Mae cynnwys Geiriadur Prifysgol Cymru bellach i’w gael ar y we (cliciwch yma).
Mae’r fersiwn ddigidol yn cynnwys bron i wyth miliwn o eiriau,
gyda geiriau newydd fel ‘cyfrifiadur’, ‘cymuned’ a ‘chyfathrebu’ wedi eu
hychwanegu, gan nad oedden nhw’n ymddangos yn y fersiwn brint.
Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r geiriadur Cymraeg hanesyddol
safonol cyntaf ac fe gafodd ei sefydlu yn 1921 gan Fwrdd Gwybodau
Celtaidd Prifysgol Cymru. Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull รข’r Oxford English Dictionary, ond o ran ei fformat mae hanner ffordd rhwng y geiriadur hwnnw a’r Shorter Oxford English Dictionary.
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label geiriadur. Show all posts
Showing posts with label geiriadur. Show all posts
Friday, 27 June 2014
Subscribe to:
Posts (Atom)