Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label hoyw. Show all posts
Showing posts with label hoyw. Show all posts

Saturday, 13 October 2018

Gweinidog yn herio trolio ar-lein

Rhagfarn a chasineb yn erbyn lleiafrifoedd: ydych chi'n meddwl bod cymdeithas yn fwy goddefgar nag yr oedd hi 50 mlynedd yn ôl? Oes 'na beryg bod agweddau pobl yn gyffredinol yn mynd yn llai goddefgar o, yng ngeiriau Wyn Tomos, "unrhyw un ac unrhyw beth sydd yn wahanol"?

Ffynhonnell: BBC Cymru Fyw

Cyfweliad ar Taro'r Post ar gael yn fan hyn (28 munud i mewn).

___________________
Mae gofyn herio pobl sy'n anfon negeseuon ciaidd [= creulon, calon-galed] ar-lein, yn ôl gweinidog gyda'r Undodiaid.
Dros y penwythnos, derbyniodd y Parchedig Wyn Thomas o Landysul negeseuon cas yn ymosod ar ei rywioldeb.
Dywedodd iddo benderfynu wynebu'r bwlio am nad yw bod yn hoyw yn rhywbeth i'w "gwato".
Yn ogystal, ychwanegodd prif weithredwr Stonewall Cymru, bod angen "herio" trolio o'r fath a gwneud ymdrech i gefnogi eraill sy'n cael eu targedu.

'Ddim yn rhywbeth i gwato'

Ar raglen Taro'r Post ddydd Mawrth, soniodd y Parchedig Thomas iddo dderbyn negeseuon cas yn gyhoeddus ac yn breifat oddi wrth griw penodol o bobl.
"A fi'n cymryd yn ganiataol, a falle bo fi'n anghywir, mai fy nhro i oedd hi, a bo nhw wedi gwneud penderfyniad i bigo arna' i dros y penwythnos."
Dywedodd ei fod wedi synnu'n wreiddiol i dderbyn y negeseuon: "Er bo fi'n weinidog mewn ardal ddigon ceidwadol, mae pawb wedi bod yn hynod gefnogol i fi'n bersonol."
Cafodd ei gapel ei alw'n " sodomite church " ac fe gafodd y Parchedig Thomas ei annog i gymryd ei fywyd ei hun. 
Dywedodd y Parchedig Thomas ei fod wedi herio'r negeseuon am fod teimladau isel o'r fath yn rhywbeth "mae lot o bobol ifanc hoyw wrth dyfu lan yn eu cael" a bod peryg i dderbyn negeseuon o'r fath allu "atgyfnerthu teimladau fel 'na".
"Felly dyma pam o'n i'n teimlo 'mod i am ddweud nad yw bod yn hoyw yn rhywbeth i gwato," meddai.
Ymatebodd y Parchedig Thomas i'r negeseuon yn gyhoeddus, gan nodi na fyddai'n "cywilyddio" nac yn "cuddio".
"Sai moyn rhoi sylw iddyn nhw achos sylw ma' nhw eisiau, ond ar y llaw arall, mae'n hollbwysig bod pobol yng Nghymru a thu hwnt yn ymwybodol mai lleiafrif yw'r bobol sy'n casáu nid dim ond pobol hoyw ond unrhyw un ac unrhyw beth sydd yn wahanol."

Angen herio

Yn ôl Andrew White, prif weithredwr Stonewall Cymru, mae un o bob 10 o bobl LHDT [= Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol Trawsrywiol] yng Nghymru wedi profi negeseuon o'r fath ar-lein yn y mis diwethaf.
Mae un o bob pedwar wedi profi'r fath gamdriniaeth wedi ei anelu at rywun arall ar-lein yn y mis diwethaf, ac ymhlith pobol ifanc, mae'r ffigwr yn codi i ddwy ran o dair.
Dywedodd Mr White bod angen "herio" negeseuon ciaidd o'r fath.
"Os y'ch chi'n dyst i'r fath beth, weithiau dy'ch chi mewn sefyllfa lot cryfach na'r un sydd yn darged i'r casineb," meddai.
"Ewch i sefyll wrth ochr rhywun a neidio mewn, fel petai, i sefyll yn erbyn y fath ymddygiad.
"Cefnogwch bobl sy'n cael eu targedu fel hyn, maen nhw'n fregus ac yn aml dyna'r rheswm pam eu bod yn cael eu targedu.
"Mae'n meddwl y byd ac mae'n cael effaith."

