Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday, 17 March 2018

Hoff eiriau gwrandawyr Radio Cymru

Diolch unwaith yn rhagor i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, gofynnodd Cymru Fyw i chi gyfrannu eich geiriau chi at ein hymgyrch Hoff Air - ac mae cannoedd ohonoch chi wedi cysylltu.
Agorodd y llifddorau wedi apêl Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru. Daeth toreth o eiriau ar e-bost ac ar y cyfryngau cymdeithasol, a ry'n ni wedi defnyddio nifer o'r geiriau hynny i greu poster gallwch lawrlwytho a'i gadw.

"Mae'r ffaith fod cynifer wedi cynnig geiriau gwahanol i'w gilydd yn tanlinellu'r cyfoeth sydd mewn Cymraeg llafar," meddai Ifor ap Glyn.
Yma, mae'n cloriannu'r ymateb i'r ymgyrch.

Cafwyd ymateb anrhydeddus iawn i'r apêl gyda mwy na 400 wedi cysylltu - ond y syndod mwyaf oedd fod y rhan fwyaf o'r geiriau a gynigiwyd, yn ymddangos unwaith yn unig.
Dim ond naw o eiriau sy'n ymddangos bedair gwaith neu fwy; ansbaradigaethus (gwych, rhagorol, eithafol), ysbigoglys (sbinaets), cariad a twmffat (pedair gwaith); annibendod, bondigrybwyll (GPC: Heb fod yn werth ei grybwyll, na phrin sonier amdano, honedig; rhyfedd yw dweud; hollbresennol; ar fy ngair!, yn wir!) , a pendramwnwgl (pum gwaith) chwrligwgan (saith gwaith) a hiraeth (tair ar ddeg o weithiau).
Er mai geiriau digon plaen, geiriau 'bob dydd' yw cariad, hiraeth a twmffat (neu twndish yn y De) gwelwn mai'r hyn sy'n gyffredin rhwng y lleill yw eu hyd nhw; (camp iti eu dweud nhw, bron, maen nhw mor hir!) ac mae 'na bleser i'w gael wrth rolio'r fath greadigaethau aml-sillafog o gwmpas y geg.
Geiriau tebyg ar y rhestr oedd cabarlatsio (siarad dwli), wilibowan (Eng. to dawdle) a rhacsjibidêrs (Eng. smithereens, tatters). Geiriau gyda chydig o 'ylwch-chi-fi' yn perthyn iddyn nhw yw'r rhain.
Ond ochr yn ochr â nhw, mae geiriau tipyn symlach ond hollol angenrheidiol: crimog (shin); llysnafedd (slime); llaca (mwd); lletwad (llwy fawr i godi cawl - ladle).
Mae brogarwch wedi cymell ambell ddewis: odi, siwblachad, (gwneud yn anniben neu'n frwnt) sbensh (cwtsh dan staer); tro arall, rhesymau teuluol.
Perfedd (canol neu ganolbwynt, hefyd 'guts') oedd hoff air tad y darlledwr Huw Edwards; wics fyddai mam Anna Jones o Abersoch yn dweud am hot cross buns.
Ond un o'r rhesymau rhyfedda am ddewis hoff air, oedd hwn gan ddyn o Landwrog: 'siop yw fy hoff air i deipio,' meddai. (Ac os craffwch ar y bysellfwrdd, fe welwch fod 'i', 'o', a 'p' i gyd mewn un rhes gyfleus!)
Beth bynnag oedd rhesymau'r gwahanol gyfrannwyr dros eu dewis, diolch iddynt oll am wneud.
Mae'r ffaith fod cynifer wedi cynnig geiriau gwahanol i'w gilydd yn tanlinellu'r cyfoeth sydd mewn Cymraeg llafar.
A dyma'r her nesa'. Nid cyfoeth i'w gronni'n gybyddlyd (= miserly, covetous) yng nghilfachau'r cof mo hyn, ond cyfoeth i'w rannu'n afradlon (=extravagant) ymhob sgwrs.
Dim ond felly y gwna'r geiriau hyn ddodwy, er mwyn cyfoethogi iaith y to sy'n codi. 'Fesul gair mae colli iaith' meddai'r hen ddywediad; ond siawns fod y gwrthwyneb yn wir.
Fesul gair gallwn ei hadennill yn ei hysblander; felly ewch ati i sianachad (=handle roughly) a stabaleinad (= sarnu, trample on) fel cywmaliffwt (GPC term of abuse:  Ar lafar yn y Gogledd, ‘Be wyt ti’n siarad, yr hen gyw máliffwt?’) !
Dyma ddetholiad o'r geiriau Cymraeg eraill sydd wedi mynd â'ch bryd chi - a'r rhesymau pam.
  • Abo
"Mae'n addas iawn ar y tywydd yma. Dywedodd rhywun wrthyf unwaith ei fod yn dod o'r hen air Cymraeg aboer sy'n golygu corpse." (Annette Hughes, Clydach, Cwm Tawe)
"Mi oedd ei mam yn dweud fod ei thraed fel 'abo' - felly ei thraed mor oer â chorff." (Rhiannon)
  • Bloeddi
"Gair am ddraenio llysiau." (Jane Lloyd, Machynlleth)
  • Bochgoch


