”

Wednesday, 18 April 2018

Marwdy plwyf olaf Cymru

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Bydd unig farwdy plwyf Cymru yn cael ei achub rhag ei ddinistrio yn sgil £50,000 o arian y Loteri Genedlaethol.
Mae'r tŷ'r meirw ym Mochrwyd ym Mhowys ar y Gofrestr Adeiladau mewn Perygl, ac roedd arbenigwyr wedi rhoi llai na 12 mis iddo oroesi oni bai bod gwaith brys yn cael ei wneud.
Mae'r adeilad rhestredig Gradd II yn rhan o eglwys ganoloesol Sant Cynog.
Fe fydd y gwaith adnewyddu'n cynnwys adfer ffenestri gwydr plwm, diogelu gwaith maen sy'n cynnwys graffiti o'r 19eg ganrif, ac ailosod y llawr gydag un wedi'i wneud o gerrig bedd wedi'u hailddefnyddio.
Pan gafodd yr eglwys ei hail-adeiladu'n llwyr yn y 19eg ganrif fe gomisiynodd y ficer ar y pryd, Henry de Winton, adeilad ar wahân ar dir yr eglwys i gadw cyrff cyn eu claddu.
Fe wnaeth hynny mewn ymateb i'r gred yn dilyn epidemig colera Llundain yn 1848 bod y clefyd wedi'i achosi a'i ledaenu gan gyrff yn pydru.
Ond roedd codi marwdy yn mynd yn groes i'r diwylliant yn Oes Fictoria - cyfnod o ddwyn cyrff o feddi a'u gwerthu i sefydliadau meddygol er mwyn i fyfyrwyr eu dyrannu a'u dadansoddi,
Er mwyn atal hynny rhag digwydd i'w hanwyliaid, roedd pobl yn arfer cadw'r ymadawedig yn y cartref teuluol nes bod y corff wedi pydru digon.

Arddangosfa, ffilm ac arch

Bydd gwirfoddolwyr yn ymchwilio i arwyddocâd tŷ'r meirw a hanes y plwyf Fictoraidd roedd yn ei wasanaethu gyda'r bwriad o greu arddangosfa yn yr adeilad.
Wedi'r gwaith adfer fe fydd yr hen farwdy yn cael ei agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
Bydd ffilm fer ddwyieithog am ddisgwyliad oes, Deddf y Tlodion a meddygaeth yn y cyfnod Fictoraidd hefyd yn cael eu rhannu ar wefan Casgliad y Werin Cymru.
Ac fe fydd atgynhyrchiad o arch plwyf ar gyfer claddu tlodion hefyd yn cael ei harddangos.
Mae'r cyfle i wireddu'r cynlluniau yn "hynod o gyffrous" yn ôl ficer presennol Eglwys Sant Cynog, Ian Charlesworth.
"Dyma ran gyntaf prosiect dau gam i uwchraddio eglwys Sant Cynog a chynnwys y gymuned yn ei hanes cyfoethog, yn ogystal â hanes y plwyf," meddai.
"Rydym yn edrych ymlaen i ddechrau gweithio i achub Tŷ'r Meirw a chroesawu ymwelwyr newydd."

Arwyddocâd cenedlaethol

Dywedodd Richard Bellamy, pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru ei bod yn "wych bod yr adeilad anarferol a hynod unigryw hwn, sydd â hanes cymdeithasol mor ddiddorol, yn cael ei achub".
"Mae ei arwyddocâd i'r ardal leol ac yn wir i Gymru gyfan - fel yr unig dŷ'r meirw yn y wlad - yn werth ei ddiogelu, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn cael eu hudo gan ei hanes wrth ddysgu mwy am y materion go iawn sy'n ymwneud â bywyd a marwolaeth yn yr oes Fictoraidd."
Yn ôl AS Aberhonddu a Sir Faesyfed, Chris Davies, fe allai'r tŷ'r meirw "fod yn atyniad gwych i'r ardal leol" a fydd "heb os, o ddiddordeb" i bobl leol ac ymwelwyr.

Anoddach cael apwyntiad cyfleus â meddyg

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr adroddiad yma.

