"Byddai'n mynd i uffern, yn siwr. Dyna oedd y dylluan - arwydd gan Dduw ei fod wedi ei gweld hi. Arwydd y byddai'n cael ei dal, a'i chosbi."
Dolgellau 1833, ac mae bywyd tawel Ann Lewis, 18 oed, yn gwella'n arw. Mae'n cael swydd newydd mewn siop ddillad yn y dref ac mae gwas ffarm golygus o'r enw Elis Edwards yn dangos diddordeb mawr ynddi. Beth all fynd o'i le?
Dyma stori gyffrous a hynod ddarllenadwy sydd wedi ei seilio ar ffeithiau go iawn am gyfnod creulon a chythryblus yn ein hanes gan awdures sy'n feistres ar ei chrefft.
Gwenan Mared, Cylchgrawn Barn: "Mae'n berl o nofel; mi wnes ei mwynhau o'r cychwyn cyntaf i'r gair olaf, rhywbeth nad yw adolygydd yn gallu'i ddweud a'i llaw ar ei chalon mor aml a hynny.
Mae'n chwip o stori, gyda rhamant, ffrindiau ffol, cenfigen, teulu cul Methodistaidd, chwantau naturiol merch ifanc, cariad ffyddlon annwyl o fwy nag un math a charwr anwadal, bydol oll yn chwarae rhan."
anwadal = amhosibl dibynnu arno, chwit-chwat, ansad, simsan
amhosibl dibynnu arno; sigledig, simsan, ansad, oriog, gwamal, , chwit-chwat
Copyright © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2016. All rights reserved.

No comments:
Post a Comment