Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday, 4 June 2015

Y Man a'r Lle

Mae Coleg Ceredigion i dderbyn grant o £300,000 oddi wrth Llywodraeth Cymru yn benodol i ddatblygu Canolfan Gymraeg aml bwrpas yn Aberteifi.Coleg Ceredigion - cardigan-aberteifi
Caiff Canolfan “Y Man a’r Lle” ei hadeiladu ar gampws y coleg yn Aberteifi gan greu canolbwynt i weithgareddau addysgiadol, cymdeithasol a diwylliannol cyfrwng Cymraeg.
Bydd y Ganolfan yn fodd i gryfhau isadeiledd Cymraeg y dref i alluogi pobl a busnesau lleol i fedru cynnig y gwasanaethau fydd eu hangen i gynnal a chefnogi mentrau newydd fel Castell Aberteifi i’r dyfodol.
Bydd y Ganolfan yn cynnig:
  • cartref sefydlog i fudiadau cyfrwng Cymraeg yn y dref gan hwyluso rhannu arfer dda a rhwydweithio;
  • man cyfarfod anffurfiol y gall y gymuned a myfyrwyr y coleg fwynhau;
  • canolfan bwrpasol a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd a hyfforddiant galwedigaethol mewn meysydd megis arlwyo ac estyn croeso;
  • canolfan lle gellir cynnal y gweithgaredd cymdeithasol a diwylliannol cyfrwng Cymraeg sydd yn rhan o raglen Gymraeg y coleg i fyfyrwyr a disgyblion ysgol;
  • syrjeri cyngor busnes i fusnesau lleol i dderbyn cyngor a chyfarwyddid ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Dywedodd pennaeth y coleg, Jacqui Weatherburn “Yr ydym wrth ein bodd o dderbyn yr arian yma. Bydd y Ganolfan yn creu canolbwynt amlwg i weithgaredd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn Aberteifi gan gryfhau statws y Gymraeg yn y dref a’r ardaloedd cyfagos. Mae’n gyfle gwych i rannu gwaith gwobrwyedig Coleg Ceredigion ym maes dwyieithrwydd a’r iaith Gymraeg gyda’r gymuned ehangach.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones am y buddsoddiad: “Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi y caiff chwech o Ganolfannau Cymraeg newydd eu creu ledled Cymru gyda chymorth mwy nag £1.5m o gyllid cyfalaf. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd sydd wrth wraidd gweledigaeth Bwrw Mlaen. Bydd datblygu’r canolfannau amlbwrpas ac ardaloedd dysgu hyn yn chwarae rôl allweddol i’r perwyl hwn.

“Bydd y canolfannau hyn yn cynnig pob math o gyfleoedd i bobl o bob oedran ddefnyddio, ymarfer a mwynhau’r iaith ar lawr gwlad.  Rydym eisoes wedi gweld canolfannau cyffrous yn cael eu datblygu ledled Cymru drwy’r Grant Buddsoddi Cyfalaf, gan ddangos ein hymrwymiad i weld yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y chwe phrosiect rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn datblygu dros y misoedd i ddod.”

Tuesday, 2 June 2015

Parch


Bydd cyfres ddrama gyntaf Fflur Dafydd yn dechrau nos Sul, 31 Mai ar S4C – cyfres ddwys ac ysgafn fydd yn ein harwain ar siwrnai ddirdynnol.

Mae Fflur wedi hen ennill ei phlwyf fel awdur, ac wedi cipio’r Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig, darlithydd a chantores.

Ficer yw prif gymeriad Parch, Myfanwy Elfed, ond er hynny nid drama am grefydd yw’r gyfres yn ôl Fflur Dafydd, sy’n wreiddiol o Landysul ond sydd bellach yn byw yng Nghaerfyrddin.

“Mae Myfanwy’n fenyw ac yn fam gyntaf, ac yn ficer wedyn. Mae stori Myfanwy’n nodweddiadol o hanes nifer o ferched, sy’n ceisio’u gorau i fagu teulu tra’n gwneud cant a mil o bethau eraill,” dywed Fflur sy’n 36 oed, ac yn fam i ddwy o ferched, dwy a phedair oed.

Pan dderbynia Myfanwy newyddion fod ganddi gyflwr ar ei hymennydd, mae ei hagwedd tuag at fywyd yn newid. Mae’n edrych ar y byd mewn modd gwahanol, a chaiff ei pherthynas â’i theulu ei siglo.

Ond er bod y testun yn dywyll a dwys, nid yw’r ddrama yn un drom, yn ôl Fflur. Mae’r newidiadau yn ymennydd Myfanwy’n golygu ei bod yn cael rhithiau difyr a lliwgar, ac mae hyn yn aml yn arwain at olygfeydd mwy ysgafn.

