Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday, 13 November 2012

Cywair - Enghreifftiau

Diolch i Ganolfan Bedwyr am y deunydd hwn.

CYWEIRIAU’R IAITH – TAFLEN 3

Darllenwch y chwe dyfyniad isod a rhowch sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn) am bob un. Eglurwch yn fyr ar sail ba nodweddion yr ydych yn gwneud hynny (gweler Taflen 2 am enghreifftiau posib).

1
Yn ei hanfod, yr un ddadl yw’r ddadl wrth-gynganeddol â chŵyn y bobl hynny dros y canrifoedd sydd wedi lladd ar yr iaith Gymraeg oherwydd ei bod yn sefyll yn ffordd cynnydd. O’r Llyfrau Gleision (Ni ddaw cynnydd tra phery iaith y tafarnau a’r ffeiriau) at ‘sosialaeth ryngwladol’ honedig gwleidyddion diweddar [a fynegir yn uniaith Saesneg] (Ni ddaw rhyddid tra phery iaith snobs dosbarth canol y capeli), yr un yw’r ddadl. A’r un yw’r gwallau yn y ddadl – priodolir i’r iaith gyfan nodweddion rhai o’i siaradwyr, a drysir rhwng CYFRWNG Y DWEUD A’R HYN A DDYWEDIR.

(o ‘Tacsi i’r Tywyllwch’ gan Emyr Lewis, yn Taliesin, 114 Gwanwyn 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

2
Tra mod i’n eistedd yma’n sgrifennu mae hi’n agosáu at ddiwedd blwyddyn, neu at ddechrau un – a dibynnu sut y’ch chi’n edrych ar bethau – ac mae hi’n anodd peidio â bod yn ddigalon neu’n besimistaidd. Dwi’n clywed sŵn y ffair yn cynyddu yn fy nghlustiau ond teimlaf yn drist hyd at ddagrau pan ddaw Rhagfyr i gau’r drws yn glep yn nau wyneb Ionawr. Dwi’n gwybod ei bod hi’n gychwyn ar flwyddyn newydd; ail gyfle i wneud yn well wedi llanast y deuddeg mis a fu. Ond fedra’ i ddim ond teimlo’n isel o golli’r hen flwyddyn, waeth pa mor shimpil oedd hi. Ac mi wn i y bydda’ i’n gwneud addunedau dim ond er mwyn cau sŵn y gwacter allan o ‘mhen; codi fy nghalon drwy gadw cwmni i mi fy hun yn fy nűwch wrth weld blwyddyn arall yn diflannu i un o gorneli tywyll y cof.

(o ‘Clustfeinio’ gan Elinor Wyn Reynolds, yn Taliesin, 114 Gwanwyn 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

3
Mae hanes diweddar pentrefi Cefnpennar a Chwmpennar yn ne Cymru, yn debyg iawn i rai o bentrefi cefn gwlad Pen Llŷn.
Dyna pam fod criw o bentrefwyr wedi teithio i fyny i Lithfaen yr wythnos ddiwetha’ gyda’u Aelod Cynulliad, Pauline Jarman, gyda’r bwriad o weld sut y gallan nhw ddysgu oddi wrth brofiadau pobol Llŷn.
Pan ddaeth y penderfyniad i gau’r ysgol leol yng Nghefnpennar yn yr 1980au, fe syrthiodd y fwyell ar y swyddfa bost a’r siop leol hefyd.
Ers hynny, mae triglion y ddau bentre’ bach yng Nghwm Cynon wedi gorfod teithio’r milltir a hanner i Aberpennar i gael nwyddau a gwasanaethau.

(o ‘Popeth yn lleol’ gan Barry Thomas yn Golwg, 14.22, Chwefror 14 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

4
Mae’n swyddogol bellach. Rydyn ni’n genedl cwbl boncyrs! Fe brofwyd hynny nos Fercher a dydd Iau diwetha’. Y cyfan oedd wedi digwydd oedd ymddiswyddiad Graham Henry fel hyfforddwr ein tîm rygbi cenedlaethol, ac fe aeth pawb yn wallgo’ bost. Mi fasach chi’n credu ein bod ni o fewn trwch blewyn i ddiwedd y byd.
Roedd ein cyfryngau torfol wedi colli pob rheolaeth, ac fe aeth gwrthrychedd newyddiadurol allan drwy bob ffenest olygyddol yng Nghaerdydd. Y fath ffwlbri a diffyg cydbwysedd! Afraid dweud mwy am y gwallgofrwydd anfaddeuol.

