O ystyried digwyddiadau diweddar, gallai darn Vaughan Roderick o fis Chwefror fod yn rhyfedd o broffwydol.....
Stori fer yw hon. Dychmygol yw'r cymeriadau a'r sefyllfa. Efallai.
Syllodd
y Prif Weinidog ar yr ysgrifbin o'i flaen, ysgrifbin Jim Griffiths,
ysgrifbin addas i arwyddo dogfen mor dyngedfennol. Ond ai arwyddo oedd y
peth cywir i wneud?
Wedi cyfan, gallasai'r ddogfen hon ddedfrydu
Cymru i flynyddoedd o dlodi, degawdau efallai. Pwy fyddai'n talu am y
pensiynau a'r ysbytai heb son am lagŵn Abertawe a'r lein Metro i
Gwmsgwt? Efallai byddai'r Undeb Ewropeaidd yn fodlon rhoi help llaw, fe
fyddai'n fodd codi dau fys i'r cymdogion ynysig drws nesaf, wedi'r
cyfan.
A pha ddewis arall oedd ganddo ond arwyddo? Roedd San
Steffan wedi ei baentio mewn i gornel ac onid oedd ef wedi addo 'sefyll
cornel Cymru'?
Roedd y slogan yn un da hefyd, er bod ambell i un
yn y North yn ei chael hi'n anodd ei deall ac un neu ddau o blismyn
iaith wedi codi eu trwynau. Roedd pobl Cymru wedi deall y slogan,
meddyliodd i'w hun. Dyna'r rheswm yr oedd yn eistedd wrth ei ddesg yn
hwyr y nos ac ysgrifbin Jim Griffiths yn ei law.
Roedd hi'n fater o
hunan barch, hunan barch y Prif Weinidog a hunan barch Cymru. Pa fath o
ddyn fyddai'n derbyn setliad cyfansoddiadol wedi oedd wedi ei orfodi ar
Gymru gan aelodau seneddol Lloegr? Pa fath o wlad, pa fath o
wladweinydd, fyddai'n derbyn system gyfansoddiadol oedd wedi ei
gwrthwynebu gan ei Chynulliad a mwyafrif ei haelodau seneddol?
Nid Cymru. Nid y Prif Weinidog hwn.
Canodd
y ffon symudol a suddodd calon y Prif Weinidog o weld yr enw ar y
sgrin. Aelod Seneddol o Gymru, aelod o gabined yr wrthblaid, neb llai.
Oedd rhaid iddo wrando ar y bregeth ddagreuol ynghylch Keir Hardie,
Aneurin Bevan, rhyfel cartref Sbaen ac undod y dosbarth gwaith
rhyngwladol am y degfed, efallai'r ugeinfed tro?
Nac oedd. Diffoddodd y ffon a gafael yn dynn ar yr ysgrifbin. Roedd hi'n bryd sefyll cornel Cymru.
Syllodd
ar y ddogfen a gwelodd y geiriau bras ar ei brig yn syllu yn ôl ato.
Datganiad Annibyniaeth Cymru. Unilateral Declaration of Independence.
Syllodd ar y cloc a chodi o'i gadair. Efallai bod hi'n well gadael pethau tan y bore.
No comments:
Post a Comment