Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday, 7 February 2015

Rowndio’r Horn gan J. Glyn Davies




Wel dyma dir a dyma daith
Ai-a ac ai-o!
Mae rowndio’r Horn yn gledi maith:
O am wlad Bryn Cynan!

Wel hogia bach mae’r gwynt yn oer:
Ai-a ac ai-o
Cymylau duon am y lloer:
O am ardd Bryn Cynan!

Mae sŵn y gwynt yn boddi sgwrs:
Ai-a ac ai-o
Dau wrth y llyw i gadw’r cwrs:
O am ffyrdd Bryn Cynan

Mae’r llong yn gyrru’n greulon iawn:
Ai-a ac ai-o
O na bawn rwan wrth dân mawn
Gartref ym Mryn Cynan!

Ac ‘oglau’r ysgaw ar bob chwa
Ai-a ac ai-o
Nid wn am unlle ddechreu ha’
Debyg i Fryn Cynan!

Ac eithin melyn cloddiau Llŷn
Ai-a ac ai-o
Grug mawr yn lasgoch ar bob un:
Felly mae Bryn Cynan!

Mae cofio ngwlad yn ddigon hawdd
Ai-a ac ai-o
A’r bysedd cochion ar bob clawdd
Filoedd ym Mryn Cynan!

A’r hedydd uwch ben daear las,
Ai-a ac ai-o
A’r cacwn brith yn canu’n bas
Beunydd ym Mryn Cynan!

Wel hogiau bach gwn am le braf;
Ai-a ac ai-o
Ar ben y goets ar ddechreu haf
Ac yn gweld Bryn Cynan!
Os down ni drwyddi, hogiau bach,
Ai-a ac ai-o
Ond anodd iawn fydd canu’n iach
Wedyn i Fryn Cynan!


Mae Bryn Cynan ar y croesffordd rhwng Portinllaen a Nefyn. Yn yr hen ddyddiau roedd Bryn Cynan yn dirnod adnabyddus i forwyr oedd yn trafeilio ar y goets rhwng Nefyn a Phwllheli.

Gledi maith – gwledydd maith (?)
Grug mawr -  bell heather
Bysedd cochion – bysedd cŵn

Bro

Enwyd pob rhan ohoni
Unwaith; rhoi'n hiaith arni hi
Yn nod; enwi pob nodwedd;
Rhoi gair i bob cwr o'i gwedd,
Yn afon, ffynnon a phant,
Enwau i ffridd a cheunant,
Enwau i hen dyddynnod,
Enw i bob erw'n bod.
Ein hunaniaeth yw'n henwau,
Yn hwyrddydd ein bröydd brau
Mae synau i'n henwau ni,
Synau sy'n hanes inni.
Ifan Prys

Gwr gwadd: Aled Scourfield

Ein siaradwr gwadd yr wythnos hon yw Aled Scourfield, gohebydd BBC yn y gorllewin. Bydd Aled yn siarad am ei waith fel gohebydd a gwasanaethau Cymraeg y BBC.

Aled

Galargan ar ol y Mochyn Du





1. Holl drigolion bro a bryniau,   dewch i wrando hyn o eiriau,
Fe gewch hanes rhyw hen fochyn   a fu farw yn dra sydyn.

Cytgan: O mor drwm yr ydym ni(x2),   y mae yma alar calon ar ôl claddu’r mochyn du.

2. Fe rowd mwy o faidd i’r mochyn    n’allai fola bach e dderbyn,
Ymhen chydig o funude    roedd y mochyn yn mynd adre.
(Cytgan)

3. Rhedodd Deio i Lwyncelyn   i mofyn Mati at y mochyn;
Dwedodd Mati wrtho’n union    gallai roi e heibio’n burion.
(yn burion = eitha da, gweddol)
(Cytgan)
4. Mofyn hers o Aberteifi    a cheffylau i’w thynnu fyny,
Y ceffylau yn llawn mwrnin   er mwyn dangos parch i’r mochyn.
(Cytgan))
5. Melys iawn yw cael rhyw sleisen   o gig mochyn gyda’r daten,
Ond yn awr rhaid byw heb hwnnw,   y mochyn du sydd wedi marw.
(Cytgan)
6. Bellach rydwyf yn terfynu   nawr gan roddi heibio canu;
Gan ddymuno peidiwch dilyn   siampl ddrwg wrth fwydo’r mochyn.
(Cytgan)

Idiomau - daw bola'n gefen (a mwy)



Diolch i Maes-e!
  • ·         Glywes i foi o Gofi yn siarad wrth ryw ddwy ferch ac yn dweud: 'O, mae o'n hen ffasiwn... fatha jwg.'Lyfli.

