Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label coginio. Show all posts
Showing posts with label coginio. Show all posts

Wednesday, 16 April 2014

Bara planc

Embedded image permalinkDiolch i EinCymraeg

Bara llechwan, bara maen, bara prwmlid (Morgannwg),neu fara planc (Cered.) - dyma gyfarwyddiadau gan Minwel Tibbot:

 Embedded image permalink

Tuesday, 1 October 2013

Mwyara

Mae Dafydd Morse wedi creu blog arbennig o dda dan yr enw Bwytagwyllt (dolen yn fan hyn) am fwyta bwyd gwyllt. Dyma ei erthygl gyntaf am fwyara:

20130917-173511.jpg


Fel rhan fwyaf o bobl nes i ddechrau chwilota yn pigo mwyar gyda Nain. Un o f’atgofion cynharaf o fwyd a bwyta yw crymbl mwyar ac afalau a phastai mwyar wedi ei weini gyda digon o hufen.

Dwi dal wrth fy modd yn mwyara a dwi’n dwli ar grymbl ond dwi hefyd yn hoff o feddwl am bethau gwahanol i wneud gyda nhw. Nod y blog yw eich ysgogi i fynd yn fwy anturus ac i agor eich llygaid ymhellach na mwyar ac i weld pa ddanteithion sydd ar gael am ddim yn ein dinasoedd yn ogystal a chefn gwlad.

Dewch gyda fi ar flwyddyn o chwilota. Pwy sydd am drïo?


danteithion - bwyd blasus a moethus (treats, delicacies)

Sunday, 15 September 2013

Mwyar duon

Ffrwyth bwytadwy yw mwyar duon sy'n tyfu ar fiaren (neu'r Rubus fruticosus) a cheir sawl math gwahanol. Mae'r gair "mieri" yn cyfeirio at y berth pigog hwnnw yn air a glywir ar lafar gwlad. Mae'n blodeuo rhwng mis Mai a mis Awst. Mae'r blodau'n wyn neu'n binc a'r ffrwythau'n ddu neu'n biws tywyll.

Gellir defnyddio'r ffrwyth i wneud jam, win neu darten. Ceir dros 375 math gwanhanol ac mae llawer ohonyn nhw'n perthyn yn agos at ei gilydd.




 Souffle Mwyar Duon (rysáit gan Bryn Williams):
  • Ar gyfer 8 person

  • Ar gyfer y mowldiau:
  • 60g menyn (heb halen) wedi meddalu
  • 40g siwgr caster
  • Ar gyfer y soufflé:
  • 600g mwyar duon (mewn piwri wedi eu hidlo i gael gwared â'r hadau)
  • 15g o flawd corn
  • 150g siwgr caster
  • 9 gwynwy ŵy
  • Siwgr eisin i ysgeintio
I baratoi'r rhain o flaen llaw curwch y gwynwy wyau i mewn i'r jam fel uchod yna rhowch y gymysgedd yn yr oergell am hyd at 3 awr cyn eu coginio. Coginiwch fel uchod a gweinwch yn syth.
 
Mae gymaint o bobl yn poeni am wneud soufflé, ond does dim angen. Mae'r un yma yn ysgafn a blasus ac mae'r mwyar siarp yn fendigedig. Mae modd paratoi'r pwdin yma o flaen llaw hefyd! Gallwch baratoi'r jam o leiaf ddiwrnod o flaen llaw tra bo'r soufflé yn hapus i eistedd am hyd at 3 awr cyn mynd i'r popty.

Cynheswch y popty i 180c/350f/marc nwy 4.

Cymerwch 6 ramecin neu ddysgl soufflé a brwsiwch y tu fewn iddynt gyda'r menyn wedi ei doddi. Yna ysgeintiwch gyda'r siwgr caster a'u gosod yn yr oergell nes bod eu hangen.

Dewch â'r piwrî mwyar duon i'r berw mewn sosban drom dros wres isel a'i fudferwi am 2 funud.

Mewn powlen fach toddwch y blawd corn mewn 25ml o ddŵr ac arllwyswch i mewn i'r piwri. Cymysgwch yn dda. Nesaf ychwanegwch 100g o'r siwgr a'i fudferwi nes bod y piwri wedi lleihau ac yn drwchus fel jam. Curwch y gymysgedd bob 1-2 funud i'w atal rhag sticio neu losgi. Dylai fod gyda chi tua 250-300g o jam. Gosodwch i un ochor i oeri.

