Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday, 4 January 2018

Tecwyn Ifan - Cerdded mlaen

Roedd mynyddoedd y Preselau
Fel tadau mwyn i mi,
Rhain ydoedd fy hoffus ffrindiau i,
Bryd hynny ro’n i’n ifanc
A phur ydoedd fy nghân,
Minnau megis newydd gynnau’r tân.

Ond rwy’n dal i gerdded mlaen,
Dal i gerdded mlaen,
Am fod rhai yn dal i ‘ngharu,
Rwy’n dal i gerdded mlaen.

Dechreuais innau gerdded,
Cerdded ar fy nhaith,
Dros y bryniau teg, ’rhyd dolydd llaith,
Profais oriau tywyll,
Brwydrau gwaedlyd fu,
Trosof aeth ’na rai trwy’r angau du.
Ond rwy’n dal i gerdded mlaen ….

A nawr ar fy hen lwybrau
Fe dyf y glaswellt hir tyf - tyfu
Ac ni allaf bellach grwydro’r tir,
Paid a chynnig cymorth
I hen wraig ar ffo,
’Mond dy fywyd cyfan wnaiff y tro.
Ond rwy’n dal i gerdded mlaen ….

Mae bywyd yn y canu,
Ond marw yw y gân,
Dyna ofid yr hen wreigen lân, gwreigan - hen fenyw fach
Ond pan drodd y Cymry ati
Fe ganfu hi ei hedd
A throdd hithau’n ieuanc hardd ei gwedd.
Ac mae’n dal i gerdded mlaen ,
Dal i gerdded mlaen,
Am fod rhai yn dal i’w charu,
Mae’n dal i gerdded mlaen. x2

Tecwyn Ifan - Angel

Daeth i mi mewn breuddwyd, daeth y feinwen lân, meinwen - cariadferch
Torrodd drysau melys cwsg i adrodd im ei chân,
Galwad ddaeth im gwely clud a’r nos yn wlyb ac oer,
Gwelais hi yn dawnsio’n ffri ar belydrau’r lloer ffri - rhydd

Gan ddweud:
Tyrd lle mae’r awyr yn burach,
Y tiroedd yn lasach,
Lle cana’r adar mwyn i gyd yn iach,
Yno mae heddwch
A hudol brydferthwch
A chysur clud i’r corff cyn mynd i’r llwch.

Cwmwl ddaeth yn llen i’r lloer a’i belydrau aur,
Ni welswn mwy y feinwen deg na sibrwd mwyn ei gair,
Trois yn ôl i drwmgwsg hir i wlad y Tylwyth Teg
Ac anghofiais sain y gân a'r sain oedd yn bêr.      

Cytgan

Anghofiais lle’r oedd yr awyr yn burach …
Pan ddaeth newydd wawr dros fyd a’r nos yn cilio draw,
Minnau’n cyfarch haul y dydd tra chiliai cysgod braw,
Gwelais ar y gorwel pell fy mreuddwyd ferch mor rhydd,
Angel Cymru Newydd oedd yn dod i hawlio’i dydd.
A’r dydd hwnnw roedd yr awyr yn burach …

Cytgan

Wednesday, 3 January 2018

Anrhydedd? Dim diolch...

BBC Cymru Fyw sy'n bwrw cipolwg dros rai o'r Cymry adnabyddus sydd wedi gwrthod anrhydedd y Frenhines.....


