Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday, 6 October 2019

Y Cylch Sialc - Crynodeb

Ffynhonnell: Pecyn Adnoddau Theatr Genedlaethol Cymru

Mae'r ddrama ei hun yn bur anarferol gan fod iddi ddiweddglo cymharol hapus, a phopethyn gweithio allan i Grusha. Serch hynny, mae’r ddrama’n bendant yn ddrama gomiwnyddol– hynny yw, mae’r un sy’n llwyddo i wneud y defnydd gorau o adnoddau er mwyn cynorthwyo eraill yn haeddu cael cadw’r adnoddau hynny.

Mae’r ddrama’n agor gyda’r Prolog sy’n delio gyda ffrae dros hawliau tir. Mae dwy garfan offermwyr yn dadlau dros bwy sydd piau’r hawl dros y tir yn dilyn goresgyniad yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd un garfan yn arfer byw yn y dyffryn, ac yn godro da amagu geifr yno. Roedd y garfan arall o ffermwyr yn dod o’r dyffryn cyfagos, ac yn awyddusi blannu coed a thyfu gwinllan yno. Daw’r Arbenigwr o’r Ddinas yno i ddatrys y broblem, acer i’r ffermwyr oedd yn arfer godro da a geifr egluro mai nhw sydd piau’r tir – gan mai nhwoedd yn arfer byw yno – y garfan arall o ffermwyr sy’n ennill y tir am fod ganddyn nhwgynlluniau mawr i’w ddefnyddio i blannu coed ffrwythau a chreu gwinllan fydd yn y pendraw yn fwy llwyddiannus.

Mae’r Ffermwyr yn penderfynu cynnal parti bach i ddathlu, ac mae’r Cyfarwydd yn cytuno i ddweud y stori am y Cylch Sialc wrthyn nhw.

Dwy stori wahanol wedi eu rhoi at ei gilydd yw’r ddrama mewn gwirionedd. Y stori gyntaf yw’r un am Grusha, a’r ail stori yw hanes Azdak. Mae’r ddwy stori’n dechrau mewn Dinassy’n cael ei rheoli gan Y Rhaglaw Georgi Abaschwili. Mae Natella, gwraig y Rhaglaw,newydd gael babi bach o’r enw Michael, ond mae Natella yn genfigennus iawn o’r sylw mae’r Rhaglaw yn ei roi i’w fab.

 
 Daw Simon yn ôl o ryfel a darganfod bod ei ddyweddi wedi priodi. Mae’n torri ei galon wrthweld Michael ac yn meddwl mai Grusha yw ei fam. Daw milwyr i’r cartref a mynnu mai mabgwraig y Rhaglaw yw Michael, ac maen nhw’n mynd ag e oddi wrth Grusha. Aiff Grusha ar eu holau i’r Ddinas.

Y stori nesaf yw un Azdak. Awn yn ôl i’r gwrthryfel rhwng y Tywysog Tew a’i frawd y Rhaglaw. Mae Azdak yn dod o hyd i ffoadur yn ystod y gwrthryfel ac yn ei achub. Fe ddowni wybod mai’r Dirprwy Gadfridog yw’r dyn, a bod Azdak wedi achub ei fywyd. Daw’rTywysog Tew yn ôl gyda’i nai, yn awyddus i’w sefydlu fel y barnwr newydd, ond mae’r milwyr i gyd yn penderfynu mai Azdak ddylai fod yn farnwr! 

Aiff Azdak ati wedyn i farnu pedwar achos rhyfedd iawn, ac mae Azdak yn penderfynu cefnogi’r tlawd bob tro. Caiff Azdak ei gydnabod fel barnwr teg ac iddo enw da. Ond wedi dwy flynedd fel barnwr, mae’r milwyr yn arestio Azdak a’i gyhuddo o fod yn fradwr. Maen nhw ar fin ei ladd pan ddaw’r Dirprwy Gadfridog yn ôl ac adnabod Azdak fel yr un a achubodd ei fywyd; o ganlyniad, mae’n ei ailbenodi’n farnwr a thrwy hynny’n arbed ei fywyd yntau!

Yr achos nesaf i Azdak fel barnwr yw un Grusha a’r plentyn. Mae gwraig y Rhaglaw yn mynnu cael Michael yn ôl er mwyn iddi allu etifeddu stad y Rhaglaw. Mae Grusha hefyd am gadw’r plentyn gan ei bod wedi ei fagu am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae Simon yn ei chefnogi ac yn dweud y bydd yn gefn iddi. 

Yn dilyn clywed y dadleuon o bob ochr, mae Azdak yn llunio cylch sialc ar y llawr ac yn gosod y plentyn yng nghanol y cylch. Mae’n dweud wrth y ddwy ddynes am afael ym mraich y plentyn, a phwy bynnag fydd yn llwyddo i’w dynnu allan o’r cylch fydd yn cael ei gadw. Mae gwraig y Rhaglaw yn tynnu ar fraich y plentyn, ond mae Grusha yn gadael iddo fynd. Gorchmynna Azdak iddyn nhw roi cynnig arall arni, ond mae Grusha yn gollwng ei gafael eto. Mae Azdak yn rhoi’r plentyn i Grusha ac yn mynnu bod gwraig y Rhaglaw yn gadael. Mae’n penderfynu troi’r stad yn barc chwarae cyhoeddus. Y peth olaf a wnaiff fel barnwr yw trefnu ysgariad i Grusha er mwyn iddi allu priodi Simon.

‘Mae popeth yn dibynnu ar y stori; dyna galon y perfformiad theatrig. Oherwydd yr hyn sy’n digwydd rhwng pobl yw’r hyn sy’n cynnig iddynt yr holl bethau y gallant drafod, beirniadu, a newid.’
 

 

No comments:

Post a Comment