(o ‘Y Gair Ola’ gan Gwilym Owen yn Golwg, 14.22, Chwefror 14 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

5
Digwydd sylwi ar yr hysbysiad yn y Cambrian News – a chael fy nhemtio!
Hysbysiad am gais i fod yn ddyn hufen iâ yn Ynys-las dros yr haf.
Ac roedd y syniad yn apelio’n fawr.
Y traeth eang. Y bryniau oddi amgylch. Dyfroedd yr aber yn newid eu ffurf byth a beunydd. Aberdyfi rhwng môr a mynydd yr ochr draw.
Ac yn fwy na dim, marchnad helaeth – cyfle i werthu hufen iâ gorau Cymru i lu o gwsmeriaid newydd. Ehangu – dyna’r gair. Gadael y caban yma ar y prom yn Aber yn nwylo cyfaill, a chwilio am farchnadoedd gwahanol, fel mae’r ffermwyr yn ei wneud.
A phwy a ŵyr? Efallai y byddai rhywun pwysig o Tesco neu Sainsbury’s yn dod heibio ar wyliau, ac yn prynu fy hufen iâ, ac yn cael cymaint o flas arno nes…nes…
Ie, gallwn weld fy hun yn darparu hufen iâ wrth y dunnell i ryw gwmni mawr, ac yn gwneud ffortiwn i mi fy hun. Prynu tŷ newydd wedyn. Prynu car newydd sbon am y tro cyntaf erioed hefyd. Syr David efallai, gydag amser. Yr Arglwydd David?
Ond dyma fi’n rhoi’r gorau i’r holl freuddwydion ffôl. Dewch heibio eto yr haf nesaf ‘ma – bydda’ i’n dal wrthi yn y caban bach ar y prom. Oherwydd yn y bôn rwy’n gwybod fod yr hen adnod yn gwbl wir; ‘Nid yw bywyd dyn yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.’

(o ‘Ar Lan y Môr’ gan Dai Hufen Iâ yn Yr Angor, Chwefror 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

6
Dyna’n fras bum pwynt damcaniaeth. Eu nodi a wnaf, a’u trafod rywbryd eto. Ond amlyga’r ymarferiad syml hwn - plentynnaidd o syml, hwyrach – yr hyn sydd amlwg ddigon i mi, sef nad oes modd i feirniad llenyddol beidio â choleddu damcaniaethau llenyddol - syniadau am werth a diben llenyddiaeth – hyd yn oed os nad yw’n mynychu cynadleddau a gynhelir dan nawdd Cymdeithas y Dyneiddwyr Rhyddfrydol.

( o ‘Camfarnu neu Garfanu Beirniad Llenyddol?’ gan Tudur Hallam yn Taliesin, 114 Gwanwyn 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

Cywair - pa fath o iaith?

Diolch i Ganolfan Bedwyr am y deunydd hwn.

CYWEIRIAU’R IAITH –  BETH YW CYWAIR?

Mae anghytuno hyd yn oed ymhlith arbenigwyr; darllenwch y dyfyniadau isod:
• ‘Mewn astudiaeth ar y Gymraeg, defnyddia Clayton (1978) y label cywair (register). Ond mae i’r enw hwn hanes amrywiol yn y maes o astudio amrywiaeth iaith, ac mae tuedd i’w ddefnyddio yn label cyffredinol ar gyfer sawl math o amrywiaeth.’
Bob Morris Jones yn Ar Lafar ac ar Bapur (GAA, 1993)
• ‘I have used the term ‘style’…to refer to language variation which reflects changes in situational factors, such as addressee, setting, task, or topic. Some linguists describe this kind of language variation as ‘register’ variation. Others use the term ‘register’ more narrowly to describe the specific vocabulary associated with different occupational groups. The distinction is not always clear…’
Janet Holmes yn An Introduction to Sociolinguistics (Longman, 1992)
• ‘Register: a socially defined variety of language, e.g. scientific, legal, etc.’
(Crystal, D., Cambridge Encyclopedia of Language 2nd edition. (CUP, 1998)
• ‘Iaith fydd yn gweddu i’r gynulleidfa ac yn addas i’r pwrpas.’
(Gwefan Canolfan Bedwyr, www.bangor.ac.uk)
Pa un o’r dyfyniadau hyn sy’n apelio fwyaf atoch?