  • ·         "Mae o'n hen ffasiwn fatha beic" maen nhw'n ddweud ffor hyn.

  • ·         Fi'n cofio bod reit embarasd pan ddwedodd mam-gu am ryw ddyn moel "Wel, odd ei ben e'n sheino fel ceille ci yn rhoul"  (rhoul = yr haul)

  • ·         Beth ydy ystyr 'Ma'i hanner o'n Chicago' ai 'ddim llawn llathen' ma'n feddwl?

  • ·         "Dim llawn llathen" = "a sandwich short of a picnic" (neu beth bynnag ydio'n iawn)



  • ·         Hefyd yn debyg i'r rhain --> "Gola 'mlaen, neb adra!" a "Bynglo!" (h.y. dim byd fyny grisia, 'mond insiwlêshyn...ond dwi'n ama mai rhyw idiom deuluol ydi hon, ac nac ydi hi'n un a glywir ar hyd a lled y wlad!)

  • ·         Dwli ar "sheino fel pwrs milgi yn yr houl" a "ma' cro'n ei din ar ei dalcen e", fel ma' Sian wedi'u nodi.

  • ·         "Ma' dy fola di'n gefen, odi e?" (h.y. llwgu, wyt ti?)

  •  ·         Da ni'n defnyddio hwn i olygu bod angen bwyta’n dda - fyddi di'n dibynnu arno i gael nerth - Bola yn gefen?

  • ·         Fyddwn ni'n defnyddio hwn i gyfiawnhau byta lot/rhoi pwyse arno.... "O wel, daw bola'n gefen..."

  • ·         Gas 'da fi hefyd pan ma pobol mewn oed yn rhoi'r compliment "jiw, ma gra'n arna ti" (graen) ,gan olygi bod ti wedi rhoi tipyn o bwyse mlan. :?

  • ·         Rhywun arall wedi clywed bod "golwg sabant ar rywun"? - golwg gas - Sgwn i odi e'n dod o "sa bant" - h.y. aros yn ddigon pell, dw i ddim ishe dy weld ti.

Sunday, 1 February 2015

Dyma gariad fel y moroedd





Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli:              tosturiaeth: trugaredd [mercy, compassion]
Twysog Bywyd pur yn marw—
Marw i brynu’n bywyd ni.
Pwy all beidio â chofio amdano?
Pwy all beidio â thraethu’i glod?     traethu - dweud, adrodd
Dyma gariad nad â’n angof
Tra fo nefoedd wen yn bod.

Ar Galfaria yr ymrwygodd                 ymrwygo (hyn.) open
Holl ffynhonnau’r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau’r nefoedd  
Oedd yn gyfain hyd yn awr:             cyfain (lluos. cyfan)
Gras â chariad megis dilyw             dilyw - llifeiriant dinistriol
Yn ymdywallt ymâ ’nghyd,                ymdywallt - tywallt
A chyfiawnder pur â heddwch
Yn cusanu euog fyd.

Idiomau'r wythnos - gwisgo dy dîn ar dy dalcen ac fel bola buwch



Croen ei dîn ar ei dalcen:  dim hwyl ar y person, drwg ei hwyl......

"Mae croen ei dîn ar ei dalcen heddi"
"Mae croen ei thîn ar ei thalcen"
Hefyd: "gwisgo ei dîn ar ei dalcen"

Fel bola buwch: yn dywyll iawn

Mae #awrddaear ym Mynachlog-ddu yn debyg iawn i bob awr arall yma. Mae hi wastad yn dywyll fel bola buwch 'ma! 

Comedi ddu fel bola buwch

Nofel newydd Dewi Prysor. Trysor. Ydy e'n bosib marw o chwerthin? Dieflig. Mor ddu a bola buwch.

Dychmygwch geisio cloddio glo wrth orwedd neu benlinio mewn twnnel cyfyng oedd yn ddu fel bola buwch, a dim golau ond golau cannwyll.