I drin rhywun â'r ig (=
hicyps): cymer win a rhudd a phupur, a chymysga hwynt ynghyd â chwrw, a
dyro iddo i'w hyfed! Meddygon Myddfai, 1375
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Saturday, 17 August 2013
Thursday, 15 August 2013
Priodas ceiliog ac iâr
EinCymraeg
@EinCymraeg
@EinCymraeg byw dros y brwsh, o'r hen draddodiad Sir Benfro lle oedd cwpl yn neidio dros un gyda'u gilydd cyn byw gyda'u gilydd cyn priodi.
Cywelyfu (o cywely) a geir yng
Nhyfraith Hywel Dda am gyd-fyw heb briodi; priodas ceiliog ac iâr yn
sir Benfro, byw tali yn y Gog. Rhagor?
Sunday, 11 August 2013
Hwnco manco, dacw, dyma....
EinCymraeg
Defnyddiol yw'r geiriau bach dyma, dyna (o "gwêl di yma/yna"), ac erstalwm, llyma, llyna (< syll yma/yna): tebyg i'r Ffr. voilà (< vois là).
Gareth Glyn
Defnyddiol yw'r geiriau bach dyma, dyna (o "gwêl di yma/yna"), ac erstalwm, llyma, llyna (< syll yma/yna): tebyg i'r Ffr. voilà (< vois là).
Gareth Glyn
"Dacw" sy'n air bach da hefyd! Dim byd union gyfatebol yn Saesneg nac ychwaith (dwi'n meddwl) yn Ffr., Eid. ayyb.
EinCymraeg
Hefyd llacw (o "syll acw") erstalwm! A cheir lyco / lychgo yn y de-orllewin yn ôl GPC (o gwêl / gwelwch acw).
Geraint Lovgreen
Neu "nene ene" yn Rhos [Rhosllanerchrugog]
Gareth Glyn
A "hwnco-manco" yn y De am "hwnna draw fanna".
Saturday, 10 August 2013
Pethe da
EinCymraeg
@EinCymraeg
Da-da (bons-bons),
fferins/fferan (fairings), losin (o lozenge), melysion, pethau da/melys,
swîts(en), minciag (o mintcake), jou - rhagor?
Cyflath?-rhyw fath o daffi os wy'n cofio'n iawn.
Ie, a cyflath i finnau, yn enwedig y taffi roedd y teulu'n ei wneud adeg Dolig. Piti mod i ddim yn cofio'r rysáit!
Tyffish oedd air fy hen fodryb amdanyn nhw #cwmtawe
"Losin" ym Mhort Talbot yn y 1930au. Roedd cymeriad enwog cartwn papur newydd o'r enw Dai Losin.
Losin i mi (rhieni o'r Cymoedd) Wedi drysu'n lân wrth symud i Rydypennau a darllen fferins mewn llyfr Sion a Sian!
"candis" yn ardal Caergybi
Losin yn Sir Gâr.
Sgwrs Fawr Radio Cymru – “negeseuon clir” meddai Golygydd newydd
Mae yna negeseuon clir wedi dod allan o Sgwrs Fawr Radio Cymru yr wythnos hon, yn ôl Golygydd newydd yr orsaf.
Yn siarad ar raglen Taro’r Post ar Faes yr Eisteddfod y prynhawn yma, dywedodd Betsan Powys hefyd bod ganddi benderfyniadau anodd i’w gwneud ac na fydd y rheiny’n plesio pawb.
Yn ôl y newyddiadurwraig a ddechreuodd ar ei gwaith y mis diwetha’, fe fydd hi’n cyhoeddi “cyfeiriad clir” o ran ei gweledigaeth ar gyfer Radio Cymru erbyn mis Hydref.
Fe fydd yna elfennau o ganlyniadau’r Sgwrs Fawr yn cael ei chyhoeddi bryd hynny, ond nid y cyfan gan eu bod rhai ohonynt yn “gymhleth”, meddai wedyn.
Mynegodd hefyd ei syniad o gael rhaglen a fyddai’n cael ei chwarae yn ystod cyfnod y mae plant yn mynd adref ar ddiwedd diwrnod ysgol.
“Mae yna ryw bwynt yn y dydd lle r’yn ni angen apelio at y gynulleidfa iau,” meddai Betsan Powys. “Mi fyswn i wrth fy modd yn cael rhaglen sy’n apelio at blant ar y ffordd o’r ysgol yn y prynhawn.”
[Diolch i Golwg360]

Subscribe to:
Posts (Atom)