Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday, 29 March 2018

Rhyfel a heddwch (1) - Brwydr y Preselau

Adolygiad Gwyn Griffiths o Brwydr y Preselau gan Hefin Wyn (erthygl o wefan y BBC). 

Mwynhad arbennig fu darllen Brwydr y Preselau gan Hefin Wyn - hanes ymdrech pobol yr ardal unigryw honno i achub 60,000 erw o diroedd rhag eu cipio [snatch] gan y Swyddfa Ryfel.
Brwydr a barhaodd o 1946 hyd 1948.

Clawr y llyfr Gwyddom am yr hyn a ddigwyddodd i Epynt a'r modd y dinistriwyd ardal Gymraeg ei hiaith ac y symudwyd teuluoedd lawer o'u cartrefi.

Ond ni wyddom hanes y frwydr i achub calon Gogledd Sir Benfro, hwyrach oherwydd - yn wahanol i Epynt a Thryweryn - mai 'ni' enillodd yn yr achos hwn!

Ymladdodd preswylwyr y Preselau frwydr gyfrwys [crafty, cunning, subtle] ddigyfaddawd  [uncompromising] yn erbyn holl rym [grym = pwer] ac adnoddau y Swyddfa Ryfel.

Fel y sgrifennodd Waldo Williams yn ei gerdd Preseli ar y pryd: "Mae rhu, mae rhaib drwy'r fforest ddiffenestr, [rhu = roar, rhaib = greed, rapacity]
Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw."

Bu ymateb chwim [agile, nimble] a phendant y trigolion i'r newydd fod y Swyddfa Ryfel yn llygadu mynyddoedd y Preseli yn arwyddocaol [significant] yn yr hanes cynhyrfus [exciting, moving] hwn.

Taranu yn erbyn

Trannoeth i'r stori ymddangos yn y Western Mail yr oedd y Cynghorydd Mathias Davies, gweinidog Capel y Gelli, Llawhaden, a Horeb, Maenclochog, ar ei draed yn taranu yn erbyn cynllun yng Nghyngor Sir Benfro gan sicrhau gwrthwynebiad ei gyd-aelodau.

Ymhen dim o dro yr oedd Pwyllgor Diogelu'r Preselau wedi ei ffurfio gyda Mathias Davies, yn enedigol o Solfach, yn gadeirydd.

Diddorol gweld cynifer o weinidogion ar flaen y gad [battle] - dynion fel y Bedyddiwr [Baptist] R Parri Roberts, Bethel, Mynachlog-ddu, cenedlaetholwr a heddychwr gwargam [stooping], tanbaid [fiery, hot-blooded] o Fodedern [Bodedern = pentref yn Ynys Môn].

Un arall oedd y Parch Joseph James, gweinidog gyda'r Annibynwyr ym Methesda, Llawhaden, a Phisgah, Llandysilio, ond yn frodor o Ddowlais.

Yn ogystal â bod yn 'bregethwyr mawr' roedd y tri hyn yn arweinyddion yn eu cylchoedd hefyd; yn ddynion a digon o hyder i ymladd y frwydr ar eu tir ar eu telerau [terms] nhw eu hunain - nid ar dir y gelyn.

Gweddi

Adroddir y stori, sy'n rhan o chwedloniaeth [chwedl = legend] y fro, am gynrychiolwyr [cynrychioli = to represent] y Swyddfa Ryfel yn dod i gyfarfod â'r trigolion ym Maenclochog.

Ac wrth i un o'r swyddogion milwrol ddechrau ar ei ffregod [chatter] torrodd Joseph James ar ei draws gyda'r geiriau, "Gadewch i ni weddïo ..." a galw ar Parri Roberts i arwain.

Yn ôl yr hanes bu'r weithred seml hon - mewn iaith oedd yn ddieithr iddynt - yn fodd i fwrw cynrychiolwyr y Swyddfa Ryfel oddi ar eu hechel [axle - i.e. throw them off balance].

A phan ddechreuodd y swyddogion milwrol ddadlau mai tir sâl [here: barren] oedd dan sylw yr oedd Parri Roberts yn ei dro yn annog Joseph James i ddweud wrthyn nhw mai "magu eneidiau" [souls] oedden nhw'n wneud ar lechweddau'r Preseli.

Ar bob ffrynt

Ymladdwyd y frwydr ar bob ffrynt posib - y perygl o ddifwyno'r cronfeydd [contaminate reservoirs] dŵr oedd yn diwallu [darparu, supply] trefi Hwlffordd ac Aberdaugleddau; y cyfoeth henebion [monuments] a chysylltiadau'r fro gyda Chôr y Cewri [Stonehenge], y Mabinogi a chwedlau Arthur; y bywyd gwyllt; y ffaith fod cynllun ar droed i roi statws Parc Cenedlaethol i'r ardal; yr iaith a'r diwylliant; Dewi a'r seintiau a'r cysylltiadau â Thyddewi ...