Mae'n mynd yn anoddach i bobl drefnu apwyntiad cyfleus gyda'u meddyg teulu, yn ôl ffigyrau newydd - ac ardaloedd trefol sy'n diodde' waethaf.
Rhwng 2012/13 a 2016/17, fe gododd y nifer sy'n cael trafferth mawr i gael apwyntiad cyfleus o 15% i 21%.
Fe wnaeth Arolwg Cenedlaethol Cymru holi 10,000 o bobl a chanfod bod y broblem ddwywaith yn waeth mewn ardaloedd trefol o'i gymharu â'r rhai sy'n byw yng nghefn gwlad.
Dywedodd lefarydd ar ran y llywodraeth eu bod nhw'n cydweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd i wella mynediad at feddygon fel rhan o gynllun diwygio ehangach.

Poblogaeth sy'n heneiddio

Llynedd fe wnaeth cadeirydd Pwyllgor Iechyd Gogledd Cymru, Dr Eamonn Jessup ddweud fod y gwasanaeth yn y rhanbarth "bron â chyrraedd stad o argyfwng".
Yn yr arolwg o 10,493 o bobl, mae nifer y bobl aeth i weld meddyg teulu dros y 12 mis diwethaf wedi aros yn gymharol sefydlog ar 77%.
Ond fe gododd y nifer oedd wedi cael trafferth i wneud hynny yn sylweddol mewn rhai ardaloedd.
O'r rhai gafodd drafferthion, roedd 23% yn byw mewn dinasoedd, 20% mewn trefi, 15% mewn pentrefi a 12% mewn mannau anghysbell yng nghefn gwlad.
Er hyn dywedodd 90% o'r bobl a holwyd eu bod yn fodlon iawn gyda'r gwasanaethu a gawson nhw pan aethon nhw i weld eu meddyg teulu.

'Angen buddsoddiad'

Cadeirydd cyngor y BMA yng Nghymru yw Dr David Bailey, a dywedodd fod cynnydd ym mhoblogaeth ardaloedd trefol a dinesig yn cael effaith.
Ond ychwanegodd: "Mae hyn yn llai pwysig na heneiddio. Ry'n ni'n byw yn hirach - saith mlynedd yn hwy na 30 mlynedd yn ôl.
"Mae'r boblogaeth wedi cynyddu 10%, a hynny'n bennaf rhwng 74-82 oed pan mae pobl angen gweld eu meddyg yn amlach."
Dywedodd hefyd fod meddygon yn gweld eu cleifion chwe gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd, sy'n cyfateb i 19 miliwn o apwyntiadau dros Gymru gyfan.
Er bod mwy o gleifion ar restrau meddygfeydd ardaloedd trefol a dinesig, mae recriwtio meddygon yn broblem sy'n gyffredin i bob ardal, a dywedodd fod angen buddsoddiad yn y maes.
Ychwanegodd Dr Bailey fod angen fferyllfeydd cymunedol a nyrsys arbenigol er mwyn rhannu'r baich.

Friday, 13 April 2018

Y border bach



Diolch i Penri James  a "Crwys" am hyn:

Dacw nhw: y lili fach,
Mint a theim a mwsg,
Y safri fach a'r lafant pêr,
A llwyn o focs ynghwsg;

Dwy neu dair br
iallen ffel,

A daffodil, bid siŵr,
A'r cyfan yn y border bach
Yng ngofal rhyw 'hen ŵr'.


Cafodd Crwys ei eni yn 1875, a’i enw bedydd oedd William Williams, ond mi gymrodd ei enw barddol o’r capel lleol, sef Pant y Crwys. Enillodd y Goron deirgwaith a dod yn Archdderwydd hefyd. Ac yn ôl y sôn, roedd o’n dipyn o gymeriad. (Bethan Gwanas)

safri = savory
ffel = cunning, wily

Fel rhech mewn pot jam

Diolch i Ein Cymraeg am hyn.
"Fel cachu poni yn yr afon" - dywediad lliwgar ac effeithiol o Geredigion am ddadl wan (gan fod baw ceffyl yn chwalu mewn chwinciad mewn dŵr!)

Ffrae'r bont

Galwodd Matholwch ar holl filwyr Iwerddon a phenderfynwyd cilio i ochr draw afon Llinon a thorri’r bont ar draws yr afon i rwystro Bendigeidfran a’i wŷr rhag eu cyrraedd. Pan gyrhaeddodd lluoedd Bendigeidfran yr afon, dywedodd ei wŷr wrtho,

“Arglwydd, gwyddost faint yr afon: ni fedrwn ei chroesi ac nid oes pont trosti. Beth yw dy gyngor di am bont?”

