Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday, 15 February 2019

Arferion drwg - beth sy'n dân ar eich croen?

https://twitter.com/hanshs4c/status/1095328520467857408

Pwy wnaeth?

https://www.youtube.com/watch?v=UYb_RYjCT2o

Gwibdaith i ogledd Ceredigion

Ar ddiwrnod hynod o braf yng nghanol mis Chwefror aeth dosbarth Sgwrsio Uwch 2 o Aberteifi ar daith i ogledd y sir, gan ddechrau yn swyddfeydd Y Lolfa yn Nhal-y-bont.

Mae yna ddwy ochr i'r busnes, sef argraffu a chyhoeddi, esboniodd Garmon Gruffudd, mab i Robat Gruffudd a sefydlodd y cwmni yn 1967. Erbyn hyn, mae gwasg Y Lolfa yn cyhoeddi dros 50 o lyfrau Cymraeg bob blwyddyn a rhyw 20 o lyfrau Saesneg. Cymraeg yw iaith y busnes sy'n cyflogi 20 o bobl mewn ardal wledig.

Un o gyhoeddiadau cyntaf Y Lolfa oedd Lol, y cylchgrawn dychanol, sydd wedi bod yn enwog am dynnu blewyn o drwyn y Sefydliad Cymraeg dros y degawdau, ac mae'r cwmni'n falch o'i wreiddiau radical hyd heddiw.

Er i ddyfodiad Kindle a dyfeisiadau electronig tebyg achosi pryder i'r diwydiant, roedd gwerthiant llyfrau traddodiadol ar gynnydd, meddai Garmon, a ffaith hynod ddiddorol oedd bod llawer o nofelau Cymraeg yn gwerthu mwy o gopïau o'u cymharu â nofelau Saesneg gan awduron llai adnabyddus.

Wedi taith dywys trwy'r gweithdy a'r warws, lle y teimlodd sawl aelod o'r grŵp eu bod nhw wedi cyrraedd y nefoedd, bu cyfle i brynu llyfrau yn siop Y Lolfa.



Ymlaen â ni wedyn i Dre'r-ddol a'r Cletwr, caffi a siop wrth ymyl yr A487. Cawsom groeso cynnes a chyflwyniad arall gan Nigel Callaghan sydd yn aelod o'r grŵp a sefydlodd y fenter gymunedol sy'n cynnwys llyfrgell Gymraeg a chyfleusterau eraill.

Heddiw mae'r Cletwr yn cyflogi rhyw 12 o bobl leol yn y caffi a'r siop mewn adeilad trawiadol iawn.

Dywedodd Nigel fod pentrefi Tre Taliesin a Thre'r-ddol yn wynebu dyfodol ansicr iawn pan gaeodd y garej, siop y pentref a chyfleusterau eraill tua deng mlynedd yn ôl, ond fe ddaeth y gymuned at ei gilydd i ddechrau'r gwaith caled o godi arian a sefydlu'r fenter sydd erbyn hyn yn llwyddiant ysgubol.





Wednesday, 6 February 2019

Cap cyntaf Windsor

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47071855

Dafydd Llywelyn - Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys

Bydd Dafydd Llywelyn, Comisynydd Heddlu Dyfed Powys, gyda ni ar 21 Chwefror am 10.30 i drafod ei waith a'r heriau sy'n wynebu'r heddlu yn ne orllewin a chanolbarth Cymru.

Dyma ddetholiad o erthyglau a all fod o ddiddordeb er mwyn paratoi at y sesiwn holi ac ateb:

Ethol Comisiynydd Heddlu newydd

Bywgraffiad

Cyffuriau a'r "llinellau sirol"

Sefydlu uned troseddau gwledig yng Ngheredigion

Cynnydd mewn achosion trosedd yng Nghymru


Sunday, 3 February 2019

Pam treiglo?

Peredur Lynch sy'n esbonio ar raglen Aled Hughes.

11'10" i mewn.

Beth sy 'na i de?

Slob neu snob? Dyma holiadur difyr am eich arferion bwyd. Diolch i BBC Cymru Fyw.


Beth sy' i de heno?

Pwy sy' rownd y bwrdd? 
Beth yw'r sialens mwyaf i ti wrth benderfynu be' sy' i de?
Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?
Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?
Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?
Beth yw dy hoff bryd o fwyd?
Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?
Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta / goginio?
Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?
Beth yw dy hoff gyngor coginio?
Beth oedd dy hoff bryd o fwyd erioed?
Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?