Wednesday, 6 February 2013

Buddugoliaeth bwysig i gydraddoldeb

Roeddwn wedi hanner-disgwyl i'r bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch priodasau cyfunrywiol fod yn agosach, felly roedd yn braf gweld cydraddoldeb yn curo rhagfarn yn rhwydd, o 400 i 175.

Yn ddigalon, fe bleidleisiodd mwyafrif o'r aelodau Ceidwadol, a phob un o'r saith Cymreig, y ffordd anghywir. Ymunodd Paul Murphy a Dai Harvard o'r Blaid Lafur Cymreig â hwy hefyd. Rhag eu cywilydd. Gallwn ond obeithio eu bod yn sylweddoli bod yr oes yn prysur newid, ac eu bod ar ochr anghywir hanes. Bydd cymdeithas y dyfodol yn ffieiddio at y sawl a bleidleisiodd "na" heddiw, yn union fel yr ydym ninnau'n rhyfeddu o edrych yn ôl ar hilgwn y gorffennol. Dylwn fod wedi dysgu peidio disgwyl gwell gan rai o'n haelodau etholedig erbyn hyn, ond fe ddefnyddiodd un, yn gwbl ddi-eironi, yr hen ystrydeb plentynnaidd a thwp hwnnw am "Adam ac Eve, not Adam and Steve". Fe ddywedodd sawl un arall bod y mater yn un "cymhleth" a bod angen pwyllo cyn gwneud newidiadau mor sylweddol. Y gwirionedd, wrth gwrs, yw bod hyn i gyd yn eithriadol o syml. Dull o ffug-barchuso rhagfarn yw dadleuon felly.

Dim ond megis dechrau yw heddiw, wrth gwrs. Mae llawer mwy o "graffu" i'w wneud, a bydd yn ddifyr gweld sut aiff pethau yn Nhŷ'r Arglwyddi. Ond mae pleidlais heddiw'n hanesyddol, ac mae pethau'n edrych yn addawol iawn.

Fel dyn heterorywiol sy'n priodi ei ddarpar-wraig fis nesaf, rwy'n falch iawn o hynny. Mae'r gwrthwynebwyr yn dadlau bod cyfreithloni priodasau cyfunrywiol yn peryglu priodas ei hun fel cysyniad, fel petai teuluoedd heterorywiol ledled Prydain am chwalu'n deilchion o ganlyniad (na, nid wyf innau'n deall sut chwaith). Noder, gyda llaw, bod llawer iawn o'r aelodau seneddol gwrthwynebus wedi godinebu yn y gorffennol, a bod sawl un ar ei ail neu drydedd wraig. Ond beth bynnag, y gwrthwyneb sy'n wir os rywbeth: rwy'n credu bydd fy mhriodas yn golygu mwy fyth o wybod nad oes carfan gyfan o gymdeithas yn cael eu gwahardd rhag mwynhau'r un breintiau.

(O Anffyddiaeth gan Dylan Llŷr)

Tuesday, 5 February 2013

Priodas Hoyw - ‘Os gwyddoch am unrhyw reswm, rhaid i chwi ei fynegi yn awr.


  1. ‘Os gwyddoch am unrhyw reswm, rhaid i chwi ei fynegi yn awr.’
Mae Stonewall yn annog cefnogwyr i gysylltu ag Aelodau Seneddol heddiw
Wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi'r Bil Priodasau (Cyplau o'r un Rhyw) o’r diwedd, i gyflwyno priodasau cyfartal, mae Stonewall wedi annog cefnogwyr yng Nghymru a Lloegr i ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol yn galw arnynt i gefnogi’r mesur pan fydd yn cael ei drafod ar 5 Chwefror. Canfu arolwg gan Ipsos Mori ym mis Rhagfyr fod 73 y cant o bobl ym Mhrydain yn cefnogi priodasau cyfartal, ond mae Stonewall wedi rhybuddio cefnogwyr yn erbyn cael agwedd hunanfodlon, ac wedi annog pobl strêt i ymuno yn yr ymgyrch dros gydraddoldeb hefyd.

