Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Saturday, 13 October 2018
Ydy'r clociau'n mynd nôl neu ymlaen?
Dyma'r atebion gafodd y gohebydd John Bevan ar strydoedd Aberdâr yn y 60au.
Gweinidog yn herio trolio ar-lein
Rhagfarn a chasineb yn erbyn lleiafrifoedd: ydych chi'n meddwl bod cymdeithas yn fwy goddefgar nag yr oedd hi 50 mlynedd yn ôl? Oes 'na beryg bod agweddau pobl yn gyffredinol yn mynd yn llai goddefgar o, yng ngeiriau Wyn Tomos, "unrhyw un ac unrhyw beth sydd yn wahanol"?
Ffynhonnell: BBC Cymru Fyw
Cyfweliad ar Taro'r Post ar gael yn fan hyn (28 munud i mewn).
Ffynhonnell: BBC Cymru Fyw
Cyfweliad ar Taro'r Post ar gael yn fan hyn (28 munud i mewn).
___________________
Mae gofyn herio pobl sy'n anfon negeseuon ciaidd [= creulon, calon-galed] ar-lein, yn ôl gweinidog gyda'r Undodiaid.
Dros y penwythnos, derbyniodd y Parchedig Wyn Thomas o Landysul negeseuon cas yn ymosod ar ei rywioldeb.
Dywedodd iddo benderfynu wynebu'r bwlio am nad yw bod yn hoyw yn rhywbeth i'w "gwato".
Yn ogystal, ychwanegodd prif weithredwr Stonewall Cymru, bod angen "herio" trolio o'r fath a gwneud ymdrech i gefnogi eraill sy'n cael eu targedu.
'Ddim yn rhywbeth i gwato'
Ar raglen Taro'r Post ddydd Mawrth, soniodd y Parchedig Thomas iddo dderbyn negeseuon cas yn gyhoeddus ac yn breifat oddi wrth griw penodol o bobl.
"A fi'n cymryd yn ganiataol, a falle bo fi'n anghywir, mai fy nhro i oedd hi, a bo nhw wedi gwneud penderfyniad i bigo arna' i dros y penwythnos."
Dywedodd ei fod wedi synnu'n wreiddiol i dderbyn y negeseuon: "Er bo fi'n weinidog mewn ardal ddigon ceidwadol, mae pawb wedi bod yn hynod gefnogol i fi'n bersonol."
Cafodd ei gapel ei alw'n "
sodomite church
" ac fe gafodd y Parchedig Thomas ei annog i gymryd ei fywyd ei hun.
Dywedodd y Parchedig Thomas ei fod wedi herio'r negeseuon am fod teimladau isel o'r fath yn rhywbeth "mae lot o bobol ifanc hoyw wrth dyfu lan yn eu cael" a bod peryg i dderbyn negeseuon o'r fath allu "atgyfnerthu teimladau fel 'na".
"Felly dyma pam o'n i'n teimlo 'mod i am ddweud nad yw bod yn hoyw yn rhywbeth i gwato," meddai.
Ymatebodd y Parchedig Thomas i'r negeseuon yn gyhoeddus, gan nodi na fyddai'n "cywilyddio" nac yn "cuddio".
"Sai moyn rhoi sylw iddyn nhw achos sylw ma' nhw eisiau, ond ar y llaw arall, mae'n hollbwysig bod pobol yng Nghymru a thu hwnt yn ymwybodol mai lleiafrif yw'r bobol sy'n casáu nid dim ond pobol hoyw ond unrhyw un ac unrhyw beth sydd yn wahanol."
Angen herio
Yn ôl Andrew White, prif weithredwr Stonewall Cymru, mae un o bob 10 o bobl LHDT [= Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol Trawsrywiol] yng Nghymru wedi profi negeseuon o'r fath ar-lein yn y mis diwethaf.
Mae un o bob pedwar wedi profi'r fath gamdriniaeth wedi ei anelu at rywun arall ar-lein yn y mis diwethaf, ac ymhlith pobol ifanc, mae'r ffigwr yn codi i ddwy ran o dair.
Dywedodd Mr White bod angen "herio" negeseuon ciaidd o'r fath.
