Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday, 15 October 2012

Garddio - blogiau a dolenni



Does dim dwywaith amdani. Y blog gorau ynglŷn â garddio yw blog Bethan Gwanas (cliciwch yma). 

Dyma rai eraill:

Tonna'r Haul i Bethau Lliwgar a Blasus

Garddiadur

Ac wedyn mae gan y rhaglen Byw yn yr Ardd wefan ardderchog, sy'n llawn tips a syniadau:

Byw yn yr Ardd

Mae rhai pobl yn cadw gwenyn ac ieir yn eu gerddi nhw:

Cadw ieir

Cymdeithas Gwenynwyr Llŷn ac Eifionydd

Gwybodaeth arall - erthyglau  ac ati sy'n ymwneud â garddio:

Tyfu coed brodorol o hadau

Safle Hywel Jones (o Gwmdu ger Llandeilo) ar wefan y BBC gydag erthyglau am arddio a blodau

Garddio'n organig





Garddio - geirfa sylfaenol


Geirfa
Rhaw (pâl) (b) Mae'r rhaw yn y pridd , dyma'r adeg i ddechrau palu.
                           Tŵls llaw trin tir (ffyrch, rhaw, siswrn tocio, tyllwyr, llinynnau).   spade
Siefl (b)
Fforch (b) ffyrch
Trywel (b)
Rhaca (b) hefyd: cribin (b)  rake
Siswrn
Tyllwr – drill
Pigo allan – symud eginblanhigion i botyn mwy.
Tir rhywiog (tilth) – cyflwr haen uchaf y pridd.
Teneuo – lleihau’r nifer o eginblanhigion sydd mewn potyn
Planhigion unflwydd caled (hardy annuals) –
planhigyn sy’n para am flwyddyn yn unig ac sy’n gallu byw drwy dywydd oer y gaeaf
Rhidyllu (to filter/sieve) – ysgafnhau’r pridd a thynnu talpiau mawr allan drwy ei roi drwy ogor.
Dyfrio – rhoi dŵr i blanhigyn
Egino – pan mae’r hadau yn dechrau tyfu, ac yn magu gwreiddiau a choesyn.
Ffrwythlondeb – faint o faeth sydd yn y pridd
Trawsblannu – symud eginblanhigion o focsys hadau i’r man lle maent yn mynd i flodeuo neu
gynhyrchu cnwd
Palu                 palu dom i mewn            
Claddu            claddu dom i mewn
Planhigyn (planhigion)
Plannu
Gwellt, tomwellt - mulch
Taenu ar rywbeth (h.y. rhoi tomwellt ar yr ardd)
Gwrtaith (fertiliser)
Hau                 hau hadau
Hogi (to sharpen) Yr offer angenrheidiol yw fforch gerfio ddwybig sy'n gwarchod bysedd, cyllell gerfio fawr finiog a theclyn i'w hogi'n gyson.
Tocio – prune   Cyngor craff: Mae tocio pennau gwywedig rhosod yn hybu twf blodau newydd ac yn gwella golwg y planhigion.
Mae Mam yn garddio'r mymryn lleia ( ond fi sy'n tocio'r rhosod) a does gan Dad ddim diddordeb o fath yn y byd.
Toriad
Lluosogi planhigion
Chwynnyn chwyn
Chwynnu  Newydd fod yn chwynnu. Euch, casau'r job. Diolch byth ddaeth y glaw!
Roedd fy chwynnu yn ystod y gwanwyn wedi bod yn rhy drwyadl – dim ond dau flodyn oedd gen i!
Epilio - propagate
“Ar gyfer epilio o doriadau, dyma’r prif gyfnodau plannu...”
“Ymhlith y pynciau a astudir mae tyfiant planhigion, gwyddoniaeth garddwriaeth, epilio, coed a llwyni, llysiau, ffrwythau a chynllunio gerddi.”
Pridd
-          Lomog
-          Tywodlyd
-          Caregog/llawn cerrig
-          Clai/tir cleiog
-          Mawn/pridd mawnaidd
-          Pridd asid