Roedd canlyniadau arolwg YouGov ar gyfer adroddiad Byw Gyda’n Gilydd Stonewall y llynedd hefyd yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl ym Mhrydain yn cefnogi priodasau cyfartal, gan gynnwys tri o bob pump o bobl â ffydd a dros 80 y cant o bobl o dan 50 oed.

Dywedodd Prif Weithredwr Stonewall, Ben Summerskill:  ‘Yn anffodus, mae’r nifer fechan o bobl sy’n erbyn priodasau cyfartal yn defnyddio celwyddau a sïon hyll i ddadlau yn erbyn hynny. Ni ddylai’r rhai sy’n cefnogi’r mesur syml hwn adael i’r lleiafrif croch atal cydraddoldeb. Rhaid i bobl ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol, anfon neges trydar neu e-bost atynt neu eu ffonio i ofyn am eu cefnogaeth cyn dadl Ail Ddarlleniad y Bil ar 5 Chwefror.

‘Rydyn ni angen i bobl strêt sydd â ffrindiau neu berthnasau sy’n lesbiaid neu’n hoywon sefyll dros eu hawliau hefyd. Mae cydraddoldeb o fudd i bawb, a dyna pam ein bod ni’n gofyn i bawb sy’n cefnogi’r bil annog eu Haelodau Seneddol i bleidleisio o’i blaid.  Neges syml sydd gennym. ‘Os gwyddoch am unrhyw reswm, rhaid i chwi ei fynegi yn awr.’
diwedd.

(Erthygl o wefan Stonewall Cymru)

     2. Priodas hoyw: cyflwyno llythyr yn gwrthwynebu i’r Prif Weinidog

Bydd cynrychiolwyr ugain o gadeiryddion Cymdeithasau’r Blaid Geidwadol yn mynd â llythyr yn gwrthwynebu priodas rhwng hoywon i 10 Downing Street yn ystod y dydd.

Yn ôl y llythyr mae nhw yn pryderu am sgîl effeithiau’r bleidlais yr wythnos nesaf yn Nhy’r Cyffredin i roi’r hawl i gyplau hoyw briodi.

Dywed y llythyr bod y cadeiryddion “yn poeni os y caiff y mesur ei droi’n ddeddf, bydd hyn yn arwain at niwed sylweddol i’r Blaid Geidwadol yn y cyfnod sy’n arwain at yr etholiad cyffredinol yn 2015.”

Mae’r llythyr hefyd yn dweud bod nifer sylweddol eisioes wedi ymddiswyddo o’r blaid oherwydd eu gwrthwynebiad i’r mesur gan ychwanegu bod y nifer yma yn debygol o gynyddu.

Yn y cyfamser, mae papur y Sunday Telegraph yn proffwydo y bydd tua 180 o aelodau seneddol Ceidwadol, gan gynnwys pedwar aelod o’r Cabonet. yn pleidleisio yn erbyn y cynllun.

(Diolch i Golwg360)

     3. Pryderon offeiriaid tros briodasau hoyw

Mae tros 1,000 o offeiriaid wedi arwyddo llythyr yn lleisio eu pryderon ynglyn â’r modd y bydd priodasau hoyw yn bygwth rhyddid crefyddol – ac y gallai hyd yn oed arwain at rai Pabyddion yn cael eu heithrio o swyddi.

Yn y llythyr, sydd wedi’i gyhoeddi ym mhapur newydd y Daily Telegraph heddiw, mae’r offeiriaid yn honni fod priodasau rhwng unigolion o’r un rhyw yn bygwth cyfyngu ar ryddid crefyddol yn yr un ffordd ag y gwnaed yn ystod y canrifoedd o erlid Catholigion yn Lloegr.

Mae’r llythyr wedi ei arwyddo gan 1054 o offeiriaid, 13 o esgobion, abadau a chlerigwyr Pabyddol. Mae’n dadlau y gallai’r weithred syml o drafod eu ffydd, gael ei chyfyngu’n aruthrol.

(Diolch i Golwg360)