Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday, 4 February 2018

Beti a'i Phobl: Manon Steffan Ros

Dyma Beti George yn sgwrsio â Manon Steffan Ros am ei bywyd a'i gwaith.

Ganed Manon Steffan ym mhentref Rhiwlas ger Bangor a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Rhiwlas ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Fe enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 ac yn 2006. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010, ac fe ddaeth Manon i'r brig yn y gystadleuaeth yn 2013 gan ennill y categori ffuglen orau gyda'i nofel Blasu. Enillodd Wobr Tir na n-Og hefyd yn 2010 am y nofel Trwy'r Tonnau, ac unwaith eto yn 2012 gyda Prism. Mae Manon hefyd yn gerddor ac aelod o'r grŵp Blodau Gwyllt, ac mae'n byw yn Nhywyn gyda'i meibion.gwen. Fe enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 ac yn 2006. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010, ac fe ddaeth Manon i'r brig yn y gystadleuaeth yn 2013 gan ennill y categori ffuglen orau gyda'i nofel Blasu. 

Bydd y rhaglen ar gael ar iPlayer am fis, ond fe gewch chi ei lawrlwytho fel podlediad [= podcast] am ddim.

Saturday, 3 February 2018

Pam defnyddio 'r Saesneg ar y cynfryngau cymdeithasol?

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl yma.

Pam fod Cymry Cymraeg yn sgrifennu yn Saesneg ar Facebook? Dyna'r cwestiwn a ofynnodd y cynhyrchydd teledu Angharad Blythe yn llawn rhwystredigaeth ar ei chyfrif personol yn ddiweddar.
Fe gafodd fflyd o ymatebion gan gynnwys un yn anghytuno gan ei ffrind, Ffion Jon, sydd hefyd yn gynhyrchydd teledu ar ei liwt ei hun. Mae hi'n dadlau bod gan bobl ddwyieithog hawl i ddewis heb feirniadaeth - ddylai neb blismona'r dewis o iaith ar gyfryngau cymdeithasol, meddai.
Mae'r ddwy yn egluro eu safbwyntiau ymhellach i Cymru Fyw:


line

Angharad Blythe:
Mae'n fy nghorddi, yn ddyddiol, i weld Cymry Cymraeg yn postio negeseuon uniaith Saesneg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dwi'n berson rhyddfrydol, a dydw i ddim yn bregethwrol ynglŷn â llawer o ddim. Ond pan mae'n dod at faterion ynglŷn â'r iaith, mi ydw i'n credu yn gryf fod gan bawb ohonom ddyletswydd i helpu'r Gymraeg os ydan ni am ei gweld hi'n goroesi.
Mae'n anodd gen i gredu y bydda 'na neb yn ei iawn bwyll am weld yr iaith Gymraeg yn marw, ond wrth sgrifennu statysau yn Saesneg (neu wrth beidio â defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn y twll yn y wal, neu wrth y til hunanwasanaeth yn yr archfarchnad) dyna sy'n digwydd.
Mae ymwrthod â'r cyfle i'w defnyddio hi ym mha bynnag ffordd fedrwn ni, yn gyfystyr â'i hesgeuluso hi.
Wrth gwrs fod gan bawb ohonan ni'r hawl i gyfathrebu ym mha bynnag iaith 'dan ni isio, ond ar yr un pryd, mae'n rhaid inni sylweddoli fod y Gymraeg mewn lle mwy bregus na'r Saesneg. Mae hi angen sylw. Mae ganddi anghenion arbennig. Does yna ddim dadlau efo hynny - mae'n ffaith. 
Felly - o ddilyn yr egwyddor honno i'r pen - os ydan ni'n malio am y Gymraeg, yna mae'n gwneud synnwyr inni roi mwy o sylw iddi na'r Saesneg; drwy ei choleddu [= cherish] , a'i bwydo a'i dyfrio.
Wedi'r cwbl, fel pobl ddwyieithog, rydan ni'n gwybod fod iaith yn fwy na chyfrwng cyfathrebu yn unig. Mae iaith yn rhan o'n hunaniaeth ni. Mae hi'n ein gwneud ni yn bwy ydan ni, a phwy ydy'n plant ni, a phlant ein plant ni.
Dw i'n dallt nad ydi pawb yn gyfforddus wrth sgrifennu yn y Gymraeg - hyd yn oed os ydan ni'n Gymry glân gloyw ac yn cyfathrebu yn y Gymraeg ar lafar bob dydd.
Ond does affliw o otsh am safon iaith neb mewn gwirionedd. Ei defnyddio hi sy'n bwysig - bob dydd ac ymha bynnag ffordd y medrwn ni.
Mi fentra'i ddweud nad oes neb call yn mynd i farnu iaith ysgrifenedig neb ar y gwefannau cymdeithasol... ac os ydach chi'n un o'r plismyn iaith 'na - gwae chi - ia, gwae chi. Dim ond wrth annog pobol, ac nid drwy farnu, y bydd y Gymraeg yn goroesi.
Dwinna ar fai. Wrth gwrs fy mod i. Weithiau mae'n haws derbyn nad ydi cwmni yn cynnig gwasanaethau Cymraeg, a bodloni ar gyfathrebu efo'r cwmni dan sylw yn Saesneg.
Mae'n cymryd amser i lythyru a chwyno. Mae'n cymryd egni i fynychu cyfarfodydd am ddyfodol yr iaith, i fynychu ralis ac i brotestio'n ddi-baid.
Ond mi fedar pawb ohonan ni gyfrannu, drwy wneud y pethau bychain. Dechrau pob sgwrs yn Gymraeg, ble bynnag yr ydan ni yng Nghymru, ond hefyd ar y ffôn, ac ar y gwefannau cymdeithasol. Ac os nad ydi'r person arall yn deall Cymraeg, yna mi fydd wedi clywed neu weld yr iaith, a bydd y weithred honno - ynddi'i hun - wedi hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith fyw, fywiog.
Nid pregethu ydw i, ond ar y llaw arall, mi ydw i'n awyddus i agor y drafodaeth, gan obeithio y bydd hynny'n gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn troi i'r Saesneg am "fod pawb yn dallt Saesneg".
Achos, o ddilyn yr egwyddor honno i'w phen draw - waeth inni gyd roi'r ffidil yn y to rŵan, ddim, ac anghofio'r Gymraeg yn llwyr.
Ffion Jon:
O ran egwyddor, dwi ddim eisiau i neb ddweud wrtha' i ym mha iaith i sgwennu ynddi ar Facebook - mi wna' i fel unigolyn ddewis ym mha iaith dwi'n sgwennu, ac mae hynny'n bwysig.
Mae'n mynd nôl i'r busnes o blismona iaith. Mae pobl yn gallu bod yn reit self-conscious o'u Cymraeg a dwi'n meddwl bod Facebook a'r cyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol wedi bod yn wych o ran y Gymraeg achos mae pobl yn defnyddio ffordd lafar i sgwennu arnyn nhw.
Dydi Nghymraeg i ddim yn berffaith o bell ffordd ond pan dwi'n sgwennu rhywbeth yn sydyn dwi ddim yn checio bod y sillafu a'r gystrawen yn iawn achos yn reit aml mae rhywun yn ymateb ar y pryd, does dim amser i feddwl am Gymraeg cywir.
Os wyt ti'n dechrau dweud wrth bobl am sgrifennu yn Gymraeg a bod yn rhaid iddyn nhw bostio yn Gymraeg mae'n mynd nôl i'r peth yna bod pobl yn meddwl bod rhaid iddyn nhw sgwennu yn gywir.
Dyna ydi'r peth neis am fod yn ddwyieithog, bod gan rywun y dewis.
Weithiau dydi ffraethineb [ = wit] ddim yn cyfieithu ac felly mae rhywun yn ymateb yn Saesneg os ydi'r post yn Saesneg.
Dyna sy'n dda am gyfryngau cymdeithasol - dim arholiad ysgol ydi o, nid sgrifennu mewn ebost swyddogol wyt ti ond sgrifennu'n ffraeth a chael laff.
Unwaith rwyt ti'n dechrau efo plismona pa iaith mae rhywun yn ei ddefnyddio yna ti'n sbwylio'r cyfrwng.
Dydi pobl ddim yn cymdeithasu yn y pyb dim mwy - hwn ydi ein pyb newydd ni. Taset ti'n mynd lawr i'r pyb fyse neb yn cywiro dy iaith di neu'n dweud wrthat ti pa iaith i'w siarad felly pam ei wneud o ar Facebook?
Dwi yn gweld y pwynt ehangach mae Angharad yn ei wneud: os na wnawn ni ddefnyddio'r Gymraeg mae presenoldeb yr iaith ar bethau fel Facebook yn diflannu.
Mae wedi gwneud i fi feddwl cyn postio y dylwn i ei roi yn Gymraeg oherwydd bod ehangu presenoldeb y Gymraeg yn bwysig.
Ond mae'r ffaith fod gynnon ni'r dewis yr un mor bwysig - mae cael y dewis yn fraint a does gan ddim un unigolyn arall yr hawl i ddeud wrthoch chi pa iaith i'w dewis.
Y peth pwysicaf ydi bod pawb yn teimlo'n hyderus i sgwennu ynddo fo, dim ots os ydi o'n gywir. Peidiwch â bod ofn defnyddio'r Gymraeg!
Dydi'r ffaith mod i'n sgwennu yn Saesneg weithiau ddim yn golygu bod y Gymraeg yn golygu dim llai imi - Cymraeg ydi'n iaith gyntaf, dwi'n byw mewn ardal Gymraeg er mwyn i mhlant i gael addysg Gymraeg - mae hynny'n holl bwysig imi ond os dwi eisiau sgwennu bob dim yn Saesneg ar Facebook am gyfnod, yna fy newis i ydi hynny.