"Os y'ch chi'n dyst i'r fath beth, weithiau dy'ch chi mewn sefyllfa lot cryfach na'r un sydd yn darged i'r casineb," meddai.
"Ewch i sefyll wrth ochr rhywun a neidio mewn, fel petai, i sefyll yn erbyn y fath ymddygiad.
"Cefnogwch bobl sy'n cael eu targedu fel hyn, maen nhw'n fregus ac yn aml dyna'r rheswm pam eu bod yn cael eu targedu.
"Mae'n meddwl y byd ac mae'n cael effaith."
Labels:
cyfryngau cymdeithasol,
hoyw,
LHDT,
materion cyfoes,
undodiaeth
Newyddiaduriaeth Gymraeg i'r genhedlaeth iau
[Ffynhonnell: Datganiad i'r wasg gan S4C]
Mae HANSH, gwasanaeth ar-lein ffurf fer S4C, am roi blas go iawn o newyddiaduriaeth i’w gwylwyr.
Bydd HANSH: Dan Sylw yn rhoi lle i newyddiadurwyr iau fynd i'r afael â'r materion a'r straeon sy'n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru a'r byd.
Tîm materion cyfoes ITV Cymru, y criw tu ôl i gyfresi gafaelgar [gripping], Y Byd ar Bedwar a'i chwaer raglenni Y Byd yn ei Le ac Ein Byd, sydd am ychwanegu elfen newyddiadurol bwysig yma i Hansh.
Trwy’r cynllun ‘Dan Sylw’ rhoddir cyfle, am y tro cyntaf erioed, i newyddiadurwyr ifanc dderbyn hyfforddiant-mewn-swydd a magu’r sgiliau i gynhyrchu cynnwys materion cyfoes ffurf fer yn y Gymraeg.
Mae HANSH yn targedu'r grŵp oed 16-34 gyda fideos hynod ddychmygus, sydd yn aml yn llawn hiwmor a thynnu coes. Mae’r gwasanaeth wedi datblygu dilyniant ar-lein sylweddol ers iddo gael ei lansio'r llynedd, gydag S4C yn cofnodi 4.9 miliwn o sesiynau gwylio yn ystod y flwyddyn sy'n rhedeg o Fehefin 2017- Mawrth 2018.
Un o’r newyddiadurwyr ifanc yn nhîm materion cyfoes HANSH yw Liam Ketcher, 22 o Faesteg.
Dywedodd Liam, a ymunodd â thîm materion cyfoes ITV Cymru Wales ym mis Gorffennaf, "Dwi’n hynod o falch ac yn gyffrous iawn am y cyfle i weithio ar gynnwys newydd ar gyfer Hansh. Pwrpas ‘Dan Sylw’ yw ysgogi trafodaeth am y pynciau sydd yn effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru. Ein gobaith yw ymdrin â'r straeon mewn ffordd ddifyr, hygyrch ac apelgar i gynulleidfa HANSH. Dwi'n edrych 'mlaen yn fawr iawn at ddysgu'r sgiliau hanfodol ar gyfer y swydd hon ac i weithio gyda thîm profiadol ITV Cymru.”
Mae Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees yn credu y bydd y gwasanaeth yn ychwanegiad gwerthfawr at HANSH, sydd hefyd ar gael wedi eu pecynnu mewn rhaglenni yn y slot ar ôl 10 y nos ar wasanaeth teledu S4C.
Ychwanegodd Amanda Rees, "Mae S4C am ddatblygu’r gwasanaethau digidol yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae'r datblygiad hwn yn HANSH yn dangos ein bod ni o ddifri’. Rydym bellach yn darparu newyddiaduraeth sy'n cael ei hymchwilio'n drylwyr i drin a thrafod profiadau a phynciau sy'n berthnasol i bobl ifanc yng Nghymru trwy ffilmiau ffurf fer y maen nhw’n fwy tebygol o edrych arnyn nhw. Bydd yn helpu wrth inni ddatblygu’n gwasanaethau ar gyfer y genhedlaeth iau."
Sunday, 7 October 2018
Cynhaeaf a gaeaf
Un o'r cwestiynau a godwyd yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf oedd "beth yw tarddiad y geiriau hyn?" Dyma ateb Geiriadur Prifysgol Cymru:
Cynhaeaf
Cynhaeaf
[cyn-+gaeaf, cf. Hen Gernyweg kyniaf, glos ar autumpnus]
eg. ll. cynaeafau.