“Dim ond hyn: sef a fo ben bid bont. Mi fyddaf i’n bont.”

Gorweddodd Bendigeidfran ar draws yr afon a chroesodd y lluoedd yr afon.
(Chwedl Branwen ferch Llŷr (Ail Fainc y Mabinogi)

Roedd Bendigeidfran yn gawr, wrth gwrs, a phrin iawn y byddai byddin, hyd yn oed byddin o gorachod, yn medru croesi afon ar gefn Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sydd am ail-enwi ail bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.
Bu ymateb ffyrnig i'r penderfyniad, ac erbyn hyn dros 35,000 o bobl sy wedi arwyddo deiseb yn galw ar Mr Cairns i ail-feddwl.

Yng nghanol y ffrae, penderfynodd y Sunday Times gorddi'r dyfroedd ymhellach gyda darn ymfflamychol gan ei golofnydd Rod Liddle:


Yna lansiodd rhywun arall ddeiseb i ail-enwi Mr Cairns.

Dyma adroddiad Golwg360 a chyfraniad Hedd Gwynfor:

O fewn ychydig oriau’n unig, mae mwy na 3,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu ailenwi’r ail Bont Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’.
Mae’r ddeiseb yn galw ar Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, i ail-feddwl, ac mae nifer o bobol wedi ymateb yn chwyrn [= heated, vigorous] i’r penderfyniad a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Prydain heddiw heb ymgynghori â Chymru o gwbwl.
Dywed Alun Cairns y byddai enwi’r bont ar ôl y Tywysog Charles yn “deyrnged addas” iddo yn ystod blwyddyn ei ben-blwydd yn 70 oed.
Fe ddaeth i’r amlwg heddiw nad oedd Llywodraeth San Steffan wedi ymgynghori â neb yng Nghymru ynghylch y newid enw, ond bod Ysgrifennydd Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y llynedd, yn nodi bod hyn yn mynd i ddigwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones, nad oedd wedi codi unrhyw wrthwynebiad ar y pryd.
Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, wedi dweud ar Twitter na chafodd yr Aelodau Cynulliad eu hymgynghori ar yr enw.
Ac mae eraill ar y cyfryngau cymdeithasol wedi mynegi eu barn ar yr enw:
Tudur Owen: Dwi mor flin am y llywodraeth yn ail enwi Pont Hafren fel fy mod i am feddwl am betha clyfar i roi ar twitter gwasgu 'like' loads o weithia.
Iola WynCwbwl amlwg i unrhywun be bynnag fo’i farn, bod hwn yn benderfyniad dadleuol ac ansensitif i’r rhai sy’n gwarchod a pharchu treftadaeth, diwylliant a hanes Cymru.Y cwestiwn pryderus - sut bod hyn yn medru digwydd mor llechwraidd [=furtive] a di-rybudd mewn gwlad ddemocrataidd,yn honedig
Robat Idris: Un enghraifft yn unig o ydi'r miri [=sbort a sbri, hwyl] am enwi Pont Hafren. sy wedi symbylu hyn. Atgyfnerthu
Gallwn ddisgwyl llawer mwy o'r math yma o lol gan Cairns a'i debyg.

Beth yw'ch barn chi?





Crwst

Diweddariad 13 Ebrill 2018

Mae popty, caffi, bwyty a deli Crwst wedi agor o'r diwedd. Ydych chi wedi bod yna? Dyma linc i'w wefan (uniaith Saesneg, yn anffodus!), ond mae'n llawn lluniau hyfryd gyda llwyth o wybodaeth a ryseitiau.

_____________________

BBC Cymru Fyw sy'n olrhain hanes busnes lleol.

Ry'n ni'n clywed yn aml am ddi-boblogi cefn gwlad wrth i bobl ifanc Cymru symud i'r dinasoedd i weithio. Ond mae cwpl o Sir Benfro yn mynd yn erbyn y llif. Mae Osian a Catrin Jones wedi gadael Caerdydd er mwyn sefydlu busnes pobi ym mro eu mebyd  [plentyndod].