Heddlu Iaith: geiriau i'w hela a'u difa


"Dagrau ‘miwsig’ a ‘hyb’ ydi’r ffaith eu bod yn cael eu defnyddio yn lle geiriau Cymraeg cyfarwydd. A’u bod yn gachlyd hefyd, wrth gwrs...", esboniodd.

[dagrau pethau = 'the sad part of it']




Wedi i'r Athro Richard Wyn Jones daflu'r belen eiria fach yma, tyfodd hi'n fuan yn gaseg eira anferth.

"Geith miwsig fynd i'r tân efo ffantastig", meddai Ifan Morgan Jones

"Politicaidd", ychwanegodd Richard Wyn Jones.

"Angau i delifro", meddai'r Hogyn o Rachub.

Ac yna dilynodd llif o gas eiriau trydarwyr eraill:

Rhan-ddeiliaid ('stakeholders'), mewnbwn, allbwn, gweithredol ('acting, executive'), ffocws, positif, seleb, ffocysu, sgriwtineiddio, opsiwn, sialens, anwytho ('induce' neu 'induct')*, dominyddu, normaleiddio, cwtsh a negydu ('negotiate') oedd rhai o'r cynigion eraill.

"Seiclo (=beicio), ffeinal (=...derfynol, boed yn gêm neu rownd), ail gefnder (=cyfyrdyr), trydydd cefnder (=ceifn)", rhygnodd Guto Pryderi Puw.

Parêd, cwynodd Rhys Arall.




Fe fyddai 'talu awyr' yn well na taliad di-gyswllt, awgrymodd Aled Hughes.

"Felly hefyd yr erchyllbeth ‘tiwn’ - hyd yn oed petai Dafydd ap Gwilym ei hun yn ei arddel...", taranodd Richard Wyn Jones.

"Yn hyb y wlad sy'n bi-ling, mae miwsig yn amesing a thiwn ydy'r real thing", eglurodd Llion Jones.




Ond nid pawb oedd yn gytûn.



Pa eiriau hoffech chi eu hela a'u difa?



*Anwytho:

Dyma ddiffiniad Y Gweiadur: rhesymu mewn ffordd sy’n arwain o ragosodiad (= 'premise') penodol at gasgliad cyffredinol (nad yw bob tro yn gywir).

Gall anwytho fod yn derm ffiseg hefyd.





Wednesday, 31 January 2018

Cynefin: Castell Newydd Emlyn a hanes y Wiber

Os nad ydych chi wedi edrych ar y gyfres wych 'Cynefin' (S4C am 8 bob nos Sul), mae'n werth gwneud. Dyma stori ddychrynllyd gwiber Castell Newy'.