Bochgoch

"Achos sŵn ac odl y gair ac achos dw i medru gweld beth mae'n ddisgrifio." (Daniela Schlick, Porthaethwy)
  • Brocyn
"Enw ar fachgen oedd yn cael y swydd o dynnu'r hadau a'r llwch o dan y peiriant dyrnu ers talwm." (Merfyn Williams, Pontsiet)
  • Bwchadanas
"Hynny oherwydd mae e'n dafodieithiol, llawer mwy lliwgar na 'carw', a rhywsut yn adlewyrchiad dda o'r anifail gogoneddus mae'n diffinio a disgrifio." (Stephen Thomas, Caerdydd)
  • Canu grwndi
"Dau air, ella - ond mae rheolau yno i'w torri..." (@melfync)
  • Chwimwth
"Fel ieithydd mae gen i nifer o hoff eiriau (a rhai dw i'n eu casáu hefyd). Ond mae'n debyg un o'm ffefrynau yw 'chwimwth' sy'n cyfleu'r holl syniad o 'symud sydyn' o'i sŵn." (Sion Rees Williams, Dunstable). chwimwth: cyflym, sionc, bywiog, heini.
  • Chwyrligwgan
"Mae'n gwneud i mi chwerthin ac yn air cymaint gwell yn Gymraeg na Saesneg (spinning top). Da 'di'r iaith Gymraeg." (Gwenda Williams, Penmorfa)
  • Ci
"Gair byr sy'n crynhoi popeth da yn y byd. Cymeriad, cyfeillgarwch a chariad diamod, cwmpeini, sbort a hapusrwydd. I aralleirio dywediad cyfarwydd - heb gi, heb ddim." (Einir Young, Talybont, Bangor)
  • Ciwmaliffwt
"Plentyn direidus." (Dafydd, Llanrug)
  • Cyboldran
"Siarad a dim tin na phen i stori neu rhywun yn siarad gormod." (Olwen Jones)
  • Diolch
"Dwi'n dwlu am y gair achos mae e'n air mor bert sy'n golygu shwt gwmynt. Hefyd, mae e'n air nad yw'n cael ei ddefnyddio mor aml ag y dylai - yn enwedig gan blant." (Siân Teifi, Llanfaglan, Caernarfon)
  • Fferins
"Gair fy nain Bala am dda-da." (Meleri)
  • Ffunan (hances)
"Un o fy hoff eiriau achos mai Nain odd yn eu dweud nhw." (Janet Aethwy)
  • Huodledd