“Mae’n anodd rhoigenrear fy ngwaith, ond dwi’n hoff o gyfuno’r real a’r swreal,” meddai Fflur. “Mae cymeriadau Parch i gyd â rhyw elfen absẃrd yn perthyn iddynt.”

Teimla Myfanwy fod y byd yn ei herbyn; mae ei pherthynas â’i gŵr a’i phlant yn fregus, ac nid yw’n gallu rhannu’r newydd am ei hafiechyd gyda nhw. Mae Myfanwy yn cwestiynu pwrpas bywyd, ac yn agosáu at ymgymerwr y pentre’, Eurig.

Mae Fflur ei hun yn briod ag Iwan sy’n ymgymerwr, ac mae wedi bod yn cydweithio’n agos gyda ficer go iawn wrth lunio’r gyfres, sef ficer o blwyf Llanddulas a Llysfaen.

“Mae cael adborth fy ngŵr  Iwan, a’r Parchedig Manon Ceridwen James, wedi bod yn hanfodol wrth greu’r ddrama. Mae’r ficer a’r trefnwr angladdau yn ffigyrau mor allweddol mewn cymdeithas, yn enwedig wrth gynorthwyo pobl i ddod i delerau â galar, ac mae hi’n bwysig iawn fod hynny’n cael ei bortreadu’n gywir ar y sgrin.”

Ond pwy fydd yn cynnig cysur i Myfanwy yn ystod y cyfnod anodd hwn? Cawn wylio hynt a helynt Myfanwy bob nos Sul, wrth iddi hi gwestiynu ei ffydd, a’i pherthynas â’i theulu a’i ffrindiau.

Saturday, 30 May 2015

Patagonia

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl wreiddiol.


Mae'n 150 o flynyddoedd ers i griw o Gymry deithio ar fwrdd llong y Mimosa draw i Dde America gan sefydlu gwladfa yn Nyffryn Camwy, Patagonia yn ne'r Ariannin.

I nodi'r digwyddiad hanesyddol yma mae BBC Cymru Fyw yn dilyn y daith ar lif byw arbennig sy'n seiliedig ar waith ymchwil Elvey MacDonald. Ymunwch â'r daith yn ddyddiol, fel pe bai'n digwydd heddiw, fan hyn.

Y sylwebydd celfyddydau Jon Gower sy'n edrych ar realiti'r siwrne o Lerpwl i Dde America:

Roedd prisiau'r tocynnau o Lerpwl i Batagonia'n swnio'n rhesymol - £12 y pen i bob oedolyn, hanner pris i blant dan 12 - a hynny ar long sylweddol, 800 tunnell yr Halton Castle.

Yn fwy na hynny roedd yr hysbysebion yn hanner-addo tir, a hyd yn oed anifeiliaid megis 20 dafad, 10 o wartheg ac aradr am ddim i bob setlwr newydd.

Ond fis cyn y fordaith daeth newyddion bod yr Halton Castle heb ddychwelyd eto o'r môr mawr a bu'n rhaid i'r teithwyr ladd amser ar y cei yn Lerpwl, tra bod trefnwyr y fordaith yn dod o hyd i long newydd at y pwrpas.

Mordaith ar y Mimosa

Fel y gwyddom, enw'r llong oedd y Mimosa a bu'n rhaid ei haddasu ar fyrder, drwy osod planciau ar hyd y gwelydd i roi lle i'r plant a'r menywod i gysgu. Roedd tri thoiled dwbl ar gyfer y 162 o bobl, a deugain casgen o ddŵr, pob un yn cario 300 galwyn, neu ddigon i bara chwe mis - os nad oedd unigolyn yn yfed mwy na thri chwart y diwrnod.

Ac i bob teithiwr roedd cyflenwad bwyd - 11 pwys o flawd yr wythnos, pwys a hanner o reis, heb sôn am datws, porc, pys. Ond er bod 'na sudd leim a lemwn i'r teithwyr, nid oedd digon i osgoi clefri poeth, neu scurvy, oedd yn achosi blinder a doluriau ar y croen ac ar gig y dannedd.

Ac er bod addewid o 10 troedfedd sgwâr o le i bob un ar y bwrdd, roedd hyn wedi ei lyncu'n gyflym gan y nwyddau awgrymodd y trefnwyr y dylai bob un gario, megis pot i ferwi dŵr, llestr [= dysgl] tun 3 galwyn, un arall ar gyfer codi dŵr, cyllyll, ffyrc, tywelion, blanced ac yn y blaen.

