Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cainc a gosodiad? Pam cafodd cerdd dant ei wahardd fel cystadleuaeth mewn eisteddfodau ar ôl sgandal Eisteddfod Madog 1852? Pryd cafodd y rheolau swyddogol cyntaf eu cyhoeddi, a pham mae Nic Dafis yn casáu'r grefft?
Dyma i chi rai atebion....
Gwenan Gibbard yn perfformio Cenedl gan Gerallt Lloyd Owen.
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label cerdd dant. Show all posts
Showing posts with label cerdd dant. Show all posts
Sunday, 10 November 2019
Sunday, 11 November 2018
Mae 'gwahanol' yn beth da
Diolch i Golwg360 am adrodd neges rymus Arwel Gruffydd wrth iddo annerch yr Ŵyl Cerdd Dant ym Mlaenau Ffestiniog.
__________________
Mae llywydd yr Wyl Cerdd Dant wedi croesawu pobol Cymru gyfan i’r digwyddiad yn Ysgol y Moelwyn heno… gan eu holi yn gellweirus, “Be cadwodd chi?”
Dyma’r tro cyntaf i’r wyl ymweld â thref Blaenau Ffestiniog ers ei sefydlu ganol y 1940au, ac roedd Arwel Gruffydd yn rhyfeddu at hynny.
Yn ei araith rymus o dawel, fe gyfeiriodd yr actor a’r cerddor sydd bellach yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, at yr angen i amddiffyn pob un o’r celfyddydau er mwyn, yn y pen draw, gadw’r iaith Gymraeg.
“Dw i’n falch iawn o fy ardal,” meddai Arwel Gruffydd, “a dw i’n falch iawn o’r traddodiad cerddorol yma. Cerddoriaeth werin, cerddoriaeth boblogaidd, a cherdd dant.
“Ond yn fwy na hynny, rydan ni hefyd yn gallu ymfalchïo yn rhai o gewri’r iaith, fel y diweddar Athro Gwyn Thomas, un o feirdd gorau erioed yr iaith, a’r Dr Meredydd Evans…
“Ges i fy hyfforddi gan Gwenllian Dwyryd,” meddai Arwel Gruffydd wedyn, “ac o fynd i’w chartref am wersi, roedd ei hantîcs yn ogystal â ‘rhywbeth’ arall yn gwneud i mi deimlo ei bod hi’n arbennig.
“Tydi pobol fel y rhai dw i wedi’u henwi ddim yn glanio yma o nunlle… maen nhw’n rhan o draddodiad a llinach o berthyn, ac mae hynny’n bwysig.”
Iaith heb ddiwylliant yn dda i ddim
Mae’n bwysicach nag erioed, mewn cyfnod o dlodi economaidd ac o ansicrwydd gwleidyddol, fod y celfyddydau ar gael i bawb, meddai Arwel Gruffydd.
“Dim ond yr wythnos ddiwetha, roedd gweinidog yn llywodraeth Prydain Fawr yn dweud y dylai’r celfyddydau fod ar gael ar brescripsiwn…
“Eto, mae llai o gyfleoedd i blant a phobol ifanc ddysgu chwarae offerynnau, ac mae llai o fyfyrwyr yn dewis cyrsiau cerddoriaeth… dw i’n gwybod mai nid penderfyniadau ysgolion nac athrawon ydi hynny…
“Mi ddaw yna amser eto pan fydd hi’n bwysig i ninnau afael yn ein diwylliant, achos does yna ddim pwrpas cadw iaith fel rhywbeth mewn amgueddfa, heb fedru gwneud dim byd efo hi.”
Mae ‘gwahanol’ yn beth da
Mewn byd sy’n ceisio annog pawb i ymddwyn a bod yn debyg i’w gilydd, mae Arwel Gruffydd yn dweud bod angen dathlu yr hyn sy’n wahanol mewn byd unffurf.
“Mae bod yr un fath, a chymhathu, yn bethau sy’n cael eu hannog,” meddai, “ond mae yna bethau y dylen ni fod yn falch ohonyn nhw.