Idiomau - blew a blewyn


1.      Tynnu blewyn o drwyn rhywun (bod yn gas wrth rywun, ......take a potshot at/annoy/make fun of

Mae David wedi mwynhau tynnu blewyn o drwyn y Cynulliad hwn.
Dw i'n teimlo fel tynnu blewyn o'i ddrwyn!
Ei drosedd oedd tynnu blewyn neu ddau o drwyn y sefydliad eglwysig.
Nofel glyfar a dychanol yn tynnu blewyn o drwyn rhai o'r sefydliadau celfyddydol Cymreig.
Mae'r sgript yn tynnu blewyn o drwyn sawl agwedd ar y diwylliant Cymraeg dosbarth canol, a wastad yn codi gwên.
Mae blogiwr anhysbys oedd wedi tynnu blewyn o drwyn sawl gwleidydd ar Ynys Môn wedi datgelu mai ef yw ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd Ynys Môn

2.      Di-flewyn ar dafod/heb flewyn ar dafod (not to mince one’s words)
Buasai wedi dymuno rhoi'r Gweinidog ar brawf , a chael atebion di-flewyn ar dafod.
Oce diolch, di flewyn ar dafod am y sefyllfa yng nghefn gwlad Ceredigion.
Bu'n gapten, hyfforddwr a dewiswr dros ei wlad, yn sylwebydd di-flewyn-ar-dafod ar y radio ac mae'n un o gymeriadau mwyaf ffraeth a phoblogaidd Cymru. (am Clive Rowlands)
Yn ei ffordd ddiymhongar ond di-flewyn-ar- dafod, fe siaradodd am ei gwaith yn yr ardal .
heb flewyn ar dafod, yn blwmp ac yn blaen
Dywedodd y fam ei barn wrth y prifathro heb flewyn ar ei thafod.
I mi, mae'r Dr Robyn Léwis ar ei orau pan yw ar gefn ei geffyl ac yn deud ei ddeud heb flewyn ar ei dafod

3.      Hollti blew – to split hairs
Fel rwyt ti'n awgrymu, does dim pwynt hollti blew.
Mae'n bechod gweld plaid o'r fath yn troi yn blaid fach hollti blew fel pleidwyr Lloegr fach neu hyd yn oed ` plaid dewch â'r grôt yn ôl '
ond roedd ganddo dueddiad anffodus i hollti blew a gwneud ati i chwilio am wallau lle nad oedd rhai'n bod.

4.      Dwylo blewiog – light fingered
Ymadrodd sydd ar dafod pawb yw dwylo blewog wrth sôn am leidr, ond faint sy'n cofio tarddiad yr ymadrodd hwn. Stori enwog llyfr Genesis yw'r tarddle.
Buan y daw Asterix i'r adwy i geisio achub y derwydd – ac ar yr un pryd ddysgu gwers i'r Rhufeiniaid a'u dwylo blewog,
Oes, mae yna ddwyn wedi bod yn haul llygad goleuni gydag un cyfrifiadur penglin wedi troi'n gyfrifiadur tan gesail rhywun gyda dwylo blewog.
Plant â dwylo blewog: “Es i'r PayPoint i dalu am fy nhrwydded, ond roedd rhaid i mi adael ar hast cyn cael y cyfle i dalu oherwydd bod y plant yn dwyn losin.”

5.      I’r blewyn – to a tee/exactly
Ond ar ddau bwynt pwysig fe gytunai'r Cymro â'r Sais i'r blewyn.
Llwyddodd y cynllunwyr, Emyr Morris-Jones a Gwyn Eiddior, i greu set oedd yn ateb y diben i'r blewyn.

6.      Blewyn glas – a blade of grass
Blewyn glas ar Afon Dyfi
(ffal-di-re-di-ro, ffal di rei di rei di ral)
Hudodd lawer fuwch i foddi,
(ffal-di-re-di-ro, ffal di rei di rei di ral)


Tuesday, 9 October 2012

Beth yw bwydydd traddodiadol Cymru?