Cadwyd y storm i fynd gyda llythyron ac erthyglau i'r wasg ac yn ôl Hefin Wyn y cyntaf i ymateb i'r newydd oedd D J Williams, Abergwaun, un o'r tri roes dân i'r ysgol fomio ym Mhenyberth [Ar yr 8fed o Fedi 1936, aeth y darlithydd Saunders Lewis, yr athro D J Williams a'r gweinidog Lewis Valentine i'r safle ym Mhenyberth liw nos a rhoi peth o'r deunydd adeiladu ar dân. Aethant at yr awdurdodau wedyn i gyfaddef i'w gweithred o brotest symbolaidd. Maes o law, wedi dau achos llys, fe garcharwyd 'Y Tri' fel y cawsant eu hadnabod wedyn] .

Mewn llythyron yn y Western Mail a'r papurau lleol galwodd am ddefnyddio "bob dull moesol [moral] ac ysbrydol" i ymladd.

Dywed Hefin Wyn i DJ fod yn procio'n ddyfal [procio = to poke] ar y cyrrau [i.e. stirring things up from the fringes]ond heb fod yn or-amlwg .

Yr oedd yr hen gadno'n gyfrwys [cunning] iawn, oherwydd er ei fod yn annwyl iawn yng ngolwg llawer o'i gyd Gymry nid pawb yng nghyffiniau Abergwaun edrychai arno fel arwr cenedl.

Ac os oedd yna garfan [group, squad] sylweddol o weinidogion oedd yn bopeth yn ardaloedd y Preselau, roedd y prifathrawon lleol yn amlwg yn y frwydr - neb yn fwy na Titus Lewis, Maenclochog, ddewiswyd yn ysgrifennydd y Pwyllgor Diogelu.

Papurau lleol

Clywais fod Hefin Wyn yn gofidio [afflict, grieve, regret] iddo droi'n hwyr yn y dydd at y pwnc hwn a bod nifer fawr o'r rhai brofodd ferw'r frwydr [those who tried to bring the battle to the boil] wedi marw cyn iddo gael y cyfle i'w holi ond y mae yna ddywediad Saesneg i'r perwyl mai [here, to the effect that] "newyddiaduraeth yw drafft cyntaf hanes" a chafodd yntau gloddfa [quarry,mine] werthfawr o wybodaeth mewn papurau lleol fel y County Echo, Abergwaun, y Tivyside and District Advertizer yn Aberteifi, y Western Telegraph yn Hwlffordd ac uwchlaw pobun, y Narberth, Whitland and Clynderwen Weekly News, argraffiad o'r West Wales Weekly Observer, Dinbych-y -pysgod.

Mae'n amlwg bod y golygydd [editor], Glyn Walters, yn ogystal â gohebwyr eraill y Weekly News gant y cant y tu cefn i frwydr trigolion y Preselau i gadw'u hetifeddiaeth [heritage].

Er, yn rhyfedd braidd, ni cheir yn y gyfrol gyfeiriad o gwbl at bapur arall tref Hwlffordd, y West Wales Guardian.

Gwelwn fod diddordeb mawr gan Y Cymro yn y frwydr yn ogystal â Baner ac Amserau Cymru lle bu Saunders Lewis a Kate Roberts yn annog a chefnogi.

Ffynonellau eraill y gwaith clodwiw [commendable] hwn yw dogfennau swyddogol y Llywodraeth a chofnodion y Pwyllgor Amddiffyn a ddiogelwyd gan deulu Titus Lewis.

Darlun o gymdeithas

Wrth gloddio [dig. mine] yn y papurau lleol, gwelir bod Hefin Wyn wedi'i hudo [entranced] gan straeon eraill yn y papurau, adroddiadau am achosion llys, eira mawr 1947, cyfarfodydd cystadleuol, eisteddfodau, dramâu, Cymanfaoedd Canu ac ati ac ar un olwg gellid tybio eu bod yno i besgi [fatten] rhywfaint ar y gyfrol ond maent hwythau yn cyfrannu at greu darlun o gymdeithas wledig, ddiwylliedig [cultured], ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, yn ddibynnol ar ei hadnoddau ei hun am ddifyrrwch [amusement, diversion].

Yn ystod cyfnod byr yn gweithio yn yr ardal, cefais gyfarfod amryw o'r bobol y cyfeirir atynt yn y gyfrol - yn arbennig Parri Roberts a Titus Lewis.