“Mae ganddon ni ein traddodiad a’n hanes, sydd ddim yn well na neb arall yn y byd, ond sy’n bwysig i’w cadw.
“Nid rhywbeth i’w switshio on ac off ydi traddodiad.”
Thursday, 29 March 2018
Noson Aflawen gan J. Glyn Davies
Mae gen i gath o
ben draw Llŷn, o ben draw Llŷn, o ben draw Llŷn,
Sy’n udo’n hyll
nes dychryn dyn,
Am un o’r gloch
y bore.
Udo = gwneud sŵn
tebyg i flaidd neu sŵn hir cwynfanllyd ci
Mae gen i lo sy’n
llawenhau,
A cheg na fedr
neb mo’i chau, neb mo’i chau, neb mo’i chau
Am ddau o’r
gloch y bore.
Mae gen i gi,
mae’n glamp o gi,
Bydd hwnnw’n udo
do re mi,
Am dri o’r gloch
y bore.
Mae gen i hwch a
chwech o foch
A’r cwbwl i gyd
yn gweiddi’n groch,
Am bedwar o’r
gloch y bore.
Croch = am lef
neu sŵn uchel a chyffrous, yn cadw twrw neu’n bloeddio â’r holl egni
Mae gen i glamp
o geiliog coch,
Yn clochdar fel
pum cant o foch,
Am bump o’r
gloch y bore.
Mae gen i gloc
sydd eto’n drech,
Bydd hwnnw’n
moedro dyn a’i sgrech,
Am chwech o’r
gloch y bore.
Trech = am
rywbeth sy’n ormod i ymdopi ag ef
Moedro = mwydro
(drysu, gwirioni)
Mae gen i ŵr, ers
amser maith,
Sy’n canu bas
cyn mynd i’w waith
Am saith o’r
gloch y bore
Mae gen i ŵr sy’n
llawn o dwrf
Mae hwn yn
chwyrnu fel twrch trwyth, fel twrch trwyth, fel twrch trwyth,
Am wyth o’r
gloch y bore.
Twrf = sŵn mawr
Mae mam y gŵr yn
byw gerllaw, yn byw gerllaw, yn byw gerllaw,
Bydd sŵn ei
llais yn codi braw,
Am naw o’r gloch
y bore.
Braw = ofn,
dychryn, arswyd
Ffarwel yn awr,
bob perchen ceg,
Mi af i wlad y
Tylwyth Teg, Tylwyth Teg, Tylwyth Teg
Tan dri o’r
gloch y p’nawn.
Friday, 28 November 2014
Cerdd dant - Cefin Roberts yn gwneud ei orau glas
Thursday, 2 January 2014
Cerdd dant - Ryan Davies yn esbonio
Hanes Cerdd Dant
| Mae’r grefft o ddatgan
barddoniaeth i gyfeiliant [cyfeiliant - accompaniment] telyn, ar ryw ffurf neu’i gilydd, yn mynd yn
ôl yn bell iawn yn hanes y diwylliant Cymraeg. Yn anffodus, mae’r union
ffurf honno wedi hen fynd ar goll yn niwloedd y gorffennol, ac ni allwn
ond dyfalu sut yn union yr oedd canu gyda’r tannau [tant - string] yn swnio ganrifoedd
lawer yn ôl. Gwahanol iawn i heddiw, bid siwr. O ddechrau’r ugeinfed
ganrif y daw’r recordiadau sain cynharaf o ganu cerdd dant, ac mae hyd
yn oed y recordiadau hynny yn swnio’n wahanol iawn i gerdd dant yr unfed
ganrif ar hugain. Ar bapur, nid oes cofnod cerddorol o osodiad [setting] cerdd dant hyd at 1839, yn llyfr John Parry (Bardd Alaw), The Welsh Harper – ond nid oes sicrwydd fod y gosodiad hwnnw `chwaith yn adlewyrchiad cywir o’r hyn a glywid ar lafar gwlad. Mae’r delyn wedi chwarae rhan amlwg yn nhraddodiad cerddorol pob un o’r cenhedloedd Celtaidd. Yr hyn sy’n arbennig ynglyn â’r traddodiad Cymreig efallai yw’r berthynas glòs a ddatblygodd rhwng ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth. Mewn cerdd dant, mae’r ddwy elfen yn gwbl annatod [integral]. Ar y geiriau y mae’r pwyslais, fodd bynnag: cyfrwng i gyflwyno barddoniaeth yw cerdd dant, a datgan y