Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label cymeriadau. Show all posts
Showing posts with label cymeriadau. Show all posts

Monday, 18 November 2013

Dynion od

Erthyglau am dri dyn rhyfedd o'r Bywgraffiadur ar-lein.


JONES , RICHARD ROBERT (‘ Dic Aberdaron ’; 1780 - 1843 ) ; brodor o blwyf Aberdaron , ac o bosibl o bentref Aberdaron . Saer coed a saer cychod oedd ei dad, ond ni fu llawer o lwyddiant ar ymdrech y mab i fwrw'i brentisiaeth gydag ef. Daeth yn adnabyddus oherwydd dwy nodwedd arbennig yn ei gymeriad, sef ei fedr eithriadol i ddysgu ieithoedd , a'i aflerwch [annibendod, untidiness] yn ei wisg a'i arferion. 


 Oherwydd ei ddiffyg diddordeb yng ngalwedigaeth ei dad, gorfodwyd ef yn gymharol gynnar ar ei oes i adael ei gartref, pa un ai o'i wirfodd [yn fodlon, willingly] ai o raid nid oes sicrwydd. Dechreuodd ddysgu Lladin pan oedd tua 12 oed, a chyn bod yn 20 yr oedd wedi dechrau dysgu Groeg . Ond naill ai am fod ysfa [craving, itch] crwydro yn ei waed, neu am fod gorfodaeth amgylchiadau yn peri iddo symud yn aml, ansicr a bratiog [heb drefn, shoddy] ydyw ei hanes ar hyd ei oes. Gwyddys iddo fod yn Lerpwl yn 1804 , ac yn Llundain yn 1807 , ac iddo aros am gyfnodau byr ym Mangor , yng Nghaernarfon , ac yn sir Fôn , ac iddo yn ystod ei grwydradau gael cyfle i ddysgu Hebraeg yn ogystal â rhai ieithoedd diweddar fel Sbaeneg ac Eidaleg .


Cariai nifer helaeth [mawr, eang, extensive] o lyfrau o'i gwmpas ym mhlygion ei ddillad, a bu rhaid arno droeon, o brinder bwyd a dillad, werthu rhai ohonynt a'u prynu yn ôl drachefn [eto] . Nid oedd ganddo unrhyw dro at lenyddiaeth, a gallai ddarllen llyfrau cyfain [cyfan - lluosog] heb wybod odid [go brin, mae'n annhebyg, scarcely] ddim am eu cynnwys. Bu o 1831 hyd 1832 yn gweithio ar ei eiriadur Cymraeg-Groeg-Hebraeg , ac wedyn yn ceisio casglu enwau tanysgrifwyr er mwyn ei gyhoeddi, ond methiant fu. Bu f. yn Llanelwy 18 Rhagfyr 1843 a chladdwyd ef yno; y mae englyn ar garreg ei fedd gan Ellis Owen , Cefnymeysydd .

