Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label Ceredigion. Show all posts
Showing posts with label Ceredigion. Show all posts

Saturday, 16 November 2013

Lluniau Iestyn

Diolch i Iestyn Hughes am sgwrs ddifyr iawn. Cliciwch yma ac yma i weld y lluniau. Cewch weld rhagor o waith Iestyn ar ei wefan yn fan hyn.

Tuesday, 30 April 2013

Hapus i siarad

Mae ‘Hapus i Siarad’ yn cynnig cyfle i siaradwyr Cymraeg o bob lefel o ddysgwyr i rhai rhugl yn yr iaith i ddod at ei gilydd a siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Cynhelir ein digwyddiad cyntaf ar Ddydd Sadwrn, 25 Mai 2013 mewn caffis, tai bwyta, siopau, banciau, orielau, theatrau ac amgueddfeydd yn nhref Aberteifi, Ceredigion ac yn Llandudoch, pentref cyfagos sydd yn Sir Benfro.


Mae ‘Hapus i Siarad’ yn gyfle i fynd allan, mwynhau siopa, bwyta a darganfod mwy am Aberteifi a Llandudoch a mwynhau siarad Cymraeg fel rhan o’r profiad.

Gwefan Hapus i Siarad

Wednesday, 20 February 2013

Tafodiaith y Cardis - Blog Newydd

Mae Christine Cwmere wedi dechrau blog newydd sy'n dogfennu tafodiaith ei mam. Dyma Christine yn ei geiriau ei hunan:

Bwriad hyn o flog yw nodi ar gof a chadw y dafodiaith gyfoethog rwy’ wedi cael y fraint o gael fy magu ynddi. Nid yw mam – sy’n cael ei hadnabod wrth sawl enw (Christina Cwmere, Christina Hughes, Christina Morgans, Christina Blaenfallen) – wedi symud yn bell erioed. Fe’i ganed ar fferm yn ardal Cribyn adeg yr Ail Ryfel Byd, symudodd gyda’r teulu i fferm Cwmere rhwng Felinfach a Temple Bar pan oedd yn 15 oed, ac wedyn wedi priodi yn 1975, symudodd i dop Dyffryn Aeron. Ac yn bendant, mae ganddi dafodiaith arbennig iawn. Mae ei thafodiaith a’i geirfa wedi bod yn benbleth i rai o’m ffrindiau (yn enwedig o’r gogledd!) a gan fod un ffrind wedi galw’i thafodiaith yn “Cwmereg”, dyma ddechrau nodi rhai o’r termau a’r brawddegau lliwgar y mae’n eu defnyddio. Efallai y bydd ambell air yn gyfarwydd i sawl Cardi, eraill yn hollol ddiarth! Ac felly, gobeithio y bydd y blog hwn yn help wrth i fi geisio cadw’r dafodiaith yn fyw ac yn iach i’r oesoedd a ddêl.

Dyma i chi ddwy enghraiftt oddi ar y blog:


10. -en

Nid gair penodol sydd gen i y tro ‘ma, yn hytrach y talfyriad “-en” i eiriau.

Pan yn cyfeirio at ambell enw benywaidd unigol, bydd mam yn hwpo “-en” ar ei ddiwedd – e.e. sosejen, weetabixen, welsh cêcen. Yn ogystal, pan yn cyfeirio at fwy nac un, bydd mam yn dweud pethe fel “cymer ddwy weetabixen”, “wyt ti ise tair sosejen i swper?”, a.y.b.

9. Sgaram

Galwodd Rob a fi ddoe i weld Wncwl Bryn. Mae e a’r teulu yn dal i fyw yn Cwmere, ac fel brawd mawr i mam, mae’n naturiol ei fod e hefyd yn siarad iaith “Cwmereg”!

Roedd e’n adrodd straeon o’i arhosiad mewn ysbyty yn ddiweddar, a soniodd am “sgaram o fenyw” a fu ymhlith y rhai fu’n ei drin. Gorfod i fi chwerthin, achos roeddwn i’n gallu clywed mam – a mam-gu o ran hynny – yn disgrifio rhywun fel sgaram.

Holes i mam beth yw ystyr sgaram, ac yn syth dyma hi’n dweud “sgaram o fenyw”. Mae’n amlwg felly nad yw dyn yn gallu bod yn sgaram!! Ges i ymhelaethiad, bod sgaram o fenyw yn golygu “menyw fowr”.
Ro’n i wedi cymryd y byddai sgaram yn gyfystyr â swigw, ond na; maint corff menyw sy’n ei gwneud yn sgaram, tra bod swigw i’w wneud ag ymddygiad.

Ac efallai ei bod hi’n werth dweud gair am swigw.

e.e. “Hen swigw o fenyw oedd gwraig y plas” … “odd dim ise i honna bipo lawr arnon ni, y swigw â hi”
Sgaram = menyw fawr
Swigw = menyw gas, annymunol, fras.