Mae Canolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg wedi cyhoeddi uned arbennig o'i chwrs Uwch 1 newydd i gyd-fynd â Dydd Miwsig Cymru ar y 9fed o Chwefror 2018.
Ceir nifer o glipiau a chyfweliadau ar wefan y Ganolfan Genedlaethol yma a llwyth o adnoddau digidol eraill yma, gan gynnwys erthygl am hanes cerddoriaeth pop Cymraeg a rhestr o gigs a digwyddiadau.
Dolenni eraill:
Huw Stephens yn cyflwyno Dydd Miwsig Cymru (is-deitlau Cymraeg)
Ysgol y Strade - beth yw'ch hoff gân Gymraeg?
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Sunday, 28 January 2018
Wednesday, 24 January 2018
Ail-adeiladu Nepal
Diolch i Hansh am y clip yma.
Sunday, 21 January 2018
Cwis: Mynyddoedd Cymru
Dyma i chi gwis heriol. Diolch i BBC Cymru Fyw.
Pryder am ddyfodol banciau Aberteifi
Dyma adroddiad gan Iwan Griffiths ar gyfer BBC Cymru Fyw.
Sut bydd colli canghennau banciau yn effeithio arnoch chi, a sut bydd yr effaith ar y dre a busnesau lleol?
Sut bydd colli canghennau banciau yn effeithio arnoch chi, a sut bydd yr effaith ar y dre a busnesau lleol?
Hanes yr iaith mewn 50 gair: Ceffyl
Anifail pedwarcarnol cryf a chyflym a chanddo fwng a cynffon, a ddofwyd gan ddyn i’w farchogaeth a hefyd i gludo beichiau ac i dynnu cerbydau, &c., march a ddisbaddwyd yn ebol. (Geiriadur Prifysgol Cymru)
Ifor ap Glyn: Ceffyl
Nodiadau
Gwyddeleg: capall
Lladin: caballus
Sbaeneg: cabalo
Ffrangeg: cheval
Gee, geffyl bach, yn cario ni'n dau
Dros y mynydd i hela cnau;
Dŵr yn yr afon a'r cerrig yn slic,
Cwympo ni'n dau. Wel dyna i chi dric!
Cwyd Robin bach a saf ar dy draed,
Sych dy lygad, anghofio'r gwaed;
Neidiwn ein dau ar ein ceffyl bach gwyn,
Dros y mynydd, ac i lawr y glyn.
Gee, geffyl bach dros frigau y coed,
Fel y Tylwyth Teg mor ysgafn dy droed,
Dros y mynydd i hela cnau;
Dŵr yn yr afon a'r cerrig yn slic,
Cwympo ni'n dau. Wel dyna i chi dric!
Cwyd Robin bach a saf ar dy draed,
Sych dy lygad, anghofio'r gwaed;
Neidiwn ein dau ar ein ceffyl bach gwyn,
Dros y mynydd, ac i lawr y glyn.
Gee, geffyl bach dros frigau y coed,
Fel y Tylwyth Teg mor ysgafn dy droed,
Carlam ar garlam ar y cwmwl gwyn;
Naid dros y lleuad, ac i lawr at y llyn.
Naid dros y lleuad, ac i lawr at y llyn.
______________
dofi = gwneud yn ddof
march, stalwyn, caseg, ebol - ond beth am y ffurfiau lluosog?
march, stalwyn, caseg, ebol - ond beth am y ffurfiau lluosog?
Hen air Celtaidd arall am 'ceffyl': epos
Wedi goroesi yn yr enw Epynt
"rhywun yn mynd am ei hynt", h.y. 'mynd ar ei siwrne'
Ystyr 'Epynt' felly yw epos+ hynt: lle mae ceffylau yn gallu mynd ar eu hynt
tan ddyfodiad yr injan betrol, ceffylau oedd yr unig ffordd o fynd o le i le yn gynt nag y gellid cerdded...
y ffordd orau o symud llwythau trwm
Defnyddio mwy nag un ceffyl...dyna wreiddyn yr ymadrodd "ceffyl blaen": yr un mewn pâr oedd yn arwain.
tinc beirniadol
'Mae e'n licio bod yn geffyl blaen', h.y. os na chaiff e arwain, efallai na fydd e'n barod i gydweithredu.
Creadur cydnerth yw'r ceffl - cydnerth = cryf a chytbwys
Dihareb: Ceffyl da yw ewyllys
Hynny yw, mae ein hewyllys, ein hawydd i wneud pethau'n gallu sicrhau eu bod nhw'n digwydd.