  

Y llawen a'r lleddf

Digwyddodd y storm gyntaf ger arfordir Ynys Môn, a'r morwyr yn gweddïo am ei heneidiau, heb sôn am y teithwyr druan, ond roedd y siwrne ar draws tonnau de'r Iwerydd yn gymharol dda o ran y tywydd.

Eto roedd 'na dristwch: bu'n rhaid claddu rhai ar y môr, gan gynnwys merch fach, ei harch yn edrych fel bocs matsis cyn suddo, ac ail blentyn yn marw yn fuan ar ôl hynny.

Ar y ffordd diddanwyd y teithwyr gan Dafydd Williams, bachgen ifanc o Aberystwyth a'i fersiynau dychanol o Weddi'r Arglwydd a'r Deg Gorchymyn.

Rhyddhad

Yn eu tro, croeswyd y cyhydedd [= equator] a theithio ar draws y Doldrums, ble mae'r gwynt wastad yn distewi. Nid oedd digon o le ar y dec i'r teithwyr felly roedd y daith yn boeth ac yn glawstroffobig.

Glaniodd y teithwyr union ddeufis i'r diwrnod ers iddynt gychwyn. 'Sdim rhyfedd fod Lewis Jones, un o benseiri'r prosiect i greu'r Wladfa, yn disgrifio rhyddhad mawr:

"Pan aethum ar fwrdd y Mimosa, chwi ellwch goelio fod yno lawenydd nid bychan, hwre ar ôl hwre yn ddi-baid [= yn ddi-ddiwedd], ysgwyd llaw a chant o ddwylo serchus, hen chwiorydd yn bendithio a neidio, a phlant bach yn cydio yn dynn am fy nghluniau, yr hen frawd Cadfan yn fy nghofleidio, ac yn wylo o lawenydd, y magnelau [= cannons] o'r lan ac ar y bwrdd yn taranu, a'r bechgyn yn gwaeddi hwre nes llwyr dagu."

Cyn hir byddai dathlu troi'n ddigalonni wrth i'r teithwyr dewr wynebu realiti'r sefyllfa - traeth oer yn llymder gaeaf, ar gyfandir estron, yn bell iawn, iawn o gartref. Ar ôl mordaith hir roedd siwrne hirach ac anoddach yn eu hwynebu ar y tir mawr, a'r tir hwnnw'n grin [crin = withered]  a sych, ac yn foel dan y gwynt, oedd yn chwythu fel chwip.

Mae Jon Gower yn cyflwyno Y Camsyniad Mawr ar Radio Cymru - rhaglen sy'n gofyn rhai o'r cwestiynau mwy anghyfforddus ynglŷn â'r fenter i Batagonia, ac yn edrych ar ein hagwedd tuag at y Wladfa heddiw.

Friday, 29 May 2015

Enwau plant

Gyda diolch i Fy Mhethau Bychain - blog gwych sy'n trafod gwahanol agweddau ar yr iaith Gymraeg.



Enwi’ch plant – peidiwch â phlygu i ofynion y di-Gymraeg


Mae dewis enwau i’n plant yn rhywbeth cyffrous, ac mae’n debyg bod gan bob cwpl eu rhestr o amodau i’r perwyl hwn, e.e. dewis enw Cymraeg, osgoi enwau sydd yr un peth â phlant eu ffrindiau, osgoi enwau sydd rhy hen ffasiwn, a.y.b. Ond yn ychwanegol i’r rhestr yma, tybiwn fod nifer fawr o bobl fydd yn osgoi enwau sy’n swnio fel rhyw air Saesneg arall, hefyd osgoi enwau y buasai’n rhy anodd i bobl di-Gymraeg ei ynganu. Mae’n debyg bod rhieni yn gwneud hyn er mwyn gwarchod eu plant rhag dirmyg [= gwawd, bychander] gan bobl o du allan i Gymru.

Ond, ydy hyn yn rhywbeth y dylwn ni fod yn poeni amdano? Drwy fy holl fywyd mae Saeson (yn fwy aml na thrigolion gwledydd eraill) wedi bod yn cam-ynganu a cham-sillafu fy enw cyntaf, ond ddaru hynny erioed wneud unrhyw niwed i mi. Ydy o’n iach i’r iaith ein bod ni’n caniatáu ieithoedd allanol i ddylanwadu ar ein hiaith ni?

