"A sinistr y diawl oedd Tic Toc hefyd, gyda'r amryddawn [= â llawer o ddoniau, 'all-round'] Eiry Thomas yn chwarae rhan Ceinwen yn byw fel trempyn mewn tŷ siang-di-fang [= pendramwnwgl, 'higgeldy piggeldy'] o sgerbydau.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan sgript Delyth Jones, doedd hon ddim yn hawdd i'w gwylio, gyda'r set a'r prif gymeriad yn creu annifyrrwch [= annymunoldeb] o'r cychwyn cyntaf. Y themâu wedyn, trobwll [=maelstrom] o alar ac eiddigedd, oes o ffugio salwch er mwyn hawlio sylw a chaethiwo'i [= carcharu] chwaer Mabel i rannu gwely gyda hi ("o'n i biti farw yn y 'nghwsg") a blacmelio'i brawd-yng-nghyfraith ("smacwch fi Glyn"). A'r disgrifiadau cignoeth o farwolaethau "damweiniol" wrth i sawl un "ymyrryd yn nhrefn pethau" a difetha byd delfrydol hunanol Ceinwen.
Gwyliais yn gegwrth, diolch i dalp o hiwmor du bitsh awdures Cwrw, perfformiad ysgubol Eiry Thomas a'i gafael sicr ar dafodiaith Llanelli. Drama ddelfrydol ar gyfer noson Calan Gaeaf."
“Gradd da yn y Gymraeg
Ar y Volvo bathodyn Tafod y Ddraig
……Wastod yn mynd i Lydaw
Byth yn mynd i Ffrainc,
Wastod yn mynd i Wlad y Basg
Byth yn mynd i Sbaen.”
Mae Gradd Da yn y Gymraeg – clasur o gân gan Datblygu, wastad yn
gwneud i fi wenu, yn benna’ achos mod i’n cofio dawnsio droeon iddi yn
fy Noc Martens gyda photel o Holsten Pils yng Nghlwb Ifor yn y nawdegau.
O ddarllen y geiriau eto, hyd y gwela i, roedd Dave Datblygu’n cyfeirio
tipyn at bobl oedd â digonedd o bres yn eu pocedi, sef, mae’n bur
debyg, "Y Dosbarth Canol Cymraeg".
Rhyw flwyddyn yn ôl, cefais fy ngalw’n “rhy ddosbarth canol Cymraeg”
yn gyhoeddus. A waeth i fi gyfadde’, roedd hynny’n brifo. Roedd y cwt
eitha dwfn, ac mae’r plastar dal yna.
Mi ges i fagwraeth hapus iawn. Roedd Dad yn was fferm (yn y dyddie
pan roedd y term hwnnn’n dderbyniol) a chefais fy magu mewn tŷ oedd yn
dod gyda’i swydd. Pan gollodd Dad y swydd honno, fe symudon ni i stad
Tai Cyngor. Ac roedd yna rai yn edrych i lawr eu trwynau arna i,
gwaetha’r modd. Fi oedd y cyntaf o’ nheulu agosaf i fynd i “College”
chwedl Nain. A rhyddhâd o’r mwyaf oedd darganfod y byddwn yn cael grant
llawn i fynd i Gaerdydd. Cymraeg oedd fy mhwnc am mai dyna oedd fy mhwnc
cryfa’. Cafodd Mam CSE yn ei Chymraeg. Nid oherwydd ei bod hi wedi ei
geni â llwy arian yn ei cheg, ond oherwydd ei bod hi’n medru treiglo a
bod gramadeg y Gymraeg yn gwbwl naturiol i’w chlust, fel nifer fawr o
bobl eraill sydd wedi eu magu yng nghymunedau gwledig Gogledd
Ceredigion.
Wrth i’r Gymraeg esblygu, mae’r term “Dosbarth Canol Cymraeg “ yma
wedi newid dros y degawdau. Ac mae e bellach, hyd y gwela i, nid yn
unig yn cyfeirio ar ddosbarth digon cefnog mewn cymdeithas, ond hefyd yn
cynnwys pobl sy’ â gafael gadarn ar eu Cymraeg, pobl sy’n medru treiglo! A’r jôc ydy, dim ond pobl sy’n ymddiddori yn y diwylliant Cymraeg
sy’n arddel y term. Mae gen i ffrindiau ar Facebook o amrywiol
gefndiroedd, sydd a gwahanol ddiddordebau. Dyw’r mwyafrif ohonyn nhw
ddim wedi ymateb i fy rant ar Twitter a Facebook . Pam? Dydw i ddim yn
credu fod gan nifer ohonyn nhw syniad am be dwi’n sôn.
