Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday, 6 October 2019

Y Cylch Sialc - Bertolt Brecht

Ffynhonnell: Pecyn Adnoddau Theatr Genedlaethol Cymru


BERTOLT BRECHT 18981956
“Mae popeth yn dibynnu ar y stori; dyna galon y perfformiad theatrig. Oherwydd yr hyn sydd yn digwydd rhwng pobl yw’rhyn sydd yn cynnig iddynt yr holl bethau y gallant eu trafod,eu beirniadu a’u newid.” Brecht

CEFNDIR A CHYD-DESTUN Y CYFNOD

Ganwyd Bertolt Brecht yn Augsburg, Bavaria yn 1898 i deulu dosbarth canol cyfforddus eu byd.Roedd ei dad yn gweithio mewn ffatri bapur, a chafodd ei fam ddylanwad mawr arno wrth ddarllen y Beibl yn gyson iddo. Torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf allan pan oedd Brecht yn 16 oed. Aeth i Brifysgol Munich i astudio Drama, a dangosodd gryn ddiddordeb yng ngwaith Frank Wedekind.Cafodd ei anfon i wneud gwasanaeth milwrol yn 1918. Ysgrifennodd ei ddrama gyntaf, Baal, yn1918 a’i ail ddrama, Drums in the night, yn 1919. Yn 1922, enillodd wobr arwyddocaol, sef Gwobr Kleist, yn yr Almaen ar gyfer ysgrifenwyr newydd. Aeth yn ei flaen i ysgrifennu ffilm fer, Mysteries of a Barbershop, a’r ddrama In the Jungle, ond ni chafodd honno dderbyniad da gyda milwyr Almaenig yn chwibanu ac amharu ar y perfformiad. Digwyddodd hyn gyda nifer o’i ddramâu dilynol yn ogystal. 

Yn 1926, dechreuodd Brecht astudio syniadau Marcsaidd a Sosialaidd. Yn 1927, ymunodd gydag Erwin Piscator i sefydlu cwmni theatr boliticaidd, ddogfennol fyddai’n llwyfannu dramâu epic.Roedd y math newydd yma o theatr yn gofyn am ffurf ddramatig wahanol lle defnyddid caneuon i darfu ar rediad y ddrama a sylwadau’n cael eu taflu at y gynulleidfa bob hyn a hyn.Cafodd Brecht lwyddiant anhygoel gyda Yr Opera Pishyn Tair, sef addasiad o The Beggar’s Opera gan John Gray, gyda Kurt Weill yn gyfrifol am gyfansoddi’r gerddoriaeth.Yn ystod y rhyfel dechreuodd Brecht ysgrifennu ar gyfer yr Exilliteratur, gan fynegi ei farn ar ysymudiad Sosialaidd a Ffasgaidd. Yn ogystal, ysgrifennodd nifer o ffilmiau’n ymwneud â’r rhyfel a’r Holocost.


Yn 1947 bu raid iddo ymddangos o flaen y HUAC * gan iddo gael ei gyhuddo o fod yn aelod o’r Blaid Gomiwnyddol.* Ar ôl rhoi tystiolaeth, a chael ei gyhuddo gan ei ffrindiau o’u bradychu, aeth Brecht yn ôl i Ewrop. Yn 1948 y cafodd ei ddramâu Mam Gwroldeb a Y Cylch Sialc eu llwyfannu.Yn 1949, ynghyd â Helene Weigel, ei wraig, sefydlodd gwmni theatr o’r enw y Berliner Ensemble.Yn 1953 cafodd ei ethol yn Llywydd cymdeithas ysgrifenwyr rhyngwladol PEN.Llwyfannwyd ei ddrama olaf, Life of Galileo, yn y Berliner Ensemble yn 1957.

Marcsydd* oedd Brecht am y rhan fwyaf o’i oes, ac roedd hyn i’w weld yn ei theatr Epig. Credai fod y theatr yn fforwm i drafod syniadau politicaidd. Bu farw Brecht yn 1956 o drawiad ar ei galon. 

Roedd Brecht yn gwrthod dulliau actio Naturiolaidd. Nid oedd am i’w actorion ymgolli’n llwyr ym myd y cymeriad, fel y gwnâi actorion Stanislavski.