Huodledd = Eloquence

"Oherwydd bod ganddo ryw fath o berseinedd arbennig, sy'n addas iawn o ystyried ystyr y gair." (Daniel, Rhondda Cynon Taf)
  • Ledled
"Dwi'n hoffi'r ffordd mae o'n swnio a dwi bob tro'n chwilio am esgus i'w ddefnyddio yn fy ngwaith fel cyfieithydd." (Ffion Mair Parrington, Pentre'r Eglwys)
  • Llanast
"Gair sy'n disgrifio ei ystyr yn berffaith." (Dilwyn Jones, Bethesda)
  • Lletchwith
"Mae'n air mor llethchwith nad ydy neb yn ei ddweud yn iawn!" (Christopher Griffiths, Blaendulais)
  • Llwyddiannus
"Mae pob un dysgwr sy'n llwyddo i ddod yn rhugl yn y Gymraeg yn gwneud cam pwysig tuag at yr amcan o gyrraedd miliwn o siaradwyr yr iaith. Hoffwn i weld miloedd o ddysgwyr llwyddiannus yn dod yn rhan o'r 'Cymry Cymraeg'." (Jonathan Simcock, Belper, Derbyshire)
  • Melysgybolfa
"Ei ystyr wreiddiol yw "rhywbeth digon blêr ac amaturaidd - sef rhyw 'frethyn cartref o beth' ", yn cyfeirio at adloniant byr-fyfyr (= impromptu) , tebyg i Noson Lawen, ond heb yr ymarfer na'r sglein... yn ôl yr ysgolhaig Syr Ifor Williams.
"Wedyn, am hwyl, dyma Dafydd Parri, awdur cyfres y Llewod yn bathu'r gair a rhoi ystyr newydd iddo fo, sef pwdin treiffl.
"Bellach, mae rhai tai bwyta yng Nghymru yn defnyddio MELYSGYBOLFA yn gyfieithiad o bwdin efo'r enw Saesneg Eton mess arno. Dwi 'rioed wedi blasu un o'r rhei'ny, ond ma'n siŵr 'i fod o'n bwdin clyfar a bonheddig iawn!" (Mari Gwilym, Caernarfon)
  • Mwddrwg
"Dyma beth oedd Nain yn galw fi." (Eirian James, Caernarfon)
  • Panad
"Datrys pob broblem." (Eleri, plwyf Rhoscolyn)
  • Pibonwy (icicle)
"Gair addas iawn ar gyfer y tywydd oer." (Elin, Ysbyty Ifan)
  • Pwlffacan
"Mae'n ymylu ar swnio'n anweddus, ond yn disgrifio malu awyr i'r dim." (John Bryn Owen, Y Groeslon)
  • Sboncen
"Heb unrhyw drafferth - mae'n achosi llawer o werthin yn fy nosbarth!" (Gareth Murphy, Caerdydd)
  • Sbratast


sbratast - cath sy'n dwyn bwyd oddi ar y bwrdd

"Dw i'n defnyddio'r gair yn Saesneg, hefyd, oherwydd does dim byd yn debyg yn Saesneg - ond mae 'na gathod sy'n dwyn bwyd oddi ar y bwrdd yn Lloegr." (Mike Farnworth, Lerpwl)
  • Shwblachad
"Pan ma' dillad wedi eu pentyrru'n flêr bob sut, neu os oes na olwg blêr ar ddilledyn." (Gwyneth)
  • Strywla
"Gair arferol i mi am chwilio a chwalu e.e. mewn drôr. Am be wyt ti'n strywla yn fanna? h.y. rhywun yn chwilio a hwyrach blera'r drôr yr un pryd." (Olwen Jones)
  • Twll
"Dw i jyst yn licio'r sŵn!" (Kathryn Packwood, Blaenau Ffestiniog)
  • Whilmentan
"Twrio mewn drôr neu focs heb wybod beth a ddaw." (Mags Griffiths, Caerffili)
"Busnesu yw ei ystyr, mae'n gwneud i fi feddwl am balu trwy ddreir yn nhŷ Mamgu yn chwilio am bethau diddorol." (Bethan Griffiths, Caerdydd)
  • Wncomwnco
"O ardal Llanelli am hwnna yn fana." (Bedwyr)
  • Wompyn
"Rhywbeth mawr - mae'r babi 'na'n wompyn!" (Ows, Caerdydd)

Y lle gorau i fyw?

