Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday, 7 February 2015

Galargan ar ol y Mochyn Du





1. Holl drigolion bro a bryniau,   dewch i wrando hyn o eiriau,
Fe gewch hanes rhyw hen fochyn   a fu farw yn dra sydyn.

Cytgan: O mor drwm yr ydym ni(x2),   y mae yma alar calon ar ôl claddu’r mochyn du.

2. Fe rowd mwy o faidd i’r mochyn    n’allai fola bach e dderbyn,
Ymhen chydig o funude    roedd y mochyn yn mynd adre.
(Cytgan)

3. Rhedodd Deio i Lwyncelyn   i mofyn Mati at y mochyn;
Dwedodd Mati wrtho’n union    gallai roi e heibio’n burion.
(yn burion = eitha da, gweddol)
(Cytgan)
4. Mofyn hers o Aberteifi    a cheffylau i’w thynnu fyny,
Y ceffylau yn llawn mwrnin   er mwyn dangos parch i’r mochyn.
(Cytgan))
5. Melys iawn yw cael rhyw sleisen   o gig mochyn gyda’r daten,
Ond yn awr rhaid byw heb hwnnw,   y mochyn du sydd wedi marw.
(Cytgan)
6. Bellach rydwyf yn terfynu   nawr gan roddi heibio canu;
Gan ddymuno peidiwch dilyn   siampl ddrwg wrth fwydo’r mochyn.
(Cytgan)

Idiomau - daw bola'n gefen (a mwy)



Diolch i Maes-e!
  • ·         Glywes i foi o Gofi yn siarad wrth ryw ddwy ferch ac yn dweud: 'O, mae o'n hen ffasiwn... fatha jwg.'Lyfli.

  • ·         "Mae o'n hen ffasiwn fatha beic" maen nhw'n ddweud ffor hyn.

  • ·         Fi'n cofio bod reit embarasd pan ddwedodd mam-gu am ryw ddyn moel "Wel, odd ei ben e'n sheino fel ceille ci yn rhoul"  (rhoul = yr haul)

  • ·         Beth ydy ystyr 'Ma'i hanner o'n Chicago' ai 'ddim llawn llathen' ma'n feddwl?

  • ·         "Dim llawn llathen" = "a sandwich short of a picnic" (neu beth bynnag ydio'n iawn)



  • ·         Hefyd yn debyg i'r rhain --> "Gola 'mlaen, neb adra!" a "Bynglo!" (h.y. dim byd fyny grisia, 'mond insiwlêshyn...ond dwi'n ama mai rhyw idiom deuluol ydi hon, ac nac ydi hi'n un a glywir ar hyd a lled y wlad!)

  • ·         Dwli ar "sheino fel pwrs milgi yn yr houl" a "ma' cro'n ei din ar ei dalcen e", fel ma' Sian wedi'u nodi.

  • ·         "Ma' dy fola di'n gefen, odi e?" (h.y. llwgu, wyt ti?)

  •  ·         Da ni'n defnyddio hwn i olygu bod angen bwyta’n dda - fyddi di'n dibynnu arno i gael nerth - Bola yn gefen?

  • ·         Fyddwn ni'n defnyddio hwn i gyfiawnhau byta lot/rhoi pwyse arno.... "O wel, daw bola'n gefen..."

  • ·         Gas 'da fi hefyd pan ma pobol mewn oed yn rhoi'r compliment "jiw, ma gra'n arna ti" (graen) ,gan olygi bod ti wedi rhoi tipyn o bwyse mlan. :?

  • ·         Rhywun arall wedi clywed bod "golwg sabant ar rywun"? - golwg gas - Sgwn i odi e'n dod o "sa bant" - h.y. aros yn ddigon pell, dw i ddim ishe dy weld ti.

Sunday, 1 February 2015

Dyma gariad fel y moroedd





Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli:              tosturiaeth: trugaredd [mercy, compassion]
Twysog Bywyd pur yn marw—
Marw i brynu’n bywyd ni.
Pwy all beidio â chofio amdano?
Pwy all beidio â thraethu’i glod?     traethu - dweud, adrodd
Dyma gariad nad â’n angof
Tra fo nefoedd wen yn bod.

Ar Galfaria yr ymrwygodd                 ymrwygo (hyn.) open
Holl ffynhonnau’r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau’r nefoedd  
Oedd yn gyfain hyd yn awr:             cyfain (lluos. cyfan)
Gras â chariad megis dilyw             dilyw - llifeiriant dinistriol
Yn ymdywallt ymâ ’nghyd,                ymdywallt - tywallt
A chyfiawnder pur â heddwch
Yn cusanu euog fyd.

