Llenyddiaeth Cymru a gomisiynodd y gerdd hon.
nomina si pereunt, perit et cognitio rerum
“os derfydd enwau,
derfydd hefyd dirnad pethau”.
Dwedwch felly, fawrion o wybodaeth,
ym mha fodd mae achub iaith?
Nid trwy’i chofnodi, na’i chysegru,
na chloi’i geiriau’n gacamwci gludiog
a lyno wrth y sawl
sy’n stelcian hyd ein cloddiau;
cans cadno wedi’i stwffio
yw pob Cymraeg llyfr;
ei ‘untroed oediog’ ni syfla mwy,
a’i lygaid gwydr sydd ddall.
Yn y llafar y mae ei lleufer;
a thafodau plant yw ei pharhâd.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
27.1.19
dirnad - deall, dealltwriaeth
cacamwci - burdock (h.y. like locking down words with sticky burrs)
a lyno (glynu) - that may stick
cans (canys) - achos
untroed oediog - 'one leg paused in mid-air'
ni syfla mwy - will not move (syflu) again
lleufer - light, lustre
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Tuesday, 29 October 2019
Sunday, 13 October 2019
Llyfrgell Genedlaethol yn prynu llun Salem
BBC Cymru Fyw
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50002305
Golwg 360:
https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/555368-llun-salem-wedi-brynu-llyfrgell-geedlaethol
Stori Salem
https://www.bbc.co.uk/cymru/hanes/safle/themau/diwylliant/salem.shtml
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50002305
Golwg 360:
https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/555368-llun-salem-wedi-brynu-llyfrgell-geedlaethol
Stori Salem
https://www.bbc.co.uk/cymru/hanes/safle/themau/diwylliant/salem.shtml
Sunday, 6 October 2019
Subscribe to:
Posts (Atom)