Defnyddiai Brecht ffurf y theatr Epig i gyflwyno’i ddramâu. Prif nodwedd y theatr Epig yw cyflwyno stori a gwers iddi, fel a geir mewn dameg. Ceir nifer o olygfeydd byr, megis cadwyni o brofiadausy’n cyflwyno cyflwr dyn a chymdeithas. Y datblygiad storïol yw’r asgwrn cefn, fel petai. Fel arfer,ceir Cyfarwydd sy’n symud y stori yn ei blaen ac yn mynegi barn ar ddigwyddiadau bob hyn a hyn,gan gynnig dewis i’r gynulleidfa. Gall y Cyfarwydd fod ar ffurf baledwr neu gorws o leisiau sy’n siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa. Gall dorri ar draws golygfa, gan atgoffa’r gynulleidfa o’r hynsy’n digwydd o’u blaenau. Dyma’r broses ‘dieithrio’. Theatr arddangos yw’r theatr Epig.

Roedd Brecht am i’r actor fod yn wrthrychol ac osgoi ymgolli yn y cymeriad. Roedd am i’r actor fynegi safbwynt neu farn glir a dangos i’r gynulleidfa mai ‘actor’ oedd e ac mai ef sy’n rheoli’r cymeriad ar lwyfan. 

Bwriad Brecht oedd defnyddio’r theatr i addysgu ac i agor llygaid ei gynulleidfa i gyflwr dyn sy’n gorfod byw dan faich cyfalafiaeth. Roedd Brecht yn credu yn y weledigaeth Farcsaidd, a chyfrwng gwleidyddol oedd y theatr iddo. Cyfle i ddadansoddi cyflwr dyn yn wyneb y datblygiadau gwyddonol a’r pwerau oedd yn effeithio ar fywyd dyn a chymdeithas. Roedd am i’w gynulleidfa gael cyfle i bwyso a mesur yr hyn roedden nhw wedi ei weld, ac yna i weithredu yn ôl eu penderfyniadau i geisio gwella cyflwr dyn a’r gymdeithas. Roedd am i’r gynulleidfa ddysgu gwerswrth wylio ei ddramâu.

 *HUAC – The House of Un-American Activities Committee. Cafodd y mudiad HUAC ei ffurfio yn1938 er mwyn ymchwilio i fywyd cannoedd o bobl gyffredin, ac yn enwedig pobl yn y byd adloniant, oedd yn cael eu drwgdybio o fod yn gomiwnyddion ac yn perthyn i fudiadau asgell chwith.

 *Comiwnydd – rhywun sy’n credu y dylid cael system economaidd lle mae’r llywodraeth neu’rgymuned – yn hytrach nag unigolion – yn berchen ar y tir, y ffatrïoedd ac ati, ac y dylai’r cyfoeth gael ei rannu’n deg rhwng pawb.

*Marcsydd – person sy’n credu’n gryf yn syniadaeth politicaidd, economaiddac athronyddol Karl Marx a Friedrich Engles. Y syniad o gymdeithas ddi-ddosbarth, lle mae pawb yn gydradd, a’r llywodraeth yn gyfrifol am reoliad noddau’r wlad.

 GWELEDIGAETH THEATRIG BRECHT

Roedd Brecht yn actor, yn gyfarwyddwr, yn ddramodydd a bardd ac ef oedd yn gyfrifol am ddatblygu arddull y Theatr Epic. Roedd yn honni na ddylai theatr fod yn gyfrwng emosiynol;yn hytrach, fe ddylai gythruddo a phryfocio syniadau politicaidd a chymdeithasol, gan wneudi’r gynulleidfa edrych arnynt eu hunain mewn modd beirniadol. Roedd Karl Marx a chomiwnyddiaeth yn ddylanwad mawr ar Brecht. Y meddylfryd hwn oedd tarddiad arddull y Theatr Epic.

