Diolch unwaith eto i Bethan Williams a Ffrwti am roi sbardun i sgwrs!
Byddai
trip siopa o leia teirgwaith y flwyddyn, a rhestr o bethau i brynu. A
sawl peth bach arall yn dod nôl. I Aberteifi byddai Mam yn mynd i wneud y
sipoa wythnosol, ond roedd Caerfyrddin yn hollol wahanol. Roedd gofyn
penderfynu ar ddechrau'r wythnos pa ddiwrnod fyddai 'mynd i siopa yn
Gaerfyrddin' a gadael cyn 9, mynd â brechdannau i'w bwyta yn y car amser
cinio, a chyrraedd nôl erbyn te fel arfer.
Roedd e'n beth eitha
mawr am flynyddoedd. Un o fy atgofion cyntaf o siopa yng Nghaerfyrddin
yw'r siwrne adref – roedd hi mor hir, o wybod fod comic yn un o fagiau
Mam yn aros i gael ei ddarllen. A siopa dillad – dyw hynny erioed wedi
bod yn uchafbwynt, ond doedd dim rhyw lawer o siopau dillad yn Aberteifi
felly roedd wastad rhaid mynd i ryw siopau dillad – Adams, Littlewoods a
pha bynnag siopau roedd Mam yn mynd iddyn nhw.
Ond roedd Bwise yn
gwneud iawn am hynny – roedd escalator yna! Bydden ni'n meddwl am bob
mathau o resymau i gael mynd lan lofft er mwyn defnyddio'r escalator-
colli Mam a gorfod mynd lawr i chwilio amdani, gan wybod yn iawn taw lan
lofft oedd hi oedd un tric.
Er, am ryw reswm dim ond lan oedd yr
escalator yn mynd - mae'r un peth yn wir am yr escalator yn Marks
Caerfyrddin nawr hefyd. Grisiau sydd i ddod lawr.
Llyfrau wedyn -
roedd Siop y Pentan yn un stop bydden ni'n gwneud bob tro, er bod Siop y
Castell yn Aberteifi, bydden i wastad yn dod o Gaerfyrddin â llyfr
newydd. Wrth dyfu'n hŷn Waterstones oedd yr atyniad - doedd dim siop
lyfrau yn Aberteifi a bydden i'n cael pori am oesau am lyfr Saesneg. Do'n
i ddim wedi dod ar draws trysorau fel siopau Seawards, Abergwaun, a
Palas Print eto.
Ac wrth dyfu'n hŷn bydden ni'n cael mynd i siop
arall tra bod Mam yn trial sgidiau neu rywbeth - dyna oedd peth mawr,
o'r diwedd bach o ryddid.
Mae pobl lot mwy parod i fynd ymhellach
i siopa nawr, a mynd bron heb feddwl. Mae Mam yn dal i fynd yn ystod
gwyliau'r ysgol, a'i rhestr gyda hi er ei bod hi'n dweud nad oes
'eisiau' unrhyw beth. Y gallai hi falle fynd i Aberteifi, neu chwilio
ar-lein, mae rhyw dyniad [=pull] o hyd – arfer falle. Os dwi adref dwi'n aml yn
cael fy nhemtio i fynd hefyd - mae Siop y Pentan yn dal i fod 'na, mae
Aardvark wastad yn cynnig rhyw ddanteithion [=treats], Nomads yn gwerthu slippers
Gaeaf gwych wedi eu gwau, a hetiau a menig, a'r farcet yn grêt; a dwi
hyd yn oed yn mentro i ambell siop ddillad os oes raid!
Dwi ddim yn gwybod pwy yw Lizzie Porter druan – mae wedi cael profiadau gwael o ymweld â Chymru. Yn amlwg mae'i herthygl – How Wales got Cool
[erthygl yn y Daily Telegraph] wedi'i dargedu at ymwelwyr, ac ymwelwyr penodol iawn weden i. Y trendis
– pobl sydd yn joio bwyty swanc a llety boutique quaint ac sy'n fodlon
talu drwy'r trwyn am frethyn Cymreig sydd yn ddim mwy na blanced i
ddweud y gwir!
Ta beth fe ddechreuais i feddwl am fy hoff lefydd, un ohonyn nhw yw Ceibwr ar bwys Trewyddel.