geiriau yn glir ac effeithiol yw’r nod bob amser. Credir mai’r un person oedd y telynor a’r datgeiniad [singer] ar un adeg – a cheir awgrym fod y person hwnnw, yn aml iawn, hefyd yn fardd. Roedd hi felly yn grefft arbenigol iawn, yn gyfyngedig i lysoedd y tywysogion a’r uchelwyr. Ond wedi i oes aur y tywysogion a’r uchelwyr [aristocrats] Cymreig ddod i ben, fe gymerwyd yr awenau o dipyn i beth [gradually] gan y werin bobl. Yr Ugeinfed Ganrif Pan gyhoeddodd Telynor Mawddwy ei werslyfr cerdd dant Y Tant Aur ym 1911, fe werthwyd y copïau i gyd o fewn dim o dro. Mae’n amlwg felly fod yna ddiddordeb yn yr hen grefft ym mhob rhan o’r wlad. Ond ar yr un pryd, mae’n ymddangos fod cryn lawer o ddadlau ac anghytuno ynglŷn â gwahanol ddulliau o osod, pa geinciau [cainc - tune] oedd yn addas, ac yn y blaen. Roedd diffyg cyfarwyddiadau a rheolau pendant yn creu ansicrwydd, a’r diffyg hwn a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant ym 1934. Ar y pryd, roedd statws cerdd dant yn bur isel. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933, er enghraifft, fe wthiwyd y cystadlaethau cerdd dant i gyd i un o’r pebyll ymylol. Cwynai ambell un am ddirywiad mewn safonau o’i gymharu â’r dyddiau a fu. Sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant ym 1934 oedd y digwyddiad mwyaf tyngedfennol a fu yn hanes y grefft erioed, oherwydd fe arweiniodd at dwf a datblygiadau mawr. Aethpwyd ati i dynnu rhestr o reolau unwaith ac am byth. Nid mater bach oedd hynny, a bu llawer o drafod a dadlau. Yn wir, ni chafodd yr holl reolau eu pennu’n derfynol hyd at y chwedegau. Cwynai rhai ar y pryd fod rheolau fel hyn yn fwy tebyg o fygu canu gyda’r tannau yn hytrach na’i hyrwyddo, ond yr effaith bwysicaf yn y pen draw oedd dileu unrhyw ansicrwydd, a chreu trefn allan o anhrefn. Ail Hanner yr Ugeinfed Ganrif Un o gewri’r byd cerdd dant yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a phrif hanesydd y gymdeithas, yw Aled Lloyd Davies. Yn ei lyfr Hud a Hanes Cerdd Dannau mae’n nodi 1947 fel dechrau cyfnod o adfywiad gwirioneddol. Bu newid mawr mewn cerdd dant yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau’r ganrif, crefft i unigolion yn unig oedd hi. Yna dechreuwyd ffurfio deuawdau a phartïon bychain. Mentrwyd ymhellach i faes triawdau a phedwarawdau, ac yna, o’r 70au ymlaen, fe ymddangosodd corau cerdd dant am y tro cyntaf. Tyfodd cystadleuaeth y corau i fod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, ac nid cyd-ddigwyddiad yw mai dyma’r cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd. Yn y pumdegau, roedd hi’n dal yn bosibl cynnal yr Ŵyl Gerdd Dant mewn neuaddau pentref bychain fel un Penybontfawr, ond bu raid chwilio am lefydd mwy yn fuan iawn. Dechreuodd yr ŵyl gael sylw gan y cyfryngau radio a theledu, ac o’r nawdegau ymlaen bu S4C yn ei darlledu’n flynyddol.
| ||||||||||
Labels:
barddoniaeth,
cerdd dant,
cerddoriaeth,
traddodiadau
Subscribe to:
Posts (Atom)