"Y tro cynta i fi brynu record" oedd un o'r pynciau gafodd Grŵp 5 eu trafod yn ystod Cwrs Awst Aberystwyth eleni. Roedd y grŵp yn un cymysg o ran oedran, ac felly penderfynais newid geiriad y pwnc i "y tro cyntaf i fi brynu record, casét neu CD". Er fy syndod, dwedodd sawl aelod ifanc nad oedden nhw erioed wedi prynu record, casét na CD. Ffrydio cerddoriaeth mae'r rhan fywaf o bobl y dyddiau hyn, mae'n debyg.
Ydych chi'n ffrydio cerddoriaeth ar Spotify? P'run oedd y albwm neu gân gyntaf i chi ei phrynu? A beth oedd y gig gyntaf i chi fynd iddi?
No comments:
Post a Comment