CYWEIRIAU’R IAITH – TAFLEN 1b

At ddibenion eich gwaith ysgrifennu yn y coleg, mae’n debyg mai’r diffiniad symlaf (a’r hawsaf) yw’r olaf, sef diffiniad Canolfan Bedwyr:
‘Iaith fydd yn gweddu i’r gynulleidfa ac yn addas i’r pwrpas’
Wrth ddewis y cywair priodol felly, rhaid nodi:
• Pwy yw eich cynulleidfa? (e.e. darlithydd, tiwtor, arholwr, cyd-fyfyrwyr, cyfaill) Pa mor ffurfiol/anffurfiol?
• Beth yw’r sefyllfa? (e.e. academaidd, personol, cyfeillgar, niwtral) Pa mor ffurfiol/anffurfiol?
• Beth yw’r cyfrwng? (e.e. traethawd, papur arholiad, anerchiad, adolygiad, ymateb personol, e-bost) Pa mor ffurfiol/anffurfiol?
O ddadansoddi’r gwahanol elfennau hyn a phenderfynu pa mor ffurfiol/anffurfiol yw bob un, gallwch werthuso pa gywair sy’n briodol i’ch neges chi.
Ond cofiwch:
  •  Nid dau begwn â gofod mawr rhyngddyn nhw yw’r ffurfiol a’r anffurfiol, ond graddfa sy’n symud yn raddol o’r naill begwn i’r llall.
1 2 3 4 5
ANFFURFIOL --------------------------------------------------------------------------FFURFIOL
  •  Yn gyffredinol iawn, bellaf oll yr ewch chi oddi wrth yr elfennau sy’n nodweddu’r iaith lafar a’r tafodieithol, agosaf oll yr ewch chi at y ffurfiol a’r ysgrifenedig. (Ond cofier am rai eithriadau llenyddol, e.e. Un Nos Ola’ Leuad, sy’n defnyddio tafodiaith i adrodd stori’r nofel.)
Ar Daflen 2 fe welwch rai elfennau sy’n nodweddu’r ffurfiol a’r anffurfiol

CYWEIRIAU’R IAITH - TAFLEN 2

Rhai elfennau sy’n nodi’r gwahaniaeth rhwng y cywair ffurfiol a’r anffurfiol

 
ANFFURFIOL

FFURFIOL

berfau cwmpasog neu beriffrastig, e.e. mae’r plant yn cerdded i’r ysgol/wneiff y plant gerdded i’r ysgol

berfau cryno e.e. cerdda’r plant i’r ysgol

ffurf amhersonol gwmpasog, e.e. cafodd y drych ei falu, malodd rhywun y drych

ffurf amhersonol gryno e.e. malwyd y drych

negyddu: dim e.e. ddarllenodd Siôn ddim y papur
ni e.e. ni ddarllenodd Siôn y papur

cwestiynau: ddarllenodd X y papur?

a ddarllenodd X y papur?

yn tydyn/on’d ŷn nhw: mae’r gwleidyddion yn gwybod pob dim, on’d ŷn nhw/yn tydyn?

oni(d): onid yw’r gwleidyddion yn gwybod pob dim?

peidiwch â … cherdded ar y glaswellt

na: na cherddwch ar y glaswellt

os: gofynnodd os oedd yr aelodau’n fodlon
a: gofynnodd a oedd yr aelodau’n fodlon

nhw

hwy/hwynt

ffurfiau ar rai ansoddeiriau e.e. gwyn, syml, byr, du ayb

wen, gwynion, seml, fer,byrion, duon ayb

defnydd helaeth ar ‘wnaeth’ a ‘ddaru’ fel berfau cynorthwyol

amser y ferf

y dyn yma/y ddynes yma/y bobl yma

hwn/hon/y bobl hyn

os mae, pan mae
os yw, pan yw
diffyg treiglad llaes e.e. ci a cath

cadw’r treiglad llaes e.e. ci a chath

dim ‘h’ o flaen llafariaid o flaen ffurfiau perthnasol y rhagenw perthynnol e.e. ein amser

cadw’r ‘h’ e.e. ein hamser




Mae rhai geiriau ac ymadroddion penodol hefyd yn medru dynodi ffurfioldeb, e.e.:
megis
oblegid
bid siwr
diau
A allwch chi feddwl am enghreifftiau pellach?

Con Passionate

Dyma clip o'r gyfres Con Passionate, un o gyfresi mwyaf llywddiannus S4C erioed.


