
https://www.youtube.com/watch?v=kuxIzYVoxJA
Un funud fach cyn elo’r haul o’r
wybren,
Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w
hynt,
I gofio am y pethau anghofiedig
Ar goll yn awr yn llwch yr amser
gynt.
Fel ewyn ton a dyr ar draethell unig,
Fel cân y gwynt lle nid oes glust a
glyw,
Mì wn eu bod yn galw’n ofer arnom –
Hen bethau anghofiedig dynol ryw.
Camp a chelfyddyd y cenhedloedd
cynnar,
Aneddau bychain a neuaddau mawr,
Y chwedlau cain a chwalwyd ers
canrifoedd
Y duwiau na ŵyr neb amdanynt ‘nawr.
A geiriau bach hen ieithoedd
diflanedig,
Hoyw yng ngenau dynion oeddynt hwy,
A thlws i’r clust ym mharabl plant
bychaìn,
Ond tafod neb ni eilw arnynt mwy.
O, genedlaethau dirifedi daear,
A’u breuddwyd dwyfol a’u dwyfoldeb
brau,
A erys ond tawelwch i’r calonnau
Fu gynt yn llawenychu a thristáu?
Mynych ym mrig yr hwyr, a mi yn unig,
Daw hiraeth am eich ‘nabod chwi bob
un;
A oes a’ch deil o hyd mewn Cof a
Chalon,
Hen bethau anghofiedig teulu dyn?
Nodiadau
Cyn elo
.......cyn delo [cyn aiff....cyn
daw] Mae WW yn defnyddio’r modd dibynnol
(subjunctive) yn dilyn cyn.
Wybren
– awyr
A dyr
– sy’n torri
Traethell
– traeth bach
A glyw
– sy’n clywed
Annedd
- cartref
Cain
– fine (well-crafted)
Chwalu
– scatter....mynd ar goll
Hoyw
– bywiog, sionc
Genau
– cegau (jaws)
Ni eilw
– ddim yn galw
Dirifedi
– di-rif, countless
Dywfol
– divine, sacred
Dywfoldeb
– sanctity
Brau
– bregus (brittle, fragile)
A erys
– arhosith
Llawenychu
(llawenhau) – bod yn llawen
Mynych
– aml
Ym mrig
yr hwyr – wrth iddi nosi
A oes
a’ch deil..... Is there a heart or memory still to cherish? (a oes yna
rywbeth rydych yn ei gadw yn eich cof a’ch calon)