https://www.youtube.com/watch?v=kuxIzYVoxJA
Un funud fach cyn elo’r haul o’r wybren,
Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt,
I gofio am y pethau anghofiedig
Ar goll yn awr yn llwch yr amser
gynt.
Fel ewyn ton a dyr ar draethell unig,
Fel cân y gwynt lle nid oes glust a glyw,
Mì wn eu bod yn galw’n ofer arnom –
Hen bethau anghofiedig dynol ryw.
Camp a chelfyddyd y cenhedloedd cynnar,
Aneddau bychain a neuaddau mawr,
Y chwedlau cain a chwalwyd ers canrifoedd
Y duwiau na ŵyr neb amdanynt ‘nawr.
A geiriau bach hen ieithoedd diflanedig,
Hoyw yng ngenau dynion oeddynt hwy,
A thlws i’r clust ym mharabl plant bychaìn,
Ond tafod neb ni eilw arnynt mwy.
O, genedlaethau dirifedi daear,
A’u breuddwyd dwyfol a’u dwyfoldeb brau,
A erys ond tawelwch i’r calonnau
Fu gynt yn llawenychu a thristáu?
Mynych ym mrig yr hwyr, a mi yn unig,
Daw hiraeth am eich ‘nabod chwi bob un;
A oes a’ch deil o hyd mewn Cof a Chalon,
Hen bethau anghofiedig teulu dyn?
Nodiadau
Cyn elo .......cyn delo [cyn aiff....cyn daw] Mae WW yn defnyddio’r modd dibynnol (subjunctive) yn dilyn cyn.
Wybren – awyr
A dyr – sy’n torri
Traethell – traeth bach
A glyw – sy’n clywed
Annedd - cartref
Cain – fine (well-crafted)
Chwalu – scatter....mynd ar goll
Hoyw – bywiog, sionc
Genau – cegau (jaws)
Ni eilw – ddim yn galw
Dirifedi – di-rif, countless
Dywfol – divine, sacred
Dywfoldeb – sanctity
Brau – bregus (brittle, fragile)
A erys – arhosith
Llawenychu (llawenhau) – bod yn llawen
Mynych – aml
Ym mrig yr hwyr – wrth iddi nosi
A oes a’ch deil..... Is there a heart or memory still to cherish? (a oes yna rywbeth rydych yn ei gadw yn eich cof a’ch calon)
No comments:
Post a Comment