Fe fydd dadl arbennig a phleidlais yn cael ei chynnal yn y Senedd
heddiw i drafod ehangu cyrchoedd [cyrch = ymosodiad] awyr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd
(IS) i Syria.
Disgwylir i’r ddadl barhau trwy’r dydd gan gymryd lle sesiwn
Cwestiynau’r Prif Weinidog, a disgwylir y bleidlais yn hwyr y prynhawn.
Deellir y gallai’r cyrchoedd cyntaf gael eu cynnal erbyn diwedd
yr wythnos os yw’r Senedd yn pleidleisio o blaid ehangu’r cyrchoedd.
Mae’r mater wedi achosi rhwyg [split] o fewn y Blaid Lafur gyda’r
arweinydd Jeremy Corbyn yn gwrthwynebu cynnal cyrchoedd awyr yn Syria ac
aelodau eraill ei blaid yn bwriadu cefnogi’r Llywodraeth. Cafodd Jeremy
Corbyn ei orfodi i roi pleidlais rydd i ASau ei blaid yn dilyn cyfarfod
stormus o’i gabinet.
Credir y bydd hyd at 50 o ASau Llafur yn cefnogi’r Llywodraeth – gan gynnwys llefarydd materion tramor y blaid Hilary Benn.
Yn ôl ymchwil gan BBC Cymru mae 13 o’r 25 o ASau Llafur yng Nghymru yn bwriadu gwrthwynebu’r cynllun.
Mae’r Unoliaethwyr Democrataidd a’r Democratiaid Rhyddfrydol
hefyd yn cefnogi cynnal cyrchoedd awyr, tra bod tua dwsin o ASau
Ceidwadol yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth.
Mae’r SNP hefyd wedi bod yn feirniadol o fesur y Prif Weinidog ac mae disgwyl i’r 54 AS bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth.
Fe wnaeth golwg360 ofyn i rai o Aelodau Seneddol Cymru sut y byddan nhw’n pleidleisio yn y Senedd.
Llafur
Mae Paul Flynn, AS Llafur Gorllewin Casnewydd, wedi bod yn
feirniadol iawn o’r bwriad i weithredu’n filwrol yn erbyn IS. Dywedodd y
bydd yn pleidleisio yn erbyn cynnal cyrchoedd awyr yn Syria.
“Dw i’n meddwl ein bod ni’n ymladd y rhyfel anghywir fan hyn.
Mae’n frwydr dros galonnau a meddyliau, a does dim modd ennill y rheiny
trwy fomiau a bwledi. Bydd mwy o ddrwg yn dod o hyn,” meddai.
Fe ychwanegodd mai “pwrpas erchyllterau [atrocities] fel Sharm el Sheik,
Tiwnisia a Pharis yw creu ymateb milwrol a fyddai’n llusgo cenhedloedd i
ryfel rhwng Cristnogion a Mwslimiaid ar draws y byd.”
Ceidwadwyr
Wrth ofyn i David Davies, AS Ceidwadol Trefynwy, fe ddywedodd y byddai’n pleidleisio o blaid cynnal y cyrchoedd awyr.
“Mae digwyddiadau dychrynllyd yn Tiwnisia a llefydd eraill wedi dangos maint y bygythiad ry’n ni’n wynebu gan IS.”
Esboniodd ei fod wedi pleidleisio yn erbyn “cynnal cyrchoedd
awyr pan oeddem ni ystyried bomio lluoedd Assad, ond rwy’n meddwl y
bydda’ i yn cefnogi cyrchoedd awyr yn erbyn IS.”
Plaid Cymru
Mae golwg360 hefyd ar ddeall y bydd tri Aelod Seneddol Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnal y cyrchoedd awyr yn Syria.
Fe ddywedodd Hywel Williams AS Arfon: “Ar ôl ystyriaeth ofalus,
mae Plaid Cymru o’r farn unfrydol fod y Prif Weinidog wedi methu
dadlau’r achos o blaid ymyrraeth [intervention] filwrol ar ran y DU yn Syria.”
Fe ddywedodd nad yw ei blaid yn credu y byddai “gollwng bomiau o’r awyr yn trechu IS.”
“Yn fwy na hynny, rydym o’r farn y byddai gweithredu milwrol gan
y DU yn bygwth ansefydlogi Syria a’r rhanbarth ehangach yn bellach, a
thanseilio diogelwch ein cymunedau gartref.”
Democratiaid Rhyddfrydol
Nid oedd AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Mark Williams, yn barod i
ryddhau manylion am sut y bydd ef yn pleidleisio ar hyn o bryd.
Dywedodd ei lefarydd ei fod am “fwy o wybodaeth” ac am “glywed
tystiolaeth” am yr hyn sydd gan y Prif Weinidog i’w ddweud yn gyntaf.
No comments:
Post a Comment