Catrin sy'n sôn am eu penderfyniad i sefydlu Crwst yng nghegin hen gartre mam-gu Osian ym Mlaenffos:


Roedd Osian wedi dysgu ei grefft yn lleol mewn gwesty yn Llechryd a phan gafodd gynnig symud i Gaerdydd i weithio mewn gwesty fan 'ny, wel, roedd hi'n gyfle iddo gael mwy o brofiad, ond dod yn ôl oedd y bwriad wastad.


Cegin mam-gu

Ni'n dau'n lico byw yn lleol. Ni'n bach o country bumpkins, ond leicen ni ddod â rhywbeth gwahanol i'r ardal. Dod nôl â thalent Osian fel bod pobl fan hyn yn gallu mwynhau'r profiad o'r bwyd anhygoel mae'n medru ei greu, a dod â syniadau modern yma.

Yr holl amser roedden ni yng Nghaerdydd, roedden yn paratoi ein cynlluniau i ddod adre. Ro'n i'n teithio nôl i swyddfeydd Antur Teifi i wneud cyrsiau busnes, a dreulion ni amser yn gwneud yr ymchwil a gwneud y cynlluniau i agor ein lle ein hunain.

Y syniad wastad oedd agor caffi a thŷ bwyta ond roedd hi'n anodd ffeindio lle addas, felly dyna pam ddechreuon ni fusnes wedi ei leoli yn y tŷ. Hwn yw hen dŷ mam-gu a thad-cu Osian, a dyma ble dechreuodd e gwcan gyda'i fam-gu.

Ond doedd dim syniad gyda ni os oedd hi'n bosib hyd yn oed gwneud bywoliaeth o set up mor fach. Felly ar y dechrau, roedden i'n gweithio rhan amser o hyd. Ond o fewn wyth wythnos, wnes i roi'n jobyn lan achos o'n ni mor brysur.

Mae'r oriau'n hir iawn. Dydd Iau a dydd Sadwrn yw'n diwrnodau prysuraf gan ein bod ni â stondin ym Marchnad Aberteifi ac mae orders y siopau lleol sydd yn gwerthu ein bara a chacennau'n cael eu paratoi hefyd. Ar nos Fercher a dydd Gwener felly, byddwn ni'n codi tua chwech y bore, ac yn pobi tan un y bore wedyn.

Yna byddwn ni'n codi eto am hanner awr wedi pedwar y bore i wneud y doughnuts i gyd. Y doughnut yw'r pethau mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd, felly mae angen lot ohonyn nhw.


Garej paradwys

Nawr gyda'r cynlluniau newydd fydd pethau'n mynd hyd yn oed yn fwy prysur. 'Dyn ni nawr yn mynd i wneud beth oedd ein bwriad ni ers y dechrau, ond mae'n naid [= jump] eithaf mawr.

O'r diwedd 'dy ni wedi ffeindio rhywle addas a ni'n bwriadu agor bar, caffi, popty a thŷ bwyta yng nghanol tref Aberteifi.

Yn wreiddiol garej oedd yr adeilad oedden ni'n bwriadu ei ddatblygu ac yn ddiweddar roedd e'n siop pob dim, ond mae'n ofod mawr, ond gyda'r ffenestri mawr na mae reit lan ein stryd ac yn berffaith ar gyfer beth ni moyn gwneud, a'r peth gorau yw bod e'n blank canvas.

Diwedd y gân

Roedd y weledigaeth gyda ni, mae'r adeilad perffaith gyda ni, ond y cam mwyaf oedd ffeindio'r arian. Hyd yn oed gyda blwyddyn o brofiad a busnes llwyddiannus, byddai'n anodd iawn i ni godi'r arian drwy'r banciau cyffredin.

Ond, wnaethon ni ein gwaith ymchwil a gydag ychydig o help Antur Teifi a gwahanol bobl, ddaethon ni i gysylltiad â Banc Datblygu newydd Llywodraeth Cymru a thrwyddyn nhw ry'n ni wedi derbyn y benthyciad fydd yn gwneud yr holl beth yn bosib.

Yr unig beth sydd ar ôl yw cael y cadarnhad cynllunio fydd yn gwneud hi'n bosib i ni ddechrau. Ond mi ddylen ni glywed am hyn ddiwedd y mis.

Os oes gan unrhyw un mas fan 'na syniad neu freuddwyd i wneud rhywbeth a dechrau busnes, fydden ni'n dweud go for it. Mae'n lot o waith, ond rhaid i chi fynd amdani, a mynd amdani fflat owt.