Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday, 15 September 2013

Gair y mis: Gair

Ar y gair:  yn syth bin, ar unwaith

Ar y gair, cerddodd y prifathro i mewn â neges ac wrth sgwrsio, sylwodd ar wynebau hapus y plant a holodd pa waith oedd yn rhoi'r fath bleser iddynt.

Gair i gall:  word to the wise

Hefyd: Awgrym i gall, gair i angall (a nod to the wise, a word to the foolish)
Alcohol a diodydd egni – gair i gall.

Gair mwys: pun, play on words

Gair Mwys yw’r math o dechneg sy'n cael ei ddefnyddio fel rhyw fath o jôc gan amlaf. Mae llawer o'r rhain yn jôcs un llinell, bachog. Fel arfer, gair mwys yw pan mae gair â dwy ystyr yn mynd i mewn i frawddeg lle mae'r ystyron yn eglur o'r ddau safbwynt, e.e.

Yma o Hud! - Dewin y gân yn rhoi noson o swyn pur (Penawd yn sôn am Dafydd Iwan yn dod i berfformio, gan gyfeirio at ei gân Yma o Hyd.)

Roedd ar fy meddwl i gael hyd i fy oriawr coll i, ond doedd yr amser ddim gen i.

Cael y gair o fod: to gain a reputation

Pan oedd yn ei arddegau cafodd y gair o fod yn bêldroediwr da.

Gair dros ysgwydd: empty promise

Gair yn ei bryd: ‘le mot juste’

Torri gair:  

(i)                  Siarad – Nid yw torri gair â’i gymydog ers blynyddoedd
(ii)                Torri addewid

Gair teg  (hefyd ‘mwythair’):  euphemism

Un o’r rhesymau tros gyfyngu iaith yw ein bod yn hoff o gadw draw o bethau ‘anwaraidd’:  y tabŵs mawr yw rhyw, mynd i’r tŷ bach, a hyd yn oed marwolaeth ei hun. [Golwg]
anwaraidd = uncivilized
Gwell un gair gwir na chan gair teg.

Heb ddweud gair o’m pen:  without saying a word
Aeth Kate allan heb ddweud gair o'i phen.

Cyhydnos yr Hydref

Hen rigwm o sir Benfro: Hanner Mowrth a hanner Medi / Dydd a nos 'run hyd 'i gily'. Bron iawn... ar 22 Medi y bydd cyhydnos yr hydref eleni.

Diolch i "Ein Cymraeg"

Cyhydnos =equinox

Saturday, 17 August 2013

Yr ig


I drin rhywun â'r ig (= hicyps): cymer win a rhudd a phupur, a chymysga hwynt ynghyd â chwrw, a dyro iddo i'w hyfed! Meddygon Myddfai, 1375

Thursday, 15 August 2013

Priodas ceiliog ac iâr

EinCymraeg ‏@EinCymraeg
 
Cywelyfu (o cywely) a geir yng Nhyfraith Hywel Dda am gyd-fyw heb briodi; priodas ceiliog ac iâr yn sir Benfro, byw tali yn y Gog. Rhagor?

Buzz Boncath ‏@BuzzBoncath
@EinCymraeg byw dros y brwsh, o'r hen draddodiad Sir Benfro lle oedd cwpl yn neidio dros un gyda'u gilydd cyn byw gyda'u gilydd cyn priodi.

Geraint Jones ‏@geraintojones Ydi "byw ar ben brwsh" yn golygu yr un peth? Pen Llŷn efallai.

Sunday, 11 August 2013

Hwnco manco, dacw, dyma....

EinCymraeg
Defnyddiol yw'r geiriau bach dyma, dyna (o "gwêl di yma/yna"), ac erstalwm, llyma, llyna (< syll yma/yna): tebyg i'r Ffr. voilà (< vois là).

Gareth Glyn ‏
"Dacw" sy'n air bach da hefyd! Dim byd union gyfatebol yn Saesneg nac ychwaith (dwi'n meddwl) yn Ffr., Eid. ayyb.

EinCymraeg ‏
Hefyd llacw (o "syll acw") erstalwm! A cheir lyco / lychgo yn y de-orllewin yn ôl GPC (o gwêl / gwelwch acw).

Geraint Lovgreen 
Neu "nene ene" yn Rhos [Rhosllanerchrugog]

Gareth Glyn ‏ 
 A "hwnco-manco" yn y De am "hwnna draw fanna".

Saturday, 10 August 2013

Pethe da

EinCymraeg ‏@EinCymraeg

Da-da (bons-bons), fferins/fferan (fairings), losin (o lozenge), melysion, pethau da/melys, swîts(en), minciag (o mintcake), jou - rhagor?

1.  Kate ‏@Cadijos 
 Cyflath?-rhyw fath o daffi os wy'n cofio'n iawn.

2.  EinCymraeg ‏@EinCymraeg
Ie, a cyflath i finnau, yn enwedig y taffi roedd y teulu'n ei wneud adeg Dolig. Piti mod i ddim yn cofio'r rysáit!

3.  Meleri Thomas ‏@MeleriT 
Tyffish oedd air fy hen fodryb amdanyn nhw #cwmtawe

4.  graham hughes ‏@grahamhughes20 
"Losin" ym Mhort Talbot yn y 1930au. Roedd cymeriad enwog cartwn papur newydd o'r enw Dai Losin.

5.  Dr. Bethan Jenkins ‏@dyddgu 
Losin i mi (rhieni o'r Cymoedd) Wedi drysu'n lân wrth symud i Rydypennau a darllen fferins mewn llyfr Sion a Sian!

6.  Robin Huw Roberts ‏@robinhuw 
 "candis" yn ardal Caergybi

7.  Andy Enchilada ‏@andyenchilada 
 Losin yn Sir Gâr.

Sgwrs Fawr Radio Cymru – “negeseuon clir” meddai Golygydd newydd

Mae yna negeseuon clir wedi dod allan o  Sgwrs Fawr Radio Cymru yr wythnos hon, yn ôl Golygydd newydd yr orsaf.

Yn siarad ar raglen Taro’r Post ar Faes yr Eisteddfod y prynhawn yma, dywedodd Betsan Powys hefyd bod ganddi benderfyniadau anodd i’w gwneud ac na fydd y rheiny’n plesio pawb.

Yn ôl y newyddiadurwraig a ddechreuodd ar ei gwaith y mis diwetha’, fe fydd hi’n cyhoeddi “cyfeiriad clir” o ran ei gweledigaeth ar gyfer Radio Cymru erbyn mis Hydref.

Fe fydd yna elfennau o ganlyniadau’r Sgwrs Fawr yn cael ei chyhoeddi bryd hynny, ond nid y cyfan gan eu bod rhai ohonynt yn “gymhleth”, meddai wedyn.

Mynegodd hefyd ei syniad o gael rhaglen a fyddai’n cael ei chwarae yn ystod cyfnod y mae plant yn mynd adref ar ddiwedd diwrnod ysgol.

“Mae yna ryw bwynt yn y dydd lle r’yn ni angen apelio at y gynulleidfa iau,” meddai Betsan Powys. “Mi fyswn i wrth fy modd yn cael rhaglen sy’n apelio at blant ar y ffordd o’r ysgol yn y prynhawn.”

[Diolch i Golwg360]