Mae ‘mhwyse’ gwaed i yn mynd trwy’r to pan glywa i neu ddarllena i
rhywun yn dweud “Chi bobl ddosbarth canol Cymraeg a’ch iaith bur, sy’n
mynd i ladd yr iaith !! Mae e’n gyhuddiad difrifol iawn, a phe bai’n
cyfeirio at berson yn hytrach na iaith, mae’n bur debyg y byddai’n
enllibus. Mae e’n rhyw derm bach digon hip a threndi erbyn hyn (treiglad yn fwriadol ).
Oes, mae yna garfan fach iawn sy’n cywirio iaith bobl, ond yn sicr
nid dyma’r garfan sy’n rhwystro pobl rhag siarad Cymraeg, ac yn codi
gymaint o ofn arnyn nhw fel eu bod yn troi at y Saesneg. ‘Dw i ‘rioed
wedi clywed y fath nonsens.
Bron y dyweda i bod pobl sy’n siarad yn raenus yn destun gwawd [mockery]
bellach. A dwi’n poeni weithiau a ddaw rhywun i’r drws i’n arestio am
feiddio cywirio cam-dreigladau’r meibion (a’r gŵr!) adeg swper, gan y
gall hynny ddryllio [= malu'n ddarnau mân, distrywio] eu hunan hyder, mae’n debyg.
Mae un broblem sylfaenol fan hyn. Mae’r cyfryngau a’r Wasg Gymraeg a
sefydliadau diwylliannol Cymraeg yn ceisio denu mwy o gynulleidfa
oherwydd digon llwm [= moel, heb dyfiant] yw eu hystadegau. Ac wrth i’r esgid wasgu, mae mwy a
mwy o bwysau arnyn nhw i wella’u perfformiad yn y maes hwnnw.
Ond cofier, bod yna siaradwyr Cymraeg allan yna, sy’ byth yn gwrando
ar Radio Cymru, byth yn gwylio S4C , byth yn darllen Golwg a byth yn
mynd i’r Eisteddfod. Ond mae’n nhw’n dal i siarad Cymraeg bob dydd. Mae
gen i berthnasau sy’ rioed wedi bod yn Sesiwn Fawr, ond sydd wrth eu
boddau yn mynd i weld Freddie Starr yn Venue Llandudno. A be’ sydd o’i
le â hynny ? Dim o gwbwl!
Ond am ryw reswm, mae yna ryw grêd wedi datblygu bod pobl ofn gwrando
a gwylio a mynychu pethau Cymraeg oherwydd fod y puryddion yn codi ofn
arnyn nhw. Y gwrionedd plaen amdani ydy, dyden nhw ddim yn
gwylio/gwrando/ mynychu am nad yden nhw mo’yn. Mae’n nhw’n ffafrio’r
diwylliant Seisnig ac Americanaidd. A 'dw i ddim yn mynd i’w gorfodi
nhw i ail ystyried, oherwydd wedi’r cyfan, mae’n nhw’n dal i siarad
Cymraeg, a dyna sydd bwysica'.
Mae yna erthyglau, a rhaglenni Cymraeg fyddai o ddiddordeb iddyn nhw,
dwi’n gwybod hynny. Ond yn anffodus dyden nhw ddim yn gwybod am eu
bodolaeth am nad yden nhw’n croesi trothwy’r drws diwylliannol Cymraeg. A
gwendid mawr y cyfryngau Cymaeg ydy eu hanallu [= diffyg gallu] i draws hyrwyddo eu
cynnyrch. Pe bai chwip o raglen Gymraeg dda yn cael eu hysbysebu yng
nghanol yr X Factor, ar Radio 1 , neu yn y Sun, mae’n bur debyg y byddai
mwy yn ei gwylio. Dwi’n ymwybodol nad ydy hynny’n gwbwl ymarferol, ond
yn sicr, mae angen edrych ar ffyrdd o draws hyrwyddo yn ehangach nag
sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Dim ond trwy un weithred mae modd lladd iaith, sef gwrthod ei
throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. A dwli pur yw beio’r trueiniaid yma
sy’n honedig yn y “Dosbarth Canol Cymraeg ‘’ am y fath drosedd.