Y gwaith o gasglu neu gynnull cnydau; y cnydau a gesglir; ffrwyth llafur neu waith; adeg
casglu’r cnydau, y trydydd tymor o’r flwyddyn, hydref.
casglu’r cnydau, y trydydd tymor o’r flwyddyn, hydref.
Ystyr tebyg sydd a'r gair medi:
Medi (berfenw):
Torri (cnwd neu blanhigion, yn enw. ŷd) ag erfyn megis cryman neu â pheiriant, torri a
chasglu (cnwd), torri (a chasglu) cnwd (cae, &c.), cynaeafu; torri.
chasglu (cnwd), torri (a chasglu) cnwd (cae, &c.), cynaeafu; torri.
Welsoch chi leuad fedi? (hefyd: lleuad mis Medi)
Byddwn yn casglu cnydau yn yr hydref. Yn ôl GPC, mae'n debyg mai hydd+bref yw tarddiad y
gair 'hydref', sef yr adeg y brefa’r hydd am ei gymar.
Cyhydnos yr hydref: un o’r ddwy adeg yn y flwyddyn pan fydd nos a dydd yn ogyhyd
(gogyhyd = cyhyd, cyfartal ei hyd neu ei barhad). Enw arall ar gyhydnos yr hydref yw Alban
Elfed, sef Alban (cyhydnos, cyfnod o dri mis) + Elfed (el+med, gair gwneud gan W Owen-
Pughe sy'n golygu 'hydref'.
Nid oes cysylltiad rhwng 'alban hydref' a'r Alban, sef enw'r wlad, yn ôl GPC, ond mae 'Alban'
yn stori arall.
Sy'n dod â ni'n ôl at y gair gaeaf.
Hen Gymraeg gaem, Hen Gernyweg goyf, Llydaweg goañv: < Brythoneg *gi̯jámo- (cf.
Gwyddeleg gem yn gem adaig ‘noson o aeaf’), Galeg Giamillus, Giamon- (ffurfiau dalfyredig ar
enw mis), Lladin hiems, Groeg χειμών: < IE. ĝhi̯ōm, *ĝhii̯ōm o’r gwr. *ĝhei, ĝhi- ‘gaeaf, eira’]
GPC: "Pedwerydd tymor y flwyddyn—yr olaf a’r oeraf—yn dilyn yr hydref ac yn blaenori’r
gwanwyn, gan ymestyn o’r 22ain o Ragfyr hyd yr 20fed o Fawrth yn hemisffer y gogledd
(awgryma’r ymadrodd Calan gaeaf fod y gaeaf i’r hen Gymry yn dechrau ym mis Tachwedd).
Ac mi fydd byrddydd gaeaf, sef dydd byrra'r flwyddyn, arnom cyn pen dim.
Cwis: Ym mha dref ydyn ni?
Pa mor dda ydych chi'n 'nabod trefi bach Cymru? Rhowch gynnig ar y cwis yma.
Her 100 Cerdd
Ar ddydd Iau 4 Hydref, sef Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, heriodd Llenyddiaeth Cymru bedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr am y chweched flwyddyn yn olynol.
Y pedwar prysur oedd Manon Awst, Caryl Bryn, Morgan Owen ac Osian Owen.
Bu gofyn i bob un o’r beirdd ysgrifennu o leiaf un gerdd bob awr i gyflawni’r Her 100 Cerdd mewn da bryd. Mae timoedd y gorffennol wedi cyrraedd y nod gydag eiliadau’n unig yn weddill.
Cychwynnodd y tîm arni am hanner dydd ar ddydd Iau 4 Hydref, sef Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol, ac mi roddodd yr atalnod llawn ar y gerdd olaf cyn hanner dydd ar ddydd Gwener 5 Hydref.
Unwaith eto eleni, cafodd y cyhoedd eu gwahodd i ymuno yn yr Her drwy awgrymu testunau a gyrru geiriau o anogaeth dros y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pedair awr ar hugain.
Dyma'r rhestr gyflawn o'r cerddi a gafodd eu cyfansoddi eleni.
Subscribe to:
Posts (Atom)