Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label geirfa. Show all posts
Showing posts with label geirfa. Show all posts
Sunday, 8 March 2020
Sunday, 6 May 2018
Geirfa tecstiliau
Byddwn yn ymweld â Melfed, siop Carys Hedd yn Aberteifi. "Gwledd a gwisg gwyllt" yw disgrifiad y busnes, a bydd rhai ohonoch chi wedi mynychu ei gweithdai ailwampio dillad.
Dyma restr o eiriau defnyddiol:
Addurn Adornment/Decoration
Appliqúe Appliqúe
Brodwaith Embroidery
Cwiltio Quilting
Delwedd Image
Edafedd Yarn
Edau Thread
Ffabrig Fabric
Ffasneri Fasteners
Gleiniau Beads
Gwead Texture
Gwnio Sewing
Nodwydd Needle
Patrwm Pattern
Peiriant Gwnio Sewing Machine
Pinnau Pins
Pwythau Stitches
Rhuban Ribbon
Sêm Seam
Siswrn Scissors
Diolch i Ysgol Penweddig am ei Llyfryn Termau
Hfyd, mae rhywun wedi creu set o gardiau Quizlet i ymarfer geirfa tecstiliau.
Monday, 15 October 2012
Garddio - geirfa sylfaenol
Geirfa
Rhaw (pâl) (b) Mae'r rhaw yn y pridd , dyma'r adeg i ddechrau palu.
Tŵls llaw trin tir
(ffyrch, rhaw, siswrn tocio, tyllwyr, llinynnau). spade
Siefl (b)
Fforch (b)
ffyrch
Trywel (b)
Rhaca (b)
hefyd: cribin (b) rake
Siswrn
Tyllwr – drill
Pigo allan – symud eginblanhigion i botyn
mwy.
Tir rhywiog (tilth) – cyflwr haen uchaf y
pridd.
Teneuo – lleihau’r nifer o eginblanhigion sydd mewn
potyn
Planhigion
unflwydd caled (hardy
annuals) –
planhigyn
sy’n para am flwyddyn yn unig ac sy’n gallu byw drwy dywydd oer y gaeaf
Rhidyllu (to filter/sieve) – ysgafnhau’r pridd
a thynnu talpiau mawr allan drwy ei roi drwy ogor.
Dyfrio – rhoi dŵr i blanhigyn
Egino – pan mae’r hadau yn dechrau tyfu, ac
yn magu gwreiddiau a choesyn.
Ffrwythlondeb
– faint o faeth sydd
yn y pridd
Trawsblannu
– symud
eginblanhigion o focsys hadau i’r man lle maent yn mynd i flodeuo neu
gynhyrchu cnwd
Palu palu dom i mewn
Claddu claddu
dom i mewn
Planhigyn
(planhigion)
Plannu
Gwellt, tomwellt - mulch
Taenu ar rywbeth (h.y.
rhoi tomwellt ar yr ardd)
Gwrtaith (fertiliser)
Hau hau hadau
Hogi (to
sharpen) Yr offer angenrheidiol yw fforch gerfio ddwybig sy'n gwarchod bysedd, cyllell
gerfio fawr finiog a theclyn i'w hogi'n gyson.
Tocio – prune Cyngor
craff: Mae tocio pennau gwywedig rhosod yn hybu twf blodau newydd ac yn
gwella golwg y planhigion.
Mae Mam yn garddio'r mymryn lleia ( ond fi sy'n tocio'r
rhosod) a does gan Dad ddim diddordeb o fath yn y byd.
Toriad
Lluosogi
planhigion
Chwynnyn chwyn
Chwynnu Newydd fod yn chwynnu. Euch, casau'r job. Diolch byth ddaeth
y glaw!
Roedd fy chwynnu
yn ystod y gwanwyn wedi bod yn rhy drwyadl – dim ond dau flodyn oedd gen i!
Epilio - propagate
“Ar gyfer epilio o doriadau, dyma’r prif gyfnodau plannu...”
“Ymhlith y pynciau a astudir mae tyfiant planhigion,
gwyddoniaeth garddwriaeth, epilio, coed a llwyni, llysiau, ffrwythau a
chynllunio gerddi.”
Pridd
-
Lomog
-
Tywodlyd
-
Caregog/llawn cerrig
-
Clai/tir cleiog
-
Mawn/pridd mawnaidd
-
Pridd asid
Wednesday, 26 September 2012
Coginio - geirfa sylfaenol
Bwyd a choginio
Geirfa
sylfaenol ac enghreifftiau
Dull (g)
Pobi
“Wedi iro
tun pobi bara hanner cilo (a leinio hwn gyda papur pobi) dylid arllwys y
gymysgedd iddo a'i osod mewn popty a gynheswyd i 170°C” (o rysait am Fara
Brith)
'Pobi
cacennau' a 'llyfu'r llwy' yw prif atgof plentyndod mwy na hanner pobol.
“Mynd i'r sinema, dal lan 'da ffrindie coleg, nofio, pobi
teisen. 5. Pum peth sy'n gwneud i chi deimlo'n hapus.“
Crasu (bake,
parch, dry)
“Mi gofiaf tra byddaf byw am y bara ffres a gaem ar
ddiwrnod crasu bara”
“Hen wraig o’r enw Jane oedd yn
cadw’r siop, ychydig o nwyddau werthai, oil lamp, siwgr, te, resins, cyraints,
burum a blawd, yno byddai pawb yn cael burum ac ers talwm byddai pawb yn crasu
bara eu hunain.”
Ffrio
Sgramblo – wyau
wedi’u sgramblo
Potsio – wyau
wedi’u potsio
Berwi – wy wedi’i
ferwi
Mudferwi (simmer)
Codi berwi (bring
to the boil)
Hidlo (sieve)
[hefyd: gogrwn]
Hylif Mae pob
defnydd yn bodoli fel solid, hylif neu nwy.