Wednesday, 31 October 2012

Sut i sicrhau harddwch y Poinsetia

Gan ein bod ar drothwy y Nadolig, priodol fyddai talu sylw i blanhigyn pot sydd yn ei holl ogoniant ar yr adeg yma. Enw'r planhigyn yw y Poinsetia, a'i enw botanegol Euphorbia pulcherrima, yn golygu "prydferth iawn". Mae'r planhigyn hwn wedi dod yn boblogaidd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel anrheg Nadolig, ac fel rhan o'r addurniadau yn y tŷ gan fod ei liw coch pert yn harddu'r lle.

Cafodd y Poinsetia ei enw ar ôl Joel Robert Poinsettia, llysgennad Yr Unol Daleithiau i wlad Mecsico yn y flwyddyn 1825 pan dderbyniodd y planhigyn yn anrheg Nadolig. Ar y pryd planhigyn gwyllt ydoedd yn tyfu yn anialwch De Mecsico. Gan iddo ddotio'n llwyr ar y planhigyn, penderfynodd ei gyflwyno i'r Unol Daleithiau ym 1826.

 



Mae'r planhigyn yn unigryw,gan mai'r blodeulen sydd yn goch ei liw, ac nid y prif ddeilen. Prin yw oes blodeulen ac fe'i ceir yn ei holl ogoniant adeg Gŵyl y Geni. Yn ei gynefin ble mae'r tywydd yn drofannol, mae'n cael ei gofrestri yn brysgwydden lluosflwydd ac yno gall dyfu i fyny at a thros 3 medr o daldra.
Yn ôl hen chwedl Fecsiciaidd daeth y planhigyn i fodolaeth pan benliniodd gwerinwraig ifanc i weddïo ar Noswyl Nadolig i ofyn am flodau coch i osod oddeutu'r allor. Atebwyd ei gweddi pan ymddangosodd angel gan droi y chwyn a dyfai o amgylch y caban pren a oedd yn gartref iddi, yn Poinsetia coch hardd. Felly cafodd y ferch fwy na digon o flodau i addurno'r allor. Deallodd ar unwaith fod y lliw coch yn addas fel addurn Nadoligaidd. Mae'r Ponsetia a greodd Duw i harddu'r anialwch mewn gwledydd fel Mecsico erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio i harddu cartrefi a'n hadeiladau ni.

Yn y dyddiau cynnar pan sylweddolwyd bod mewnforio'r planhigyn yma i Brydain yn bosibl o safbwynt masnach ond rhaid oedd ei gwtogi i'w gynnwys mewn pot, ar gyfer y tŷ. Fel canlyniad, mae'r planhigyn yn cael ei drin gan gemegyn sydd yn rhwystro tyfiant tal. Mae'r planhigyn yn cael ei gadw dan reolaeth lem mewn meithrinfeydd, er mwyn sicrhau fod y bracts lliwgar yn eu holl ogoniant erbyn y Nadolig. Caiff ei gadw mewn tymheredd addas a chyson am gyfnodau hir o dywyllwch.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn y marchnadoedd, mae yna amryw o liwiau eraill i'w gweld ymysg y Poinsetia, e.e. Lemon Snow sydd â blodeulen o liw hufen, sydd yn edrych yn ddeniadol ymhlith y rhai coch. Un arall a gyflwynwyd yn ddiweddar iawn yw y Sonora White Glitter, ffefryn gan lawer, gan fod y flodeulen yn amryliw. Yn yr Almaen dechreuwyd yr arfer o chwistrelli'r dail gan belydrau o liw arian daeth yn arfer hefyd yng Nghymru er mwyn creu naws Nadoligaidd i'r tŷ.

Er mwyn sicrhau harddwch blynyddol y Poinsetia cynigaf rai syniadau. Y man mwyaf delfrydol i'w osod yn ystod yr Ŵyl yw ar sil y ffenestr, sy'n wynebu'r de, gan ofalu na fydd y dail yn cyffwrdd â gwydr oer y ffenestr, oherwydd gall hyn achosi i'r dail grebachu. Mae tymheredd yr ystafell yn hollol bwysig 10-20 gradd Celsiws yn ystod y dydd ac heb fod o dan 10 gradd Celsiws y nos, i gadw'r gwreiddiau rhag pydru. Ni ddylid peri iddo fod yn agored i ddraft, boed oer neu gynnes rhag achosi'r dail i gwympo cyn pryd.

