Dyma Iwan Huws o'r grŵp Cowbois Rhos Botwnnog yn y Gadair.
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Saturday, 19 October 2013
Iwan Huws yn y Gadair
Dyma Iwan Huws o'r grŵp Cowbois Rhos Botwnnog yn y Gadair.
Cowbois Rhos Botwnnog
Band Cymraeg yw Cowbois Rhos Botwnnog. Mae'r band yn cynnwys tri brawd o Fotwnnog, sef Iwan, Dafydd ac Aled Hughes.
![]() | ||||
Cowbois Rhos Botwnnog - Deio Bach
DEIO BACH
Fegais fachgen bach ac annwyl [fegais = fe fegais (o'r berfenw 'magu')]
Ar fy mron mewn trafferth mawr
Deio ti yw’r bachgen hwnnw,
Nas gwn pa le rwyt yn awr
[dw i ddim yn gwybod ble rwyt ti nawr]
Maith yw’r amser er yth gwelais, [er yth gwelais – ers i fi dy weld di]
Fachgen annwyl wyt ti’n iach?
Os nad elli ddyfod trosodd [dyfod = dod]
Danfon lythyr Deio Bach.
Caled yw fy nhamaid bara
Ie caled iawn a phrin
Tra mae ‘mhlentyn mi obeithiaf
Gyda’i fara gwenith gwyn
Tra fod di fy annwyl fachgen
Wrth dy ford heb nych na nam [heb nych na nam = heb eisiau
unrhywbeth]
Os nad ydyw’n ormod gofyn
Cofia damaid gwael dy fam.
Os nad ydyw’n ormod gofyn,
Os nad elli fy helpio ddim
Meiddiaf ofyn un peth iti [meiddio = to dare]
‘falle rho di hwnnw im [im = i mi]
Carreg fedd nid wy’n ei gofyn
Gormod hyn gan hiraeth iach
Dyro ddeigryn wrth fy nghofio [dyro = rho]
Dim ond deigryn Deio Bach.
Tuesday, 15 October 2013
O'ch chi'n gwybod?
Daw’r geiriau gwyddor ac egwyddor o’r Lladin abecedarium, gair a luniwyd i ddynodi’r ABC (aBeCeDarium)
[Ein Cymraeg ar y Trydar]
[Ein Cymraeg ar y Trydar]
Sunday, 13 October 2013
Senghennydd
Blog Vaughan Roderick, BBC Cymru
A fu enw llai addas ar gapel na Noddfa, Senghennydd? Yn sicr doedd na ddim Noddfa i fod i'r 439 o ddynion a bechgyn a laddwyd gan danchwa yng ngwaith y Universal yn Senghennydd yn Hydref 1913 yn y ddamwain ddiwydiannol waethaf yn hanes Prydain.
[noddfa - lle diogel, lloches, encilfa]
[tanchwa - ffrwydriad dinistriol]
Roedd fy hen daid, Tawelfryn, yn weinidog ar y Groeswen, capel uwchlaw Senghennydd ar y pryd. Roedd e wedi bod yn weinidog ar Noddfa, Senghennydd hefyd yn ogystal ag Adulam, Abertridwr - capel arall wnaeth golli degau o'i aelodau yn y trychineb.
Yn ôl y chwedloniaeth deuluoedd cymerodd Tawelfryn ran mewn dros gant o angladdau yn y dyddiau a'r wythnosau ar ôl y ddamwain gan gynnwys yr angladd mwyaf dirdynnol yn hanes Cymru - hwnnw i'r "rheiny nis gellir eu hadnabod" ym mynwent Eglwysilan.
[dirdynnol - poenus ofnadwy]
[nis gellir eu hadnabod - amhosibl i'w hadnabod]
Dydd Llun cynhelir seremoni yn Senghennydd i nodi'r canmlwyddiant a thrwy gyd-ddigwyddiad yr wythnos hon fe aeth gwaith Unity, glofa ddofn olaf Cymru, i ddwylo'r derbynwyr.