_______________________________________


PRICE , WILLIAM ( 1800 - 1893 ), ‘dyn od’ a hyrwyddwr [rhywun sy'n hyrwyddo rhywbeth] corff-losgiad ; g. 4 Mawrth 1800 yn Ty'nycoedcae , plwyf Rhydri , sir Fynwy , trydydd mab y Parch. William Price a Mary ei wraig. Bu mewn ysgol ym Machen ac wedyn yn ddisgybl i Evan Edwards , meddyg , Caerffili . Aeth i'r Royal College of Surgeons yn 1820 a phasio'n feddyg y flwyddyn ddilynol. Bu'n dilyn yr alwedigaeth honno yn Nantgarw , Trefforest , a Pontypridd , gan ddyfod [dod] yn bur [yn weddol] enwog fel meddyg ac fel llawfeddyg . Ystyriai ei hun yn archdderwydd ac arferai ddefodau [rites, ceremonies]  hynafol ar y Garreg Siglo ar gomin Pontypridd . Gwisgai yn od — hugan [cloak] wen, a than honno wasgod ysgarlad a llodrau [breeches, trousers] gwyrdd; am ei ben gwisgai glamp [giant, whopper] o groen llwynog. Dywedir ei fod yn credu mewn ‘cariad rhydd’ ac yn gweithredu yn ôl y gred honno; yr oedd yn credu y dylid llosgi ac nid claddu'r meirw ; bwytâi lysiau — nid cig; yr oedd yn gwbl wrthwynebus i fuchfrechiad [vaccination] a bywdrychiad [vivisection] ; yr oedd yn diystyru crefydd uniongred [orthodox] ; dirmygai [despise, spurn] gyfraith y wlad a'r rhai a weinyddai'r gyfraith honno ; yr oedd hefyd yn un o arweinwyr y Siartwyr . Wedi i Siartwyr fyned [myned - mynd] yn llu i Gasnewydd-ar-Wysg yn 1839 ffoes [ffoi]  Price i Ffrainc wedi ei wisgo fel benyw, ac yno daeth i adnabod Heine [bardd almaeneg] . Bu'n cymryd rhan mewn llawer o ymgyfreithio [litigation]; yn y llysoedd arferai gyfeirio at ei ferch, a alwai yn ‘ Iarlles Morgannwg ,’ [Iarlles - Countess]  fel ‘my learned counsel.’ Cyhuddwyd ef ym mrawdlys [assizes] Caerdydd , 1884 , gerbron y barnwr Stephens , o geisio llosgi corff marw ei fab , ‘ Iesu Grist .’ Canlyniad y prawf nodedig hwn oedd dyfarnu bod corff-losgiad yn gyfreithiol. Pan oedd yn 83 mlwydd oed cymerth [cymerodd]  ferch o'r enw Gwenllian Llewelyn yn ‘gydymaith’ [companion] iddo'i hun — daeth hi yn fam ‘ Iesu Grist yr Ail ’ a Penelope . Bu f. 23 Ionawr 1893 yn Llantrisant a llosgwyd ei gorff yn unol â chyfarwyddiadau manwl a phendant a adawsai [gadael].


 __________________________________

  DAVIES , RHYS (‘ Y Glun Bren ’; 1772 - 1847 ), pregethwr hynod ; g. 1772 yng nghymdogaeth Castellnewydd Emlyn . Dechreuodd bregethu yn ifanc gyda'r Annibynwyr ; addysgwyd ef gyda J. Griffiths , Glandŵr , Penfro . I Ogledd Cymru yr aeth i ddechrau a bu'n cadw ysgol ym Mhennal , Dinas Mawddwy , a lleoedd eraill ym Maldwyn a Dinbych . Yn 1796 yr oedd mewn cymanfa ym Mhenarth , aeth yn orfoleddus [gorfoleddus - triumphant, ecstatic] yno a sangwyd [sangu - tread] ar ei droed gan ŵr corffol o'r enw John Rogers ; o ddiffyg ymgeleddu'r [yma - gofal] anaf a gafodd, gorfu [gorfod] torri ei goes i ffwrdd a bu raid iddo wrth glun bren. Ychwanegodd hyn at ei hynodrwydd. Gŵr sarrug [blin, cas] a blaenllym [pigfain, miniog, sharp] ei dafod, meddai ddawn ymadrodd hylithr [he had a remarkable fluency], yn enwedig fel gweddïwr. Gwnâi ystumiau [gestures] afrywiog [yma - strange] wrth bregethu a gweddïo, a hynny er difyrrwch [amusement] mawr i bobl ieuainc. Adroddir am ddau amgylchiad diddorol iawn yn ei hanes. Yn 1803 , ar gais Mrs. Anwyl , Llugwy , aeth o Bennal i Dalybont , sir Aberteifi , i bregethu . Ef oedd yr Annibynnwr cyntaf i fyned yno ac oddi ar garreg-farch [mounting block] gwesty y ’ Black Lion ’ y traddododd [traddodi - deliver] ei bregeth. Hyn a fu'r achlysur i gychwyn yr achos Annibynnol yn y lle. Dro arall, pregethai yn ffermdy Bedd y Coediwr , Trawsfynydd , nes cael dylanwad rhyfedd ar lanc ifanc iawn a ddaeth wedi hynny yn un o bregethwyr mwyaf Cymru a adnabyddid fel ‘ Williams o'r Wern .’ 

  Arferai ar ei deithiau werthu ‘ Llythyrau Cymanfa ,’ ['Association Letters'] a diau [yn sicr, certainly] iddo drwy hynny wneuthur llawer o les [lles - benefit] i ardaloedd gwledig. Ymsefydlodd yn niwedd ei oes yn ardal Saron , Llangeler , ac yno y bu f. 6 Ionawr 1847 .