Hefyd y cyn Arolygwr Ysgolion, Caleb Rees, un arall o arweinwyr y Pwyllgor Amddiffyn, gŵr a aned yn Esgairordd, ger Crymych, ond a oedd erbyn hynny wedi ymddeol i Dalacharn, ac yr oeddwn yn adnabod y prifathrawon a enwir bob un.

Stori gyffrous

Melys, hefyd, yw gweld enwau nifer o bobol ifanc y deuthum [des i] i'w hadnabod yn dda ddechrau'r Chwedegau - a gwerth nodi fod gan y Parch Parri Roberts un ferch ychwanegol i'r rhestr o'i blant yn y gyfrol, sef Morfudd.

Cofiaf y tro diwethaf i mi i'w chyfarfod mewn Cymanfa Ganu yn un o gapeli Cymraeg Llundain tua 1971.

Dyma, yn wir, stori i gynhyrfu'r [stir, excite] gwaed y dylem fel cenedl ymfalchïo ynddi.

Hambons - Shelffo neu ar y shelff?


Ar drothwy’r Brifwyl, mae’r ferch off y teli wedi ysgrifennu canllaw i ferched Cymru ar sut i adnabod dynion dawnus, a’r rhai llai medrus hefyd…mae ei thesis yn seiliedig ar drip diweddar i Sioe Frenhinol yr Amaethwyr…

Shelffo neu ar y shelff…..?

Roedd y pedwar diwrnod ‘na ’di cyrraedd.
Y pedwar diwrnod sydd ‘da ffermwyr Cymru i wasgaru eu holl spesamins amaethyddol ar hyd merched Cymru.
Wrth sefyll ym mhabell y members, edryches i o ’nghwmpas a gweld dau gategori o ddynion.
Y ‘shelffwyr’ a’r rheini ‘ar y shelff’.
Bydde chi’n meddwl taw oedran oedd y prif wahanieth – ond, nage wir. Ma’ shelffwyr o bob oedran i ga’l. Yn amlwg ma’ gyda chi’r rheini yn eu harddege sy’ ‘na yn eu t-shirts YFC, a llun pidlen mewn lipstic ar eu talcen a staen seidr a blac dros eu shorts newydd o’dd mam ‘di prynu iddyn nhw o sêl Peacocks cyn iddyn nhw fynd.
I ‘weud gwir, ma’ nhw’n ddigon diniwed, os nagich chi’n meidio gorfod gwylio nhw’n llyfu gwyneb rhyw ferch yn y gornel tra’n trio byta byrgyr a pisho r’un pryd…
Gyda llaw, sôn am grysau-t YFC, un o’n hôff bethe i  yn yr ŵyl oedd darllen y slogans ar gefn y cryse-t. Ma’ nhw’n mynd yn waeth – ond eto’n well – bob blwyddyn. Yr un dynnodd y’n sylw i ‘leni (a fi ddim yn gwbod ai oherwydd bod tua 50 ohonyn nhw’n gwisgo fe, neu oherwydd pa mor ‘glyfar’ odd y slogan….) oedd -  ‘I hope you’ve got pet insurance… ar y blaen, a ‘because I’m going to destroy your pussy’ ar y cefn….. sdim lot yn secsiach na ‘na oes e?
Os ydych chi’n ferch sy’ wedi cwmpo am y crys-t yma, fi’n argymell dwrnod i chi’ch hunan, yn iste mewn capel tywyll damp, yn gwrando ar ‘Dod ar fy mhen’ drosodd a throsodd, er mwyn i chi ystyried trywydd eich bywyd.

A’r math arall…

Y math arall o ‘shelffwr’ yr oeddech chi’n ca’l yn stelcian o amgylch y members oedd y ‘sleimers’. Chi’n gwbo, rheini ‘da lliw haul, un eyebrow sy’n codi a sgidie call ar gyfer yr achlysur, rheini sy’n rhoi ‘i llaw ar waelod ych cefn tra’n gweud – ‘ie… shwt i ti de calon’  a wedyn chi’n gweld e’n cropian mas o rw garafan am 7:30 yn gwisgo specs haul a’n anadlu ar ‘i law er mwyn asesu’r sefyllfa ‘da’r anal.
As in ‘anadl’ mewn acen Sir Geredigion….
Gosh, sa i’n gw’bod pa shelffwr sy’ waetha.