  •  Roedd mynd i weld drama gan Brecht yn achlysur arbennig, a gellir dweud bod hynny yr un mor berthnasol yn y theatr fodern heddiw.
  •  Roedd Brecht yn gweld y theatr fel cyfle i ddadansoddi bywyd dyn ac i fod yn wleidyddol.Dyma felly theatr ar gyfer yr ymennydd, nid y galon. 
  • Bwriad Brecht oedd defnyddio’r theatr i addysgu, i agor llygaid ei gynulleidfa i gyflwr dyna phobl o dan argyfwng ac amgylchiadau anodd y byd. 
  • Roedd am i’r gynulleidfa fynd allan o’r theatr yn trafod yr hyn roedden nhw wedi ei weld ac yn awyddus i newid pethau. Roedd yn herio’i gynulleidfa.
  •  Nid oedd Brecht am i’w gynulleidfa ymgolli yn emosiwn y profiad theatrig.
  •  Gelwid yr arddull theatr hon yn Theatr Epic. Dyma ddrama sy’n dehongli argyfwng mewn modd dadansoddol trwy gyfres o olygfeydd episodig, sef y stori’n cael ei rhannu’n ddarnau bach fel cadwyn o ddigwyddiadau. 
  • Mae’n dehongli argyfwng cymdeithas mewn modd dadansoddol. 
  • Mae’r elfen storïol yn bwysig yng ngwaith Brecht, ac mae’n debyg i ddameg.
  • Mae yna elfen o ddysgu gwers i’r gynulleidfa  
   VERFREMDUNGSEFFEKT

Dull Brecht o gyflwyno’i ddramâu oedd trwy ddieithrio’r gynulleidfa, h.y. gwneud y gynulleidfa’n ymwybodol o’r ffaith eu bod yn gwylio actorion, eu bod yn edrych yn wrthrychol,ac yn peidio ag ymgolli’n llwyr yn yr emosiwn.

Gelwir hyn yn VERFREMDUNGSEFFEKT neu’r V-effect. Dangosir digwyddiad neu achlysur mewn goleuni gwahanol, a hwnnw’n rhoi gwedd wahanol ar y digwyddiad neu’r sefyllfa.

Roedd Brecht yn gwrthod dulliau naturiolaidd o actio. Roedd am ddileu’r arfer yn system Stanislavski o beri i’r actor ymgolli’n llwyr ym myd, bywyd, corff ac enaid y cymeriad. Roedd am i’r actor actio’n wrthrychol, a pheidio â chwarae’r cymeriad fel person ‘realistig’, ond yn hytrach defnyddio actio i fynegi safbwynt, i fynegi barn. Mae’r actor i fod i ddangos mai e sy’n rheoli’r cymeriad, ei feddwl a’i emosiwn. Mae’r actorion, felly, yn perfformio’r cymeriad ac nid yn eu ‘byw’. ‘Dangos Lear, ond peidio â BOD yn Lear.’ – ‘Show Lear, but don’t BE Lear.’ 

Yr unig debygrwydd rhwng Stanislavski a Brecht oedd bod y ddau’n credu bod hyfforddi’r llais a’r corff, y dychymyg a’r modd o gyfleu emosiwn, y defnydd o lwyfan, adnabod y byd o’i gwmpas ac ati, yn holl bwysig.

 Fideo: Bwriadau Artistig Brecht

TECHNEGAU BRECHT

 Er mwyn sicrhau nad oedd y gynulleidfa’n ymgolli yn yr emosiwn, defnyddiodd Brecht nifer o dechnegau theatrig i ddieithrio’r gynulleidfa.

TORRI’R BEDWAREDD WAL. Gall yr actor gamu i mewn ac allan o gymeriad a siarad yn uniongyrchol gyda’r gynulleidfa i egluro sut mae’n teimlo, neu egluro rhyw bwynt arbennig o fewn yr olygfa. Gall yr actor adrodd y cyfarwyddiadau llwyfan yn uniongyrchol wrth y gynulleidfa er mwyn egluro'r hyn sy’n digwydd. Y CYFARWYDD yw’r enw ar yr actor sy’n gwneud hyn, a’i bwrpas yw arwain y stori ymlaen fel rhyw ddolen gyswllt. Gall y Cyfarwydd roi barn ar y digwyddiad a chynnig dewis i’r gynulleidfa. Mae’n gorfodi’r gynulleidfa i bwyso a mesur ac aros yn wrthrychol. 

