Dr John Davies yn sôn am statws y Gymraeg yn y 50au a'r 60au.
Chwefror 1962:
Darlith Radio
Saunders Lewis 'Tynged yr Iaith'
"Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith
Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo."
Awst 1962:
Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith ym Mhontarddulais
1963:
Chwefror: Protest
Pont Trefechan.
Mudiad
Amddiffyn Cymru yn ffrwydro bom ar safle argae Tryweryn.
Mai –
Mabwysiadu cyfansoddiad y Gymdeithas (fel canlyniad y 18fed o Fai 1963 yw
pen-blwydd swyddogol y Gymdeithas).
Sefydlu Pwyllgor Hughes Parry oedd yn
edrych i statws y Gymraeg.
1964:
Rhieni yn gwrthod cofrestru eu plant yn
Saesneg
1965:
Boddi Capel
Celyn (Tryweryn)
Meddiannu
swyddfeydd Post – Dolgellau, Llanbedr Pont Steffan a Machynlleth.
Cyhoeddi Adroddiad Hughes Parry yn
awgrymu Dilysrwydd Cyfartal i'r Gymraeg.
1966:
Carcharu
Gwyneth Wiliam, Hywel ap Dafydd, Gareth Miles a Geraint Jones - Ymgyrch Treth
Car
Gwynfor Evans yn cipio Caerfyrddin mewn is-etholiad. Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.
Aberfan
Gwynfor Evans yn cipio Caerfyrddin mewn is-etholiad. Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.
Aberfan
1967. Pasio
Deddf yr Iaith Gymraeg.
1968 -69:
Ymgyrch wrth-Arwisgo
“Wylit, wylit Lywelyn. Wylit waed pe
gwelit hyn. Ein calon gan estron ŵr, ein coron gan goncwerwr.”
1969: Ymgyrch peintio arwyddion ffyrdd
uniaith Saesneg.
1970:
Dechrau
Ymgyrch dor cyfraith dros Sianel Gymraeg.
Torri ar Draws yr Uchel Lys yn
Llundain.
1971:
Yr Achos Cynllwyn Cyntaf yn erbyn y
Gymdeithas (arwyddion ffyrdd).
Ail ymgyrch yn erbyn y Swyddfa Bost.
Hawl i gofrestru priodas yn
ddwyieithog.
Dringo Mastiau Teledu – ymgyrch S4C
1972:
Cyhoeddi
maniffesto cyntaf y Gymdeithas.
Adroddiad Bowen yn argymell arwyddion
ffyrdd dwyieithog.
Ynadon yn dangos cefnogaeth i
brotestwyr iaith trwy beidio eu cosbi yn y llysoedd.
Hailsham yr Arglwydd Ganghellor yn dod
i Fangor i ddweud y drefn wrth yr Ynadon.
1973:
Sefydlu Cyngor yr Iaith Gymraeg.
Noson Tafodau Tân yng Nghorwen.
Meddiannu Tai Haf.
1974.
Gwrthwynebu Stadau Tai Diangen.
Mudiad Adfer yn gwahanu oddi wrth y
Gymdeithas.
1975:
Malu arwyddion ffyrdd dros flaenoriaeth
y Gymraeg
1976:
Cwmni Boots yn addo polisi dwyieithog.
1977:
Difrod i Drosglwyddydd Blaenplwyf yn
ymgyrch y Sianel.
Ymgyrch yn erbyn Arwerthwyr Tai.
1978:
Dal i ymgyrchu dros arwyddion
dwyieithog a Sianel Gymraeg.
Tesco yn addo polisi dwyieithog.
Cynghorau yn ystyried statws cynllunio
i'r Gymraeg.
Carcharu
Wynfford James a Rhodri Williams am gynllwyn Blaenplwyf. (Roedd hwn yn achos
mawr ar y pryd – cafodd Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Gymdeithas eu harestio a'u carcharu
am gynllwynio i wneud difrod i fast)
1979:
Llywodraeth yn addo Sianel Gymraeg yn
1983.