Pam bod rhaid i’n henwau ni fod yn addas i dafod person di-Gymraeg beth bynnag? Mae hyn yn enghraifft o fod efo cywilydd yn yr iaith ac yn ceisio’i chuddio rhag y rhai sydd tu allan iddi. Er mwyn i’n hiaith barhau, mae’n bwysig ein bod ni’n newid ein hagwedd tuag ati, i un o hyder. Does dim rheswm i ni fod yn plygu ein hiaith i blesio pobl di-Gymraeg. Yn hytrach na hyn, fe ddylem ni fod yn ymbweru’n plant i ddelio efo dirmyg o unrhyw fath, a’u grymuso i ddeall mai problem pobl eraill ydyw os nad ydynt yn medru ynganu’r enwau.

Dim ond anghenion ieithyddol Cymru y dylem ni fod yn gofalu amdanynt. Mae gan Loegr a gwledydd eraill ddigon o bobl i ofalu am eu hanghenion ieithyddol hwy.



Enwau babis Cymru

Gyda diolch i BBC Cymru am yr erthygl wreiddiol.

Gruffydd, Ifan, Owain ac Ela, Efa a Cadi - dyna rai o enwau babis mwyaf poblogaidd gwrandawyr Radio Cymru yn ôl cyfarchion gafodd eu hanfon i'r orsaf dros gyfnod o ddwy flynedd, sef 2011-2013.

Fel ymateb i'r cyfarchion lu oedd yn cyrraedd rhaglen Dafydd Meredydd a Caryl Parry Jones ar Radio Cymru i fabis newydd y gwrandawyr, fe ganodd Caryl gân arbennig yn enwi a chroesawu 11 o fabanod y gwanwyn yn fyw ar y rhaglen ym mis Mai 2011.
Caryl Parry Jones a Dafydd Meredydd 

Bob mis ers hynny, mae Caryl a rhai o gerddorion mwyaf adnabyddus Cymru wedi cyfansoddi a pherfformio caneuon yn dathlu'r holl fabis newydd sydd wedi eu geni i'r gwrandawyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

I ddathlu dwy flynedd o Gân y Babis, rydyn ni wedi cyfri a dadansoddi ychydig o ffeithiau am yr enwau gafodd eu hanfon i raglen Dafydd a Caryl rhwng Mawrth 2011 ac Ebrill 2013.

Daw'r enwau yma gan wrandawyr o bedwar ban Cymru a Phrydain, ond hefyd mor bell a Seland Newydd, yr UDA, Brazil a Barbados!

Yn y cyfnod yma, mae'r caneuon wedi cynnwys enwau 795 o fabis - 381 bachgen a 414 merch - yn cynnwys 17 pâr o efeilliaid.

Isod mae pedwar tabl gyda'r enwau cyntaf a'r ail enwau mwyaf poblogaidd o'r rhai sydd wedi cael eu hanfon mewn at y rhaglen dros y ddwy flynedd ddiwethaf.


Enwau cyntaf mwyaf poblogaidd 2011-2013
BECHGYN
1 Gruffudd/Gruffydd/Gruff 16
=2 Ifan 13
=2 Owain 13
=2 Twm 13
=3 Jac 12
=3 Osian 12
=3 Tomos 12
4 Elis 8
=5 Celt 7
=5 Deio 7
=5 Steffan 7
MERCHED
1 Ela 18
=2 Cadi 13
=2 Efa 13
3 Mali 11
=4 Erin 9
=4 Martha 9
=4 Megan 9
=4 Nel 9
=5 Gwenno 8
=5 Lili 8
=5 Lleucu 8
=5 Mari 8


Mae 152 enw gwahanol i fachgen, a 170 enw gwahanol i ferch yn y rhestr gyflawn. Mae 84 o enwau'r bechgyn a 104 o'r enwau merched yn ymddangos unwaith yn unig.

Mae rhai cyfuniadau o enwau poblogaidd yn y casgliad hefyd gydag Alaw Fflur, Ela Grug, Mali Haf, Ifan Ellis a Twm Wyn yn gwneud tri ymddangosiad, a ganed dau Owen Morgan Gruffudd Huws o fewn ychydig dros fis i'w gilydd nôl yn haf 2011.