'Where there's a will, there's a way', chwedl y Sais.
Pan soniwn ni fod rhywun 'ar gefn ei geffyl', dyn ni'n cyfeirio at rywun sy wedi mynd i stêm (= to get worked up) wrth dreithio rhyw bwnc neu'i gilydd.
treithio = traethu = express, speak, declare, discuss
mae'r ddelwedd yn dod o fyd marchogaeth
mae'n anoddach gwrthsefyll rhywun sydd "ar gefn ei geffyl" o gymharu â rhywun sydd ar droed.
mae'n haws iddyn nhw fwrw yn eu blaen i siarad
mae'r gair marchogaeth ei hun yn tarddu o'r gair march, neu a bod yn fanwl gywir, y gair marchog.
marchogaeth yw'r gair am sut mae'r marchog yn rheoli'r ceffyl oddi tano.
marcho - gair yn y gorllewin am gyfathrach rhywiol (hefyd 'to be in heat' RV)
march y plwyf = rhywun sy'n rhy hael ei ffafrau efo merched
edrych mewn i lygaid ceffyl benthyg - 'look a gift horse in the mouth'
Yn Sir Gaerfyrddin, os yw merch yn treulio gormod o amser yn ffysian o flaen y drych cyn cychwyn allan, byddai rhywun yn siŵr o ddweud wrthi, "Stopith neb geffyl gwyn ei frychid arno"
frychid? = brechlyd, sef pock mark, scab
H.y. er gwaetha ei enw, nid yw ceffyl gwyn yn hollol wyn. Mae rhyw flewiach du ac ambell frycheuyn (= spot, blemish) ynddo.
a'r argraff sy'n bwysig...
Os yw'r ceffyl yn cael ei ddefnyddio i ddysgu gwers fanwl i rai ifanc, gallwn ni ei ddefnyddio hefyd i anelu gair o feirniadaeth at rywun hŷn.
Anodd tynnu cast o hen geffyl
cast = tric neu arfer ddrwg
rhywun sy wedi setlo yn ei ffyrdd...methu rhoi heibio arferion drwg
Ceffyl pren - term am fath o degan plentyn, a hefyd yn gallu cyfeirio at draddodiad gynt lle'r roedd y dorf yn cymryd pethau i'w dwylo eu hun er mwyn mynnu cyfiawnder am drosedd.
Byddai'r troseddwr yn cael ei glymu i'r ceffyl pren, sef math o ffrâm bren
er mwyn codi cywilydd arno fe
gallai landlordiaid llym gael eu cosbi fel hyn neu'r rhai oedd wedi godinebu (= fornicate), neu dadau plant llwyn a pherth
gwadu cyfrifoldebau...gwrthod cyfrannu at fagwraeth eu plant
Sunday, 14 January 2018
Ateb y Galw: Huw Edwards
BBC Cymru Fyw: Y newyddiadurwr Huw Edwards sy'n Ateb y Galw yn tro yma.
Thursday, 11 January 2018
Chwith
Ifor ap Glyn sy'n esbonio hanes diddorol y gair chwith.
Codi’ch gwrychyn – raise your hackles
Llaw dde.............llaw chwith
Chwithig..................lletchwith
Yr ochr gyferbynniol i’r dde...
Yn yr un modd – in the same way
Bydd yn chwith
ar ei ôl e – byddwn yn gweld ei eisiau
Pethe’n dechrau
mynd yn chwith
Yr iaith fain
Trwsgl
Amheus
Cyn canmol gormod ar y Ffrancwyr, maen nhw llawn cynddrwg
â ninnau
di-dact
prin o sensitifrwydd cymdeithasol
deheuig – medrus, bod yn fedrus gyda dy ddwylo
tu chwith allan......
tu chwith ymlaen
tarddu o
rhywbeth sy’n groes i’r drefn arferol
ym myd gwleidyddiaeth
daliadau - barnau
ceidwadol
senedd-dai
llefarydd
adain
chwith adain dde
ar ddeheulaw’r
llefarydd
cwmpawd
aswy
cledd – (chlé yn y Wyddeleg) gogledd
mae hynny ‘mond yn gwneud synnwyr
adlewyrchu - reflect
dwyrain
cydnabyddiaeth - recognition
Subscribe to:
Posts (Atom)