CANEUON, BALEDI A CHOMEDI. Defnyddiodd Brecht ganeuon i bwysleisio neges y ddeialog ymhellach. Defnyddiodd ganeuon neu faledi fel cyswllt rhwng golygfeydd, neu er mwyn tanlinellu neges arbennig. Roedd Brecht yn hoff iawn o ddefnyddio cerddoriaeth cabaret a jazz. Byddai’r actorion hefyd fel arfer yn gerddorion medrus, ac yn chwarae offerynnau’n fyw ar y llwyfan.

Gan fod materion gwleidyddol yn gallu bod yn ddiflas i’w cyflwyno ar lwyfan, defnyddiodd Brecht ganeuon a chomedi yn y perfformiad er mwyn gogleisio a difyrru’r gynulleidfa, ac yna yn sydyn eu taro yn eu hwynebau gyda ffeithiau caled a gwir.

Gelwid hyn yn TICL A SLAP neu GOGLEISIO A THARO. Y bwriad oedd bod y gynulleidfa’n chwerthin ar gân ddoniol cyn yn sydyn gael eu taro gan ffaith neu wirionedd caled a syfrdanol.

AML-RÔL. Gall yr actorion chwarae mwy nag un cymeriad, ac fel arfer bydd newid het neu ran o wisg, neu newid osgo corff, yn ddigon i awgrymu cymeriad arall. 

PLACARDIAU. Defnyddio placardiau er mwyn awgrymu bod amser wedi symud ymlaen, e.e.‘Deg awr yn ddiweddarach’, neu i roi gorchymyn i’r gynulleidfa, e.e. ‘Clapiwch’, ‘chwarddwch’.

FFILM NEU DAFLUNIADAU yn y cefndir i bwysleisio pwynt arbennig. Bydd y ffilm fel rhyw 
wrthbwynt i’r hyn sy’n digwydd ar y llwyfan, e.e. golygfeydd o ryfel a marwolaeth erchyll felffilm gefndirol i bwysleisio difrifoldeb ac anghyfiawnder y sefyllfa tra cenir cân ddoniol ar y llwyfan.



LABELI. Weithiau, bydd actorion Brechtaidd yn gwisgo mewn du ond yn rhoi label ar eu dillad yn nodi ‘Actor 1’, ‘Actor 2’ a.y.b. er mwyn sicrhau nad yw’r gynulleidfa’n uniaethu gyda’r cymeriadau ac yn cofio mai actorion sy’n cyflwyno o’u blaenau.

GESTUS. Yr actor yn defnyddio ystum, mynegiant wyneb, siâp neu osgo corfforol arbennig i gyfleu emosiwn neu agwedd o gymeriad er mwyn creu darluniau clir ar lwyfan. Ystyr GESTUS yw cyfleu ymddygiad y cymeriadau. Ymddygiad y cymeriad sy’n adlewyrchu agwedd gymdeithasol. Yr actor yn ‘dangos’ agwedd ar y cymeriad trwy symudiad neu air. 

MONTAGE / LLUNIAU LLONYDD. Cyflwyno lluniau llonydd / tableaux o eiliadau allweddol o olygfeydd o fewn y ddrama. Mae hyn yn ddull o gynorthwyo’r actorion i feddwl yn nhermau themâu allweddol, emosiynau, gweithred. Gall y lluniau llonydd fynegi bwriadau’r cymeriadau neu emosiwn arbennig. Gellid symud o un llun i’r llall fel cyfres o fframiau mewn ffilm.

LLWYFAN AGORED. Mae’r set yn symbolaidd ac yn weddol wag. Gall yr actorion eistedd  ar y llwyfan i ddangos mai actorion ydyn nhw, gan newid set, estyn props neu newid gwisg yn gwbl weledol heb guddio dim oddi wrth y gynulleidfa.

AMLYGU’R OCHR DECHNEGOL. Mae’r goleuo a’r sain yn gwbl weladwy er mwyn dangos i’r gynulleidfa mai gwylio actorion a sefyllfa y maen nhw. Golyga hynny fod y llenni wedi eu codi rhag cuddio’r lampau, mae’r technegydd sain ar y llwyfan, a’r offerynnau ac ati yn cael eu cadw ar y llwyfan. Weithiau bydd y technegydd yn cymryd rhan fel actor mewn golygfa.


 

No comments:

Post a Comment