Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday, 25 November 2015

Ble mae eich hoff le?

Diolch i BBC Cymru Fyw

Beti George (darlledwraig) - 'stafell wely yn Station Road

"Wel dw i wedi bod i bob un o'r saith cyfandir ar wahan i'r Antarctica a gweld rhyfeddodau. Ond peth rhyfeddach fyth yw cof - a llygad y cof yn enwedig. Mae hwnnw yn aml yn paentio darlun o draeth unig, y môr a'r wybren yn las, las a'r haul yn gwenu'n danbaid. Na, nid Llangrannog ond Kokkari ar ynys Samos yng ngwlad Groeg.

"Ond am ryw reswm mae'r llygad bob tro yn dychwelyd i'r 'stafell wely yn Station Road, Nantymoel (pentref glo yn y Cymoedd) yn nhŷ fy Wncwl Dai ac Anti Nancy di-blant. Y gwely plu a'r dillad gwyn, gwyn wedi eu startsio. A thrwy'r ffenest, y bwcedi ar wifren yn yr awyr yn cario gwastraff glo'r pwll odditano a'i arllwys ar ochr y mynydd.

"A finne'n cael fy sbwylo'n rhacs gan y stryd gyfan bron gan fod cynifer o berthnase ar ochr fy mam a nhad yn byw yno. Hwythe yn cofleidio'r groten fach o'r wlad oedd yn dal i siarad Cymraeg!

"Digon o reswm i'w alw yn fy Hoff Le yn y cof!"

 Bethan Gwanas (awdures) - Cadair Idris

Cader Idris
Cadair Idris
"Cadair Idris! Pob rhan a phob modfedd ohoni. Dyma fynydd gorau Cymru heb os nac onibai: yr harddaf, y mwyaf diddorol, amrywiol a lledrithiol. Does 'na ddim caffi ar y copa a does 'na fawr o draffig chwaith. Yn anffodus, dydw i ddim wedi gallu mynd ar gyfyl y lle ers blynyddoedd, oherwydd trafferthion efo cluniau a phen-gliniau. Ond dwi'n mynd i gael clun newydd yr haf yma - ieeeee! A fy nymuniad pennaf, yr hyn dwi'n anelu ato, yw gallu dringo i ben Cader Idris eto. Pan fydda i i fyny fan'na nesaf, mi fydda i'n crio. "

lledrithiol =  am rywbeth nad yw'n real ond sy'n ymddangos felly
am rywbeth nad yw’n real ond sy’n ymddangos felly

Copyright © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2015. All rights reserved.

No comments:

Post a Comment