Diolch i BBC Cymru Fyw am y darn yma.
Mae papur newydd y Sunday Times wedi cyhoeddi rhestr o'r "llefydd gorau i fyw yng Nghymru", gyda'r Mwmbwls yn Abertawe ar y brig.
Mae'n disodli'r Bont-faen ar dop y rhestr, gyda'r dref ym Mro Morgannwg ddim arni o gwbl eleni.
Dywedodd y Times eu bod wedi asesu nifer o ffactorau, gan gynnwys brogarwch, canlyniadau arholiadau, cyflymdra band eang ac argaeledd siopau lleol.
Dyma'r chweched flwyddyn i'r papur newydd gyhoeddi'r rhestr ar gyfer y DU gyfan, ac mae 10 lle o Gymru arni eleni.
Llefydd yng Nghymru ar y rhestr (yn nhrefn y wyddor):
  • Abersoch, Gwynedd
  • Llanandras, Powys
  • Llanussyllt, Sir Benfro
  • Mwmbwls, Abertawe
  • Mynwy, Sir Fynwy
  • Penarth, Bro Morgannwg
  • Talacharn, Sir Gaerfyrddin
  • Tregolwyn, Bro Morgannwg
  • Tyddewi, Sir Benfro
  • Y Fenni, Sir Fynwy
Ond beth yw'ch hoff lefydd chi i fyw a bod?
Yn ystod ymgyrch Hoff Le Cymru Fyw, daeth nifer o leoliadau i'r amlwg, rhai yn llai adnabyddus nag eraill...
Elis James (digrifwr) - Machynlleth adeg yr ŵyl gomedi
"Fy hoff le yng Nghymru yw Machynlleth yn ystod yr ŵyl gomedi a gynhelir yno, penwythnos cyntaf mis Mai. Ma' Mach yn dre' hyfryd 'ta pryd chi'n dewis mynd, ond gyda dros gant o gomedïwyr gorau'r byd yn perfformio, ma' fe hyd yn oed yn well. Ma'r awyrgylch wastod yn wych, ma'r tywydd wastod yn wych (croesi bysedd!), a ma' fe'n rhoi cyfle i bobl y canolbarth fwynhau y gorau sydd gan gomedi i'w gynnig."
Manon Carpenter (pencampwraig beicio mynydd) - Mynydd Machen
"Rwy'n beicio mynydd dros y byd i gyd. Ond, pan fi'n dod nôl i Gymru, un o fy hoff lefydd i fynd yw copa mynydd Machen. Mae'n bosib gweld am filltiroedd i bob cyfeiriad ac rwy'n teimlo mod i wir wedi cyrraedd adre!
"Mae'r daith i fyny'n un anodd ond ma' dod lawr yn hollol ddiymdrech. 'Sdim ots os ma' hi'n heulog, glawio neu bwrw eira, fi wastad yn cyrraedd y gwaelod gyda gwên fawr ar fy ngwyneb!"
(Lleolir Mynydd Machen rhwng Risga a Machen, ger Caerffili. Uchder: 362 medr/1188 tr.)
Anwen Evans - Tŷ Mawr Wybrnant ger Penmachno
Meddai Anwen Evans, un o ddarllenwyr Cymru Fyw: "Un o fy hoff lefydd yw Tŷ Mawr Wybrnant ger Penmachno, Dyffryn Conwy, sef cartref yr Esgob William Morgan.
"Yr ardd, gyda phlanhigion yn adlewyrchu yr ardd fel ag yr oedd hi yn y 16eg ganrif, yw fy hoff le - eistedd ar fainc fach ger wal gerrig, gyda choeden afalau yn ymestyn ei brigau dros y fainc, ac afon yn llifo gerllaw.
"Arogl hyfryd y blodau yn gymysg efo'r mwg coed tân o simdde'r tŷ, a'r adar yn canu. Yn wir, yng ngeiriau R Williams Parry: "...mae yno flas y cynfyd, yn aros fel hen win".
"Mae'r holl ardal yn brydferth tu hwnt, ond yn bennaf oll, mae'r llonyddwch a'r distawrwydd yn falm i'r enaid."





Wednesday, 14 March 2018

Hanes yr Iaith mewn 50 Gair: Sais




Beth yw Sais? Dyma ddiffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru:

Brodor o Loegr, un o dras neu genedligrwydd Seisnig; Sacson; siaradwr Saesneg (di-Gymraeg).

Ifor ap Glyn sy'n esbonio mwy.