Mewn dysgl sych ychwanegwch y siwgr caster sy'n weddill i'r 8 gwynwy ŵy a'u curo nes eu bod yn ffurfio pigau meddal. Cymerwch un llond llwy o'r gwynwy wyau a'u curo i mewn i'r jam er mwyn llacio'r gymysgedd. Yn ofalus plygwch weddill yr wyau nes eu bod wedi eu cymysgu.

Rhowch y gymysgedd i mewn i'r 6 ddysgl a'u gosod yn y popty am 9-11 munud. Pan fo'r soufflé wedi codi ysgeintiwch siwgr eisin drostynt. Gweinwch gyda hufen iâ fanila.


Tuesday, 9 October 2012

Beth yw bwydydd traddodiadol Cymru?


Tra bod amryw o arferion coginio Lloegr wedi treiddio lawr o'r bonedd, tyfu'n llythrennol o'r tir wnaeth bwydydd traddodiadol Cymru. Wrth deithio trwy Gymru yn 1188, sylwodd Gerallt Gymro fod y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn ddibynnol ar anifeiliaid, llaeth, caws, menyn a cheirch am eu bwyd. Yn gyffredinol, dyma oedd cynhaliaeth y Cymry ymhell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Ceir cadarnhad yn Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Dir yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 1896, fod tyddynwyr a thenantiaid yn llwyr ddibynnol ar gig wedi ei halltu a'i sychu, llysiau cartref, cynnyrch llaeth a bwydydd llwy yn seiliedig ar geirch. Byddai ffermwyr a thyddynwyr yn pesgi ac yn lladd o leiaf un mochyn a halltu'r cig i'w cynnal am y flwyddyn. Ar y ffermydd mwyaf, arferid lladd bustach neu fuwch hesb a rhennid y cig rhwng ffermydd cyfagos. 

Wrth gadw gwartheg, doedd dim prinder o laeth ar gyfer cynhyrchu menyn a chaws.Tyfid llysiau yn y caeau neu'r ardd - cennin, moron, bresych, perlysiau yn bennaf, a thatws o'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Câi ffrwythau, planhigion ac aeron a dyfai'n wyllt ac anifeiliaid ac adar gwyllt eu hela yn eu tymor, a gallai cymunedau a drigai'n agos i'r arfordir amrywio eu hymborth drwy gasglu pysgod cregyn megis cocos, cregyn gleision, gwichiaid a llygaid meheryn, a gwymon i wneud bara lawr. 

Gan mai gwlad fynyddig yw Cymru, ceirch a haidd oedd y cnydau a dyfai orau, gyda gwenith wedi ei gyfyngu i'r dyffrynnoedd ffrwythlon. Blawd ceirch yn ei amrywiol ffurf oedd sylfaen amryw o'r bwydydd. Roedd llymru a sucan, sef blawd ceirch wedi ei fwydo mewn dŵr oer a llaeth enwyn, ei ferwi hyd nes iddo gyrraedd yr ansawdd priodol, a'i weini'n lled oer â llaeth neu driog, ynghyd â bwdram, uwd a griwel blawd ceirch, ymhlith y prydau bob dydd a gâi eu paratoi yn yr ardaloedd gwledig hyd flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. 

Y bara a fwyteid gan amlaf, ar hyd a lled Cymru hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd bara ceirch a luniwyd ar ffurf torthau tenau crwn a'u crasu ar y maen neu radell dros dân agored. Yn siroedd y gogledd fe'i defnyddid fel sylfaen i rai o'r bwydydd llwy, megis picws mali neu siot; pryd ysgafn boblogaidd a baratoid drwy falu tafell o fara ceirch yn fân a'i fwydo mewn llaeth enwyn. Pryd arall oedd yn boblogaidd yn ardaloedd amaethyddol y gogledd oedd brŵes ac fe'i paratoid yn rheolaidd ar gyfer brecwast gweision ffermydd. Fe'i gwneid drwy falu bara ceirch a'i fwydo mewn cawl cig, yna ychwanegu haen drwchus o fara ceirch wedi'i malu ar yr wyneb yn union cyn ei fwyta. 

