Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label cynllunio. Show all posts
Showing posts with label cynllunio. Show all posts

Saturday, 21 April 2018

Cynllunio a'r Gymraeg - creu pentrefi newydd?

Diolch i Golwg360 am yr adroddiad yma.

Wrth alw am drefn gynllunio wedi ei theilwra ar gyfer anghenion Cymru, mae bargyfreithiwr adnabyddus hefyd yn credu bod yna le i ddysgu gan y cymdogion tros Glawdd Offa.
Roedd Gwion Lewis yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddoe i draddodi’r ddarlith ‘Cynllunio a’r iaith Gymraeg: Sut i godi tai a chael miliwn o siaradwyr erbyn 2050’.
Ac mae wedi dweud wrth golwg360 y gallai’r trefi eco, sy’n cael eu cynllunio yn Lloegr yn benodol i roi’r flaenoriaeth i’r amgylchedd, fod yn batrwm ar gyfer creu pentrefi sy’n rhoi’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg yma yng Nghymru.
“Dw i ddim yn meddwl bod lot o syniadau i’w cymryd o’r system [gynllunio] yn Lloegr,” meddai Gwion Lewis.
“Ond un syniad sydd angen i ni ystyried ydy’r syniad yma o gynlluniau cymdogaethol, sef neighbourhood plans.”
Dan y drefn yn Lloegr mae cynghorau plwyf a chymuned – yn hytrach na chynghorau sir fel yng Nghymru – yn cael paratoi ‘cynlluniau cymdogaethol’ sy’n nodi safle a nifer y tai i’w codi yn lleol. Ac mae refferendwm yn cael ei gynnal ar gynnwys y cynlluniau hefyd.
“Mae’r haen newydd yma o gynllunio lleol wedi bod yn ofnadwy o lwyddiannus yn Lloegr,” meddai Gwion Lewis, “o safbwynt medru rheoli yn well faint o dai sy’n cael eu codi, a lle maen nhw yn mynd.
“Ond yn fwy na hynny hefyd, mae cymunedau lleol wedi medru cael, yn sgîl y trafodaethau maen nhw wedi eu cael efo’r datblygwyr… eu bod nhw yn cael llawer iawn mwy o adnoddau ac isadeiledd i’r gymuned leol, nag y bysa cyngor sir yn medru ei sefydlu drwy’r trafodaethau ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y sir.
“Ac yn aml iawn, gan fod y datblygwyr yn awyddus i gael rhyw fath o gytundeb yn sydyn… ac eisiau osgoi’r broses apêl sy’n gallu cymryd blynyddoedd, maen nhw yn aml yn fodlon cytuno i godi llai o dai, a rhoi llawer iawn mwy o safbwynt isadeiledd i’r gymuned leol.”
Efelychu cynlluniau Lloegr
Yn ôl Gwion Lewis, mae modd efelychu “elfennau” o gynlluniau cymdogaethol y drefn yn Lloegr a chreu ‘cynlluniau cymunedol’ “hynod leol” yma yng Nghymru “fydd yn fendithiol i’r iaith”.
“Ein bod ni yn galluogi cynghorau cymuned yma yng Nghymru i hyrwyddo a sefydlu cynlluniau cymunedol, er mwyn rhoi’r grym i gymunedau fedru penderfynu lle mae tai yn mynd, a faint sy’n cael eu codi.
“Ond eu bod nhw hefyd yn medru cael mwy o ddylanwad ar y math o isadeiledd sydd yn dod ynghylch y tai hynny.
“Mae’n ymddangos bod yna gyfleon, er enghraifft, i hyrwyddo cael mwy o ysgolion cynradd Cymraeg. Ein bod ni yn sefydlu ardaloedd manwerthu sydd yn rhoi’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.
“Ei bod hi’n bosib, drwy’r cynlluniau lleol yma, i wneud rhywbeth tebyg i’r hyn sydd wedi ei wneud yn Lloegr gydag eco towns, lle mae yna bolisïau yn cael eu sefydlu er mwyn codi trefi a phentrefi newydd sy’n dangos arferion da o safbwynt yr amgylchedd.
“Pam na fedrwn ni wneud rhywbeth tebyg yng Nghymru? Ein bod ni yn hyrwyddo, efallai, un ai pentrefi newydd neu yn sicr  bod unrhyw ehangu i’n pentrefi presennol ni, ar y sail bod yna arferion da iawn yn gorfod cael eu dangos o safbwynt y Gymraeg…
“Mae yna sgôp yn y cynlluniau cymunedol hyn i newid natur y drafodaeth yng Nghymru.
“Yn hytrach na bod ni yn gweld y Gymraeg fel rhyw broblem a rhywbeth sydd “yn dal pobol yn ôl yn economaidd”, bod pawb – yn cynnwys datblygwyr – yn dechrau gweld cyfleoedd economaidd o safbwynt y Gymraeg.”