Idiomau'r wythnos - gwisgo dy dîn ar dy dalcen ac fel bola buwch



Croen ei dîn ar ei dalcen:  dim hwyl ar y person, drwg ei hwyl......

"Mae croen ei dîn ar ei dalcen heddi"
"Mae croen ei thîn ar ei thalcen"
Hefyd: "gwisgo ei dîn ar ei dalcen"

Fel bola buwch: yn dywyll iawn

Mae #awrddaear ym Mynachlog-ddu yn debyg iawn i bob awr arall yma. Mae hi wastad yn dywyll fel bola buwch 'ma! 

Comedi ddu fel bola buwch

Nofel newydd Dewi Prysor. Trysor. Ydy e'n bosib marw o chwerthin? Dieflig. Mor ddu a bola buwch.

Dychmygwch geisio cloddio glo wrth orwedd neu benlinio mewn twnnel cyfyng oedd yn ddu fel bola buwch, a dim golau ond golau cannwyll.

Wednesday, 14 January 2015

Argraffu tair miliwn copi o Charlie Hebdo



Ceir yr erthygl wreiddiol ar Golwg360.

Mae newyddiadurwyr Charlie Hebdo wedi mynnu y byddan nhw’n parhau â’u gwaith wrth i gopïau diweddaraf y cylchgrawn dychanol gael eu hargraffu.

Dyma fydd cyhoeddiad cyntaf y cylchgrawn ers i 12 aelod o’i staff gael eu lladd mewn ymosodiadau brawychol ym Mharis yr wythnos diwethaf.

Dywedodd y cylchgrawn y byddan nhw’n printio tair miliwn o gopïau’r wythnos hon, fydd yn cynnwys cartŵn o’r proffwyd Mohammed ar y clawr.

Ond mae’r clawr eisoes wedi cythruddo [poeni, digio, dychryn] rhai Mwslemiaid, sydd wedi dweud bod parhau i gyhoeddi delweddau o’r proffwyd yn sarhad i’w crefydd.

Mae rhai gwasanaethau newyddion ym Mhrydain eisoes wedi cyhoeddi llun o’r clawr ond dyw eraill, gan gynnwys Associated Press a Sky News, heb wneud.

Cyfieithu’r cylchgrawn

Bydd y copi diweddaraf ar werth am bythefnos ac yn cael ei gyfieithu i Saesneg, Sbaeneg ac Arabeg yn ogystal â chael ei chyhoeddi yn Ffrangeg.

Fel arfer mae Charlie Hebdo yn argraffu tua 60,000 o gopïau bob wythnos, ond mae disgwyl galw anferthol ar gyfer cyhoeddiad cyntaf y cylchgrawn ers yr ymosodiadau’r wythnos diwethaf.

Bydd y clawr yn dangos y proffwyd Mohammed gyda deigryn yn ei lygad ac yn dal arwydd sydd yn dweud ‘Je suis Charlie’, y neges gafodd ei ddefnyddio ar wefannau cymdeithasol i ddangos cydymdeimlad yn dilyn yr ymosodiadau.

Ar ben llun y proffwyd mae geiriau yn dweud bod ‘popeth wedi ei faddau’, neges sydd yn dweud bod y rheiny a oroesodd yr ymosodiadau wedi maddau i’r saethwyr, yn ôl un o ysgrifenwyr y cylchgrawn.

Cynnwys heriol

Mae cyhoeddiad diweddaraf Charlie Hebdo yn cynnwys llawer o’r cynnwys heriol y mae hi yn adnabyddus amdani.

Yn ogystal â’r clawr sydd yn dangos Mohammed, mae’r tudalennau cyntaf yn cynnwys cartwnau rhai o’r staff gafodd eu lladd.

Mae’r golofn olygyddol yn amddiffyn secwlariaeth a’r hawl i ddychanu crefyddau.

“Yn ystod yr wythnos diwethaf mae Charlie, papur newydd anffyddiol, wedi cyflawni mwy o wyrthiau na phob sant a phroffwyd gyda’i gilydd,” meddai’r cylchgrawn.

Saturday, 3 January 2015

Dŵr - Cofio Capel Celyn


[Addasiad o erthygl wreiddiol yn Wicipedia] 

Capel Celyn

Pentref ger y Bala, Sir Feirionydd yng Nghymru a gafodd ei foddi ym 1965 i greu cronfa ddŵr (Llyn Celyn) ar gyfer trigolion Lerpwl, Lloegr oedd Capel Celyn. Cyn ei foddi yr oedd yno gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg, gan gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a deuddeg o ffermydd a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall; rhyw 800 erw i gyd a 48 o drigolion.

