[Diolch i BBC Cymru Fyw)
Yn ystod oriau man bore dydd Mercher, bu Aelodau Seneddol yn trafod dyfodol ariannol S4C ar lawr y Senedd yn San Steffan.
Yn ystod oriau man bore dydd Mercher, bu Aelodau Seneddol yn trafod dyfodol ariannol S4C ar lawr y Senedd yn San Steffan.
Mae pryder fod Llywodraeth Prydain yn mynd i leihau'r grant mae'n ei roi i'r sianel, o £6.7m i £5m erbyn 2020.
Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o gyllid S4C yn dod trwy drwydded deledu'r BBC.
'Annheg'
Yn dilyn y ddadl, dywedodd AS Aberconwy, Guto Bebb, wrth BBC Cymru fod penderfyniad y llywodraeth i dorri'n ôl ar gyllideb y sianel yn mynd yn groes i faniffesto'r blaid."Mae hwn yn gam diangen ac yn un rwyf yn ei wrthwynebu... Mae S4C eisoes wedi cymryd camau i arbed arian, ac mae'n annheg i ofyn iddyn nhw wneud mwy o arbedion.
"Er bod y drafodaeth wedi digwydd am ddau o'r gloch y bore, roedd nifer dda o aelodau trawsbleidiol ac roedd 'na ymdeimlad cryf o gefnogaeth i'r sianel gan y rhan fwya' ohonyn nhw."
Galwodd Mr Bebb eto am adolygiad annibynnol, a'i fod yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn newid eu meddyliau.
"Dyw hi ddim y tro cyntaf i'r llywodraeth wneud tro pedol...Yn ddiweddar, fe aethon nhw'n ôl ar eu gair ynglŷn â'u polisi credyd treth. Felly efallai y byddwn yn gweld hynny eto."
'Calonogol a siomedig'
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, fod y ddadl yn un bwysig."Cefais fy nghalonogi o weld bod cymaint o Aelodau Seneddol wedi ymgasglu ar awr annuwiol, ac yn falch o weld cynifer ohonyn nhw mor gefnogol i'r sianel. Byddwn hefyd yn galw eto am adolygiad annibynnol a fyddai'n cael rhywfaint o effaith ar unrhyw doriadau yn y dyfodol.
"Ar y llaw arall, roeddwn yn siomedig nad oedd y gweinidog, Ed Vaizey, wedi cyfeirio at y toriadau pellach rydym yn eu hwynebu yn y dyfodol oherwydd adolygiad i Siarter y BBC."
Mae'r AS dros Ynys Môn, Albert Owen, hefyd yn galw am adolygiad annibynnol. Dywedodd Ed Vaizey bod y llywodraeth yn cydymdeimlo â'r syniad o adolygiad annibynnol, ond nid oedd yn cadarnhau y byddai hyn yn digwydd.
No comments:
Post a Comment