Nodiadau


Cân: "Mae Cymru wedi cael ei dydd. Dw i eisiau bod yn Sais."

Os gwnewch chi gwglo'r gair Sais, daw pob math o atebion annisgwyl...

gair Hindwstani i ddisgrifio gwas sy'n gofalu am y ceffylau - mi wnaeth hynny wneud i mi wenu, rhaid i mi gyfadde...

Mae’r gair yn dod o’r Lladin Sacso, a'r ffurf luosog Saeson yn fenthyciad o'r Lladin Sacsones.

Yn wreiddiol, roedd e'n disgrifio llwyth o ganol yr Almaen, ardal sy'n cael ei hadnabod hyd heddiw fel Sachsen.

Oherwydd y traffig cyson sy wedi bod rhwng Cymru a Lloegr dros y canrifoedd, mae'r gair Sais wedi dod i ddisgrifio pob math o bethau yn ein iaith lafar ni.

Myrddin ap Dafydd sydd ag ychydig o enghreifftiau.

Cwlwm Sais - math arbennig o gwlwm oedd yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr yn rhywle.
[Dyma esboniad y GPC: knot used in tying sheaves (so called because Welsh reapers became acquainted with it while harvesting in Herefordshire) (lit. Englishman’s knot)]

Gwenith Sais - math o wenith mae angen tir da ar ei gyfer e.

Mae ambell i ddefnydd o'r gair Sais yn llai caredig...

Unwaith eto yng Ngheredigion, [roedd pobol] yn galw siswrn yn 'Sais', darlun cartwnaidd o Sais ei fod e fel siswrn...

Dyn ni'n dweud hynny am rywun blin, "fod e'n blin fel siswrn". A hefyd galw pladur [scythe] (benywaidd ydy pladur) ...a'i galw hi yn 'y Saesnes', byddai rhywun yn meddwl bod 'na dinc o hen bladurwr wedi dod adre i Gymru a teimlo ei fod e wedi cael cam yn rhywle ar y daith.

Ond wrth gwrs, nid y ni yw'r unig rai sy'n byw drws nesa i Loegr ac yn siarad iaith wahanol.

Tybed beth mae ein cefndryd Celtaidd ni'n galw'r Saeson, a'r wlad lle maen nhw'n byw?

I'r Gwyddelod Sasana yw enw'r wlad, a Sasanach yw un sy'n byw yno...ond Béarla maen nhw'n galw'r iaith mae'r Sasanach yn ei siarad, sy'n gallu golygu iaith annealladwy. I'r Cernywiaid Sowson yw'r bobol sy'n byw draws nesa, a Sowsnek maen nhw'n siarad, ond Pow Sows yw eu gwlad nhw. Mae 'pow' yn golygu 'gwlad' - yr un gair yn y bôn â'r hyn dyn ni'n ei ganu tua diwedd ein hanthem genedlaethol: "a'r môr yn fur i'r bur hoff bau". 

Mae'r geiriau Sais a Saeson yn elfen yn sawl enw lle. Mae 'na Bont-ar-sais ger Caerfyrddin, mae 'na sawl Rhyd-y-saeson i'w cael hefyd, ac roedd Geraint Jarman yn canu yn fanno am Gae'r Saeson lle y cynhaliwyd gigs Cymdeithas yr Iaith yn ystod eisteddfod Caernarfon yn 1979. Ond ydy hyn yn golygu bod Saeson wedi bod yn byw ar hyd a lled Cymru yn rhai o rannau Cymreiciaf ein gwlad ers canrifoedd lawer? Wel, dim o reidrwydd.

Myrddin ap Dafydd: y cofnodion cynhara sy gynnon ni nôl yn yr oesoedd canol...Einion Sais o ym Mrycheiniog, wel Cymro oedd o ond fod o'n medru siarad Saesneg, felly yn yr ystyr yna, rhywun sy'n medru siarad Saesneg, hyd yn oed os ydy o'n Gymro sy'n cael ei alw'n Sais. Mae 'na gyfeiriad at Gwilym Sais yn y llys yng Nghaernarfon yn niwedd yr oesoedd canol. Mae'n bosib mai cyfieithydd oedd o. 