Thursday, 29 March 2018

TAN20 a'r Iaith Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod ‘gwendidau’ cyngor newydd TAN 20 yn dangos bod angen newidiadau llawer mwy pellgyrhaeddol i’r system gynllunio.

Dywed y nodyn technegol: “Ni ddylid cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio
ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu prosesau dewis safleoedd y [cynllun
datblygu lleol].”


Ychwanegodd y mudiad iaith eu bod nhw eisoes wedi gofyn am newidiadau mwy mewn
dogfen bolisi a anfonwyd at Carwyn Jones yn ôl ar ddechrau mis Awst eleni.


Dywedodd Cen Llwyd, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r system gynllunio
yn lladd y Gymraeg ar hyn o bryd. Byddwn ni’n ystyried y nodyn newydd yn fanwl,
ond mae’r gwendidau ynddo fe yn dangos angen difrifol am newidiadau mwy
sylfaenol i’r system gynllunio’n ehangach, a hefyd arolygiaeth gynllunio
annibynnol i Gymru. Mae nifer fawr o awdurdodau wedi mabwysiadu eu cynlluniau
datblygu lleol yn barod, a dyw’r canllawiau ddim yn delio â’r broblem honno.


Dyna pam anfonon ni bapur safbwynt manwl at Carwyn Jones. Mae’r ffaith bod y
nodyn yn datgan na ddylai awdurdodau gynnal asesiadau effaith iaith ar geisiadau
cynllunio unigol yn rhyfedd iawn. Dyw’r nodyn ddim yn trin y Gymraeg fel iaith i
bawb nac i bob rhan o Gymru chwaith.”


Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Nid nawr yw’r
amser i wneud mân newidiadau i’r system gynllunio. Am lawer rhy hir, mae’n
cymunedau a’n pobl – boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio – wedi dioddef
effeithiau negyddol y farchnad rydd. Yn hytrach na gwasanaethu pobl a
chymunedau, mae’r farchnad dai a’r gyfundrefn gynllunio wedi cymryd mantais
ohonynt. Mae pwerau deddfu newydd Cynulliad Cymru yn cynnig cyfle i dorri’n
rhydd o’r meddylfryd neo-ryddfrydol hwnnw. Hefyd, mae angen ateb Cymru-gyfan, yn
hytrach nag un sydd ddim ond yn amddiffynnol ynglŷn â'r Gymraeg. Cred y
Gymdeithas fod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Gymraeg, a dylai'r
system gynllunio gyfrannu at dyfu’r Gymraeg, yn ogystal ag amddiffyn y cymunedau
Cymraeg sy’n bodoli eisoes.”


Ymysg argymhellion y mudiad ar gyfer newidiadau i’r system gynllunio, maen nhw’n
galw am i’r Bil Cynllunio:


* gynnwys asesu'r angen lleol am dai cyn datblygu; sicrhau'r hawl i gartref am
bris teg (i'w rentu neu i'w brynu) yng nghymuned y person sy'n rhentu neu brynu;
blaenoriaeth i bobl leol drwy'r system bwyntiau tai cymdeithasol; system
gynllunio sydd yn gweithio er budd y gymuned; sicrhau ailasesu caniatâd
cynllunio blaenorol;


* sicrhau hawliau cymunedau i ymwneud â'r broses gynllunio a rhoi hawl i
gymunedau a grwpiau apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio;


* sefydlu “Arolygiaeth Gynllunio” i Gymru fel corff gwbl annibynnol, corff sydd
yn gyfrifol am apeliadau ac archwiliadau i mewn i ddatblygiadau cynllunio, a
sicrhau rheolaeth ddemocrataidd ohono”;


* wneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol, a gosod TAN 20 ar sail
statudol;


* atal pob cynllun datblygu unedol tan fydd asesiad wedi ei wneud o’i effaith ar
y Gymraeg;


* sicrhau bod cynghorwyr yn gallu gwrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y
Gymraeg


Wednesday, 13 March 2013

Sêl bendith i fferm wynt yn Sir Gaerfyrddin

Mae fferm wynt fawr ar fryniau yn Sir Gaerfyrddin yn cael mynd yn ei blaen ar ôl cael sêl bendith yr Ysgrifennydd Ynni yn Llundain.


