Cafodd Byw Celwydd, drama newydd wleidyddol S4C ei lansio yn Senedd
Cymru heno (nos Fawrth, 1 Rhagfyr) - yn yr union fan lle ffilmiwyd nifer
o'r golygfeydd yn y gyfres rymus hon.
Bydd y gyfres wyth pennod, sy’n dechrau ar S4C nos Sul, 3 Ionawr 2016
am 9.00, yn portreadu gwrthdaro rhwng newyddiadurwyr, ymgynghorwyr a
gwleidyddion sy'n aelodau o bleidiau dychmygol ym Mae Caerdydd. Yn dilyn
etholiadau, clymblaid sydd mewn grym, rhwng tair plaid sef Y
Ceidwadwyr Newydd, Y Cenedlaetholwyr a'r Democratiaid gyda'r Sosialwyr
yn wrthblaid.
Bydd y gyfres yn delio รข straeon amserol a chyfoes, yn cynnwys
problemau ym maes iechyd, addysg, llywodraeth leol a hawliau merched a
materion polisi rhyngwladol i enwi dim ond rhai. Bydd sawl stori
ddramatig wrth i'r newyddiadurwr, Angharad Wynne, a bortreadir gan yr
actores Catherine Ayers, geisio darganfod amcanion gwleidyddol a
phersonol y prif gymeriadau a bortreadir gan gast cryf o actorion
profiadol.
No comments:
Post a Comment