W H Smith yn addo polisi dwyieithog.
Ymgyrch Cymreigio Banciau yn dechrau.
Twrw Tanllyd (gig Cymdeithas yr Iaith) yn
dod i'r Steddfod.
Gweithredu yn erbyn tai diangen yn
Gaerwen.
Pleidlais NA yn y refferendwm ar
ddatganoli.
Etholwyd Margaret Thatcher yn Brif
Weinidog.
1980:
Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio ar
fater y Sianel a'r llywodraeth yn newid meddwl.
1981:
Ymgyrch Siarter Iaith a chynllunio yng
Nghlwyd.
Cyngor Sir Powys yn erlyn Wayne
Williams.
1982:
Protest genedlaethol dros Wayne
Williams.
Gweithredu yn erbyn Awdurdod Iechyd
Gwynedd.
Cynhadledd gynllunio yng Nghlwyd.
Gwrthwynebu Marina Pwllheli.
Rhoi llawer o gefnogaeth i CND.
Cyhoeddi ymgyrch Deddf Iaith ac un dros
Gorff Datblygu Addysg Gymraeg.
1983:
Gwrthwynebu Gwŷl y Cestyll – Y bwriad
oedd dathlu fod 700 mlynedd wedi mynd heibio ers eu codi. Ond teimlai'r
Gymdeithas mai yr hyn a wnaem oedd dathlu ein darostyngiad.
Taith dros Gorff Datblygu Addysg
Gymraeg.
Meddiannu Colegau Addysg Bellach.
1984:
Cefnogi
Streic y Glowyr a ffermwyr llaeth Dyfed.
Ymgyrch cownter Cymraeg Swyddfa Bost
Caerdydd.
Difrodi pencadlys y Torïaid yng
Nghaerdydd fel rhan o'r ymgyrch dros Gorff Datblygu addysg Gymraeg.
1985:
Fel rhan o'r ymgyrch dros Gorff
Datblygu Addysg Gymraeg difrodwyd uned y Swyddfa Gymreig ar Faes yr Eisteddfod.
(Ni ddaeth y Swyddfa Gymreig i'r Eisteddfod wedyn tan 1997).
Ymgyrch Cymreigio Banciau.
Cefnogi'r Mudiad Gwrth Apartheid.
Dirprwyaeth i Belfast ar wahoddiad Sinn
Fein i drafod adfywiad y Wyddeleg.
1986:
Cychwyn deiseb Genedlaethol dros Ddeddf
Iaith. Gwilym Prys Davies a Wigley yn cyhoeddi Mesur Iaith drafft.
Sefydlu Pwyllgor Datblygu Addysg
Gymraeg.
1987:
Ymgyrch 'Nid yw Cymru ar Werth'.
1988.
Ymgyrch Dor Cyfraith 'Nid ywCymru ar
Werth'.
Galw am wasanaeth radio Cymraeg i
ieuenctid.
Sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
1988/89:
Peintiwyd
Slogan Deddf Iaith ar fur y Swyddfa Gymreig gan nifer o Gymry amlwg yn ystod
Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Peintiwyd slogan yn yr un fan yn fisol am
gyfnod o
flwyddyn. Arestiwyd dros 40 o bobl.
1991 Carcharu Branwen Niclas ac Alun
Llwyd gan Lys Ynadon Yr Wyddgrug am dorri i mewn i adeiladau'r Swyddfa Gymreig
yn Llandrillo yn Rhos fel rhan o'r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo. Arwain at brotestiadau
a charchariadau (John Pritchard, Richard Wyn Jones a Jane Aaron).
Rhagfyr 1991:
Gig Rhyw
Ddydd Un Dydd ym Mhontrhydfendigaid i groesawu Alun a Branwen o garchar.
1992:
Protest Deddf Iaith yn Llundain (yn
dilyn cyfnod o gasglu tystiolaeth a nifer o brotestiadau lleol yng Nghymru).