I raddau helaeth, roedd y gymdeithas wledig yng Nghymru yn hunangynhaliol. Yr unig nwyddau oedd rhaid i wraig y tŷ eu prynu oedd siwgr, halen, te, reis a chwrens. Ar y Sul ac ar achlysuron arbennig, arferid prynu darn o gig gan y cigydd lleol ar gyfer cinio rhost, a pharatoi phwdin reis cartref i ddilyn. Ychydig iawn o ffrwythau ffres a brynid a dim ond ar rai achlysuron arbennig iawn y bwyteid wyau. O ystyried y deunydd crai, roedd angen cryn ddyfeisgarwch er mwyn darparu bwydlen amrywiol o ddydd i ddydd. Roedd paratoi amrywiaeth o fwydydd llwy o un cynhwysyn sylfaenol, sef bara ceirch, yn gofyn am ddawn arbennig. Roedd angen medrusrwydd tebyg wrth baratoi cawl a lobsgows, gan ddefnyddio cig cartref. 

Y tân agored a'i offer amrywiol oedd canolbwynt y coginio drwy gydol y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ymhell i'r ugeinfed ganrif mewn nifer o gartrefi gwledig. Roedd yr adnoddau coginio cyfyngedig hefyd yn rheoli'r hyn y gellid ei baratoi. Câi stiwiau, darnau o gig a phwdinau eu berwi mewn crochan. Defnyddid ffyrnau crochan ar gyfer rhostio cig a phobi teisennau a thartennau ffrwythau a gwneid defnydd helaeth o'r radell i bobi torthau ceirch, leicecs, bara soda, crempog a theisennau gradell (fel pice ar y mân). Yn ogystal, defnyddid berau, ffyrnau tun a berau potel ar gyfer rhostio cig. 

Er i'r traddodiad o fyw ar gynnyrch y tir barhau hyd gyfnod mwy diweddar yn yr ardaloedd gwledig, daeth newid yn sgil gwell ffyrdd a chyfleusterau siopa modern, heb sôn am ddyfodiad oergelloedd a rhewgelloedd i'r cartref. Heddiw, caiff y rhan fwyaf o'r bwydydd a grybwyllwyd uchod eu bwyta fel 'bwyd traddodiadol' ar achlysuron arbennig. 

Diolch i Amgueddfa Cymru am yr erthygl hon.

Pice ar y maen

Byddwn ni'n gwneud pice ar y maen yn y dosbarth ddydd Iau. Mae yna sawl enw amdanyn nhw - picau ar y maen, pice bach, cacen gri, cacs bach neu 'teisen radell', ac mae ryseitiau di-rif am yr un peth. Dyma un ohonynt (diolch i Amgueddfa Cymru):




Diolch i Elliw Gwawr am hon:

Welshcakes, pice ar y maen, cacennau cri … neu fel mae fy nheulu i’n eu galw nhw … cacs bach. Beth bynnag da chi’n eu galw nhw, does dim curo ein cacen genedlaethol. Mae’n teulu ni wrth eu boddau efo nhw, ac yn eu gwneud nhw byth a beunydd. Fy hoff beth i fel plentyn oedd bwyta’r toes heb ei goginio, er bod dad yn dweud y buasai’n sticio at fy nghalon! A dwi’n sicr nad oes neb yn gallu eu gwneud nhw’n well na dad. Ond dwi’n trio fy ngorau!

Dwi’n chwyrn fy marn ynglŷn â sut yn union y dylai cacs bach fod. Maen nhw i fod yn syml ac yn blaen, felly plîs peidiwch â rhoi sbeis ynddyn nhw. A pheidiwch â hyd yn oed sôn am y rhai da chi’n gallu eu prynu gyda jam yn y canol, hollol hurt!
Mae lot o ryseitiau ar gyfer cacs yn defnyddio menyn yn unig, ond mae rysáit dad yn defnyddio hanner menyn a hanner lard. Nawr dyw lard ddim yn ffasiynol iawn y dyddiau yma ond mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i flas ac ansawdd y cacennau felly maen werth ei drio.
Dylid coginio’r rhain ar radell haearn ond os nad oes gennych chi un mae’n bosib eu gwneud nhw mewn padell ffrio reit drwm hefyd.

 http://panedachacen.files.wordpress.com/2012/03/img_1742.jpg


Cynhwysion
1lb blawd codi
4 oz menyn
4 oz lard
5oz siwgr
4oz syltanas
1 wy
sblash o laeth

Dull
1. torrwch y menyn a’r lard mewn i ddarnau bach a’i rwbio i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion.