Mae'n
wahanol bob tro, dwi wedi bod yno ym mhob tywydd, ym mhob tymor a gweld
rhywbeth gwahanol bob un tro - ond eto yr un un yw e. Mae'r un cysur
a'r llonyddwch iddo fe o hyd. Hwn yw un o'r unig lefydd dwi'n dal i
deimlo y galla i ddianc iddo fe. Er nad ydw i erioed wedi gorfod dianc
go iawn mae'n lle i gael switcho bant.
Falle taw'r ffaith fy mod i wedi gweld pethau'n newid yn fy atgoffa fod
pethau'n mynd yn eu blaen, yn newid yn eu ffordd eu hunain 'sdim ots
beth wnawn ni i geisio atal neu annog hynny.
Mae'n
llawn picnics, dysgu o'r newydd, gweld rhyfeddodau, gweld pethau bob
dydd, y pethau na all unrhyw un gyffwrdd a sylweddoli, a rhyw atgof o
bob cyfnod yn sefyll mas.
Y
prif atyniad yw Pwll y Wrach – mae llwybr rhyw filltir a hanner yn
arwain at ddibyn [dibyn = wyneb serth clogwyn] anferth. Mae fwy neu lai yn dwll rhyw ddeg troedfedd ar
hugain o ddwfnder.
Dyw
hi ddim yn rhwydd mynd lawr ato fe – mae'n rhaid i chi fynd mewn i ogof
yn y graig a disgyn rhyw naw troedfedd – gyda sŵn y dŵr yn rhaeadru [disgyn fel rhaeadr] lawr
y troedfeddi hynny'n fyddarol, a blas yr halen yn tasgu [tasgu = gwasgaru] i bobman. Os
yw'r llanw i mewn ewch chi byth drwyddo. Unwaith dwi erioed wedi bod
lawr i Bwll y Wrach ei hunan, a falle na chaf i gyfle i fynd eto. Braidd
cofio gallu edrych lan o'r gwaelod ydw i, y wefr o gael bod lawr 'na
oedd yr hud. A chael rhuthro gartre at Mam i ddweud wrthi.
Ar y llwybr i Bwll y Wrach welais i'r haul yn machlud am y tro cyntaf yn iawn, a theimlo'r oerni sydyn ar ôl i'r haul ddiflannu.
Brechdanau,
pecyn o grisps a the fflasg ar 'swper mas' yw Ceibwr weithiau – bydden
ni i gyd yn mynd lawr ar ôl i Dat ddod gartre o'r gwaith i gael swper
cyn mynd i badlo yn y traeth – sydd ddim lot o draeth, neu eistedd ar y
graig a'r tonnau'n golchi droston ni.
Unwaith neu ddwy dwi'n cofio cael stopio yn siop jips Bowen's yn Llandudoch (treat
a hanner!) a Mam wedi dod â photel sos coch No Frills yn lle gorfod
prynu sachets a bob i fforc yn lle gorfod defnyddio'r rhai bach pren!
Nosweithiau
eraill byddai Dat yn mynd â ni am wâc, yn rhoi rhyw hanesion i ni wrth
basio hen gartref y teulu – am gysgu mas mewn rhywbeth doedd dim lot mwy
na sied, er mwyn rhentu'r tŷ i fisitors dros yr Haf; a shwd dechreuodd e
drwsio ceir mewn sied mas gyda'r nos ar ôl beni yn y garej am y dydd.
Ac
wrth dyfu'n hŷn byddai Arwyn, fy mrawd, a fi yn beicio draw, dim byd ar
ein meddwl heblaw cyrraedd 'na a'r unig frys i fynd gartref oedd y bol
yn galw am ginio, neu de.
Dim
ond unwaith dwi wedi cael fy siomi. Ro'n i'n gweithio mewn tafarn leol a
rhywun yn dweud wrtha i eu bod nhw 'off to keyboar bay' a finnau'n
ffaelu deall i ble roedden nhw'n mynd – nes iddyn nhw esbonio ble roedd
e. Ie, Ceibwr. Ddim yr un lle yw keyboar bay a do'n i ddim yn gallu
meddwl am Geibwr yn yr un ffordd weddill y dydd. (Swnio'n ddramtig dwi'n
cyfaddef!)
Ers
hynny dwi wedi dangos yr hud i sawl un arall, ond dyw e ddim cweit yn
cydio [=cymryd gafael]. Gall unrhyw werthfawrogi golygfeydd a rhyfeddu mor anhygoel yw
Pwll y Wrach ond dydyn nhw ddim yn cael yr un wefr, yr un pleser sydd
ynghlwm wrth yr atgofion.