Iro
“Irwch dun cacen 20cm a rhoi papur saim ar y
gwaelod
Linio
Cymysgedd - Cymysgedd Stwffin Saets a Winwnsyn
Cymysgu
Curo “Curwch
y siwgr a’r menyn nes ei fod yn ysgafn, o leiaf 4 munud gyda chwisg trydan.”
Torri “torrwch
y menyn a’r lard mewn i ddarnau bach a’i rwbio i mewn i’r blawd nes ei fod yn
edrych fel briwsion.”
Cynhesu
”Cynheswch y
popty i 180C/160C ffan”
Pilio/plicio (peel)
Toddi
”100g menyn
heb halen wedi’i doddi”
Rolio “Roliwch
y toes allan nes ei fod yn rhyw ¼ modfedd o drwch”
Malu
Ychwanegu (at)
Gorchuddio “Rhowch
ychydig o’r eisin rhwng dwy haen y gacen a gorchuddiwch y top a’r ochrau.”
Chwipio
Plygu
Offer a
theclynnau yn y gegin
Llwy (b)
[llwyau] llwy de llwy fwrdd llwy bren llwy
dyllog llwy fetel
Fforc (b)
[ffyrc]
Cyllell (b)
[cyllyll]
“Cyllell finiog”
“Arwyn yn byta Spaghetti efo cyllell a fforc...
wimp.”
Popty/ffwrn
“trosglwyddwch y marmaled i botiau jam sydd wedi eu
glanhau'n dda a'u cynhesu mewn popty
am 110°C am 10 munud.”
“New York
Cheesecake yn barod i fynd i'r ffwrn”
“Sglodion
Wedi'u Pobi yn y Ffwrn”
Cymysgwr trydan
Clorian (b) (scales)
Rhidyll (sieve) [hefyd: gogr/gogor]
Rholbren (b) Gorchymyn cymunedol i wraig ymosododd
ar ei gŵr â rholbren gan ei bod yn amau ei fod yn anffyddlon.
Bowlen/powlen (b) [powlenni]
‘Un powlen fawr, un ganolig ac un fach ‘
Sbatwla
Dysgl (b)
dysglau [‘dishgil’ ar lafar] > dishgled/dished
Tun
Sosban (b)
Padell (b)
[padelli/padellau/pedyll]
Padell ffrio/ffreipan
“Cynheswch
yr olew tsili a'r tsili mewn padell ffrio a ffriwch yr wyau”
Chwisg llaw
Gratiwr mân
Hambwrdd pobi - Rhowch y sgons ar yr hambwrdd pobi
a gadewch iddynt orffwys am ychydig
Sgiliau yn y gegin: sgiliau paratoi ee torri, tafellu,
gratio, pilio, stwnsio, curo; sgiliau coginio ee
rhostio,
ffrïo, pobi, berwi; gwybod pryd mae bwyd wedi'i goginio;
Pwyso: Dilyn rysáit: pwyso a mesur ee defnyddio clorian, jygiau a llwyau mesur;
tymheredd y
ffwrn/popty….
Brat (g)/ffedog (b)
Cynhwysion
Ŵy (g) melynwy (g) gwynwy (g)
“Mewn
soufflé, caiff y melynwy a’r gwynwy eu gwahanu – defnyddir y melynwy i
dewhau
sylfaen cwstard a chaiff y gwynwy ei chwisgio i wneud y soufflé yn ysgafn.”
Siwgr
“Caiff siwgr
pur ei werthu fel siwgr gronynnog (bras), siwgr mân a siwgr eisin (powdr mân).
Siwgr mân
yw’r gorau ar gyfer y rhan fwyaf o ryseitiau pobi a gellir defnyddio siwgr gwyn
neu
euraid. Mae
gan siwgr nad yw’n siwgr pur fwy o flas ac mae’n amrywio o siwgr crai tywyll i
siwgr brown ysgafn.”
Blawd [hefyd: can, fflwr] [g] blawd plaen blawd
codi blawd cyflawn
Burum
Powdr codi
Soda pobi
Llaeth llaeth hanner-sgim llaeth hufennog llaeth sgim llaeth
enwyn (buttermilk)
Braster
Saim
Cytew “cocos mewn cytew”
Echdyniad fanila
Croen “Croen 1 lemon wedi’i gratio yn fân” “stribedi o groen lemwn”
Hufen hufen dwbl hufen sengl hufen
chwipio
Briwgig
Toes
Pastai [pai,
pei]
Crwst crwst pwff crwst pwff bras crwst
brau
Rholiwch y crwst brau ar wyneb blawdiog nes fod yn
ddigon mawr i lenwi desgil fflan tua 30cm ar draws.
Gweadedd a blas
Melys
Chwerw Roedd y coffi'n
blasu'n chwerw.
Hallt “Mae pobl yn agored i rymoedd marchnata anferth , sy'n eu hannog yn ddi-baid i orfwyta , yn enwedig diodydd llawn siwgr , bwyd hallt iawn”
Sur [hefyd: egr]
Meddal
Caled
Crensiog,
creisionllyd, cras
“cyw iâr rhost crensiog” “bara cras” ” Gweinwch y stêc gyda'r jam chilli a
chennin creisionllyd wedi ffrïo.”
Sbeislyd
Llugoer [hefyd: claear] “Gwasgu burum mewn llaeth
llugoer ac ychwanegu siwgr.”
Di-flas bland
Poeth “Falle na ddylwn i fod wedi bwyta'r cyri
poeth 'na ar awyren airindia, gallai'r flight i bangkok fod yn ddiddorol!”
Subscribe to:
Posts (Atom)