Mae ffrae yn datblygu yn ardal Llanelli ynglŷn
â bwriad y cyngor sir i newid statws ysgol gynradd o un ddwyieithog i un
cyfrwng Cymraeg.
Nod y cyngor yw gweld cynnydd mewn
dwyieithrwydd yn Llangennech ond mae rhai o'r rheini'n anhapus.
Dywedodd Michaela Beddows, mam i bedwar, nad
yw hi'n wrth-Gymraeg ond byddai'r newid yn golygu y byddai'n rhaid i blant sy'n
dymuno addysg cyfrwng Saesneg deithio o'r pentref i ysgolion cyfagos.
Ond yn ôl y cyngor, mae'r newidiadau dan
sylw'n rhan o'r broses ymgynghori, ac nid oes penderfyniadau terfynol wedi'u
gwneud.
Yn ôl Ms Beddows mae 181 eisoes wedi arwyddo
ffurflen ar-lein yn gwrthwynebu newid statws yr ysgol.
Bwriad y sir yw uno ysgol fabandod ac ysgol
gynradd Llangennech, a sefydlu un ysgol cyfrwng Cymraeg i blant 3-11 oed, gydag
un corff llywodraethol.
'Gorfod
gadael'
Dywed Ms Beddows y bydd hyn yn golygu na fydd addysg
cyfrwng Saesneg ar gael yn y pentref ar gyrion Llanelli o Ionawr 2017.
"O ganlyniad bydd y plant sy'n am gael
addysg cyfrwng Saesneg yn gorfod gadael y pentref," meddai.
"Pam cymryd hawl rhieni i ddewis, pam eu
gorfodi i adael y gymuned er mwyn addysgu eu plant, a hynny tra bod modd
hyrwyddo'r Gymraeg drwy gynnig gwersi Cymraeg ychwanegol?"
Mae addysg cyfrwng Saesneg ar gael ym mhentref
Bryn, llai na dwy filltir o Langennech.
Dim
penderfyniad eto
Dywed y cyngor bod y newidiadau dan sylw yn
rhan o'r broses ymgynghori, ac nad oes "unrhyw benderfyniadau terfynol
wedi eu gwneud".
"Mae croeso i bob barn a bydd y rhain yn
cael eu hystyried cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud," meddai
llefarydd.
Ar hyn o bryd mae Ysgol Llangennech ar ddau
safle ar wahân, un i blant adran fabanod a'r llall ar gyfer y plant iau.
Mae dwy ffrwd yn y ddwy ysgol - un cyfrwng
Cymraeg a'r llall yn un cyfrwng Saesneg.
Y nod sy'n cael ei ffafrio gan swyddogion
addysg y sir yw sefydlu un ysgol 3-11 oed a bod honno'n ysgol cyfrwng Cymraeg.
Mae'r newidiadau yn rhan o broses ymgynghori,
a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 11 Mawrth.
'Cynyddu
dwyieithrwydd'
"Byddai hyn yn cynyddu darpariaeth addysg
cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a bydd yn sicrhau fod dwyieithrwydd yn
cynyddu yn ardal Llangennech," meddai adroddiad sydd wedi ei baratoi gan
swyddogion addysg.
Ar hyn o bryd mae 216 o ddisgyblion yn yr
ysgol fabanod a 230 yn yr ysgol gynradd.
Yn 2010, yn ôl adroddiad Estyn roedd 54% o
blant yr ysgol iau yn siarad Cymraeg i lefel iaith gyntaf, ond roedd 87% o'r
plant yn dod o gartrefi be mai Saesneg oedd y brif iaith.
Dywedodd swyddogion addysg y byddai sefydlu
ysgol cyfrwng Cymraeg yn sicrhau "y bydd pob plentyn yn dod yn rhugl yn y
Gymraeg ac yn Saesneg".
Y nod yw cyflwyno'r newidiadau ym Medi 2017,
ond byddai'r rhai sydd eisoes wedi dechrau yn ffrwd Saesneg yn parhau yn y
ffrwd yn ystod eu cyfnod cynradd.
Llanelli Star (sylwadau Ebrill 2016)
"Carmarthenshire County Council want to eradicate EM (English Medium) education from the Gwendraeth Valley article from 2011 null so, Carmarthenshire continue to advance the eradication of English Medium education from Carmarthenshire. Welsh Education Strategic Plans force councils to make provision for WM education so, in summary, there is only "created demand" or positive discrimination, by forcing councils to promote Welsh medium education. There is a Welsh language commissioner. Wales is bilingual right? Yet there is not forcing of a bilingual anthem from government. Wales is built on sand and is eradicating English medium education. In fact Welsh Labour, the Welsh assembly, has rebranded all schools as in terms of Cymraeg language provision. English medium education is a dirty word as can be seen by such postings as frankiebaby49. Other nations are bilingual - NZ for example that manages a bilingual anthem and manages to be unique WITHOUT accusations of being English. It is utter bigotry. This policy is dividing Wales daily. I am Welsh, I do not speak Cymraeg. I do not need to speak Cymraeg to be Welsh. End Cymraeg Coercion.
No comments:
Post a Comment