[Erthygl wreiddiol ar wefan
BBC Cymru Fyw]
O weithio mewn ffatri gwneud
corsedau i greu ffrwydron mae profiadau dros 200 o fenywod oedd yn
gweithio yn ffatrïoedd Cymru yn y ganrif ddiwethaf wedi eu casglu gan
Archif Menywod Cymru.
Bwriad prosiect Lleisiau o Lawr y Ffatri ydy tynnu sylw at gyfraniad menywod i'n diwydiannau gweithgynhyrchu [=manufacturing].
"Er
bod arwyddocâd y diwydiannau gweithgynhyrchu i economi Cymru yn y
cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd yn cael ei gydnabod, caiff cyfraniad
allweddol y menywod ynddynt eu hanwybyddu droeon," meddai Catrin
Stevens, cydlynydd prosiect Lleisiau o Lawr y Ffatri gan Archif Menywod
Cymru.
Cyn i'r atgofion fynd yn angof mae'r archif wedi gwneud 210
o gyfweliadau, 60 yn y Gymraeg, gyda menywod yn disgrifio bywyd a
gwaith mewn 208 o ffatrïoedd gwahanol. Fe fyddan nhw i'w cael ar wefan
newydd
Lleisiau o Lawr y Ffatri.
Dyma rai o leisiau a phrofiadau menywod Cymru oedd yn rhan o'r prosiect:
Ffatri 'Tic Toc', Ystradgynlais
"O'dd pawb wrth eu bodd i ga'l swydd 'na achos o'dd dim byd 'ma ...
dim byd i ferched erioed ... ar wahân i fynd i sgrwbo neu rywbeth
fel'na.
One pound two and six o'dd 'y 'nghyflog cynta' i. O'n i'n meddwl bo fi'n gyfoethog!" -
Joyce Evans
Roedd ffatri gwneud oriorau (
watches)
Anglo-Celtic Co. Ltd. yn Ystradgynlais yn cael ei adnabod yn lleol fel
'ffatri Tic Toc'. Roedd yn cyflogi cannoedd o bobl o Gwm Tawe, Dyffryn
Aman a Dyffryn Dulais.
Roedd angen gwaith manwl iawn i gynhyrchu'r oriaorau ac roedd mwyafrif y gweithlu yn fenywod.
Ffatri ddillad Alan Paine, Rhydaman
"O'dd e fel
jail sentence… O'ch chi'n eistedd yn eich sêt ac
yn 'neud yr un peth o fore gwyn tan nos. O'ch chi'n mynd i ga'l cino,
ac o'ch chi'n dod nôl a neud yr un peth. Ac o'ch chi'n mynd gatre. Ac
oedd e fel ... o'n i'n teimlo fel 'sen i mewn bocs."
- Nan Morse
Cwmni
Seisnig yw Alan Paine ond roedd ganddo weithwyr yn Rhydaman o'r 1940au
hyd at 2001.
Mae'n debyg fod siwmperi a chardigans gwlân y cwmni wedi eu
gwisgo gan Edward VIII, chwaraewyr Wimbledon, tîm rhwyfo Rhydychen a
George Mallory ar ei daith drychinebus i ben Everest yn 1924.
Ffatri Bop Corona, Porth, Rhondda
"O'dd dwy oferól 'da ni ac un pâr o glocsie. Os elen ni mas amser
cinio, o'n nhw'n gallu clywed ni'n dod filltir bant ... O'n nhw i gyd yn
gwbod bod ni'n dod o Corona, oherwydd y clocsie." -
Maureen Jones
Roedd
ffatri bop Thomas ac Evans yn y Porth yn gwmni enwog ar ddechrau'r
20fed ganrif oedd yn gwerthu pop Corona dros Brydain. Caeodd y cwmni yn
1987 a bu'r adeilad wedyn yn stiwdio deledu a cherddoriaeth i gwmni
Avanti am 10 mlynedd.