Baw isa’r domen

Wedyn ma’ ‘da chi rheini ar y shelff.  Rheini â’u siwmperi ‘di clymu rownd ‘u canol.  Â dau gorn bach piws tywyll yn codi oddi ar ‘u gwefusau o ganlyniad i yfed 70 peint o seidr a blac mewn dwy awr.
Nhw yw’r rhai sy’n stelcian ffwrdd ar ben eu hunen hanner ffordd drwy’r noson i gal jumbo sosej a can o vimto, cyn dod nol i floeddio canu ‘I am the one and only…..’ cyn trio fe mlân ‘da merch ifanc feddw mewn hotpants…. Methiant… Y ferch yna odd yn ysgol ‘da fe odd arfer bod yn hot ond nawr sy di cal tri o blant …methiant…..cyn setlo am un o ffrindie ei fam sy newydd ga’l ysgariad….
Felly, ferched hynod lwcus Cymru, beth yw hi fod?
Falle bod angen dechre ysgol, yn debyg i Lanaethwy ond i fechgyn ifanc… Gwersi fflirto o’r radd uchaf…. Athrawon megis  Chiz, Bryn Fôn, Dewi Pws…. hmm
Beth bynnag, shelffwr neu beidio, os i chi’n gadel Builth ‘da ffarmyrs tan, mwd dan eich gwinnedd a hici, chi ‘di joio’ch hunen. Hwre i Hambons weda i.
Ma dau o’r tri da fi….

Lisa ‘ar y shelf’ Angharad

Mrs Jones Rhif 1

Mae Mrs Jones Rhif 1 yn trydar......

Cwyno am bopeth - sdim byd arall i wneud dyddie 'ma ers colli'r gwr. Ethon ni i G'rdydd i weld y rygbi yn '99 golles i fe ar Queen St ac heb ei weld ers hynny.

Neis gweld cymaint o ferched sy'n canu yn yr Wyl Gerdd Dant yn cefnogi Movember.
Cerdd Dant a rygbi drwyr dydd ar S4C - diolch i Dduw am - Strictly a'r X Factor heno!


Ro'dd y rhaglen dathlu 30yrs S4C yn warthus. Sen i ishe clywed barn pobol gyffredin ar bethe ar y teli elen i'r Feathers ar nos Wener!
Dafydd a Caryl yn dringo 5 copa? Word to the wise - Dafydd tria golli hi ar ben un ohonyn nhw - ei llais yn mynd ar nerfau fi.Sbwylo'n Alpen!
Prynhawn Da yn dangos i ni shwt ma' fframio llun yn iawn - os na allwch chi fframio llun dyle chi fod mewn home!
Shortlist rhaglenni gore S4C ers 30 yrs - sen i ddim yn dewis un o nhw! Bacha hi o ma? Cyw Haul? Nyth Cacwn? Na'r goreuon? Bugger me!!
Yn watcho 'Heno' ar S4C yn y prynhawn - Jiw - ody Sian Thomas gorfod bod mor irritating? Pam ma' hi's siarad fel gog?
o jiw - newydd watcho golygfa rhwng Sion White a Gwyneth ar Pobol Y Cwm - crogwch fi nawr!!!
Ishe rhywun i ddweud wrth Gerallt ar 'Heno' i dyfu lan a phrynu crys llewish hir!
Son am Cefn Gwlad - ody Dai Jones Llanilar yn cario llo neu jyst blydi tew yw e?
Anodd dweud os yw'r gyfres 'ma o Cefn Gwlad ar es 4 c yn repeat neu beidio - pob un gwmws run peth ag erioed!
Cwpwl gay ar Sion a Sian heno - jiw ma'r oes di newid. Byddan nhw'n cael cyflwynydd gay nesa! Cofiwch ro'dd Dai Llanilar yn itha camp!
Lot o ffys am The Valleys - ma fe'n fwy realistic na Pobol Y Cwm.... wedi dweud 'ny ma Sooty & Sweep yn fwy realistic na Pobol Y Cwm!!
Jonathan Ross yn cael Olympians a ser Hollywood - Tudur Owen yn cael dou blydi ffarmwr pointless!
Bois Y Bins ar Es four C heno - mwy o rybish?
Y mab newydd ddangos llun i fi o Alan Partridge a Bwgan Brain - y mab yn wherthin - Dafydd Du a Caryl o'n nhw!! Oh diar!

Os yw'r grandchildren yn ddrwg dwi'n fforso nhw i watcho omnibws Pobol Y Cwm - neud y tric bob tro. Llefen am orie!
Ifan Tregaron ar 'Noson Lawen' heno - jiw smo fe di newid dim. Dal ddim yn ffyni!!!