Nodiadau

Lle bynnag ewch chi rownd ffor' hyn....

osgoi'r enw "wiber", math o ddraig fu unwaith yn codi ofn dychrynllyd ar drigolion Castell Newydd Emlyn.

.....ar lannau afon Teifi

Diwrnod ffair haf oedd hi.....cwympodd cysgod dros y dre

gwelon nhw wiber yn glanio ar dŵr y castell

yn taranu ac yn fflachio, yn chwifio ei adenydd, ac yn gwneud beth bynnag mae gwiberod yn wneud..

Dyna ddiwedd y ffair a diwedd y dre 'fyd (= hefyd) oni bai am un milwr dewr....

...tynnu ei ddillad i gyd - sa i'n gwybod pam bod yn noeth yn bwysig, ond mae fe yn y straeon i gyd..

...anelu am y wiber...

Roedd croen y bwystfil yn galed...oni bai am un darn meddal - ei fotwm bol

Aeth y bwled yn syth trwy ganol y wiber, ac aeth e o'i go', yn sgrechen a fflapio ei adenydd tan ddaeth e lawr at y Teifi i farw.

Am ddyddiau, medden nhw, doedd dim posib yfed dŵr y Teifi na physgota. Roedd gwaed a gwenwyn (=poison) wedi'i lygru (=contaminated) cymaint....mae'n stori tylwyth teg, siŵr o fod, ond lawr y lôn yn Llandysul, mae 'na labordy (laboratory) arbennig iawn, un o'r goreuon yn y byd am wneud gwrth-wenwyn (anti-venom).

Rhywbeth yn y dŵr, mae'n rhaid.



Sunday, 28 January 2018

Y Da, y Drwg a'r Diweddara - rhaglen ddychan newydd



Dolen: www.bbc.co.uk/programmes/b09nhzjc

Canlyn - yr ap dêtio Cymraeg newydd!

Diolch i Golwg360 am dynnu sylw at gyfle newydd i gymdeithasu a mwy trwy gyfrwng y Gymraeg. Wel, pwy a ŵyr?

___________

 heddiw’n Ddiwrnod Santes Dwynwen, mae sefydlydd [= founder] ap Gymraeg i gariadon yn dweud ei fod yn anelu at ddenu 10,000 o Gymry Cymraeg.  
Cafodd ap ‘Canlyn’ ei sefydlu ym mis Tachwedd y llynedd gyda’r nod o helpu Cymry Cymraeg i ddod o hyd i gymar [cymar - mate, companion] – a bellach mae 300 wedi eu lawrlwytho.
Yn ôl sefydlydd yr ap, Arfon Williams, mae cyfrifon yn cael eu creu yn ddyddiol, gyda rhai wedi’u sefydlu gan bobol o’r Ariannin, yr Unol Daleithiau a Sarajevo.
“Dw i’n hapus iawn gyda’r nifer o bobol sydd wedi’u lawrlwytho,” meddai Arfon Williams wrth golwg360
“Y targed ydi 10,000. Ac mae hwnna’n lot, dydi? Ond mae digon o bobol yn siarad Cymraeg.
“Dim ond y dechrau ydi hyn. Dw i isio iddo fo fynd o nerth i nerth. Ac os ddim ap Canlyn neith hi, rhyw ap Cymraeg arall i gariadon [fydd yn dod i’r adwy - step into the gap]. Mae hwn yn offeryn arall i’r iaith.” 
Mae’n debyg bod y “mwyafrif” o’r bobol sy’n defnyddio’r ap rhwng 18-35 oed, gyda llawer ohonyn nhw yn y brifysgol. Ond mae Arfon Williams yn mynnu fod ‘Canlyn’ yn agored i “bawb”. 
Beth yw Canlyn?
Yn debyg i’r ap dêtio Saesneg, Tinder, mae ap ‘Canlyn’ yn galluogi defnyddwyr i bori trwy luniau o ddefnyddwyr eraill ac i glicio botwm calon os oes ganddyn nhw ddiddordeb yn yr unigolyn.  
Os mae dau ddefnyddiwr yn clicio’r galon ar luniau ei gilydd mae modd iddyn nhw sgwrsio â’i gilydd. Mae modd i bobol o unrhyw rywioldeb [=sexuality] ei ddefnyddio. 
Er bod yr ap eisoes ar gael i’w lawrlwytho, fe fydd lansiad swyddogol yn nhafarn Y Glôb, Bangor heno (Ionawr 25) sy’n cyd-daro â noson meic agored o ganeuon serch Cymraeg.
Mae’r ap ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim.