1993:
Deddf yr Iaith Gymraeg yn dod i rym.
Sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg Statudol
1994 -97:
Ymgyrch Weithredol 'Trefn Deg' dros
System Addysg annibynnol i Gymru -'Rhyddid i Gymru Mewn Addysg” Grwpiau o 10
(athro rhiant, myfyrwyr, llywodraethwyr etc.)
yn torri i mewn i adeiladau'r
llywodraeth.
1997:
Ymgyrchu yn y Refferendwm. Trefnu taith
gerdded trwy Gymru 'Ie a mwy...'
1998:
Ron Davies, Ysgrifennydd Cymru yn
siarad mewn cyfarfod cyhoeddus ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym
Mhen-y-bont ar Ogwr oedd wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
1997 – 98:
Pwyso ar y darpar Gynulliad i roi
statws llawn i'r Gymraeg. Cyhoeddi Agenda ar Gyfer
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Awst
'98), Dwyieithrwydd Gweithredol (Mai 1999) Argraffiad newydd o Lawlyfr Deddf
Eiddo (1999)
2000:
Ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd yn
cychwyn
2002:
Cyflwyno Tystiolaeth i Arolwg Iaith y
Llywodraeth
2003:
Taith trwy Gymru tros Ddyfodol ein
Cymunedau. Arwain at Lobi yn Nhy'r Cyffredin, cyfarfod Edwina Hart yn y
Cynulliad a derbyn cefnogaeth 130 o Gynghorau Cymuned twy
Gymru i egwyddorion Deddf Eiddo.
Y Llywodraeth yn Cyhoeddi Iaith Pawb
(yn dilyn eu harolwg) - cynllun cenedlaethol ar gyfer adfywio y Gymraeg.
2004:
Arestio 14 aelod o'r Gymdeithas am
brotestio yn erbyn cwmni Orange, yn ddiweddarach yn y flwyddyn arestiwyd 7
arall yn y pencadlys ym Mryste.
Cyflwyno tystiolaeth i Gomisiwn Richard
yn galw am i'r cyfrifoldeb dros ddeddfu ar y Gymraeg gael ei drosglwyddo i'r
Cynulliad Cenedlaethol
Ymgyrch dros Goleg Ffederal Cymraeg ar
daith tan arweiniad Catrin Dafydd.
Cychwyn ymgyrch yn erbyn Seisnigrwydd
Radio Carmarthenshire.
2005:
Fforwm Genedlaethol i drafod yr angen
am Ddeddf Iaith Newydd.
5 aelod yn cael eu rhyddhau yn amodol
am achosi difrod troseddol yn Radio Carmarthenshire.
Cyhoeddi papur Trafod Ymgynghorol ar
Ddeddf iaith.
Cyngor Sir Caerdydd yn gofyn i'r
Gymdeithas ymatal rhag 'difwyno' arwyddion ffyrdd.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol y
Gymdeithas yn dilyn y Prif Weinidog Rhodri Morgan rownd y Maes yn galw am
Ddeddf Iaith newydd.
Arestio 10 o aelodau'r Gymdeithas am
beintio sloganau yn galw am Ddeddf Iaith ar furiau adeilad
llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays.
Wyth aelod yn torri ar draws sesiwn yn
y Cynulliad fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd
2006:
Carcharu
Gwenno Teifi am dridiau am wrthod talu dirwy yn deillio o'r protestiadau yn
erbyn Radio Carmarthenshire.
Cyhoeddi Mesur Iaith y Gymdeithas mewn
lansiad yn y Cynulliad Cenedlaethol
2007:
Gorymdeithio trwy Belfast dros Ddeddf
Iaith Wyddeleg.
Pum diwrnod o garchar i Gwenno Teifi am
ei rhan yn yr ymgyrch Deddf Iaith
Galw ar i Gyngor Sir Gwynedd beidio
dilyn polisi o gau ysgolion gwledig. Hyn yn arwain at flynyddoedd o ymgyrchu yn
arbennig yn y Parc ger y Bala.