Ac Elidir Sais, wrth gwrs, un o feirdd y tywysogion, alla i'm mentro mai nid Sais mo hwnnw. Ac roedd Daniel Owen yn defnyddio Sais yn yr ystyr o rywun sy'n medru siarad Saesneg pan sgwennodd e hyn yn ei nofel Rhys Lewis:

Roeddwn yn sicr fy mod yn amgenach Sais nag ef, ac yn gwybod mwy am the way of the world.

[Ystyr 'amgenach' yma yw 'gwell, rhagorach']

Ac dyn ni'n gweld olion o'r un peth hyd heddiw pan ddwedwn ni bethau fel: "Dos di i ofyn. Ti'n well Sais na fi."

Ond gadewch inni gloi drwy drafod y gwahaniaeth rhwng Sais sydd yn amal yn foi hoffus a dymunol, a 'real Sais'. Myrddin ap Dafydd eto.

Mae hwnna'n ansoddair pwysig iawn, dw i'n meddwl. Yn y 'real Sais' yma dyn ni'n cael Sais ystrydebol, y cartŵn, y John Bull...  Dyn ni'n ei ddefnyddio fe weithiau am Sais sydd yn methu neu'n gwrthod bacio nôl ar lôn gul...Dw i'n cofio ryw dro o'n i'n gadael Caergybi i fynd am Iwerddon ar y fferi, ac mi oedd 'na deulu o Saeson 'na, y tad yn esbonio bod nhw'n mynd i Iwerddon, ac wedyn Môn dirion dir yn pasion heibio'r ffenest y fferi, ac yn codi llaw yn dweud, "Goodbye England".

 Ôl-nodyn


GPC: Fe’i clywir yng nghanolbarth Cered. yn yr ystyr ‘trempyn’, B iv. 301. Weithiau cyfeirir at siswrn fel Sais.


Hefyd: gwahanglwyf y Sais: psoriasis (lit. Englishman’s leprosy).



Sunday, 11 March 2018

Elfed ar Russia Today...ond ddim ar y BBC

Diolch i Golwg360 am y darn yma.
A dyma Elfed yn esbonio ei safiad yn ei eiriau ei hun.
Mae’r ffermwr aeth am wythnos heb fwyd yn “anhapus a siomedig” gyda’r BBC am beidio rhoi sylw i’w ympryd. [ympryd - fast]
Fe gafodd Elfed Wyn Jones o Gwm Prysor yng Ngwynedd ei gyfweld ar sianel newyddion Russia Today yn ystod ei ympryd, tros ddatganoli’r pŵer tros ddarlledu o Lywodraeth Prydain i ddwylo Llywodraeth Cymru.
Ond er iddo gael ei holi ar gamera ddwywaith gan ddau o ohebwyr BBC Cymru – a hynny ar gychwyn ac ar derfyn ei ympryd – ni chafodd y cyfweliadau eu dangos.
Roedd Elfed Wyn Jones wedi “disgwyl sylw am fater fel yma” ar y BBC “gan fod ni’n talu fel gwlad am y gwasanaeth a’n disgwyl gwybodaeth”.
Ac mae’r myfyriwr 20 oed yn credu bod yna benderfyniad bwriadol gan y BBC i gyfyngu’r drafodaeth ar ddatganoli darlledu i Gymru.
“Gan fod hwn yn rhywbeth sy’n effeithio’r BBC mae’n amlwg fod pryder ganddynt am adnabod digwyddiad fel hwn,” meddai Elfed Wyn Jones gan ychwanegu ei fod yn “falch fod Russia Today wedi gwrando ar fy stori ac wedi rhoi llais i ni yn yr ymgyrch”.
BBC yn taro nôl
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi sgrifennu llythyr at y BBC yn cyhuddo’r Gorfforaeth o ‘wneud penderfyniad Golygyddol pwrpasol i beidio â rhoi sylw i ympryd Elfed Wyn Jones…
‘Credwn yn gyffredinol bod portread diweddar y BBC o’r drafodaeth am ddatganoli wedi bod yn negyddol a dangos tuedd’.
Ond mae’r BBC wedi taro nôl gan fynnu eu bod “wedi ymrwymo i adlewyrchu straeon newyddion mewn modd diduedd ac mae penderfyniadau ar straeon neu gyfweliadau unigol yn dibynnu ar ystod eang o ffactorau.
“Ar y pwnc o ddatganoli pwerau, mae BBC Cymru wedi rhoi sylw i’r mater ar draws ei gwasanaethau yn ddiweddar mewn nifer o adroddiadau gan adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau.”
Dyma adroddiad y BBC am ymgyrch Elfed a'r ddadl am ddatganoli pwerau dros ddarlledu.