 2. Ychwanegwch y siwgr, syltanas a’r wy, a’i gymysgu nes eich bod yn ffurfio pelen o does. Ychwanegwch sblash o laeth os oes angen.

 3. Roliwch y toes allan nes ei fod yn rhyw ¼ modfedd o drwch a thorrwch allan gylchoedd, neu galonnau fel gwnes i y tro hwn. (doeddwn i methu ffeindio’r torrwr crwn!)

 4. Cynheswch y radell a’i rwbio gydag ychydig o fenyn. Yna gosodwch eich toes ar y radell a’u coginio am ryw 2-3 munud ar bob ochr.

 5. Tynnwch oddi ar y radell a’u hysgeintio gydag ychydig o siwgr.

 6. Triwch beidio eu bwyta i gyda ar unwaith, er dwi’n gaddo bydd hynny yn anodd iawn. (2-4 ar y tro yw’r tueddiad yn ein teulu ni!)

Wednesday, 26 September 2012

Coginio - geirfa sylfaenol


Bwyd a choginio

Geirfa sylfaenol ac enghreifftiau
Dull (g)
Pobi
“Wedi iro tun pobi bara hanner cilo (a leinio hwn gyda papur pobi) dylid arllwys y gymysgedd iddo a'i osod mewn popty a gynheswyd i 170°C” (o rysait am Fara Brith)
'Pobi cacennau' a 'llyfu'r llwy' yw prif atgof plentyndod mwy na hanner pobol.
“Mynd i'r sinema, dal lan 'da ffrindie coleg, nofio, pobi teisen. 5. Pum peth sy'n gwneud i chi deimlo'n hapus.“
Crasu (bake, parch, dry)
“Mi gofiaf tra byddaf byw am y bara ffres a gaem ar ddiwrnod crasu bara”
“Hen wraig o’r enw Jane oedd yn cadw’r siop, ychydig o nwyddau werthai, oil lamp, siwgr, te, resins, cyraints, burum a blawd, yno byddai pawb yn cael burum ac ers talwm byddai pawb yn crasu bara eu hunain.”
Ffrio
Sgramblo – wyau wedi’u sgramblo
Potsio – wyau wedi’u potsio
Berwi – wy wedi’i ferwi
Mudferwi (simmer)
Codi berwi (bring to the boil)
Hidlo (sieve) [hefyd: gogrwn]
Hylif Mae pob defnydd yn bodoli fel solid, hylif neu nwy.
Iro
“Irwch dun cacen 20cm a rhoi papur saim ar y gwaelod 
Linio
Cymysgedd - Cymysgedd Stwffin Saets a Winwnsyn
Cymysgu
Curo “Curwch y siwgr a’r menyn nes ei fod yn ysgafn, o leiaf 4 munud gyda chwisg trydan.”
Torri “torrwch y menyn a’r lard mewn i ddarnau bach a’i rwbio i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion.”
Cynhesu
”Cynheswch y popty i 180C/160C ffan”
Pilio/plicio (peel)
Toddi  100g menyn heb halen wedi’i doddi”
Rolio “Roliwch y toes allan nes ei fod yn rhyw ¼ modfedd o drwch”
Malu
Ychwanegu (at)
Gorchuddio “Rhowch ychydig o’r eisin rhwng dwy haen y gacen a gorchuddiwch y top a’r ochrau.”
Chwipio
Plygu
Offer a theclynnau yn y gegin
Llwy (b) [llwyau]        llwy de             llwy fwrdd       llwy bren         llwy dyllog       llwy fetel
Fforc (b) [ffyrc]
Cyllell (b) [cyllyll]
“Cyllell finiog”
“Arwyn yn byta Spaghetti efo cyllell a fforc... wimp.”
Popty/ffwrn
“trosglwyddwch y marmaled i botiau jam sydd wedi eu glanhau'n dda a'u cynhesu mewn popty am 110°C am 10 munud.”
“New York Cheesecake yn barod i fynd i'r ffwrn”
“Sglodion Wedi'u Pobi yn y Ffwrn”
Cymysgwr trydan
Clorian (b) (scales)
Rhidyll (sieve) [hefyd: gogr/gogor]
Rholbren (b) Gorchymyn cymunedol i wraig ymosododd ar ei gŵr â rholbren gan ei bod yn amau ei fod yn anffyddlon.
Bowlen/powlen (b) [powlenni] 
‘Un powlen fawr, un ganolig ac un fach ‘
Sbatwla
Dysgl (b) dysglau [‘dishgil’ ar lafar] > dishgled/dished
Tun
Sosban (b)
Padell (b) [padelli/padellau/pedyll]
Padell ffrio/ffreipan
“Cynheswch yr olew tsili a'r tsili mewn padell ffrio a ffriwch yr wyau”
Chwisg llaw
Gratiwr mân
Hambwrdd pobi - Rhowch y sgons ar yr hambwrdd pobi a gadewch iddynt orffwys am ychydig
Sgiliau yn y gegin: sgiliau paratoi ee torri, tafellu, gratio, pilio, stwnsio, curo; sgiliau coginio ee
rhostio, ffrïo, pobi, berwi; gwybod pryd mae bwyd wedi'i goginio;
Pwyso:  Dilyn rysáit: pwyso a mesur ee defnyddio clorian, jygiau a llwyau mesur; tymheredd y
ffwrn/popty….
Brat (g)/ffedog (b)