Carwyn James

Roedd Carwyn James yn athro Cymraeg ac bu'n darlithio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Cafodd ddau gap dros Gymru yn 1958, ond mae'n cael ei gofio yn bennaf fel hyfforddwr rygbi athrylithgar.
Cafodd gynnig yr OBE fel cydnabyddiaeth am lywio tîm y Llewod i fuddugoliaeth yn y gyfres hanesyddol yn Seland Newydd yn 1971. Ond, fel cenedlaetholwr pybyr [= staunch] , gwrthod yr anrhydedd wnaeth Carwyn. Dyn y pethe' oedd o ac roedd yn falch o gael ei dderbyn i Orsedd y Beirdd.
Hywel Gwynfryn
Cafodd y darlledwr Hywel Gwynfryn gynnig yr MBE yn yr 1980au ond fe wrthododd yr anrhydedd. Dywedodd wrth Cymru Fyw:
"Pan ges i'r cynnig o'n i newydd gael fy ngwneud yn gymrawd [= fellow] Prifysgol Bangor ac wedi cael y wisg werdd gan yr Orsedd, felly o'n i'n teimlo mod i wedi cael cydnabyddiaeth gan fy ngwlad.
"Rheiny ddylai gael eu cydnabod ydi'r rheiny sydd ddim fel arfer yn cael eu 'nabod', sef y gweithwyr elusen a'r bobl sy'n weithgar iawn yn y gymuned. Yn bersonol dwi ddim yn meddwl y dylai darlledwyr, newyddiadurwyr a phobl yn y maes dderbyn anrhydeddau."
Grace Williams
Roedd Grace Williams yn gerddor medrus iawn ac yn un o brif gyfansoddwyr Cymru. Cafodd ei geni yn Y Barri yn 1906.
Cafodd ysgoloriaeth i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, cyn mynd 'mlaen i'r Coleg Brenhinol Cerddoriaeth yn Llundain. Grace Williams oedd y ddynes gyntaf o Brydain i gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilm ( Blue Scar , 1949), ac fe gyfansoddodd yr opera The Parlour yn 1961.
Cafodd gynnig OBE am ei gwasanaeth i gerddoriaeth yn 1967, ond fe'i gwrthododd. Mae stiwdio wedi'i henwi er cof am Grace Williams yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Bu farw yn Y Barri ym mis Chwefor 1977.
TE Lawrence
Cafodd y milwr, archeolegydd, newyddiadurwr ac anturiaethwr Thomas Edward Lawrence ei eni yn Nhremadog yn 1888, ond fel Lawrence of Arabia y mae'n cael ei 'nabod gan y rhan fwyaf. Cafodd ei anrhydeddu sawl gwaith, gan gynnwys y DSO yn dilyn Brwydr Tafilah yn 1918.
Yn Hydref 1918 cafodd Lawrence wahoddiad i Balas Buckingham. Roedd Lawrence yn meddwl bod y Brenin Siôr V am drafod ffiniau gwlad newydd i'r Arabiaid, ond yn hytrach fe gafodd gynnig i'w urddo yn Farchog (KBE).
Roedd Lawrence yn gweld penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri'r addewid o roi annibyniaeth i'r Arabiaid fel brâd ac fe wrthododd yr anrhydedd mewn protest.
Augustus John
Augustus John (1878 - 1961) yw un o arlunwyr mwyaf nodedig Cymru. Yn wreiddiol o Sir Benfro, daeth John yn enwog am dynnu lluniau o dirwedd ac, yn hwyrach yn ei yrfa, o bobl.
Fe beintiodd lawer o luniau o gymuned y sipsiwn yng Nghymru, a hefyd ei gyd-Gymro T E Lawrence a'r awdur W B Yeats.
Er ei fod o wedi derbyn Order of Merit am ei gyfraniad i'r celfyddydau gan y Brenin Siôr V yn 1942, mae'n debyg ei fod wedi gwrthod cael ei urddo yn Farchog yn ddiweddarach.
Richard Aaron
Roedd Richard Aaron yn wreiddiol o Flaendulais ac roedd yn Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth o 1932 i 1969. Roedd yn darlithio ym Mhrifysgol Yale yn yr Unol Daleithiau am gyfnod, ac roedd yn arbenigwr ar waith yr athronydd John Locke.
Gwrthododd Aaron CBE yn 1962, a dywedodd ei ferch, Jane Aaron, sydd hefyd yn academydd a llenor adnabyddus, wrth Cymru Fyw:
"Mab i deiliwr oedd fy nhad ac roedd e'n falch o'i gefndir a gwerthoedd dosbarth gweithiol. Rwy'n cofio doedd e ddim yn hoffi cael ei alw yn 'syr' gan bobl a doedd e ddim yn gweld ei hun fel rhan o'r 'sefydliad' o gwbl."
E Tegla Davies
Roedd Edward Tegla Davies (1880-1967) yn weinidog gyda'r Wesleiaid ac yn llenor a oedd yn wreiddiol o Landegla ger Rhuthun.
Roedd yn ysgrifennu llyfrau i blant gan gynnwys y clasur, Nedw. Roedd Gŵr Pen y Bryn, ei unig nofel i oedolion, hefyd yn torri tîr newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.
Fe wrthododd Davies anrhydedd MBE yn 1963.
Jim Griffiths
Roedd Jim Griffiths yn ffigwr hollbwysig yn y broses o sefydlu'r Swyddfa Gymreig yn 1964, ac ef oedd Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru.
Dechreuodd ymwneud â gwleidyddiaeth drwy Undeb y Glowyr (NUM), ac roedd yn Aelod Seneddol dros Lanelli o 1936 hyd at 1970. Gwrthododd y cynnig i'w ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel arglwydd am oes.
Roald Dahl
Cafodd Roald Dahl ei eni yng Nghaerdydd yn 1916, yn fab i rieni o Norwy. Roedd yn enwog am 'sgrifennu llyfrau plant fel James and the Giant Peach , Charlie and the Chocolate Factory a The BFG.
Ond fe wrthododd Roald Dahl OBE yn 1986. Bu farw'r awdur bedair blynedd yn ddiweddarach yn 74 oed.


Pais Dinogad





Pais Dinogad, fraith fraith,



O grwyn balaod ban wraith.      balaod - pine martens (belau-belaod)   ban wraith - y mae'i waith




'Chwid, chwid, chwidogaith!'



