Wrth drafod Donald Trump yn ddiweddar, rhestrais rai o'r nodweddion sy'n gyffredin rhyngddo a ffasgwyr hanesyddol, ond fe ymataliais rhag ei alw'n ffasgydd o'r iawn ryw, yn rhannol gan fod y cyhuddiad hwnnw'n gallu bod yn un diog. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r label yn addas. Mae Trump yn ffasgydd o ddifrif.
Y trais cynyddol yn ei ralïau sy'n ei gario dros y trothwy. Mae awyrgylch lled-fygythiol wedi bod yno ers y cychwyn, ac mae taflu protestwyr allan wedi bod yn ran o'r sioe. Ond mae wedi gwaethygu'n arw dros yr wythnosau diwethaf, ac mae bellach yn amlwg bod Trump yn defnyddio trais fel arf wleidyddol. Nid rhywbeth sy'n digwydd ar y cyrion ydyw, bellach, ond elfen ganolog o'r ymgyrch ei hun. Erbyn hyn, mae Trump, o'r podiwm, yn rhoi sêl clir ei fendith i'w gefnogwyr ymosod ar brotestwyr. Nid oes amwysedd, mwyach.
Gohirwyd ei rali yng nghanol Chicago nos Wener. Dywedodd ei ymgyrch eu bod wedi dod i'r penderfyniad hwnnw ar ôl derbyn cyngor gan yr heddlu bod perygl o drais oherwydd protestiadau. Mae'r heddlu, serch hynny, yn gwadu hynny'n llwyr. Penderfyniad ymgyrch Trump yn unig oedd gohirio. Rwy'n cytuno'n llwyr â Rachel Maddow, sy'n dweud mai dyma'n union oedd bwriad Trump o'r dechrau. Roedd cynnal rali yng nghanol Chicago, ardal â llawer iawn o bobl o leiafrifoedd ethnig, yn fwriadol bryfoclyd, a gobaith Trump oedd denu protestwyr (mae'n debyg ei bod wedi bod yn llawer haws cael mynediad i'r digwyddiad hwn o'i gymharu â'i ralïau eraill). Roedd Trump yn gobeithio gweld pobl yn ymladd, a dyna a fu (ac nid mater o 'fai ar y ddwy ochr' mo hynny chwaith; cefnogwyr Trump sydd bennaf ar fai).
Pam y bwriad yma? Un o hoff dechnegau ffasgwyr yw annog trais, ac wedyn honni bod angen person cryf (dyfalwch pwy?) er mwyn adfer cyfraith a threfn, ac i gael gwared ar yr union drais y maent hwy eu hunain yn gyfrifol am ei gorddi. Mae hefyd yn ei alluogi i bortreadu'i hun fel dioddefwr, yn groes i'r dystiolaeth, ac i honni bod protestwyr yn ei sensro a'n ymosod ar ei gefnogwyr. Mae'n hen dric. Mae'n bosibl bod Trump yn ddyn rhy dwp i ddeall ei fod yn efelychu ffasgwyr - mae'n sicr yn rhy dwp i ddeall a thrafod polisi - ond dyna'r union draddodiad y mae'n ei ddilyn, ac mae'n ddigon craff i wneud hynny'n llwyddiannus. Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw'r tebygrwydd. Mae hefyd yn mynd yn anos ac anos ei ddychmygu'n troi tua'r canol cymhedrol ar ôl cipio'r enwebiad (y pivot bondigrybwyll). Y ffaith ryfeddol yw bod ffasgydd erbyn hyn yn debygol o gynrychioli un o ddwy brif bleidiau America mewn etholiad arlywyddol. Mae'r jôc drosodd ers talwm.
Y consensws yw y byddai'n sicr o golli ym mis Tachwedd. Dyna, yn wir, sy'n debygol; mewn amgylchiadau cyffredin, ni fyddai ganddo obaith. Ond mae'n hawdd dychmygu amgylchiadau anghyffredin. Beth os yw'r economi'n ffrwydro eto? Neu (yn fwy tebygol yn fy marn i) beth os oes ymosodiad terfysgol yn fuan cyn yr etholiad? Petawn i'n strategydd ar ran y Wladwriaeth Islamaidd, buaswn i'n gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod Trump yn dod yn arlywydd, gan eu bod bron â marw (yn llythrennol) eisiau brwydr fawr apocalyptaidd rhwng y 'gorllewin' a'r byd mwslemaidd. Awn mor bell â mentro y byddai'n syndod pe na bai terfysgwyr mwslemaidd yn ceisio ymosod ar America yn wythnosau olaf mis Hydref. Ni fyddai raid iddynt fod yn llwyddiannus, hyd yn oed; gall y bygythiad fod yn ddigon i ddychryn digon o Americanwyr i gorlan Trump. Rwy'n credu bod Arlywydd Trump yn annhebygol ar y cyfan, ond rwy'n cael trafferth diystyru'r senario yma. Mae'r posibilrwydd yn hollol frawychus.
No comments:
Post a Comment