Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label mererid hopwood. Show all posts
Showing posts with label mererid hopwood. Show all posts

Monday, 20 April 2020

"Mae" gan Mererid Hopwood

 
Mae dail y coed
Mae border bach
Mae murmur yn yr awel
Mae un friallen fach ar lawr
Mae cân am Benrhyn Tawel
Mae parabl plant
Mae munud fach
Mae llun y gallwn glywed
Mae ifanc ffôl, mae Elen fwyn
Mae aros, ac mae myned
Mae dau gi bach
Mae tiwn Sam Tân
Mae môr â phadell ffrio
Mae Mistar Duw, mae gwely gwag
Mae…’O na bawn i yno’
Mae ger y drws y blodau tlws
Mae eiddil heb eiddilwch
Mae pishyn, pishyn, Fenws fain
A thacsi i Gwm Tawelwch
Mae dawns y glaw,
Mae’r nos yn hir
Mae’r cloc yn tipio’n araf
Mae pen y lôn
Mae cael yn ôl
Ac wedi awr dywyllaf
Dros gymoedd cul a moelni maith
Dros greigiau pen y mynydd
Drwy niwl y wawr
Mae haul ar fryn.
Daw dydd,
Daw bore newydd.
A thrwy’r holl ymynysu hwn
Mae calon Cymru’n curo
Mae ei phobl, fel y tir dan draed
Drwy’r saib yn ailegino.
Ac os o hyd mae llinell bell diderfyn
Gwn fod darfod
Mae dyddiau blin yn dod i ben
Mae amser gwell yn dyfod

Sunday, 6 October 2019

Y Cylch Sialc - Cyfweliadau

Mererid Hopwood yn sôn am sut brofiad oedd trosi drama Bertolt Brecht:

https://www.youtube.com/watch?v=jehSaxUSABI&feature=youtu.be

Cyfweliad gyda Sarah Bickerton, cyfarwyddwr Y Cylch Sialc:

https://www.youtube.com/watch?v=SfOkAtoOLtA&feature=youtu.be

Cwestiynau o'r cyfweliad gyda Sarah Bickerton:

Pam wnaethoch chi benderfynu dewis Y Cylch Sialc fel eich cynhyrchiad nesaf?

Ym mha gyfnod ydych chi wedi gosod y ddrama?

“As a political writer, Brecht would surely have expected a modern production to addresscurrent issues whilst remaining true to his ideals.” 
Pa fath o gynhyrchiad fydd gennych chi?

Sut fyddwch chi’n dechrau ar y broses ymarfer? 

Eglurwch y ffordd rydych chi’n gweithio gyda’r cast.

Pa neges ydych chi am ei gadael gyda’r gynulleidfa?

Roedd gan Brecht arddull arbennig – a fydd hyn yn amlwg yn y cynhyrchiad?

Beth yw rôl Gwenno yn y cynhyrchiad? 

Pa rai o dechnegau Brecht rydych chi am eu defnyddio?

Beth yw’ch gweledigaeth ynglŷn â’r set a’r gwisgoedd? 

Mae Mererid Hopwood wedi trosi’r ddrama o’r Almaeneg. Pa drafodaethau fu rhyngoch chi ynglŷn â pha gyfnod y dylid gosod y trosiad ynddo?

Pa mor bwysig fydd y defnydd o oleuo yn eich cynhyrchiad?

Beth am yr elfen o gomedi rydych chi am ei defnyddio?

At beth ydych chi'n edrych ymlaen fwyaf?

Thursday, 19 September 2019

Y Cylch Sialc

Un o'r prosiectau cyffrous newydd y byddwn yn trin a thrafod gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod tymor yr hydref fydd trosiad newydd sbon gan Mererid Hopwood o Y Cylch Sialc, un o ddramâu pwysicaf Bertholt Brecht.

Dyma ragflas a disgrifiad o'r ddrama. 

http://theatr.cymru/portfolio/ycylchsialc/ 

Yn y dyddiau mwyaf gwaedlyd, mae pobl dda yn byw.”
 
Mae chwyldro ar droed a’r ddinas ar dân. Yn y dryswch, mae babi’n cael ei adael ar ôl.

Mae merch ifanc yn aberthu popeth er mwyn achub y plentyn. Â’r wlad dan warchae a milwyr yn eu herlid, mae hi’n benderfynol o’i warchod, doed a ddelo. Ond mewn byd llygredig, a yw cariad yn ddigon?

Am y tro cyntaf erioed, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn troedio i fyd Bertolt Brecht gyda throsiad newydd i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth wreiddiol yn cael ei pherfformio’n fyw gan Gwenno. Mewn cynhyrchiad newydd trawiadol, mae’r clasur hwn o’r ugeinfed ganrif yn byrlymu â cherddoriaeth, hiwmor tywyll a chymeriadau bywiog; stori epig am wneud daioni mewn byd sy’n llawn drygioni.


Cyfarwyddwr: Sarah Bickerton