Gochanwn, gochenyn wythgaith.    we shout, they shout, the eight in chains




Pan elai dy dad di i helia,



Llath ar ei ysgwydd, llory yn ei law,          llath - gwaywffon      llory - pastwn

Ef gelwi gŵn gogyhwg:        gogyhwg - lively, quick




'Giff, Gaff; daly, daly, dwg, dwg!'      fetch....take




Ef lleddi bysg yng nghorwg        he kills fish from his coracle




Mal ban lladd llew llywiwg.         as a lion kills small animals




Pan elai dy dad di i fynydd



Dyddygai ef pen i wrch, pen gwythwch, pen hydd,     he would bring back the head of a roebuck, a                                                                                            boar and a stag




Pen grugiar fraith o fynydd,        a speckled grouse




Pen pysg o Rhaeadr Derwennydd.      a fish from Derwennydd falls...




O'r sawl yd gyrhaeddai dy dad di â'i gigwain,     at whatever your father aimed his spear




O wythwch a llewyn a llynain,        be it a boar, a wild cat or a fox




Nid angai oll ni fai oradain.            none would escape but that had strong wings




Ceir yr hwiangerdd hon yn Llyfr Aneirin, sydd yn cynnwys testun Y Gododdin. Mae rhai yn credu ei bod yn dyddio'n ôl i'r seithfed ganrif.

Cwrs Uwch Newydd - Gwenllian a Dic Penderyn

Merch Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, a'i wraig Elinor, Arglwyddes Cymru, oedd y Dywysoges Gwenllian neu Gwenllian o Gymru (12 Mehefin, 1282 - 7 Mehefin, 1337), Tywysoges Gwynedd a Chymru. Hi oedd unig ddisgynnydd cyfreithlon Llywelyn o'i briodas ag Elinor (Elen), merch y barwn Simon de Montfort.

Hanes

Cafodd Gwenllian ei geni yn llys tywysogion Gwynedd yn Aber Garth Celyn, Gwynedd, a bu ei mam farw wrth roi genedigaeth iddi. Mewn llai na blwyddyn roedd ei thad hefyd yn farw.
Ar ôl i Dywysogaeth Cymru syrthio, wedi lladd Llywelyn a dienyddio ei frawd Dafydd, bu erlid [=persecution, hounding] gan y Saeson ar ddisgynyddion uniongyrchol olaf Teulu Aberffraw. Roedd Eryri a chalon Gwynedd dan warchae ac am chwe mis neu ragor roedd milwyr Seisnig yn cael rhwydd hynt i wneud fel y mynnant.
Daliwyd Gwenllian. Yr oedd y Dywysoges ifanc yn amlwg yn berygl i Goron Lloegr ac o ganlyniad fe'i ducpwyd [=was led/brought - ff. amhersonol y ferfenw 'dwyn' ] o Wynedd a'i charcharu am oes ym Mhriordy Sant Gilbert yn Sempringham, Lloegr, a hithau ond yn flwydd a hanner oed. Ac yno y bu tan ei marw yn 1337. Mae'n fwy na thebyg na siaradai Gymraeg ac na chlywodd air o Gymraeg gan y lleianod eraill. Yng nghofnodion Sempringham, nodir ei henw fel 'Wencilian', eu hynganiad o'i henw.
Codwyd carreg goffa iddi yn Sempringham yn 2001 gan Gymdeithas Gwenllian.
Ar y 1af o Fai 2009 cyhoeddwyd byddai enw Garnedd Uchaf, copa 3,000 m yn y Carneddau, yn cael ei newid yn swyddogol i Garnedd Gwenllian i gofio'r Dywysoges Gwenllian. Byddai Gwenllian yn ymuno felly a'i thad, ei mam a'i ewythr a goffeir eisoes yn enwau copaon eraill gerllaw, sef Carnedd Llywelyn, Yr Elen a Carnedd Dafydd. Bydd yr enw yn cael ei argraffu, gyda'r hen enw hefyd, ar fapiau OS newydd o Fedi 2009 ymlaen.


Gwrthryfelwr Cymreig oedd Dic Penderyn (enw bedydd: Richard Lewis) (1808 – 13 Awst 1831),glowr a llafuriwr yn ôl ei alwedigaeth.
Ganwyd yn Aberafan a daeth yn enwog wedi iddo gael ei grogi am gymryd rhan yng Ngwrthryfel Merthyr ym 1831. Fe'i cyhuddwyd o drywanu milwr yn ei goes gyda bidog [=bayonet] , er y teimlai nifer ar y pryd, fel heddiw, ei fod yn ddieuog. Dywedir fod y llywodraeth Brydeinig am ladd o leiaf un o'r gwrthrhyfelwyr fel esiampl.
Claddwyd Dic Penderyn ym mynwent eglwys y Santes Fair, Aberafan.