Cannoedd yn protestio ym Morrisons
Bangor
Thomas Cook yn gwahardd staff rhag
siarad Cymraeg yn y gwaith
2008:
Cwmni Focus yn datgan fod y Gymraeg yn
iaith 'estron' yng Nghymru.
Llywodraeth Cymru yn torri addewid i
sefydlu papur dyddiol Cymraeg.
Cyhoeddi cyfrol Gwion Lewis 'Hawl i'r
Gymraeg'.
Cyhoeddi'r Gorchymyn Cymhwysedd
Deddfwriaethol ar yr Iaith Gymraeg i alluogi Llywodraeth Cymru i ddeddfu ym
maes y Gymraeg
2009:
Y Gymdeithas yn rhoi tystiolaeth i'r
Pwyllgor Deddfwriaethol ar yr Iaith Gymraeg.
David Jones, gweithiwr yn Morrisons
Caergybi yn cael ei rwystro rhag siarad Cymraeg yn y gweithle
Carcharu
Ffred Ffransis am wrthod talu dirwy osodwyd arno wyth mlynedd ynghynt. Dywedodd
nad oedd sefyllfa'r Gymraeg wedi newid dim yn y cyfnod hwnnw.
Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan
yn cyhoeddi mai y Cynulliad Cenedlaethol ddylai ddeddfu ar fater yr iaith.
Osian Jones yn derbyn dedfryd 28
diwrnod am achosi difrod i gwmnïau preifat fel rhan o'r ymgyrch
dros Ddeddf Iaith
2010:
Traddodi a
darlledu darlith Tynged yr Iaith 2 yn fyw ar-lein gan Gymdeithas yr Iaith.
Darlith
sydd yn
cyhoeddi gweledigaeth y Gymdeithas am adfer y Gymraeg yn ein cymunedau.
Ralïau
mawrion dros ddyfodol S4C yng Nghaerdydd, Caernarfon a Chaerfyrddin sy’n arwain
at fisoedd o ymgyrchu ac anufudd-dod sifil.
Penodi Cadeirydd y Coleg Cymraeg
Cenedlaethol.
2011:
Mesur y Gymraeg (Cymru) yn dod yn
gyfraith - mae gan y Gymraeg statws swyddogol am y tro cyntaf yn ei hanes
Lansiad swyddogol Coleg Ffederal
Cymraeg (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
Grwp Hawliau’r Gymdeithas yn dechrau
ymgyrch i adfer Cofnod Cymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Galw am ddatganoli y cyfrifoldeb dros
ddarlledu i Gymru
Ymgyrch i
sicrhau dyfodol y sianel yn parhau, carcharwyd Jamie Bevan am dridiau am
ddifrodi swyddfa’r Ceidwadwyr yng Nghaerdydd.
2012:
Ail-sefydlu Cofnod Cymraeg yn y Cynulliad
Cenedlaethol a chyhoeddi Bil Ieithoedd Swyddogol
Penodi Meri Huws yn Gomisiynydd y
Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith yn Cyflwyno Llyfr Du sy'n nodi diffygion
gwasanaethau Cymraeg iddi.
Taith Tynged yr Iaith – Taith drwy
Gymru
Gŵyl HannerCant ym Mhontrhydfendigaid i
ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas.
Carcharu
Jamie Bevan am bythefnos am wrthod talu dirwy.
Sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymru –
Cynghrair annibynnol i dynnu cymunedau at ei gilydd i gyd- lobio ac ymgyrchu.
2015:
2016
Llywodraeth leol: Y Gymdeithas yn pwyso ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddechrau gweithio yn Gymraeg.
Addysg: Ymgyrch sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu Cymraeg Ail Iaith fel pwnc: "Addysg Gymraeg i Bawb".
No comments:
Post a Comment