Dwi’n credu fod “Pobl y Pethe” yn derm agosach ati, wrth ddisgrifio’r
garfan hon. Pwy yden nhw felly? Pobl sy’n cyfrannu’n helaeth i’w
cymunedau bob wythnos o’r flwyddyn, nid ar ddechrau mis Awst ac wrth
gludo telyn i’r Wyl Cerdd Dant yn unig. Mae’r bobl yma’n trefnu
digwyddiadau Cymraeg yn ein cymunedau yn gwbwl wirfoddol. Mae’n nhw’n
sicrhau fod y Gymraeg yn iaith fyw yn ein hardaloedd. Ac mae eu sarhau [= dweud neu wneud rhywbeth â'r bwriad o frifo teimladau rhywun] eu cyhuddo a’u gwawdio yn gywilyddus.
Ond yr eironi ydy, nid pobl y pethe, yn fy marn i ydy cynulledifa
ffyddlona’r cyfryngau Cymraeg, ond pobl wledig, sy’n mwynhau Noson
Lawen, Pobol y Cwm, Cefn Gwlad a Ffermio. Mae’r rhain yn mynd i’r Sioe
Frenhinol yn flynyddol, yn ddi-ffael, ac mae rhyw awydd yn codi arnyn
nhw i fynd i’r Eisteddfod pan y bydd hi’n ddigon agos.
Ar y llaw arall, mae yna bobl yn siarad Cymraeg mewn nosweithiau
Bingo sy’ byth yn dadansoddi ffigyrau’r cyfrifiad na pham eu bod nhw’n
siarad Cymraeg, mae e jyst un digwydd yn gwbwl naturiol. And they
wouldn’t be seen dead ar faes yr Eisteddfod. A diolch i’r nefoedd eu bod
nhw’n bodoli hefyd.
Oherwydd pam na ddylie’r Gymry Gymraeg fod yr un peth ag unrhyw
genedl a iaith arall ? Wedi’r cyfan, mae yna bobl yn Lloegr sy’n mwynhau
hwylio mewn regattas yng Nghernyw, eraill yn mynd i'r opera, tra bo’
rhai yn joio peint wrth chwarae dartiau, neu'n mwynhau Sinitta. Ac mae’n
nhw i gyd yn siarad Saesneg.
Ond mae yna un gwahaniaeth sylfaenol, rhyngddyn nhw â ni. Mae’n
hannwyl, annwyl iaith ni mewn bach o strach ar hyn o bryd. Ac mae’r oes
gyfryngol gymdeithasol hon trwy Twitter yn bennaf, a Facebook i raddau
llai, yn amlygu’n gwendidau fel cenedl. Rydym ni wrth ein boddau yn
ceisio beio rhyw garfan neu’i gilydd am sefyllfa’r iaith, yn mwynhau
cecru a bigitan [ = pryfocio] ymysg ein gilydd. Allwn ni wir ddim fforddio gwneud
hynny.
Wrth gwrs, fe ddyliem ddadlau am bynciau’r dydd ac mae gwahaniaeth
barn yn holl bwysig. Ond mae cyhuddo bobl o ladd iaith, a gwawdio’n
gilydd mor niweidiol. A 'dw i’n teimlo erbyn hyn fod y term “Dosbarth
Canol Cymraeg” mor afiach â “Welshing.”
Ac os wnaiff yr Iaith Gymraeg farw, nid un carfan fydd wedi ei lladd
hi, nid un parti cerdd dant gyda 12 o fwclusau mawr, ond côr cyfan gyda
llawer mwy na phedwar llais. Er mwyn i’n heniaith barhau, mae angen
callio a chyd-dynnu, a bydded iddi barhau ymhlith y rhai sy’n mwynhau
trochi mewn treigladau a’r rhai sy’n meddwl bod treiglo’n twp (cam-dreiglad yn fwriadol ;-)