Rydyn ni wedi cyhoeddi rhestr o enwau babis Cymraeg mwya' poblogaidd 2013 - 2014 ar wefan Cylchgrawn BBC Cymru Fyw. Mae na rai enwau wedi aros yn y rhestr ond mae'r enwau ar frig y rhestr wedi newid:

Enwau cyntaf mwyaf poblogaidd - BECHGYN
  • 1 Tomos (10)
  • =1 Elis / Ellis (10)
  • 2 Jac (9)
  • 3 Osian (8)
  • 4 Gruffudd / Gruffydd (7)
  • 5 Ioan (6)
  • =5 Ifan (6)
  • =5 Guto (6)
  • =5 Caio (6)
  • =5 Efan (6)
  • =5 Hari / Harri (6)
Enwau cyntaf mwyaf poblogaidd - MERCHED
  • 1 Efa (7)
  • =1 Mari (7)
  • 2 Elin (6)
  • 3 Elsi (5)
  • =3 Cadi (5)
  • =3 Lili / Lily (5)
  • 4 Mali (4)
  • =4 Beca / Becca (4)
  • =4 Ela (4)
  • =4 Elen (4)
  • =4 Erin (4)
  • =4 Lois (4)
Mae na gyfanswm o 202 o enwau bechgyn a 191 o enwau merched, gyda rhai unigryw, hyfryd yn sefyll allan. Brython, Ceulan, Dulas a Gwrhyd i fechgyn a'r merched Arria, Blathnaid a Syri.


































































Wednesday, 13 May 2015

Twristiaeth: Y Gymraeg "yn y ffordd"

Diolch i BBC Cymru Fyw am y stori hon.

Mae cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru [Wales Tourism Alliance] wedi dweud fod y Gymraeg 'weithiau'n mynd yn y ffordd' pan fod ymwelwyr yn ymweld ag atyniadau twristaidd gydag enwau Cymraeg yng Nghymru.

Wrth siarad ar raglen 'Good Morning Wales' ar BBC Radio Wales fore dydd Mawrth, dywedodd Chris Osborne ei fod yn gwerthfawrogi fod y Gymraeg yn "rhan fawr o'r hyn y gall Gymru ei gynnig", a'i fod yn "falch iawn ohoni".

"Ond os yw hi'n mynd yn y ffordd, fe ddylai fod gwahanol destunau ["there ought to be different passages to enable them to enjoy it"] i alluogi pobl i'w fwynhau'n well," meddai.

Ychwanegodd Mr Osborne: "Rwy'n meddwl ei fod yn rhan o'r profiad, ond er engraifft os ewch chi i'r Iwerddon fe wnewch chi ddarganfod fod dau fersiwn o bob enw ac rydych yn cael eich annog i werthfawrogi'r enw ac ar yr un pryd deall fod 'na ddewis gwahanol, mewn Gaeleg neu beth bynnag, ac rwy'n credu fod hyn yn cyfoethogi'r profiad."

Roedd Mr Osborne yn siarad mewn ymateb i drafodaeth am ddiogelu enwau llefydd Cymraeg, a hynny wrth i ymgyrchwyr sy'n brwydro i achub enwau llefydd Cymraeg gyflwyno deiseb i aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth.

Mae 'na dipyn o drafodaeth wedi bod ar wefan Twitter am sylwadau Mr Osborne, gyda nifer yn feirniadol o'i safbwynt.

Enwau Cymraeg

Mae ymgyrchwyr ar ran mudiad 'Mynyddoedd Pawb' yn pryderu fod enwau llefydd Cymraeg yn cael eu disodli gan enwau llefydd Saesneg dros amser, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i warchod enwau llefydd o dan y drefn gynllunio.

Mae'r mudiad wedi defnyddio Cwm Cneifion a Thwll Du yn Eryri fel enghreifftiau o enwau sydd wedi eu disodli gan y Saesneg. Caiff Cwm Cneifion ei adnabod yn aml fel y 'Nameless Cwm' a Thwll Du fel 'The Devil's Kitchen'.

Wrth ymateb i sylwadau Mr Osborne, dywedodd Ceri Cunnington, o Antur Stiniog, ar yr un rhaglen: "Mae'r byd yn dod yn lle undonog. Ble bynnag yr ydych yn mynd mae 'na McDonalds neu mae pob canol dinas yr un fath.

"Mae pobl eisiau cofleidio diwyllianau newydd, ac mae pobl eisiau cofleidio profiadau newydd, ac eisiau profiad go iawn o iaith a diwylliant.

"Rwy'n credu fod y datganiad fod y Gymraeg yn 'mynd yn y ffordd' yn un rhyfeddol yn yr oes hon."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi ei ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg, ond ychwanegodd llefarydd fod y system gynllunio yn ymwneud â defnydd tir ac nid y lle cywir i fynd i'r afael a'r mater."

Yn y cyfamser, cyhoeddodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Ken Skates, ddydd Mawrth mai'r llynedd oedd y "flwyddyn orau erioed" i Gymru o ran twristiaeth, gyda dros 10 miliwn o bobl wedi aros yng Nghymru dros nos - y nifer ucha' ers dechrau cofnodion yn 2006.