Fy stafell i: Bethan Gwanas

Bethan Gwanas sy'n esbonio arwyddocâd y pethau sy'n bwysig iddi yn y stafell lle mae'n ysgrifennu.

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Catrin o Ferain, 'Mam Cymru'

Catrin o Ferain, 1534/5-1591


Mae bywyd Catrin o Ferain yn llawn dirgelwch. Roedd gan yr aeres gyfoethog hon o Sir Ddinbych waed Tuduraidd, ac roedd yn perthyn o bell i'r Frenhines Elisabeth I.
Ei hanes hi a'i gŵyr niferus oedd un o brif straeon rhamant y gogledd. Cafodd chwech o blant a thros dri deg o wyrion ac wyresau oedd i gyd yn rhan o deuluoedd cyfoethocaf y wlad. Yn sgil hyn cafodd y teitl 'Mam Cymru'.
Yn oes Catrin, roedd pobl yn priodi am arian, tir a phŵer, nid cariad. Fel aeres gyfoethog o dras frenhinol, ystyriwyd Catrin yn dipyn o fachiad! Priododd bedair gwaith gyda Chymry enwog, ac roedd yn perthyn i deuluoedd cyfoethocaf, pwysicaf y gogledd.
Byddai pobl gyfoethog yn aml yn cael rhywun i beintio eu portreadau er mwyn gwneud sioe fawr o'u cyfoeth a'u statws cymdeithasol. Ond yn yr oes grefyddol hon, roedd hi'r un mor bwysig ymddangos yn ddiymhongar o flaen Duw.
Ffynhonnell: Amgueddfa Cymru

Geirfa
o dras frenhinol....of royal descent
bachiad ....catch  [bachu - to hook]
diymhongar....modest
_________________
Dyma glip o'r gyfres Cynefin, gyda Siôn Tomos Owen yn adrodd am fywyd Catrin.


Sgript
Dw i’n neud fy ffordd i Lanefydd, ddim yn bell o fferm Llaeth y Llan, ond y fferm yna, Fferm y Berain, oedd yn perthyn i Catrin o Ferain yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ac mae ei stori hi’n werth ei hadrodd. Y rhannau gwir, a’r rhannau sydd…sut alla i ddweud…ddim.
Wnaeth Catrin briodi bedair o weithiau, peth prin iawn yn yr oes yna.
Daeth priodas gynta Catrin i ben ar ôl naw mlynedd ar farwolaeth ei gŵr, ac un stori boblogaidd yw ei bod hi ‘di derbyn un cynnig briodi ar y ffordd mewn i’r angladd, ac un arall ar y ffordd ma’s. Tipyn o fenyw!
Celwydd yw’r stori’n anffodus, ond fel maen nhw’n dweud, ‘sdim pwynt sbwylio stori dda ‘da’r gwir.
Yr ail ŵr oedd Richard Clough. Roedd e’n un ‘da chwedl neu ddwy ‘da fe ‘fyd.
Roedd rhai’n dweud fod e’n ysbïwr ar ran Elisabeth y Cyntaf, tra bod eraill yn dweud fod e’n ateb i rywun mwy sinistr. Mae ‘na sôn bod Catrin un noson wedi pipo drwy dwll y clo a ‘di weld e’n sgwrsio am hanner nos gyda’r diafol.
Ychydig ar ôl hyn, wnaeth Richard Clough farw’n annisgwyl tra’n teithio i’r Almaen, neu ife’r diafol wnaeth gymryd e?
Fe briododd Catrin ddwywaith ‘to, a thrwy hyn i gyd aeth hi i weld ei mab cynta, Thomas, yn cael ei ddienyddio am geisio lladd y frenhines Elisabeth.
Arhosodd hi’n driw i’r ardal.
Wedi noddi dwsinau o feirdd ac artistiaid, mae’n hawdd gweld sut enillodd Catrin yr enw ‘Mam Cymru’, ond rhywle fan hyn yn eglwys Llanefydd mae Catrin wedi’i chladdu heb ddim I farcio’r tir.
Dim ond y straeon sydd ar ôl.