Jin a thonic? Rhew a lemwn?

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl yma.

Mae cynhyrchwyr jin yng Nghymru yn dweud eu bod wedi cael Nadolig prysur iawn, gyda rhai yn gwerthu tair gwaith cymaint o ddiod o'i gymharu â llynedd.
Dywedodd Snowdonia Distillery yn Nhal-y-cafn, Conwy ac Eccentric Gins yng Nghaerffili bod eu gwerthiant wedi treblu mewn blwyddyn.
Fe wnaeth Penderyn, sydd yn cynhyrchu Brecon Gin, hefyd ddweud eu bod wedi gwerthu mwy na dwbl yr hynny wnaethon nhw yn 2016.
Yn ôl ffigyrau'r Gymdeithas Fasnachu Gwin a Gwirodydd mae nifer y distyllfeydd yng Nghymru wedi cynyddu o chwech yn 2014 i 17 erbyn heddiw.

'Mwy ffasiynol'

Mae cwmni Penderyn yn fwy adnabyddus am eu wisgi ond mae'r cwmni, gafodd ei ffurfio yn 2000 ac sydd bellach yn cyflogi 60 o bobl, bellach yn cynhyrchu 300,000 potel o jin y flwyddyn hefyd.
Ond mae nifer o ddistyllfeydd eraill wedi agor dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y diweddaraf yn Llanddarog, Sir Gâr - busnes teulu Coles.
Mae Eccentric Gins yng Nghaerffili bellach yn cynhyrchu 20,000 o boteli y flwyddyn, ac yn ôl y perchennog Rob Higgins mae 80% o'i gwsmeriaid yn dod o Gymru.
"Mae jin yn ffasiynol ac yn ddiod fwy derbyniol nawr," meddai.
"Mae menywod yn gallu cael jin a thonic gyda'u mam-gu a dyw e ddim yn anarferol bellach i fois gael un yn y clwb rygbi."
Yn ôl Chris Marshall o gwmni Snowdonia Distillery mae safon jin yn gyffredinol wedi gwella'n sylweddol a dyna yw un o'r rhesymau pam bod gwerthiant mor gryf.
"Os ewch chi nôl 10 mlynedd doedd y cyhoeddi na distyllfeydd yn rhyw hoff iawn o jin. Mae Prydain yn sicrhau wedi gweld mwy yn bod yn greadigol o ran blasau fel bod pobl yn gallu dod o hyd i un maen nhw'n ei hoffi," meddai.
Dywedodd y byddai'n hoffi gweld statws arbennig yn cael ei roi i jin o Gymru, ac y byddai hynny'n hwb mawr i'r diwydiant.
"Rydyn ni'n dod o ran brydferth o'r byd, mae'n dyfroedd ni'n wych... hoffwn i weld hynny a bydden i'n sicr yn awyddus gweithio gydag eraill i hybu hynny."
Dywedodd prif weithredwr y Gymdeithas Fasnachu Gwin a Gwirodydd, Miles Beale fod y diwydiant yn un y gall Cymru fod yn falch ohono.
"Mae'n saff i ddweud nad ydi'r nifer cynyddol o ddistyllfeydd yn rhywbeth dros dro gan fod nifer o brosiectau distyllfeydd cyffrous a newydd yng Nghymru, gan gynnwys canolfannau ymwelwyr, yn cael eu datblygu ar gyfer 2018," meddai.
"Mae cynhyrchwyr o Gymru yn creu wisgi a jin o Gymru sydd o safon ac yn ennill gwobrau, gan gynyddu gwerthiant yn y wlad yma a thramor."
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod yn falch gweld bod y diwydiant gwirodydd yng Nghymru yn "ffynnu", gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddan nhw'n cael "llwyddiant wrth werthu dramor" fel cynhyrchwyr bwyd a diod eraill o Gymru.