Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday, 2 December 2015

Toriad o 26% i grant S4C

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o ddweud 'celwyddau' wedi iddyn nhw gyhoeddi toriad o 26% i grant S4C er gwaethaf addewid maniffesto i 'ddiogelu' cyllideb y sianel. 
Ym mis Hydref 2010 penderfynodd Llywodraeth Prydain gwtogi’r grant i S4C o 94% dros bedair blynedd £101 miliwn yn 2010-11 lawr i £7 miliwn yn 2014/15.  Ond, cafwyd addewid ym maniffesto 2015 y Ceidwadwyr y bydden nhw'n "diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C.” 

Wrth feirniadu'r cyhoeddiad, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r Ceidwadwyr wedi torri addewid maniffesto ac wedi dweud celwyddau wrth bobl Cymru. Mae torri dros chwarter y grant yn gwbl annerbyniol ac yn gwbl groes i'w haddewid

Ychwanegodd y mudiad ei bod hi’n annheg torri cyllideb y sianel Gymreig o £1.7m ar yr un pryd ag oedd £150m ychwanegol yn cael ei wario ar storfeydd newydd ar gyfer amgueddfeydd yn Lloegr.

___________________________


Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo penderfyniad y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i dorri cyllideb S4C o £1.7m fel “sarhad i Gymru”.
Fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr ddoe yn Natganiad yr Hydref y Canghellor y byddai cyllideb y sianel, sydd yn cael ei hariannu’n uniongyrchol o San Steffan, yn lleihau o £6.7m i £5m erbyn 2020, cwymp o 26%.

Cafodd hyd yn oed rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol eu cythruddo [= cynhyrfu, poeni], gydag AS Aberconwy Guto Bebb yn herio’i blaid a dweud bod “dim cyfiawnhad” am y “cam gwag” [= camgymeriad]

S4C - ymateb Plaid Cymru

Mynnodd Plaid Cymru bod penderfyniad diweddaraf y Ceidwadwyr ar gyllido S4C yn dangos yr angen i ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru.

“Nid yn unig mae Llywodraeth y DU yn gwneud toriad sylweddol i wasanaeth gwerthfawr a phwysig, maent hefyd yn gwneud tro pedol amlwg ar ymrwymiad maniffesto etholiadol,” mynnodd AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts.

“Mae’r newid hwn yn sarhad i Gymru ac yn dangos diffyg ymrwymiad y Llywodraeth Geidwadol i’r Gymraeg ac i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.”



‘Diffyg calon’

Mae’r toriad i gyllideb S4C hefyd wedi cythruddo Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy Guto Bebb.
Mewn cyfres o negeseuon Twitter nos Fercher fe heriodd benderfyniad ei blaid gan ofyn pam oedd chwaraeon a chelfyddydau yn Lloegr yn cael eu ffafrio dros sianel deledu Cymru.

Ychwanegodd bod arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn dangos “ddiffyg calon” dros ddyfodol sianel gafodd ei sefydlu â sêl bendith eu cyn arweinydd Margaret Thatcher.

No comments:

Post a Comment