Sunday, 25 March 2018

Cymreictod gan Beryl Griffiths

Fe wnaeth Beryl Griffiths ysgrifennu cerdd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2018 wedi iddi ddarllen y dyfyniad:

“Welshness is a preoccupation, a political position, a form of dissent against the dominance of English culture”.


Cymreictod

Rhywle ym mhlygion y siôl a lapiwyd amdanaf,
Ym mhlethiadau ei chynhesrwydd clyd, roedd un edau,
Yn batrwm hardd, yn llinyn o geinder, yn araf
Ddirwyn yn gwlwm o berthyn, o gysylltiadau.
Aeth rhin yr edau feddal, o’i throi rhwng fy mysedd,
Yn rhan ohonof, ac wrth im fentro yn dalog
Hyd lwybrau bywyd roedd yno, a’i gafael rhyfedd
Yn dynn amdanaf, yn gysur pur, diysgog.
Ond weithiau, pan ddaw rhai i dynnu yn yr edau,
I’w datod am na welant iddi werth na harddwch,
Bydd brath yr edau’n torri i’r byw a bydd creithiau
Hen, hen friwiau’n llosgi yn danbaid yn y duwch.
Ac felly, os gofynni pa beth yw Cymreictod,
Nid safiad, na dewis, na her, hwn yw fy hanfod.

Geirfa

ceinder - harddwch, prydferthwch
dirwyn - coil, wind up
rhindaioni neu nodd cuddiedig neu gyfrinachol; y peth hanfodol (da) y mae’r gweddill yn deillio ohono
talog - bywiog, sionc
diysgogam rywun neu rywbeth sydd wedi’i wreiddio’n gadarn, nad yw’n siglo’n hawdd; ansigladwy, ansigledig.
torri i'r byw - cut to the quick

Sunday, 18 March 2018

Chwaraeon (ymarferion a darn darllen ar gyfer Coleg Sir Benfro)

Geirfa chwaraeon:
https://www.studystack.com/flashcard-2117094


Buddugoliaeth i Gymru mewn gêm glos

Golwg 360, 17 Mawrth 2018

Cymru 14–13 Ffrainc


Gorffennodd Cymru’n ail ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwald yn dilyn buddugoliaeth mewn gêm glos yn erbyn Ffrainc yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd nos Sadwrn.


Pwynt a oedd ynddi yn y diwedd ond y Cochion aeth â hi er na wnaethon nhw sgorio pwynt yn yr ail hanner.


Hanner Cyntaf


Er i Ffrainc fynd ar y blaen gyda gôl adlam [drop goal] gynnar Francois Trinh-Duc, Cymru a gafodd gais cyntaf y gêm, yn syth o’r ail ddechrau. Casglodd Alun Wyn Jones y bêl cyn i Liam Williams roi cwrs [chase after] i gic Scott Williams a thirio [ground].


Er i Leigh Halfpenny fethu’r trosiad, fe ymestynnodd y cefnwr [fullback] fantais ei dîm gyda dwy gic gosb [penalty kick] yn fuan wedyn, 11-3 y sgôr wedi chwarter awr.


Cafodd Ffrainc gyfnod da wedi hynny ac redden nhw’n ôl yn y gêm hanner ffordd trwy’r hanner wedi i Gael Fickou ddod oddi ar ei asgell [wing] i hollti trwy ganol yr amddiffyn a chroesi o dan y pyst.


Llwyddodd Halfpenny gyda chic gosb arall i ymestyn mantais Cymru i bedwar pwynt cyn yr egwyl, 14-19 y sgôr wrth droi.


Ail Hanner


Ffrainc a ddechreuodd yr ail hanner orau ac redden nhw o fewn un pwynt wedi deg munud diolch i gic gosb Maxime Machenaud.


Parhau i reoli a wnaeth y Ffrancwyr wedi hynny a chawson nhw gyfle gwych i fynd ar y blaen ddeuddeg munud o’r diwedd on methodd Trinh-Duc gyda chynnig cymharol hawdd at y pyst.


Llwyddodd Cymru i chwarae digon o’r gêm yn hanner Ffrainc wedi hynny a roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel wedi i Aaron Shingler ddwyn y bêl o lein y gwrthwynebwyr gyda’r cloc yn goch.


Mae’r canlyniad yn golygu fod Cymru’n gorffen yn ail yn nhabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi tair buddugoliaeth gartref yn erbyn y gleision, Yr Alban, Yr Eidal a Ffrainc.


Cymru


Ceisiau: Liam Williams 5’


Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 10’ 16’, 32’


Ffrainc


Cais: Gael Fickou 21’


Trosiad: Maxime Machenaud 22’


Cic Gosb: Maxime Machenaud 49’


Gôl Adlam: Francois Trinh-Duc 4’