Friday, 2 March 2018

Stori Dewi Sant fel na chlywsoch chi hi erioed o'r blaen

Garmon Ceiro sy'n esbonio.....

A hithau'n Ddydd Gŵyl Dewi, beth am inni edrych ar rai o'r hanesion am y dyn ei hun? Prin yw'r ffeithiau, ond mae digonedd o chwedlau....

I ddechre cyn y dechre: yn ôl chwedl, dwedodd angel wrth Sant Padrig am enedigaeth Dewi Sant dri deg mlynedd cyn i Dewi gael ei eni. Piti mawr na ddwedodd Padrig wrth Non, mam Dewi, fodd bynnag - achos fe ffindodd hi ei hunan yn rhoi genedigaeth i'w mab mewn storm fawr ar ben clogwyn. Sy ddim yn ddelfrydol.

Doedd Dewi ddim yn yfed diod feddwol nac yn bwyta cig. Yn wir, roedd ei ddeiet e'n swnio'n ddigon llwm - bara a dŵr....neu gennin a dŵr. Naill ffordd neu'r llall, fyddech chi ddim wir ishe gwahoddiad i swper wrtho fe - a fyse fe ddim yn debygol o ennill ar Come Dine With Me.

Roedd Dewi'n dipyn o dasgfeistr. Wrth i'r mynachod ffermio'r tir, ro'dd Dewi'n mynnu eu bod nhw'n gwneud hynny, gan gynnwys aredig, heb gymorth anifeiliaid. Ar ôl clywed hyn, rhaid cyfaddef y byddai dathlu Dewi gyda gŵyl banc yn eithaf eironig! A fyddech chi'n sicr ddim eisiau fe fel rheolwr llinell.

Ymddengys bod agwedd galed Dewi wedi mynd ar nerfau rhai mynachod lleol, ac fe benderfynon nhw ei wenwyno! Ond rhybuddiwyd Dewi am y gwenwyn a thorrodd y bara gwenwynig yn 3 darn - rhoddodd un darn i gi a darn arall i frân, a buodd y ddau farw. Yna, bendithiodd y trydydd darn a'i fwyta ei hun - ac ni fuodd farw. Gwyrth! Lwcus iddo fe bod hyn cyn dyddiau'r RSPCA.

Ond rhag ofn eich bod chi'n dechre drwghoffi Dewi - mi oedd e'n dipyn o foi gyda'r gwyrthiau: creu ffynonellau dŵr i helpu gyda thiroedd sychion ei gymdogion, gwella dallineb gŵr drwy sblasho dŵr i'w lygaid, ac achub bywyd bachgen drwy olchi ei wyneb â dagrau. Oedd, roedd Dewi'n reit handi gyda'r dŵr. Ond nid dyma pam y'i gelwid yn Dewi Ddyfrwr. Yn hytrach, roedd hynny am mai dyna'r oll yr oedd yn yfed....ac am ei hoffter o sefyll mewn llyn hyd at ei wddwg yn adrodd ysgrythur. Wel, pawb at y peth y bo!

Y chwedl enwocaf am Dewi yw, ar ôl i bobol gwyno nad o'n nhw'n gallu ei glywed yn pregethu ger Llanddewi Brefi, ei fod wedi llwyddo i dyfu'r ddaear o dan ei draed i ffurfio bryn. Tipyn o gamp, cyhyd a bod e ddim eistedd o'ch blaen chi yn y sinema.

Oedd, roedd Dewi'n dipyn o foi. Yn wir, roedd gan y Pab Calistus II gymaint o feddwl ohono iddo ddweud bod dau ymweliad â Thŷ Ddewi'n gyfwerth ag un â Rhufain. A chyda prisiau trenau fel y maen nhw, efallai bod hynny dal yn wir.

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!