Tra bod amryw o arferion coginio Lloegr wedi treiddio lawr o'r bonedd, tyfu'n llythrennol o'r tir wnaeth bwydydd traddodiadol Cymru. Wrth deithio trwy Gymru yn 1188, sylwodd Gerallt Gymro fod y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn ddibynnol ar anifeiliaid, llaeth, caws, menyn a cheirch am eu bwyd. Yn gyffredinol, dyma oedd cynhaliaeth y Cymry ymhell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Ceir cadarnhad yn Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Dir yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 1896, fod tyddynwyr a thenantiaid yn llwyr ddibynnol ar gig wedi ei halltu a'i sychu, llysiau cartref, cynnyrch llaeth a bwydydd llwy yn seiliedig ar geirch. Byddai ffermwyr a thyddynwyr yn pesgi ac yn lladd o leiaf un mochyn a halltu'r cig i'w cynnal am y flwyddyn. Ar y ffermydd mwyaf, arferid lladd bustach neu fuwch hesb a rhennid y cig rhwng ffermydd cyfagos. 

Wrth gadw gwartheg, doedd dim prinder o laeth ar gyfer cynhyrchu menyn a chaws.Tyfid llysiau yn y caeau neu'r ardd - cennin, moron, bresych, perlysiau yn bennaf, a thatws o'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Câi ffrwythau, planhigion ac aeron a dyfai'n wyllt ac anifeiliaid ac adar gwyllt eu hela yn eu tymor, a gallai cymunedau a drigai'n agos i'r arfordir amrywio eu hymborth drwy gasglu pysgod cregyn megis cocos, cregyn gleision, gwichiaid a llygaid meheryn, a gwymon i wneud bara lawr. 

Gan mai gwlad fynyddig yw Cymru, ceirch a haidd oedd y cnydau a dyfai orau, gyda gwenith wedi ei gyfyngu i'r dyffrynnoedd ffrwythlon. Blawd ceirch yn ei amrywiol ffurf oedd sylfaen amryw o'r bwydydd. Roedd llymru a sucan, sef blawd ceirch wedi ei fwydo mewn dŵr oer a llaeth enwyn, ei ferwi hyd nes iddo gyrraedd yr ansawdd priodol, a'i weini'n lled oer â llaeth neu driog, ynghyd â bwdram, uwd a griwel blawd ceirch, ymhlith y prydau bob dydd a gâi eu paratoi yn yr ardaloedd gwledig hyd flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. 

Y bara a fwyteid gan amlaf, ar hyd a lled Cymru hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd bara ceirch a luniwyd ar ffurf torthau tenau crwn a'u crasu ar y maen neu radell dros dân agored. Yn siroedd y gogledd fe'i defnyddid fel sylfaen i rai o'r bwydydd llwy, megis picws mali neu siot; pryd ysgafn boblogaidd a baratoid drwy falu tafell o fara ceirch yn fân a'i fwydo mewn llaeth enwyn. Pryd arall oedd yn boblogaidd yn ardaloedd amaethyddol y gogledd oedd brŵes ac fe'i paratoid yn rheolaidd ar gyfer brecwast gweision ffermydd. Fe'i gwneid drwy falu bara ceirch a'i fwydo mewn cawl cig, yna ychwanegu haen drwchus o fara ceirch wedi'i malu ar yr wyneb yn union cyn ei fwyta. 

I raddau helaeth, roedd y gymdeithas wledig yng Nghymru yn hunangynhaliol. Yr unig nwyddau oedd rhaid i wraig y tŷ eu prynu oedd siwgr, halen, te, reis a chwrens. Ar y Sul ac ar achlysuron arbennig, arferid prynu darn o gig gan y cigydd lleol ar gyfer cinio rhost, a pharatoi phwdin reis cartref i ddilyn. Ychydig iawn o ffrwythau ffres a brynid a dim ond ar rai achlysuron arbennig iawn y bwyteid wyau. O ystyried y deunydd crai, roedd angen cryn ddyfeisgarwch er mwyn darparu bwydlen amrywiol o ddydd i ddydd. Roedd paratoi amrywiaeth o fwydydd llwy o un cynhwysyn sylfaenol, sef bara ceirch, yn gofyn am ddawn arbennig. Roedd angen medrusrwydd tebyg wrth baratoi cawl a lobsgows, gan ddefnyddio cig cartref. 