[glofa - pwll glo]
Dyw stori'r diwydiant ddim cweit ar ben. Mae gweithfeydd glo brig yn dal i weithio a gallai Unity neu o ran hynny Aberpergwm ail-agor ond llai na mil o bobol sy'n gweithio yn niwydiant glo'r de erbyn hyn.
[gweithfeydd glo brig - surface mines]
Ym mlwyddyn ei anterth cynhyrchodd y maes glo 56 miliwn tunnell o lo a chyflogwyd 232,800 o ddynion. Yn eironig ddigon 1913 oedd y flwyddyn honno.
[anterth - uchafbwynt]
A dyma ni, canrif yn ddiweddarach. Mae Noddfa ac Adulam wedi diflannu. 0.1% o boblogaeth Senghennydd ac Abertridwr sy'n gweithio mewn mwynfeydd a chwareli yn ôl cyfrifiad 2011 a rhan o ardal cymudo Caerdydd yw'r ddau bentref bellach. Dydyn nhw ddim yn arbennig o dlawd nac yn arbennig o gyfoethog o gymharu â gweddill Cymru.
[mwynfeydd - pyllau glo]
[cymudo - commute]
Eto i gyd mae'r gymuned hon rhywsut yn crisialu holl deimladau cymysg pobl y maes glo tuag at y diwydiant. Does neb eisiau'r pyllau yn ôl ond erys rhyw hiraeth am yr hen frawdgarwch ac edmygedd o'r rheiny wnaeth aberthu eu hiechyd a'u bywydau er mwyn rhoi bwyd ar fordydd eu teuluoedd.
[crisialu - crystallize]
[erys - aros 3ydd person presennol]
[edmygedd - teimlad o hoffter a pharch]
Wrth i Carwyn Jones ddadorchuddio cofeb genedlaethol y glowyr yn Senghennydd ddydd Llun mae'n briodol i ni oedi am eiliad i gofio'r diwydiant a wnaeth gymaint i greu'r Gymru fodern - ac i ddiolch i'r nefoedd ei fod yn dirwyn i ben.
[dirwyn - to wind up]

Wednesday, 9 October 2013
Cân yr wythnos - Hen Ferchetan
Hen ferchetan wedi colli'i chariad
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Cael un arall, dyna oedd ei bwriad
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Ond nid oedd un o lanciau'r pentre
Ffol-di rol-dol-di rol-di ro
Am briodi Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Hen ferchetan sydd yn dal i dreio
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Gwisgo lasys sidan ac ymbincio
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Ond er bod brân i bob brân yn rhywle
Ffol-di rol-dol-di rol-di ro
Nid oes neb i Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Hen ferchetan bron â thori'i chalon
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Mynd i'r llan mae pawb o'i hen gariadon
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Bydd tatws newydd ar bren 'falau
Ffol-di rol-dol-di rol-di ro
Cyn priodith Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Hen ferchetan aeth i Ffair y Bala
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Gweld Siôn Prys yn fachgen digon smala
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Gair a ddywedodd wrth fynd adre'
Ffol-di rol-dol-di rol-di ro
Gododd galon Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
#cân
Tuesday, 1 October 2013
Mwyara
Mae Dafydd Morse wedi creu blog arbennig o dda dan yr enw Bwytagwyllt (dolen yn fan hyn) am fwyta bwyd gwyllt. Dyma ei erthygl gyntaf am fwyara:
Fel rhan fwyaf o bobl nes i ddechrau chwilota yn pigo mwyar gyda Nain. Un o f’atgofion cynharaf o fwyd a bwyta yw crymbl mwyar ac afalau a phastai mwyar wedi ei weini gyda digon o hufen.
Dwi dal wrth fy modd yn mwyara a dwi’n dwli ar grymbl ond dwi hefyd yn hoff o feddwl am bethau gwahanol i wneud gyda nhw. Nod y blog yw eich ysgogi i fynd yn fwy anturus ac i agor eich llygaid ymhellach na mwyar ac i weld pa ddanteithion sydd ar gael am ddim yn ein dinasoedd yn ogystal a chefn gwlad.
Dewch gyda fi ar flwyddyn o chwilota. Pwy sydd am drïo?
danteithion - bwyd blasus a moethus (treats, delicacies)
![]() |

Subscribe to:
Posts (Atom)