Ffatri Gorsedau, Caernarfon
"Llawr concrit oedd o, ac oedd 'na lwch yna, calch oddi wrth y corsets. A dyn yn dod â dŵr i mewn, mewn
watering can.
"Wedyn oedd o'n mynd rownd y lle fel 'na a watero'r llawr, er mwyn cadw'r llwch i lawr.
"Ac oedd hi'n oer yno, doedd 'na ddim
heating,
na dim byd, 'sti. Ond i fyny'r grisiau, oedd 'na ffenestri tŷ gwydr a
pan oedd hi'n haf, oedd hi'n berwi. Oedden ni'n cael ein cwcio'n fyw." -
Dilys Wyn Jones.
Roedd ffatri gorsedau Caernarfon hefyd yn cael ei hadnabod fel y 'ffatri staes'.
Hufenfa Felin Fach, Ciliau Aeron, Ceredigion
Un o staff yr hufenfa oedd Meiryl James. Mae i'w gweld yn y llun
uchod, ar y dde, yn profi llaeth ar y dec yn yr Hufenfa, tua 1959.
Agorodd
Hufenfa Felin Fach gan y Bwrdd Marchnata Llaeth yn 1951. Gan dderbyn
llaeth o 2,000 o ffermydd lleol roedd yn ganolfan ar gyfer dosbarthu
llaeth a chynhyrchu menyn a llaeth powdr.
Ffatri Ffrwydron Cookes, Penrhyndeudraeth
"Ni chefais ysgol uwch na choleg ond bu gweithio yn y gwaith yn
brofiad ac yn agoriad llygad ac roedd cymeriadau annwyl a chlyfar i'w
canfod yn ein mysg."
- Susie Jones
Roedd
y ffatri'n eiddo i Cookes Explosives Ltd ac yn creu ffrwydron ar gyfer y
rhyfel gan roi hwb mawr i economi'r ardal ar y pryd. Fe gaeodd y ffatri
yn 1997 ac mae nawr yn safle i warchodfa natur.
Roedd ffrwydriad yn y ffatri yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe ysgrifennodd athrawes o Minffordd, o'r enw Catherine Williams, am y digwyddiad mewn llythyr at ei chyfneither yn 1915.
Gwaith tunplat y Mansel, Aberafan
"Wedodd 'n whâr i o'dd yn gwitho 'na ar y pryd, wrth y rheolwr mod i'n edrych am waith, a wedodd e 'Faint yw 'i hoedran hi?'
"'14
wedodd hi..... '. 'Faint yw 'i hoedran hi?' wedodd e 'to. 'O.... 16!'
wedodd hi. Felly dechreues i witho yn gwaith tun y Mansel... ond o'dd
e'n galed iawn."
- Isabel Thomas
Yn wahanol i'r
gwaith dur gerllaw ym Mhort Talbot, lle nad oedd prin ddim merched yn
gweithio, roedd rhai elfennau o waith tunplat yn cael ei ystyried yn
addas i fenywod.
Fe gollodd Gwaith Tunplat y Mansel nifer fawr o ddynion i ymgyrchoedd recriwtio'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn y 19eg ganrif roedd tua hanner y tunplat a gynhyrchwyd yn y byd yn dod o Lanelli a'r ardaloedd gerllaw.
Ffatri Byjamas Aykroyd, Y Bala
"Dw i'n cofio y tro cyntaf, y cyflog cyntaf ges i oedd £11 a rhywbeth am 40 awr. Ond oedd o'n lot o bres." -
Catherine Parry
Roedd
ffatri gwneud pyjamas Aykroyd yn cyflogi dros 60 o weithwyr lleol yn y
Bala pan gaeodd yn 2007 wrth i'r cwmni fuddsoddi mwy yn eu gweithlu yn
China. Er hynny, mae ganddyn nhw ganolfan yn dal i fod yno.