Y tân agored a'i offer amrywiol oedd canolbwynt y coginio drwy gydol y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ymhell i'r ugeinfed ganrif mewn nifer o gartrefi gwledig. Roedd yr adnoddau coginio cyfyngedig hefyd yn rheoli'r hyn y gellid ei baratoi. Câi stiwiau, darnau o gig a phwdinau eu berwi mewn crochan. Defnyddid ffyrnau crochan ar gyfer rhostio cig a phobi teisennau a thartennau ffrwythau a gwneid defnydd helaeth o'r radell i bobi torthau ceirch, leicecs, bara soda, crempog a theisennau gradell (fel pice ar y mân). Yn ogystal, defnyddid berau, ffyrnau tun a berau potel ar gyfer rhostio cig. 

Er i'r traddodiad o fyw ar gynnyrch y tir barhau hyd gyfnod mwy diweddar yn yr ardaloedd gwledig, daeth newid yn sgil gwell ffyrdd a chyfleusterau siopa modern, heb sôn am ddyfodiad oergelloedd a rhewgelloedd i'r cartref. Heddiw, caiff y rhan fwyaf o'r bwydydd a grybwyllwyd uchod eu bwyta fel 'bwyd traddodiadol' ar achlysuron arbennig. 

Diolch i Amgueddfa Cymru am yr erthygl hon.

Pice ar y maen

Byddwn ni'n gwneud pice ar y maen yn y dosbarth ddydd Iau. Mae yna sawl enw amdanyn nhw - picau ar y maen, pice bach, cacen gri, cacs bach neu 'teisen radell', ac mae ryseitiau di-rif am yr un peth. Dyma un ohonynt (diolch i Amgueddfa Cymru):




Diolch i Elliw Gwawr am hon:

Welshcakes, pice ar y maen, cacennau cri … neu fel mae fy nheulu i’n eu galw nhw … cacs bach. Beth bynnag da chi’n eu galw nhw, does dim curo ein cacen genedlaethol. Mae’n teulu ni wrth eu boddau efo nhw, ac yn eu gwneud nhw byth a beunydd. Fy hoff beth i fel plentyn oedd bwyta’r toes heb ei goginio, er bod dad yn dweud y buasai’n sticio at fy nghalon! A dwi’n sicr nad oes neb yn gallu eu gwneud nhw’n well na dad. Ond dwi’n trio fy ngorau!

Dwi’n chwyrn fy marn ynglŷn â sut yn union y dylai cacs bach fod. Maen nhw i fod yn syml ac yn blaen, felly plîs peidiwch â rhoi sbeis ynddyn nhw. A pheidiwch â hyd yn oed sôn am y rhai da chi’n gallu eu prynu gyda jam yn y canol, hollol hurt!
Mae lot o ryseitiau ar gyfer cacs yn defnyddio menyn yn unig, ond mae rysáit dad yn defnyddio hanner menyn a hanner lard. Nawr dyw lard ddim yn ffasiynol iawn y dyddiau yma ond mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i flas ac ansawdd y cacennau felly maen werth ei drio.
Dylid coginio’r rhain ar radell haearn ond os nad oes gennych chi un mae’n bosib eu gwneud nhw mewn padell ffrio reit drwm hefyd.

 http://panedachacen.files.wordpress.com/2012/03/img_1742.jpg


Cynhwysion
1lb blawd codi
4 oz menyn
4 oz lard
5oz siwgr
4oz syltanas
1 wy
sblash o laeth

Dull
1. torrwch y menyn a’r lard mewn i ddarnau bach a’i rwbio i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion.

 2. Ychwanegwch y siwgr, syltanas a’r wy, a’i gymysgu nes eich bod yn ffurfio pelen o does. Ychwanegwch sblash o laeth os oes angen.

 3. Roliwch y toes allan nes ei fod yn rhyw ¼ modfedd o drwch a thorrwch allan gylchoedd, neu galonnau fel gwnes i y tro hwn. (doeddwn i methu ffeindio’r torrwr crwn!)

 4. Cynheswch y radell a’i rwbio gydag ychydig o fenyn. Yna gosodwch eich toes ar y radell a’u coginio am ryw 2-3 munud ar bob ochr.

 5. Tynnwch oddi ar y radell a’u hysgeintio gydag ychydig o siwgr.

 6. Triwch beidio eu bwyta i gyda ar unwaith, er dwi’n gaddo bydd hynny yn anodd iawn. (2-4 ar y tro yw’r tueddiad yn ein teulu ni!)

Monday, 8 October 2012

Prynu cig



William Lloyd Williams o Fachynlleth yn sôn am ei fusnes.