Dylid cadw llygad rhag i'r pridd yn y pot ddioddef sychder. Mae angen dyfrhau nes fod dŵr yn dod allan o dyllau draeno'r pot gan ofalu na fydd dŵr yn aros yn y soser i bydru'r gwreiddiau. Mewn ystafell a chanddi olau cryf a lleithder isel fe fydd eisiau dyfrhau yn amlach. Gall y dail gwympo oherwydd sychder, felly rhaid dyfrhau yn union ac eto ymhen deng munud. Dylid parhau i ddyfrhau hyd yr wythnos gyntaf ym mis Ebrill, ac yna torri lawr yn raddol, ond peidio a'i adael i sychu allan yn gyfan gwbl.

Canol mis Mai, dylid torri'r coesau yn ôl i tua 10cm, ei ail botio mewn pot sydd yn 2.5cm diamedr yn fwy gan ddefnyddio "soil less compost" ffres o raddfa uchel. Ni ddylid ar un cyfrif ddefnyddio pridd o'r ardd, oherwydd y perygl o bla. Dylid gosod y planhigyn mewn llecyn oddeutu 15-20 gradd Celsiws, gan ddyfrhau yn gyson. Pan fydd arwydd o dyfiant ffres yn datblygu, dylid ychwanegu gwrtaith doddadwy e.e Phostrogen bob pythefnos.

Yn nechrau mis Mehefin, dylid symud allan i awyr agored a'i osod mewn llecyn cysgodol, gan ychwanegu dŵr a gwrtaith yn yr un dull â'r mis blaenorol. Tua dechrau mis Gorffennaf dylid torri pob coes, yna rhwng canol a diwedd mis Awst torri unrhyw goesau ffres a fydd yn dangos, gan ollwng tua tair neu bedair deilen ar bob ysbrigyn. Dechrau mis Medi dylid dod â'r planhigyn yn ôl i'r tŷ a'i osod yn yr un llecyn a chynt gan ddyfrhau ac ychwanegu gwrtaith toddadwy bob pythefnos hyd at wythnos gyntaf mis Rhagfyr.

Rhaid osgoi gostyngiad y dymeredd o dan 10 gradd Celsiuws. Dylid ei ollwng mewn lle tywyll rhwng pump o'r gloch y prynhawn ac wyth o'r gloch y bore o Hydref 1af hyd Tachwedd 30ain, a'i osod ar y silff ffenestr weddill yr amser.

Gan Hywel Jones i bapur bro Y Loffwr.

Wednesday, 24 October 2012

Idiomau'r wythnos - hoelio


Idiomau’r Wythnos
Hoelio
Hoel/hoelen (b) hoelion

1.      Hoelio sylw rhywun

Bydd y cynllun yn ceisio hoelio sylw ar fusnes ac arian
Mae'n gyfle gwych i weithio gyda chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr profiadol, a fydd yn gallu'ch helpu i gyfleu eich neges mewn ffordd sy'n hoelio sylw.

2.      Taro’r hoelen ar ei phen

Dwi'n meddwl roedd Damon Albarn a Peter Hitchens wedi taro hoelen ar ei phen yn eu hymateb am Live8.
Mae y dalent o daro'r hoel yu ei phen genych, Mr. Denman," ebe'r Capten,
"Mae'r bachgen wedi taro'r hoel ar ei phen," ebai yntau,
Roedd yn wastad yn bwrw’r hoelen ar ei phen ac roedd ymhlith miloedd a ymladdodd dros ei wlad, er nad oedd yn credu mewn rhyfel.

3.      Hoelion wyth

Mae'r ymadrodd yn cyfeirio at hoelion wyth modfedd sef hoelion mawr ac felly byddent yn hoelion pwysig cryf yn dal darnau pwysig mewn adeilad neu rywbeth arall.
Mae 5 cangen yng nghymdeithas Yr Hoelion Wyth, sef Sion Cwilt, Wes Wes (Gogledd Sir Benfro), Hen-Dy-Gwyn, Beca (Efailwen) ac Aberporth. Cwrdd uwaith y mis am 8 o'r glochish.
Un o hoelion wyth Cymdeithas Tai Clwyd yn dychwelyd i'r tîm.

Cymharu ansoddeiriau

Ydy e mor dda â'i frawd bach, neu ydy e cynddrwg â'i chwaer iau?

Rydym wedi bod yn edrych ar sut i gymharu ansoddeiriau'n ddiweddar.

Dyma linc i gyflwyniad ac ymarferion ar wefan Prifysgol Bangor (cliciwch yma), ac un arall ar ffurf Powerpoint ar safle Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru.

Gardd Tim Thomas yn Nghilgerran

Diolch i'r rhaglen Byw yn yr Ardd am y clip hwn.

Clatshio bant = to carry on, to get on with it