Cynhwysion
Ŵy (g) melynwy (g) gwynwy (g)
“Mewn soufflé, caiff y melynwy a’r gwynwy eu gwahanu – defnyddir y melynwy i
dewhau sylfaen cwstard a chaiff y gwynwy ei chwisgio i wneud y soufflé yn ysgafn.”
Siwgr
“Caiff siwgr pur ei werthu fel siwgr gronynnog (bras), siwgr mân a siwgr eisin (powdr mân).
Siwgr mân yw’r gorau ar gyfer y rhan fwyaf o ryseitiau pobi a gellir defnyddio siwgr gwyn neu
euraid. Mae gan siwgr nad yw’n siwgr pur fwy o flas ac mae’n amrywio o siwgr crai tywyll i
siwgr brown ysgafn.”
Blawd [hefyd: can, fflwr] [g]  blawd plaen    blawd codi       blawd cyflawn
Burum
Powdr codi
Soda pobi
Llaeth              llaeth hanner-sgim     llaeth hufennog           llaeth sgim      llaeth enwyn (buttermilk)
Braster
Saim
Cytew   “cocos mewn cytew”
Echdyniad fanila
Croen     Croen 1 lemon wedi’i gratio yn fân” “stribedi o groen lemwn”
Hufen              hufen dwbl      hufen sengl     hufen chwipio
Briwgig
Toes
Pastai [pai, pei]
Crwst              crwst pwff      crwst pwff bras          crwst brau
Rholiwch y crwst brau ar wyneb blawdiog nes fod yn ddigon mawr i lenwi desgil fflan tua 30cm ar draws.


Gweadedd a blas
Melys
Chwerw          Roedd y coffi'n blasu'n chwerw.
Hallt    Mae pobl yn agored i rymoedd marchnata anferth , sy'n eu hannog yn ddi-baid i orfwyta , yn enwedig diodydd llawn siwgr , bwyd hallt iawn”
Sur [hefyd: egr]
Meddal
Caled
Crensiog, creisionllyd, cras
“cyw iâr rhost crensiog”         “bara cras    Gweinwch y stêc gyda'r jam chilli a chennin creisionllyd wedi ffrïo.”
Sbeislyd
Llugoer   [hefyd: claear]    Gwasgu burum mewn llaeth llugoer ac ychwanegu siwgr.”
Di-flas bland
Poeth     “Falle na ddylwn i fod wedi bwyta'r cyri poeth 'na ar awyren airindia, gallai'r flight i bangkok fod yn ddiddorol!”

Bwyd - blogiau Cymraeg

Mae sawl blog am fwyd yn Gymraeg ar gael ar y we. Dyma rai ohonyn nhw:







Paned a chacen

Yn ogystal â hynny, cewch fynd i wefan S4C i gael ryseitiau Dudley Newbery (yma).

Ac dyma wefan Dudley.