Hanes y boddi

Ar 20 Rhagfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu argae ddŵr yng Nghwm Tryweryn i gyflenwi dŵr i drigolion Lerpwl. Roedd y prosiect werth £20 miliwn. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn y 1880au yn nyffryn Efyrnwy. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, ni phleidleisiodd yr un aelod seneddol o Gymru o'i blaid.

Roedd y mesur yn caniatáu prynu'r tir yn orfodol a chafodd gefnogaeth gref oddi wrth Henry Brooke, y Gweinidog dros Addysg a Llywodraeth Leol a Gweinidog Materion Cymreig, Harold Wilson, Bessie Braddock a Barbara Castle. Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn ac ymhlith ei gefnogwyr roedd y Fonesig Megan Lloyd George, T. I. Ellis, Syr Ifan ab Owen Edwards, Gwynfor Evans a'r aelod seneddol lleol T. W. Jones.

Arweiniodd Plaid Cymru y gwrthwynebiad i'r cynllun, gyda Gwynfor Evans yn arwain dirprwyaeth [deputation] i gyfarfod Corfforaeth Lerpwl gan roi anerchiad grymus. Roedd nifer o'r genhedlaeth ifanc yn siomedig serch hynny nad oedd unrhyw weithredu uniongyrchol wedi bod ganddynt. 

Oherwydd eu diffyg asgwrn cefn yn hyn o beth yr ymneilltuodd  [=tynnu'n ôl] nifer o'u haelodau ifanc oddi wrthi gan sefydlu (yn ddiweddarach) fudiad newydd, sef Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cafwyd tair ymgais i ddifrodi offer oedd yn cael eu defnyddio i adeiladu'r argae, ym 1962 ac ym 1963, a charcharwyd Emyr Llywelyn, John Albert Jones ac Owain Williams.

Er gwaethaf yr ymgyrchu yn erbyn y gronfa, cwblhawyd yr adeiladu ym mis Awst 1965 a cafwyd seremoni agoriadol swyddogol iddi ym mis Hydref yr un flwyddyn.

 Ymosodiad Chwefror 1963

Roedd dechrau 1963 yn gyfnod o dywydd caled o eira a rhew gyda'r ffyrdd yn anodd iawn i'w tramwy [= mynd a dod]. Roedd y gwaith o adeiladu'r argae yn ei anterth. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar y gwaith yn un uchelgeisiol iawn, ond fe newidiodd pethau pan ymunodd Emyr Llywelyn â'r cynllun. Roedd e am i'r weithred fod yn un symbolaidd i'w gweld fel gweithred wlatgarol yn hytrach nag un derfysgol.


Yr ymateb

Canodd y beirdd llawer am foddi Cwm Tryweryn ac yn eu plith, Dafydd Iwan:

    Mae argae ar draws Cwm Tryweryn
    Yn gofgolofn i'n llyfrdra ni;
    Dyw'r werin ddim digon o ddynion, bois,
    I fynnu ei rhyddid hi.

[llyfrdra = diffyg dewrder]

I lawer o Gymry gwladgarol daeth boddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn symbol o'r bygythiad i barhad yr iaith Gymraeg ei hun fel iaith gymunedol fyw, yn enwedig yn y 1980au wrth i'r nifer o bentrefi Cymraeg eu hiaith fynd yn sylweddol lai diolch i ymfudo i gael gwaith gan Gymry ifainc a mewnfudo gan bobl o'r tu allan i Gymru, gan amlaf yn Saeson di-Gymraeg. Mynegir hyn gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn ei gerdd adnabyddus Tryweryn, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cilmeri a cherddi eraill yn 1991 ond a gyfansoddwyd yn y 1980au. Dyma'r pennill agoriadol:

    Nid oes inni le i ddianc,
    Nid un Tryweryn ein tranc,
    Nid un cwm ond ein cymoedd,
    O blwyf i blwyf heb na bloedd
    Na ffws y troir yn ffosil
    Nid un lle ond ein holl hil.

Tranc - diwedd bywyd, marwolaeth

Cyfarwydd hefyd yw'r gwpled cofiadwy o'r un gerdd,

    Fesul tŷ nid fesul ton
    Y daw'r môr dros dir Meirion.

Tryweryn Heddiw

Yn 2005, 50 mlynedd wedi i'r argae gael ei chwblhau, cafwyd ymddiheuriad swyddogol gan Gyngor Lerpwl, i drigolion y pentref a'r ardal, a Chymru gyfan, am foddi'r pentref. Hefyd yn 2006, ailbeintwyd y slogan enwog Cofiwch Dryweryn wedi iddo gael ei ddifrodi gan graffiti.