Mae cais RWE Npower Renewables ar gyfer Gorllewin Brechfa yn cynnwys 28 tyrbein hyd at 145 metr o uchder. Cafodd ei gyfeirio at Ed Davey gan ei fod yn brosiect sy’n fwy na 50MW o bŵer, a chynllun y cwmni yw cynhyrchu rhwng 56 a 84MW.

Roedd yr Arolygiaeth Gynllunio wedi argymell fod yr Ysgrifennydd Ynni yn cymeradwyo’r cais, tra’n cydnabod y byddai’n cael “effaith niweidiol ar yr olygfa a’r tirwedd.”

Dywed Ed Davey fod cymeradwyo’r fferm wynt ym Mrechfa yn cyd-fynd gyda’r “angen cenedlaethol am ddatblygiadau newydd ar gyfer cynhyrchu trydan.”

Gorllewin Fforest Brechfa

Mae fferm wynt wedi ei lleoli ar dir sy’n berchen i’r Comisiwn Coedwigaeth ac wedi ei dynodi’n addas ar gyfer codi ffermydd gwynt gan Lywodraeth Cymru.

Mae eisoes 10 o drybini yn yr ardal, ger pentref Gwyddgrug, ac ym mis Tachwedd gwrthododd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin gais dadleuol i godi 21 o felinau gwynt ar dir comin ger Llanllwni, yn yr un ardal.
Roedd y cais hwnnw yn is na’r trothwy o 50MW ac felly ni chafodd ei drosglwyddo i Lywodraeth Prydain.
Mae Grŵp Blaengwen, sy’n gwrthwynebu codi ffermydd gwynt yn yr ardal, wedi galw am adolygiad o bolisi TAN 8 sy’n dynodi bod rhai ardaloedd yng Nghymru yn addas ar gyfer datblygiadau ynni gwynt mawr.

Gwneud cais am adolygiad barnwrol

Mae cadeirydd Grŵp Blaengwen sy’n ymgyrchu yn erbyn melinau ar fynydd Llanllwni a Brechfa wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad yr Ysgrifennydd Ynni.

Dywedodd Steve Dubé: “Bydd gan yr Adran Ynni a’r cwmni gyllid mawr gan fod cymaint o arian yn y fantol yma, a byddan nhw’n medru cyflogi’r cyfreithwyr gorau.

“Mae cost gwneud apêl yn anghredadwy, ond rydym ni’n benderfynol o gyflwyno apêl.

“Nid yw’r penderfyniad heddiw yn ddim i wneud gydag ynni – arian yw popeth.

“Mae’n drueni ofnadwy. Mae gan Gymru aur, copr, llechi, glo, dŵr a nawr gwynt ac mae’r cyfan wedi ei reibio dros yr oesau a’r elw wedi gadael Cymru.”

‘Sgandal’

Ychwanegodd Steve Dubé: “Cymru yw’r wlad gyfoethocaf ym Mhrydain o ran adnoddau naturiol ac ynni gwynt yw’r sgandal mwyaf rwyf i wedi profi,” meddai.

“Roedd cyfeiriadau lu at ecoleg a’r amgylchedd yn adroddiad yr Ysgrifennydd Ynni a phrin unrhyw gyfeiriad at bobol. Mae’r melinau yma’n creu sŵn, yn cael effaith ar allu pobol i gysgu, hyd yn oed yn niweidio hearing aid un o ffermwyr y mynydd yma.

“Does dim syniad gan y bobol yma beth maen nhw’n delio gyda.

“Yn anffodus does dim ffydd gen i y byddai’r penderfyniad wedi bod yn wahanol petai’n cael ei wneud yng Nghaerdydd.

“Babi Carwyn Jones yw TAN 8 ers pan oedd yn Weinidog Amaeth.”

(Diolch i Golwg360)